Cerrig Ffiniau Plwyf

A WELSOCH CHI UN O’R RHAIN?

Boundary Stone

Mae llawer o bobl yn cerdded heibio cerrig ffin Llandudno heb sylwi arnynt. Mae rhai o’r cerrig hyn bron yn hollol guddiedig oherwydd gwelliannau i’r systemau trafnidiaeth ond ar un adeg roeddynt yn arwyddion pwysig o’r ffin rhwng plwyfi Llandudno ag Eglwys Rhos (oedd yn cynnwys pentref Deganwy). 

 

Ar noson braf ym mis Mehefin, aeth y Grŵp Hanes ar daith gerdded, dan arweiniad Fiona Richards, i ddilyn y llwybr troellog o’r Promenâd i St David’s Place i weld y cerrig oedd yn dangos y ffin rhwng y ddau blwyf. Cawsom nodiadau esboniadol a map gan Fiona a chawsom ar ddeall ganddi arwyddocâd y cerrig ffin hyn. Mae’r cerrig wedi cael eu cerfio gydag ‘LLP’  (Llandudno Parish) ar un ochr ag ‘ERP’ (Eglwys Rhos Parish) ar yr ochr arall.

Roedd yn amhosibl cadw at yr union linell ffin oherwydd iddo gael ei greu yn wreiddiol cyn i rai o’r tai a’r gwestai cael eu hadeiladu.

Plwyfi oedd y prif unedau gweinyddol yn 19eg canrif ac ar ddechrau’r 20fed canrif, ac er nad ydynt yn cyflawni unrhyw fwriad arbennig heddiw, mae’r cerrig ffin sy’n eu gwahanu yn  atgoffa gweladwy o’n treftadaeth ddiddorol leol. Braf hefyd oedd cael torri syched ar ddiwedd y daith.

Web Design North Wales by Indever