Siwan, Arglwyddes Cymru

Ar ddechrau ein cyfarfod ym mis Mawrth cafwyd ennyd o dawelwch wrth i’r aelodau cofio am fywyd Gwyn Hughes a fu farw yn gynharach yn y mis. Bu Gwyn yn aelod blaenllaw o’r Grŵp Hanes ers y cychwyn. Mae gan lawer o’n haelodau hŷn atgofion a hanesion amdano a bydd pawb yn cofio ei waith aruthrol 10 mlynedd yn ôl i goffau 70 mlynedd ers damwain Avro Anson yng Nghyffordd Llandudno, a’i araith deimladwy iawn yn dilyn y Gwasanaeth Coffa 80 mlynedd yn Chwefror (gweler Y Pentan mis Mawrth a hanes y gwasanaeth coffa ar wefan y Grŵp Hanes). Mae’n drist iawn nad yw bellach gyda ni; collir ei hiwmor a’i swyn gymaint â’i sgiliau ymchwil ac yn bennaf ei gyfeillgarwch.

Testun ein sgwrs gan Diane Williams oedd hanes Siwan, Arglwyddes Cymru. Mae Diane yn Is-gadeirydd y Grwp Hanes. Bu’n darlithydd ar y Gyfraith yng Ngholeg Llandrillo ac yn Ddarlithydd Cyswllt yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n awdur gwerslyfrau cyfreithiol ar gyfer Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yn gyfrannwr i gyfnodolion academaidd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys hanes cyfreithiol Cymru a merched yng Nghymru’r canol-oesoedd – a rhoddwyd sylw i’r ddau bwnc yn ei sgwrs.

Roedd Siwan (Joan yn Saesneg) yn ferch i’r Brenin John ac yn hanner chwaer i’w olynydd, Harri III. Fe’i ganed c. 1189 yng ngogledd Ffrainc, a chafodd ei hyfforddi o oedran cynnar i gyflawni bywyd dynes bendefig. Ym 1205 priododd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), tywysog Gogledd Cymru a rhyfelwr profiadol.

Joan. St Marys Church Trefriw

Priodas wleidyddol oedd hon yn seiliedig ar gytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a’r Brenin John ym 1204. Er gwaethaf y gwahaniaeth yn eu hoedran ac iaith mae’n ymddangos bod y briodas wedi bod yn llwyddiannus ar lefelau personol, dynastig a diplomyddol.

Cafodd Siwan a Llywelyn mab, Dafydd, a aned ym 1211 ac o leiaf 3 o ferched. Cyn ei briodas, roedd Llywelyn wedi bod yn dad i nifer o blant, gan gynnwys Gruffydd, a aned ym 1199. O dan gyfraith Cymru, roedd gan blant anghyfreithlon hawliau etifeddiaeth, yn wahanol i Loegr a’r rhan fwyaf o Ewrop. Fodd bynnag, ar ei briodas â Siwan, addawodd Llywelyn ddietifeddu Gruffydd, fel y byddai ei phlentyn hi yn etifedd yn hytrach na’i fab cyntaf-anedig.

Nid oedd Siwan yn wraig eilradd o bell ffordd, ac mae sawl enghraifft ohoni yn cyfrannu at wleidyddiaeth a diplomyddiaeth Eingl-Gymreig. Er enghraifft, pan ymosododd y Brenin John ar Ogledd Cymru ym 1211, anfonodd Llywelyn Siwan i wneud heddwch ag ef. Ar ôl marwolaeth John ym 1216, parhaodd Siwan i gynnal trafodaethau gyda’i hanner brawd ifanc, Harri III.

Mae haneswyr diweddarach wedi tueddu i gysgodi ei dylanwad oherwydd digwyddiad ym 1230. Ym 1228 roedd William de Braose (neu Gwilym Ddu) a oedd yn cael ei gasáu gan y Cymry oherwydd ei greulondeb honedig, wedi’i gymryd yn garcharor gan Llywelyn ac fe osodwyd pridwerth enfawr arno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn Llys Garth Celyn (Abergwyngregyn erbyn hyn) yn trefnu priodas ei ferch â mab Llywelyn, pan ddarganfuwyd ef gyda Siwan ‘yn siambr Llywelyn’. Oherwydd y ffaith yr honnwyd bod merch Brenin Lloegr wedi’i dal mewn ‘flagrante delicto’, achoswyd sgandal enfawr ledled Cymru, Lloegr ac Ewrop. Crogwyd William, yn Abergwyngregyn mae’n debyg, a charcharwyd Siwan. Fodd bynnag, roedd yn ôl ar y llwyfan gwleidyddol ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae’n debyg oherwydd cryfder ei pherthynas â Llywelyn neu ei hagosrwydd at Goron Lloegr a’i sgiliau diplomyddol.

Bu farw Siwan yng Ngarth Celyn ym 1237 a chladdwyd hi yn y Priordy Ffransisgaidd yn Llanfaes ym Môn a sefydlwyd gan Llywelyn er anrhydedd iddi. Diflannodd tref Llanfaes pan ddaeth Edward I, nai Siwan, i adeiladu Castell Biwmares gan symud yr holl boblogaeth i Niwbwrch. Collwyd gweddillion Siwan pan ysbeiliwyd y priordy ym 1537 ar adeg y Diwygiad Protestannaidd. Ym 1808 darganfuwyd yr hyn y credir oedd ei harch yn cael ei ddefnyddio fel cafn ceffyl ger Biwmares. Darganfuwyd caead yr arch ynghyd â delw o ferch frenhinol mewn wempl gerllaw, a chafodd y ddau eu hadleoli i gyntedd Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas ym Miwmares. Bu rhywfaint o ddadl yn ddiweddar ynghylch ai delw Siwan yw’r ddelw mewn gwirionedd, ac mae’n debyg na fyddwn byth yn gwybod yn sicr.

Dywedwyd bod Llywelyn mewn galar enfawr ar farwolaeth ei wraig, a chafodd strôc yn fuan wedyn. Cymerodd urddau eglwysig ac ymddeolodd i Abaty Aberconwy – a oedd i’w symud o Gonwy i Faenan, eto gan Edward 1 – a bu farw ym 1240.

Roedd Siwan yn ddynes bwerus a weithredodd fel ceidwad heddwch a thrafodwr, a phriododd ei phlant er mantais wleidyddol, i deuluoedd mawreddog y Mers, Lloegr a’r Alban. Yn wir, mae ei hiliogaeth frenhinol yn parhau wrth i Dywysog a Thywysoges Cymru bresennol olrhain eu hachau yn ôl iddi hi a phlant Llywelyn.

Diolch i Diane am oleuo gwleidyddiaeth a chynllwynio’r byd canoloesol hwyr ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol mewn cyfnod arbennig o ddiddorol mewn hanes, ac am daflu goleuni newydd ar ferch ryfeddol sy’n haeddu cael ei chofio.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever