Yn gynharach eleni, cawsom sgwrs ddifyr gan Simon Simcox o Ddeganwy ar y testun uchod.
Mae Simon Simcox yn prif bartner efo cwmni Bob Parry, syrfewyr, priswyr, arwerthwyr a gwerthwyr tai. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad ac mae ganddo ddiddordeb angerddol mewn adeiladau hanesyddol a’u perchnogion. Mae wedi astudio miloedd o adeiladau yng Ngogledd Cymru fel syrfëwr, ac wedi dod o hyd i lawer o ffeithiau diddorol am eu hadeiladwaith a’u lleoliad. Fel yr eglura’r teitl, ni fydd llawer o’r tai hyn fel arfer yn amlwg i’r cyhoedd. Mae Simon wedi cyhoeddi llyfr “Hidden Houses of Gwynedd 1100-1800” ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu llyfrau dan yr enwau ‘Hidden Caernarfon’ a ‘Hidden Llanrwst’ ac maent yn dilyn ymchwiliad tebyg i’w ymchwil ar adeiladau diddorol yng Ngogledd Cymru.
Dangoswyd i ni luniau o nifer o ardaloedd o Ogledd Cymru a fu, yn yr oes a fu, yn rhan o diriogaeth teyrnas Gwynedd. Yn ei gyflwyniad, cyfeiriodd Simon at dŷ hanesyddol oedd mor hen fel ei fod yn cynnwys symbolau a delweddau o grefydd cyn Gristnogol. Aeth a ni ar daith i ymweld â thai cudd eraill yn cynnwys adeiladau yn yr Wyddgrug, Dyffryn Conwy, Dolwyddelan, Conwy, Deganwy, Pennal, Llanrwst, Ynys Môn, Beddgelert a Dyffryn Ffestiniog.
O ddiddordeb arbennig oedd sylwadau Simon ar y dulliau o adeiladu a ddefnyddiwyd ar lawer o’r adeiladau hyn. Cawsom wybod ar sut i bennu oed adeilad drwy archwilio a ddefnyddiwyd pridd neu galch fel morter i fondio’r cerrig at ei gilydd. Ymddengys bod llawer o adeiladau wedi’u bondio â chalch, er enghraifft Castell Deganwy, ond mae bond pridd o dan y calch. Mae rhai adeiladau, megis Castell Dolwyddelan gyda’r rhan isaf wedi’i bondio â phridd ond yn ddiweddarach fe bondwyd y creneliadau â chalch.
Rhoddodd ein siaradwr ei dystiolaeth ei hun ynglŷn â’r cwestiwn dyrys am leoliad Llys Brenhinol Llywelyn Fawr yn Abergwyngregyn. Mae ei ymchwiliadau wedi codi mwy o amheuaeth ar y cynnig fod plasty Llewelyn yn y pentref. Barn Simon yw bod llawer ohono’n dal i sefyll ar dir uwch yng Ngarth Celyn ar dirwedd hynod amddiffynnol.
Roedd y rhan o’r sgwrs ar dai yn Nyffryn Conwy yn arbennig o ddiddorol i gynulleidfa leol yn bennaf. Roedd yn cynnwys sylwadau ar weddillion castell mwnt a beili a ddifrodwyd yn Nhal y Cafn pan dynnwyd deunyddiau ohono i adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Daeth Simon â’i sgwrs i ben drwy gyfeirio at dai diymhongar yng Ngwynedd – gogwydd ar y testun o dai cudd sy’n cael ei anwybyddu’n aml.
Roedd y sgwrs yn ddifyr dros ben a’r siaradwr yn amlwg yn arbenigwr ar ei bwnc
Latest Research
Web Design North Wales by Indever