{"id":3602,"date":"2017-01-28T08:12:55","date_gmt":"2017-01-28T08:12:55","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=3602"},"modified":"2017-01-28T17:52:01","modified_gmt":"2017-01-28T17:52:01","slug":"2016-summer","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/2016-summer\/","title":{"rendered":"2016 Haf &#8211;"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mynwent St. Tudno ar y Gogarth yn Llandudno .<\/strong><\/p>\n<p><strong>Erthygl gan <a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/research-authors\/adrian-hughes\/\">Adrian Hughes<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Yn yr 1890au roedd y dref yn rhedeg allan o le yn y ddwy fynwent yn y dref a bu\u2019n rhaid chwilio am safle newydd. Penderfynwyd ar y tir ger mynwent Eglwys Tudno Sant ac fe agorwyd y mynwent newydd yn swyddogol ym 1903.\u00a0\u00a0 Dangoswyd cerdyn post o\u2019r fynwent yn y cyfnod ac arno&#8217;r ysgrifenwyd \u2018Wish you were here!\u2019<\/p>\n<p>Dyma hanes tri a gladdwyd yn y fynwent.<\/p>\n<ol>\n<li>James Cecil Parke (1881-1946). Gwyddel a ddaeth yn enwog am ei orchestion ym myd mabolgampau. Chwaraeodd rygbi dros ei wlad 20 o weithiau. Bu\u2019n bencampwr tenis yn Wimbledon ag Awstralia a chynrychiolodd Prydain yng Nghwpan Davis ac ym 1912, ef oedd rhif 3 yn y byd. Enillodd y fedal arian yng Ngemau Olympaidd 1908 yn Llundain yn y parau i ddynion. Nid yn unig \u2018roedd yn athletwr a chricedwr o fri ond hefyd roedd yn ddewin ar y bwrdd gwyddbwyll. Yn ei yrfa, \u2018roedd yn gyfreithiwr yn Llandudno. Mae\u2019r gofeb iddo yn y fynwent yn cynnwys croes Geltaidd wych James Cecil Parke\n<p><div id=\"attachment_3663\" style=\"width: 235px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3663\" class=\"wp-image-3663 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg\" alt=\"James C. Parke\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke.jpg 226w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3663\" class=\"wp-caption-text\">James Cecil Parke<\/p><\/div><\/li>\n<\/ol>\n<p>2. Llewelyn Roberts (1882-1939). G\u0175r o Landudno. Ar \u00f4l gadael yr ysgol yn y dref a chael cyfnod byr o hyfforddiant peirianyddol, ymunodd a Chwmni Cunard pan yn 23 mlwydd oed. Dyma ddechrau ar ei yrfa yn y Llynges Masnach, gyrfa o 35 o flynyddoedd lle bu\u2019n gweithio ar rai o longau enwocaf y cyfnod megis y <em>Mauretania<\/em> a\u2019r <em>Lusitania<\/em>. Yn y Rhyfel Byd 1af cafodd y comisiwn o fod yn Ddirprwy Comander Peirianyddol yn y Llynges Frenhinol Wrth Gefn ac ef oedd y peiriannydd ar yr <em>Andania <\/em>pan gludwyd y milwyr i Sulva Bay ar adeg Brwydr Galipoli. Ym 1918 ymosododd llong danfor ar yr <em>Andania <\/em>oddi ar arfordir Iwerddon ac roedd Llewelyn ymysg y 230 o bobl a achubwyd.<\/p>\n<p>Ym 1933 ef oedd y prif beiriannydd ar brif long newydd Cwmni Cunard sef <em>Queen Mary <\/em>ar ei fordaith gyntaf o Southampton. \u2018Roedd Llewelyn ar y <em>Queen Mary <\/em>unwaith eto pan\u00a0 lwyddwyd i ennill Gwobr Blue Riband &#8211; Hales am y daith cyflymaf dros F\u00f4r Iwerydd tua\u2019r gorllewin. Cyrhaeddwyd cyfartaledd cyflymdra o 30.63 not. Yn Llandudno fe benderfynwyd anrhydeddu Llewelyn am ei orchestion a sefydlwyd cronfa i bobl y dref cyfrannu tuag at faromedr aneroid i gyflwyno iddo ac fe wnaed hyn mewn seremoni yn Theatr y Palladium yn y dref lle bu 2000 o bobl yn bresennol &#8211; pawb yn chwifio baneri ac yn morio canu \u201cFor he\u2019s a jolly good fellow\u201d!<\/p>\n<div id=\"attachment_3660\" style=\"width: 455px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Queen-Mary.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3660\" class=\"wp-image-3660 \" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Queen-Mary-300x170.jpg\" alt=\"Queen Mary\" width=\"445\" height=\"252\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3660\" class=\"wp-caption-text\">Queen Mary<\/p><\/div>\n<p>Ym 1936, dechreuodd cwmni Cunard White Star ar y gwaith o adeiladu prif long newydd y cwmni sef <em>Queen<\/em> <em>Elizabeth<\/em> a Llewelyn Roberts oedd yn gyfrifol am y propelorau..\u00a0 Bu farw yn sydyn ym 1939 cyn iddi gael ei lansio. Derbyniodd yr anrhydedd o\u2019r CBE am ei wasanaeth i\u2019r llynges fasnachol Brydeinig<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li>Robert Arthur Griffith (1860-1936). Bardd, llenor, beirniad ac eisteddfodwr o fri. Ei enw barddol oedd Elphin. Fe\u2019i ganwyd yng Nghaernarfon lle&#8217;r oedd ei dad, John Owen Griffith (Ioan Arfon), yn gweithio fel chwarelwr. Yn ei yrfa gynnar, bu Robert yn gweithio i\u2019r <em>Daily News<\/em> ond gadawodd byd newyddiaduriaeth ac ar \u00f4l cyfnod fel myfyriwr yn Lerpwl ac Aberystwyth daeth yn gyfreithiwr gan weithio ym Mangor. Ym 1903 ddaeth yn fargyfreithiwr yn Middle Temple gan ymuno a chylch Gogledd Cymru a Chaer. Ym 1915 fe\u2019i penodwyd yn ynad cyflogedig ym Merthyr Tydfil ag Aberd\u00e2r ac yna bu hyd ei ymddeoliad ym 1935.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Ym mis Medi 1917 bu\u2019n gwrando ar achos Henry Thomas o Ferthyr oedd yng ngharchar Dartmoor am wrthod mynd i ryfel. Rhyddhaodd y carcharor gan ddweud bod arian wedi cael ei wastraffu yn dwyn\u00a0 achos yn erbyn \u201cyr heddychwr ifanc hwn\u201d ac na fyddai \u201cwerth dim\u201d i\u2019r fyddin ac na fyddai buddugoliaeth yn dod awr ynghynt hyd yn oed os oedd yna filiwn o wrthwynebwyr cydwybodol.<\/p>\n<p>Fel llenor, ysgrifennodd dwy gyfrol o farddoniaeth sef \u2018Murmuron Menai\u2019 ac \u2018O F\u00f4r i Fynydd\u2019 yn ogystal \u00e2 chomedi Cymraeg \u2018Y Bardd a\u2019r Cerddor\u2019<em>.<\/em> Bu farw ym 1936 ac fe\u2019i claddwyd ar y Gogarth gyda\u2019i frawd Ifor a fu farw ym 1916 yn 49 mlwydd oed.<\/p>\n<div id=\"attachment_3665\" style=\"width: 161px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Elphins-Image.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3665\" class=\"size-full wp-image-3665\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/Elphins-Image.jpg\" alt=\"Elphin's grave\" width=\"151\" height=\"269\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-3665\" class=\"wp-caption-text\">Bedd Elphin<\/p><\/div>\n<p><u>\u00a0<\/u><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mynwent St. Tudno ar y Gogarth yn Llandudno . Erthygl gan Adrian Hughes Yn yr 1890au roedd y dref yn rhedeg allan o le yn y ddwy fynwent yn y dref a bu\u2019n rhaid chwilio am safle newydd. Penderfynwyd ar y tir ger mynwent Eglwys Tudno Sant ac fe agorwyd y mynwent newydd yn swyddogol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-3602","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>2016 Haf -  - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/2016-summer\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"2016 Haf -  - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mynwent St. Tudno ar y Gogarth yn Llandudno . Erthygl gan Adrian Hughes Yn yr 1890au roedd y dref yn rhedeg allan o le yn y ddwy fynwent yn y dref a bu\u2019n rhaid chwilio am safle newydd. Penderfynwyd ar y tir ger mynwent Eglwys Tudno Sant ac fe agorwyd y mynwent newydd yn swyddogol [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2017-01-28T17:52:01+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/\",\"name\":\"2016 Haf -  - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg\",\"datePublished\":\"2017-01-28T08:12:55+00:00\",\"dateModified\":\"2017-01-28T17:52:01+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"2016 Summer &#8211; Gt. Orme Cemetery visit (two articles)\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"2016 Haf -  - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/2016-summer\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"2016 Haf -  - Deganwy History","og_description":"Mynwent St. Tudno ar y Gogarth yn Llandudno . Erthygl gan Adrian Hughes Yn yr 1890au roedd y dref yn rhedeg allan o le yn y ddwy fynwent yn y dref a bu\u2019n rhaid chwilio am safle newydd. Penderfynwyd ar y tir ger mynwent Eglwys Tudno Sant ac fe agorwyd y mynwent newydd yn swyddogol [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2017-01-28T17:52:01+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"14 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/","name":"2016 Haf -  - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg","datePublished":"2017-01-28T08:12:55+00:00","dateModified":"2017-01-28T17:52:01+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/James-C.-Parke-225x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/2016-summer\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"2016 Summer &#8211; Gt. Orme Cemetery visit (two articles)"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3602","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3602"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3602\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3669,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3602\/revisions\/3669"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3602"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}