Yr Iddewon yn Llandudno

Daeth yr Athro Nathan Abrams atom i roi sgwrs am yr Iddewon yn Llandudno. Mae gan Nathan CV trawiadol ac amrywiol: mae’n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac yn brif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin. Mae’n cyd-gynnull rhwydwaith Diwylliannau Cyfoes Iddewig Prydain; mae’n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu’n eang yn y Gymraeg a’r Saesneg; mae’n awdur llawer o lyfrau ac erthyglau nodedig, ac ar hyn o bryd mae’n cyd-ysgrifennu cofiant i Stanley Kubrick. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a’r amgylchedd, yn enwedig y broblem o lygredd plastig. Rhywsut, mae Nathan yn llwyddo i wasgu amryw o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol ymhlith ei waith academaidd.

Cysylltiad cyntaf yr Iddewon â Gogledd Cymru oedd mor fuan â 1066 wrth iddynt groesi’r Sianel gyda William I gan fod yn arianwyr iddo. 200 mlynedd yn ddiweddarach, ceir tystiolaeth o aneddiadau Iddewig bychan yn cael eu sefydlu mewn clwstwr o drefi oedd yn rhan o gylch haearn Edward I yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yn y cyfnod hwn, roedd yn ofynnol i Iddewon wisgo bathodyn adnabod ar eu dillad: fel arfer stribedi lliw golau yn cynrychioli 2 lechen Moses. Cafodd y drefn hon ei adfywio gan y Natsïaid, pan orfodwyd Iddewon i wisgo Seren felen Dafydd.

Erbyn 1290, codwyd y gwaharddiad Cristnogol ar usuriaeth ac felly nid oedd angen Iddewon mwyach i ddarparu cyllid. Cafodd yr Iddewon eu diarddel o Ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd bod Edward I erbyn hynny wedi eu twyllo o bopeth heblaw eu heiddo, a chafodd hwn ei atafaelu ar ôl eu halltudiaeth. Yn dilyn hyn, heblaw ambell unigolyn, nid oedd Iddewon yng Nghymru na Lloegr am dros 350 o flynyddoedd; dim ond o dan Oliver Cromwell y cawsant eu haildderbyn yn anffurfiol.

Yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd mewnfudo oherwydd cynnwrf yn Ewrop, gan gyrraedd uchafbwynt ar ddiwedd y ganrif honno. Dihangodd llawer o Iddewon o Ymerodraeth Rwsia rhag y pogromau, consgripsiwn i fyddin y Czar, a safon wael o fyw. Roedd y DU yn ffynnu oherwydd y Chwyldro Diwydiannol, ac roedd teithio ar longau a rheilffordd yn gymharol rad. Yn gyffredinol roedd y mewnfudwyr yn cyrraedd y wlad ac yn teithio tua’r gorllewin; roedd y gweithwyr yn dueddol o fod efo sgiliau gwaith llaw ac entrepreneuraidd ac felly’n aml yn symud ymlaen i chwilio am gyfleoedd gwell.

Dilynodd y teulu Wartski lwybr arferol – daethant o Wlad Pwyl i Fangor drwy Lerpwl, yna i Landudno ac yn ddiweddarach i Lundain. Agorodd Morris Wartski ei siop gyntaf ym Mangor, ond symudodd i Landudno i gael gwell aer i’w fab oedd yn sâl. Roedd ganddo 3 siop ar Stryd Mostyn yn Llandudno yn gwerthu clociau, gemwaith, dillad a nwyddau eraill. Mae’r teils mosaig gyda’r enw Wartski i’w gweld o hyd y tu allan i siop Goldsmiths.
Cyfarfu Harriet, merch Morris, â’r Llundeiniwr Emanuel Snowman, a’u priodas hwy ym 1909 a ysgogodd sefydlu synagog gyntaf Llandudno. Roedd gan Emanuel syniadau mawreddog, ac agorodd siop Wartski yn Llundain sy’n dal i ffynnu yna. Cafodd y cwmni nawdd brenhinol a chwsmeriaid fel Frank Sinatra, Jackie Onassis ac Ian Fleming. Mae mab Emanuel a Harriet, Kenneth Snowman, yn ymddangos yn y nofel James Bond, Property of a Lady, wrth i’r plot droi o amgylch wyau Fabergé. Roedd Wartskis wedi caffael llawer o drysorau gan y llywodraeth Sofietaidd ar ddiwedd y 1920au yn cynnwys gweithiau Carl Fabergé,. Mae gan y cwmni byd-enwog hwn gysylltiadau o hyd â Gogledd Cymru, sy’n cael ei adnabod fel ‘Wartskis o Landudno’.

Roedd siopau a busnesau Iddewig eraill yn parhau i ddod i Landudno, ac o tua 1908 ymlaen, dechreuodd hysbysebion ymddangos yn y Jewish Chronicle am westai oedd yn darparu ar gyfer gofynion Iddewig.

Fe welir y patrwm o sefydlu synagogau yng Ngogledd Cymru trwy’r dyddiadau, sy’n dangos bod digon o Iddewon yn y trefi canlynol bryd hynny i rentu adeilad:

Wrecsam - c.1893
Bangor – 1894
Rhyl – 1897
Llandudno – 1909
Bae Colwyn – 1940

Roedd y synagog gyntaf yn Llandudno uwchben yr hyn sy’n awr yn Listers ar Stryd Mostyn – roedd yr adeilad yn wreiddiol yn Neuadd Seiri Rhyddion, a dyna pam mae’r ffenestri’n cynnwys sêr 5-pwynt yn hytrach na’r 6 phwynt Iddewig. Mae adroddiadau papur newydd am dorfeydd yn leinio’r stryd y tu allan i’r synagog yn synnu at yr arferion Iddewig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Eglwys Ebeneser ar Stryd Madog fel synagog gan fod y gymuned Iddewig wedi tyfu, efo faciwîs ac adrannau’r llywodraeth yn symud i’r ardal. Yn ddiweddarach, prynwyd tŷ ar Church Walks, sy’n dal i gael ei ddefnyddio fel yr unig synagog i oroesi yng Ngogledd Cymru. Gwelir y patrwm hwn o rentu neu addasu adeiladau ar draws Gogledd Cymru, lle’r oedd cymunedau’n rhy fach i gael addoldy pwrpasol.

Mae cysylltiadau Iddewig lleol nodedig eraill yn cynnwys Castell Gwrych, lle, o 1939-1941 cynhaliwyd rhaglen Kindertransport Iddewig a baratôdd ieuenctid ar gyfer bywyd yn Israel; enillydd Wimbledon o’r 1950au Angela Buxton, a gafodd ei ‘ddarganfod’ wrth chwarae tenis yn yr ysgol yn Neuadd Gloddaeth; a datblygiad diweddar fynwent Iddewig yn Llanrhos. Roedd gan y cwmni teuluol adnabyddus Pollecoff hefyd lawer o siopau yng Ngogledd Cymru.

Er bod y nifer o Iddewon lleol wedi prinhau, mae grwpiau mawr o deuluoedd Iddewig i’w gweld yn aml yn Llandudno yn yr haf, gan fwynhau amgylchedd diogel a chroesawgar arfordir Gogledd Cymru.
Mae llawer o bobl yn cofio’r teuluoedd y soniodd Nathan amdanynt a chafwyd trafodaeth fywiog ar ôl y sgwrs, gan gynnwys y tebygrwydd pensaernïol rhwng synagogau a chapeli Cymraeg. Cyfeiriodd Nathan at y nifer o gapeli gydag enwau Hebraeg a bod enw ein man cyfarfod heno, Peniel, yn golygu ‘wyneb Duw’ ac mai dyna’r enw ar y man lle bu Jacob yn ymgodymu â’r angel yn y Beibl.

Nid oes unrhyw gofnodion wedi goroesi o’r cymunedau Iddewig yng Ngogledd Cymru. Bydd unrhyw eitemau sydd gennych gartref, waeth pa mor gyffredin, yn cael eu croesawu gan Nathan – cysylltwch â Nathan (n.abrams@bangor.ac.uk) neu Archifau Conwy.
Diolchwyd i Nathan am ei sgwrs ddifyr a goleuedig, a dynnodd sylw at aelodau pwysig o’n cymuned leol, ac a gyfoethogodd ein dealltwriaeth o agweddau ar ein hanes hefyd.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever