Pigion Hanes – 2024

Cyfarfu’r grŵp yng Nghapel Peniel ar y 15fed o Chwefror 2024 a chroesawodd ein Cadeirydd ein siaradwyr am y noson. Noson “Snippets” oedd hon, lle cawn gyfres o sgyrsiau byrrach ar bynciau o ddiddordeb lleol.

 

Mwynglawdd Copr Tŷ Gwyn

Siaradwr cyntaf y noson oedd Adrian Hughes. Mae Adrian yn aelod o Bwyllgor Grŵp Hanes Deganwy ac yn ogystal â’i waith gydag Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig, Amgueddfa’r Ffrynt Cartref yn Llandudno a’i weithiau cyhoeddedig ar hanes milwrol mae’n gyd-gyfarwyddwr a thrysorydd Cymdeithas Archwilio’r Gogarth (GOES).

Eglurodd Adrian fod llawer o unigolion wedi archwilio mwyngloddiau’r Gogarth cyn sefydlu GOES, rhai ohonynt yn aml gydag agwedd braidd yn ffwrdd-â-hi gan arwain at nifer o ddamweiniau. Cafodd copr ei gloddio ar y Gogarth ers yr oes efydd ac yna, efallai, wedi’i ail-weithio drwy’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol. Yn ddiweddarach, cafodd ei weithio yn ystod yr 17eg, 18fed a’r 19eg ganrif pan gynyddodd y galw am gopr oherwydd ehangiad yr Ymerodraeth Brydeinig a’r angen i gregyn llongau cael eu leinio â chopr i atal difrod.

Dangoswyd lluniau, o’r awyr, o siafftiau, pyllau cloch a mwyngloddiau brig ar y Gogarth ac yna cyfeiriodd Adrian ein sylw at ardal mwyngloddio copr lleol arall, a adnabyddir fel Tŷ Gwyn ar ôl y fferm lle darganfuwyd copr yn y 1830au. Dyma’r ardal sydd bellach o amgylch y Fach a Church Walks.

Perchennog Tŷ Gwyn oedd Edward Jones ac fe ddarganfuwyd copr ar y safle pan lithrodd un o’i wartheg gan ddatgelu darn o graig a oedd yn cynnwys malachit gwyrdd (mwyn copr). Ni allai fforddio cloddio ar ei ben ei hun felly ffurfiodd gwmni Mwyngloddio Tŷ Gwyn a ddaeth yn broffidiol iawn yn cynhyrchu mwyn gwerth £100,000 mewn cyfnod o 18 mlynedd. Adeiladwyd swyddfeydd mwyngloddio o amgylch yr ardal sydd bellach yn Westy’r Empire a chronfa ddŵr o amgylch Ffordd Tŷ Coch i gyflenwi dŵr i injan stêm mawr. Roedd olwyn ddŵr 15 troedfedd hefyd lle mae gwesty Min y Don wedi’i leoli a chywasgydd mwyn ar safle gwesty’r Belmont. Dechreuodd mwyngloddio ym 1835 ond daeth llifogydd yn broblem enfawr a chaewyd y pwll ym 1853.

Yna cawsom hanes gwaith Cymdeithas Archwilio’r Gogarth (GOES) Fe’i sefydlwyd ym 1986 gyda’r nod o ymchwilio, archwilio a gwarchod hanes mwyngloddio’r Gogarth. Un o flaenoriaethau cyntaf y Gymdeithas oedd darganfod lleoliad mwynglawdd Tŷ Gwyn.

Wrth fynd i lawr y siafft ar Prospect Terrace canfuwyd bod y prif dwnnel a oedd yn arwain yn ôl i’r môr wedi’i rwystro gan gwymp craig a llithriad clai. Bu Tom Parry, hanesydd lleol, yn allweddol wrth ddod o hyd i leoliad pen arall y twnnel ger y pier ac yn y diwedd fe dorrodd y grŵp drwodd i mewn i’r twnnel am y tro cyntaf ers 140 o flynyddoedd. Caniatawyd iddynt leinio’r siafft yr oeddent wedi’i gwneud a darparu mynediad trwy gaead twll archwilio.

Ty Gwyn Mine

Yna dangoswyd cyfres o luniau i ni o’r tu mewn i’r mwynglawdd a rhoddodd Adrian lawer o ffeithiau diddorol am sut roedd yn cael ei weithio, gan gynnwys y defnydd o bowdwr gwn yn y pwll, y dull o gludo’r mwyn i’w smeltio yn Swydd Gaerhirfryn a De Cymru a’r proses o leinio’r twnnel (a elwir yn “ginging”).

Mae’r gymdeithas yn dal i gloddio, archwilio a dod o hyd i bethau newydd a daeth sgwrs Adrian i ben trwy ddweud wrthym am y gwrthrychau a ddarganfuwyd o dan y ddaear. Roedd y siafftiau wedi cael eu gadael ar agor ers tua chan mlynedd ac roedd gwrthrychau yn cynnwys esgyrn, corn buwch a phot dan y gwely cyfan!

Sgwrs ddifyr a’r gynulleidfa yn werthfawrogol iawn.

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Gorsaf Rheilffordd Deganwy

Ein hail siaradwr oedd Philip Evans a roddodd hanes manwl iawn o’n gorsaf reilffordd leol yn Neganwy, staff a blychau signal. Mae Philip yn aelod o’n Grŵp Hanes ac mae ganddo gysylltiad hir â gorsaf Deganwy ar ôl gweithio yno yn fachgen ifanc. Roedd ganddo lawer o hanesion personol i’w rhanu gyda ni a rhoddodd hanes manwl iawn am yr orsaf, staff a’r cabanau signalau.

Agorodd y lein o’r gyffordd i Landudno ym 1858 gan Gwmni Harbwr a Rheilffordd San Siôr. Rheolwyd hi gan Henry Graham, llyfrwerthwr ifanc o Rydychen, a ddynodwyd yn Uwcharolygydd. Bryd hynny trac sengl oedd y lein ac nid oedd gorsaf yn Neganwy.
Yn y pen draw, ac yn dilyn cytundeb rheoli ym 1862, daeth y lein yn ffurfiol yn rhan o Gwmni Rheilffordd London & North Western (LNWR) ym 1873. Yn y cyfamser roedd yr LNWR wedi dyblu’r llwybr ac ym 1868 darparwyd gorsaf ganolradd yn ller a elwid bryd hynny yn Deganway. Newidiwyd yr enw yn 1882 i Deganwy.

Parhaodd yr LNWR gyda gwelliannau: adeiladwyd y caban signal cyntaf gyda 26 lifers ym 1884 ac fe’i defnyddiwyd yn bennaf i reoli symudiadau nwyddau i’r cei newydd a oedd yn ganolbwynt i lawer o drawsgludo nwyddau rhwng y rheilffordd a’r môr. Ym 1895 adeiladwyd y bont droed sy’n dal i fodoli; darparwyd goleuo nwy ym 1898; agorwyd ystafell aros ac ystafell porthorion ar y platfform i fyny ac ym 1914 ailfodelwyd cyfleusterau’r swyddfa docynnau. Daeth yr ystafell aros i fodolaeth oherwydd cwynion am mai ond cyfleusterau i ferched oedd yno.

Ym 1915 adeiladwyd ail gaban signal ger groesfan Marine Crescent. Roedd gan y caban hwn, sef Rhif 2, 18 lifer a sylfaen garreg. Disodlodd y sylfaen hwn gyda ffrâm fechan ar y platfform a weithredwyd gan y porthorion oedd yn cae y gatiau.

Roedd gan groesfan y Cei ei cheidwad ei hun mewn cwt yn cynnwys un lifer a oedd yn cloi’r giatiau. Roedd y lifer yn ei dro yn cael ei gloi gan y naill neu’r llall o’r ddau gaban signal a defnyddiwyd system o godau cloch i fynnu bod y giatiau’n cael eu hagor neu eu cau. Nid oedd Caban Rhif 1 yn cael ei ddefnyddio’n barhaus unwaith i’r traffig nwyddau arafu o’r Cei ar ddechrau’r 20fed ganrif. Hyd nes iddo gau ym 1967, dim ond ar gyfer storio cerbydau yn y Cei ac ar ddydd Sadwrn yr Haf y cafodd y caban ei agor er mwyn rhoi capasiti ychwanegol ar y lein ar gyfer y traffig prysur a oedd yn teithio’n ol ac ymlaen i Landudno. Daeth traffig nwyddau yn Neganwy i ben ym mis Medi 1964.

Cyflogwyd cymaint â 12 aelod o staff hyd at yr Ail Ryfel Byd ac erbyn 1965 roedd Gorsaf-feistr/Asiant Nwyddau Dosbarth 3, 2 ddyn signal Dosbarth 4, 1 Porthor/Arwyddwr a 2 Borthor. Daeth swydd y clerc bwcio olaf i ben ym 1966 a diddymwyd swydd yr Orsaf Feistr ei hun ym 1967.

Deganwy Railway Ticket

Ym mis Hydref 1964, trosglwyddwyd E. John Roberts i Ddeganwy o Orsaf Glan Conwy oedd wedi cau. Roeddwn wedi bod yn gyfeillgar gyda John pan oedd yng Nglan Conwy ac roedd yn ddigon hapus i adael i mi “helpu” gan gynnwys dosbarthu tocynnau. Parhaodd yr arferiad hwn yn hapus ar brynhawniau Sadwrn am nifer o flynyddoedd. Roeddwn hefyd yn gallu dysgu’r system signalau bloc trwy ymweliadau â’r caban signal o dan arweiniad Eddie Eccles ac Ossie Jones, y ddau ddyn signal arferol a oedd yn gweithio’n gynnar ac yn hwyr yn eu tro. Gorsaf-feistr olaf Deganwy oedd Mr T. Glyn Jones, brodor o Brestatyn a oedd wedi bod yn Orsaf-feistr yr Hob a Phenyffordd, gorsaf a gaewyd yn Ebrill 1962. Roedd yn olynydd i Mr John Morris a fu yn ei swydd o 1947 hyd 1962. Yn frodor o Falltraeth, cafodd Mr Morris nifer o swyddi o amgylch Gogledd Cymru a bu wrth law yn Neganwy ar gyfer nifer o ymweliadau gan y trên Brenhinol yn ystod ei gyfnod.

Ym mis Gorffennaf 1946, ar ôl treulio’r noson yn seidins y Cei, cludwyd y Brenin Siôr VI a’r Frenhines Elizabeth mewn car o du allan i’r orsaf i ymweld â Chonwy. Ym mis Ebrill 1949 fe wnaed trefniadau tebyg yn Neganwy ar gyfer ymweliad y Dywysoges Elizabeth a Dug Caeredin â Bangor a Blaenau Ffestiniog. Ym 1951 arhosodd trên y Dywysoges Margaret ar y Cei dros ar adeg ei hymweliad â Llandudno a Chonwy. Yn olaf, treuliodd trên Dug Caeredin y bore ar Fehefin 1af 1956 yn y Cei cyn iddo adael am Fetws y Coed, a’r achlysur oedd agor Plas y Brenin.

Ar 26 Gorffennaf, 1956 cafwyd digwyddiad diddorol yn ystod amser Mr Morris: injan ysgafn o Landudno yn gwrthdaro ag un o’r giatiau croesi, gan dorri un o’r pâr yn racs. Roedd dynion y Ffordd Barhaol ar y safle yn gyflym i glirio’r malurion. Ni achoswyd unrhyw anafiadau a dim ymyrraeth i wasanaethau ac aeth yr injan ymlaen i’r Gyffordd.

Lleihawyd troeon y ddau swyddog yn yr orsaf i shifft undydd ym 1977 ac erbyn canol yr 1980au nid oedd staff yno o gwbl.

Bu Mr Glyn Jones a’i deulu’n byw yn Station House tan 1976 pan ymddeolodd o’i swydd yn swyddfa bwcio Bae Colwyn ac ar ôl cyfnod o esgeulustod cafodd adeiladau’r orsaf eu dymchwel ar fore Sul yn Ebrill 1996.

Addasiad o adroddiad Wendy Lonsdale

Joseph Bayley, sylfaenydd Ysbyty Bryn y Neuadd

Ein siaradwr olaf oedd Dr Stephen Lockwood, cyn bennaeth y labordai morol yng Nghonwy. Mae Stephen yn aelod gweithgar iawn o Grŵp Hanes Deganwy ac mae wedi rhoi sgyrsiau blaenorol ar bynciau mor amrywiol â chregyn gleision, carthffosiaeth a gwyddoniaeth; Adeiladu Cychod ar Afon Conwy; Neuadd Benarth: Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr, a Chyffin Diwydiannol. Ei destun y tro hwn oedd gwasanaeth lloerig y 19eg ganrif, gan ganolbwyntio ar Joseph Bayley (1836-1913), sefydlydd Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, a’i gyfraniad at agwedd fwy gofalgar.

(Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer sgwrs Stephen)

Joseph Bayley, founder of Bryn y Neuadd Hospital

Diolch yn fawr i Adrian, Philip a Stephen am eu sgyrsiau hynod ddiddorol. Bydd pawb oedd yno wedi gadael gyda gwybodaeth ddyfnach o’r hyn sydd yn eu hardal leol – ac, yn achos sgwrs Adrian, oddi tano.

Diolch yn fawr hefyd i Diane, Wendy a Lucinda am ysgrifennu’r adroddiadau hyn ar gyfer y wefan hon.

 

 

Web Design North Wales by Indever