{"id":3551,"date":"2017-01-28T09:38:42","date_gmt":"2017-01-28T09:38:42","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=3551"},"modified":"2017-02-04T14:46:37","modified_gmt":"2017-02-04T14:46:37","slug":"january","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/january\/","title":{"rendered":"Ionawr &#8211;   Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau &#8211;   Erin Lloyd Jones"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_3514\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3514\" class=\"size-medium wp-image-3514\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg\" alt=\"Erin Lloyd Jones \" width=\"300\" height=\"160\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-1024x545.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-768x409.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-1536x818.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3.jpg 1763w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3514\" class=\"wp-caption-text\">Erin Lloyd Jones<\/p><\/div><\/p>\n<p><strong><u>Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Testun cyfarfod cyntaf 2017 a gynhaliwyd ar 19<sup>eg<\/sup> Ionawr oedd \u2018Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau\u2019 a\u2019n siaradwraig gwadd oedd Erin Lloyd Jones, yr archeolegydd enwog o Gymru. Mae gan Erin angerdd i gloddio\u2019n ddyfnach i dreftadaeth Brydeinig a dod a hanes yn fyw ac i gyflwyno i\u2019r oes bresennol, hanes y bobl o\u2019r oes o\u2019r blaen, a rhannodd y gwaith ymchwil a wnaed ganddi tuag at ei doethuriaeth ar fryngaerau gyda chynulleidfa o bron i 70 o aelodau a chyfeillion. Erin yw Rheolwr Dehongli Treftadaeth Cadw ac roedd ei brwdfrydedd heintus yn gwneud ei rhybudd y dylem \u2018pwnio ein cymydog i\u2019w cadw\u2019n effro\u2019 yn hollol ddiangen!<\/p>\n<p>Mae dros 100 o fryngaerau\u2019r Oes Haearn yng ngogledd ddwyrain Cymru, a chanolbwyntiodd Erin ar 6 ohonynt yn\u00a0 ardal Bryniau Clwyd &#8211; Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Hiraddug, Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr) a Moel y Gaer (Bodfari).\u00a0 Roedd pob un ohonynt yn safleoedd trawiadol, gyda chloddiau a ffosydd mawr hyd at 30 troedfedd o uchder sydd dal i\u2019w gweld hyd heddiw. Nid yw\u2019n hysbys beth oedd eu pwrpas; a oeddynt i fod yn amddiffynfeydd yn unig , neu yn drigfannau, yn oleuf\u00e2u i ddenu masnach,\u00a0 neu yn gyfuniad o bob un?<\/p>\n<div id=\"attachment_3556\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Moel-Arthur2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3556\" class=\"size-medium wp-image-3556\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Moel-Arthur2-300x200.jpg\" alt=\"Moel Arthur\" width=\"300\" height=\"200\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3556\" class=\"wp-caption-text\">Moel Arthur<\/p><\/div>\n<p>Bu\u2019r bryngaerau hyn mewn defnydd yn y cyfnod rhwng c800 CC a 50 OC ac mae tua hanner ohonynt yn dangos gwaith adeiladu o wahanol gyfnodau. Gallai hyn fod yn waith i ailwampio amddiffynfeydd neu newid y defnydd, naill ai ar gyfer pobl oedd yn byw yna\u2019n barhaus neu bobl oedd yn\u00a0 dychwelyd. Fe wnaed ychydig o waith cloddio yn y 18fed canrif, ond nid mewn dull systematig. Ni chanfuwyd esgyrn, arian na chrochenwaith (ac eithrio \u2018crochenwaith cwrs\u2019) ac mae hyn yn gwneud y gwaith o roi dyddiad ar y safleoedd yn anodd. Fodd bynnag, fe ddarganfuwyd rhai arteffactau mewn cyflwr da ar Foel Hiraddug, yn cynnwys rhan o fogail tarian a hefyd, darn hirsgwar addurnedig yn arddangos crefftwaith da. Daethant i\u2019r golwg ym 1872 wrth adeiladu ffordd chwarel. Wrth gloddio yna\u2019n ddiweddarach, fe ddadorchuddiwyd yr hyn sy\u2019n debyg i fwrdd chwarae gemau gyda darnau i gyd-fynd a\u2019r bwrdd, sy\u2019n dystiolaeth o fywyd domestig sefydlog. Mae Moel Hiraddug yn galchfaen, tra bo\u2019r bryngaerau eraill ar dir asidig iawn &#8211; sy\u2019n dda ar gyfer grug, ond dim ar gyfer cadwraeth\u00a0 arteffactau.<\/p>\n<p>Tra bu Erin yn gweithio ar Brosiect Tirwedd y Grug a Bryngaerau rhwng 2008 a 2012, fe wnaed arolygon topograffig ym Mhenycloddiau. Fe welwyd bod cytiau ac adeiladau wedi gwasgaru\u00a0 ar ffin y cylchedd milltir o hyd o gwmpas y safle, ac yn swatio yn y ffos a lefelwyd yn fwriadol i\u2019r pwrpas.\u00a0 Adeiladwyd rhagfuriau o gerrig a choed, rhai ohonynt mewn haenau. Roedd rhai o\u2019r mynedfeydd, e.e. ym Moel Hiraddug, yn fynedfeydd porthol syml, a chaewyd hwy yn ddiweddarach er mwyn creu mynedfeydd mwy coeth, gyda siambrau a elwir yn \u2018siambrau gwarchod\u2019 oddi mewn iddynt. Eglurodd Erin mai milwyr gan amlaf oedd y rhai a wnaeth y gwaith cloddio cynnar ac fe ddylanwadodd hyn ar yr eirfa a ddefnyddiwyd (caerau, rhagfuriau, siambrau gwarchod ayb). Efallai mai\u2019r rheswm am hyn oedd bod y milwyr yn\u00a0 gyfarwydd \u00e2\u2019r fath yma o adeiladau ac o\u2019u profiad hwy cawn gliw i bwrpas y siambrau hyn. Mae\u2019n bosibl i\u2019r siambrau hyn, rhai ohonynt gyda th\u00e2n agored,\u00a0 cael eu defnyddio i gasglu trethi neu ryw fath arall o reolaeth &#8211; dyluniwyd y mynedfeydd i hebrwng pobl neu anifeiliaid i mewn i\u2019r fryngaer. Mae hyn yn nodweddiadol o fryngaerau Gogledd Cymru ac mae\u2019n ddiddorol ceisio dyfalu beth oedd eu pwrpas &#8211; a oedd rhyw fygythiad ar y gorwel draw?<\/p>\n<p>Mae\u2019r mwyafrif o fryngaerau yn edrych allan dros fwlch; er bod rhai ohonynt ar gopaon y bryniau, nid yw rhai ohonynt &#8211; yn cynnwys Moel Fenlli a Phenycloddiau &#8211; yn union ar y copa. Maent yn gorwedd ar lethr yn erbyn cyfuchlin y bryn. Er i hyn leihau\u2019r gwelededd gyfan gwbl o\u2019r bwlch, roedd yn cynyddu\u2019r gwelediad o olygfa arbennig, yn arbennig y dynesiad at y fryngaer. Dim ond 2 o\u2019r bryngaerau y bu Erin yn son amdanynt oedd efo tarddiad d\u0175r, gan ddangos nad oedd cyflenwadau d\u0175r yn bwysig. Hefyd, dim ond 2 ohonynt oedd efo unrhyw arwydd o weithgaredd cynharach, er bod yna dystiolaeth o fynwentydd o\u2019r Oes Efydd ar lawer o\u2019r bryniau yn Nyffryn Clwyd. Felly ni chawsant eu hadeiladu ar y bryn uchaf, na mewn lle nad oedd cyflenwad d\u0175r, na mewn man lle bu weithgaredd blaenorol.\u00a0 Mae yna fryniau eraill llawn mor addas ar gyfer bryngaerau ac mae\u2019r cwestiwn, pam cawsant eu hadeiladu yn y\u00a0 mannau a ddewiswyd dal heb ei ateb.<\/p>\n<div id=\"attachment_3559\" style=\"width: 309px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Black-Grouse-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3559\" class=\"size-full wp-image-3559\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Black-Grouse-2.jpg\" alt=\"Grugiar Ddu \" width=\"299\" height=\"197\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3559\" class=\"wp-caption-text\">Grugiar Ddu<\/p><\/div>\n<p>Fel rhan o Brosiect\u00a0 Tirwedd y Grug a Bryngaerau, bu Erin yn astudio\u2019r grugiar ddu ac yn ystod ei sgwrs ddifyr, cawsom glywed galwad yr aderyn hynod hwn. Cyfeiriodd hefyd at yr arbrawf anhygoel \u2018Llewych y Bryngaerau\u2019 a ddyfeisiwyd ganddi yn 2010 ac a gafodd cyhoeddusrwydd byd eang.\u00a0 Daeth 200 o wirfoddolwyr at ei gilydd un noson i brofi \u00a0y gellir gweld 10 o fryngaerau cyfagos trwy danio fflachiau ag arwyddo gyda fflachlampau. Cafwyd\u00a0 gwledd i\u2019r llygaid ar y noson gyda golygfa wych o leuad binc. Terfynodd Erin ei sgwrs gan ddweud nad ydynt yn si\u0175r am ba reswm yr adeiladwyd y bryngaerau, ond y peth gorau i wneud yw mynd allan a mwynhau\u2019r archeoleg &#8211; a\u2019r machlud.<\/p>\n<p><em>Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/em><\/p>\n<div id=\"attachment_3568\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Erin-LlOYD.jpg2_.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3568\" class=\"wp-image-3568 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Erin-LlOYD.jpg2_-300x225.jpg\" alt=\"Erin LlOYD.jpg2\" width=\"300\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Erin-LlOYD.jpg2_-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Erin-LlOYD.jpg2_.jpg 360w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3568\" class=\"wp-caption-text\">Hunlun Erin a\u2019r Criw<\/p><\/div>\n<p><em>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau Testun cyfarfod cyntaf 2017 a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr oedd \u2018Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau\u2019 a\u2019n siaradwraig gwadd oedd Erin Lloyd Jones, yr archeolegydd enwog o Gymru. Mae gan Erin angerdd i gloddio\u2019n ddyfnach i dreftadaeth Brydeinig a dod a hanes yn fyw ac i gyflwyno i\u2019r oes bresennol, hanes [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-3551","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ionawr -  Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau -  Erin Lloyd Jones - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/january\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ionawr -  Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau -  Erin Lloyd Jones - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau Testun cyfarfod cyntaf 2017 a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr oedd \u2018Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau\u2019 a\u2019n siaradwraig gwadd oedd Erin Lloyd Jones, yr archeolegydd enwog o Gymru. Mae gan Erin angerdd i gloddio\u2019n ddyfnach i dreftadaeth Brydeinig a dod a hanes yn fyw ac i gyflwyno i\u2019r oes bresennol, hanes [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2017-02-04T14:46:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/\",\"name\":\"Ionawr - Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau - Erin Lloyd Jones - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg\",\"datePublished\":\"2017-01-28T09:38:42+00:00\",\"dateModified\":\"2017-02-04T14:46:37+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"January &#8211; Prehistoric Hillforts of North Wales and the Borders &#8211; Erin Lloyd Jones\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ionawr -  Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau -  Erin Lloyd Jones - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/january\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ionawr -  Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau -  Erin Lloyd Jones - Deganwy History","og_description":"Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau Testun cyfarfod cyntaf 2017 a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr oedd \u2018Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau\u2019 a\u2019n siaradwraig gwadd oedd Erin Lloyd Jones, yr archeolegydd enwog o Gymru. Mae gan Erin angerdd i gloddio\u2019n ddyfnach i dreftadaeth Brydeinig a dod a hanes yn fyw ac i gyflwyno i\u2019r oes bresennol, hanes [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2017-02-04T14:46:37+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/","name":"Ionawr - Bryngaerau Gogledd Cymru a\u2019r Gororau - Erin Lloyd Jones - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg","datePublished":"2017-01-28T09:38:42+00:00","dateModified":"2017-02-04T14:46:37+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/12\/Erin-LlOYD-3-300x160.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/january\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"January &#8211; Prehistoric Hillforts of North Wales and the Borders &#8211; Erin Lloyd Jones"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3551","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3551"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3551\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3583,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3551\/revisions\/3583"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3551"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}