{"id":4441,"date":"2017-06-25T09:28:26","date_gmt":"2017-06-25T09:28:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=4441"},"modified":"2017-07-01T08:48:05","modified_gmt":"2017-07-01T08:48:05","slug":"bodafon-walk","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/bodafon-walk\/","title":{"rendered":"Taith Gerdded Bodafon"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong><u>Taith Gerdded Bodafon <\/u><\/strong><\/h2>\n<p><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-4449 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1-300x225.jpg\" alt=\"bodafon walk\" width=\"300\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg 960w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<p><strong><u>Taith Gerdded Bodafon <\/u><\/strong><\/p>\n<p>Nos Iau 15fed Mehefin, aeth oddeutu 30 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy am daith gerdded hynod o ddiddorol. Dan arweiniad medrus yr hanesydd lleol, Elan Rivers, cawsom ein tywys o amgylch ardal Bodafon yng Nghraig y Don, Llandudno. Cyfarfu\u2019r Gr\u0175p ar L\u00f4n Ffynnon Sadwrn, ac er s\u0175n y gwynt a\u2019r traffig, ni chafodd Elan unrhyw drafferth i drosglwyddo ei neges oherwydd roedd yn defnyddio megaffon newydd y Gr\u0175p<\/p>\n<p>Nid yw Craig-y-Don yn rhan o Ystadau Mostyn. Yn wreiddiol, roedd yn rhan o dir Marl Hall a Penrhyn Old Hall.\u00a0 Gwerthwyd y tir ganddynt ym 1884 ac fe adeiladwyd y mwyafrif o\u2019r adeiladau presennol ar \u00f4l hyn. Ym 1894 fe baratowyd cynlluniau gan Ystadau Mostyn i adeiladu tai ar yr hyn a elwir Caeau Bodafon. Ni wireddwyd y cynllun (hyd yn hyn) er i\u2019r pibellau d\u0175r ar gyfer y datblygiad arfaethedig fod yn y tir am dros ganrif! Cyfeiriodd Elan at ddau adeilad i gyfeiriad Trwyn y Fuwch sef Villa Marina, a adeiladwyd yn y 1930au i fasnachwr bisgedi o Ganolbarth Lloegr, a Craigside Hydro &#8211; a fu ar un adeg yn un o\u2019r gwestai mwyaf yng Nghymru, gyda Baddonau Twrcaidd.<\/p>\n<p>Wrth syllu ar Drwyn y Fuwch, eglurodd Elan fod Ystadau Mostyn wedi prydlesu\u2019r chwarel i Joseph Storey yn oddeutu 1890 ar yr amod nad oedd y gwaith chwarel i groesi Ffordd Colwyn fel nad oedd am anharddu golygfa\u2019r penrhyn o Landudno. Roedd llongau yn arfer dod at y cei ar ochr Bae Penrhyn o\u2019r penrhyn i gludo cerrig calch m\u00e2l o\u2019r chwarel cyn belled \u00e2 Glasgow. Yn ystod y gwaith chwarelu, fe ddarganfuwyd sgerbwd Blodwen, yn dyddio o c.3000CC &#8211; gellir ei gweld yn Amgueddfa Llandudno. Cyflolgwyd tua 50 o bobl yn y chwarel pan oedd yn ei anterth, ond fe\u2019i caewyd tua 1931. Defnyddiwyd rhai o\u2019r adeiladau gan Ysgol Magnelau\u2019r Arfordir yn ystod yr ail ryfel byd pan nad oedd ganddynt ddigon o le ar y Gogarth<\/p>\n<p>Mae yna ogof ar Drwyn y Fuwch lle argraffwyd y daflen crefyddol Cymraeg cyntaf, \u2018Y Drych Cristnogol c.1585 &#8211; mae hwn i\u2019w weld r\u0175an yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cefnogwyd y wasg argraffu gan deulu Pugh, y teulu o Gatholigion oedd yn byw yn Penrhyn Old Hall &#8211; ond roedd y gwaith yn fenter beryglus. Fe anfonwyd Syr Thomas Mostyn, sef asiant i Frenhines Elizabeth I, i gau\u2019r wasg i lawr. Gyda chymorth teulu Pugh, fe ddihangodd offeiriad o\u2019r enw William Dai Davies o\u2019r lle ond fe\u2019i daliwyd ar Ynys M\u00f4n a chafodd ei grogi, diberfeddu a\u2019i chwarteri ym Miwmares.<\/p>\n<p>Darganfuwyd nifer o gelciai o arian Rhufeinig yn yr ardal ym 1873 ac yn ddiweddarach ym 1907 pan adeiladwyd y dramffordd at Ochr y Penrhyn. Fe dybier i\u2019r fyddin Rufeinig dod ar hyd yr arfordir o Gaer yn 55 OC, er mwyn ymdrin \u00e2 bryngaerau\u2019r ardal,\u00a0 yn cynnwys yr un ar Fryn Euryn. Fodd bynnag, ac eithrio\u2019r arian, yr unig dystiolaeth o\u2019u\u00a0 bodolaeth yma yw\u2019r enwau lleol megis Bryn y Bia (Bwa), Adwy Rudd a Phant yr Ellyll.<\/p>\n<p>Ar ben uchaf Nant-y-Gamar, uwchben Bodafon, fe welir Castell Gwylfryn a fu, efallai, yn wylfa gaerog yn wreiddiol. Mae yna hefyd cylch cytiau hanesyddol a chwarel tywod. Ar un adeg yn yr 1850au, roedd dynes o\u2019r enw Margaret Owen yn gwneud clai tan ac yn ei werthu yn yr ardal &#8211; fe\u2019i defnyddiwyd hefyd i wneud brics t\u00e2n a cheramig. Fe welir mwy o dai nodedig ar y bryn, yn cynnwys Eryl Fryn, cartref Syr William Letts, cyd-sylfaenydd yr AA a rheolwr cyfardwyddwr Crossley Motors, a Bythynnod Pant y Wennol lle ganwyd Thomas Kendrick ym 1821. Ymhellach i lawr, mewn ogofeydd y tu cefn i Ysgol Bodafon, fe ddarganfuwyd esgyrn dynol ac anifeiliaid yn dyddio o\u2019r Oes Neolithig a\u2019r oes Mesolithig.<\/p>\n<p>Wrth gerdded i fynnu L\u00f4n Ffynnon Sadwrn, gwelsom yr hen garreg ar ochr y ffordd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r garreg anysgrifenedig (ond heb ei\u00a0 ddehongli) a welir yn Eglwys Llanrhos. Darganfuwyd y garreg, sy\u2019n dyddio o c.600 OC, ger Tyddyn Holland sy\u2019n agosach at Ysgol Bodafon. Cyfeiriwyd at y garreg gan Lewis Morris, y cartograffydd o\u2019r 18fed ganrif. Mae Ffynnon Sadwrn, sy\u2019n rhoi\u2019r enw i\u2019r L\u00f4n, yn cyn Rhufeinig gan brofi bod y llwybr tramwy hwn yn hanesyddol iawn. Mae\u2019n debyg iawn i Ffynnon Santes Fair yn Llanrhos lle mae\u2019r d\u0175r yn codi. Mae gwreiddiau\u2019r enw Sadwrn yn fwy dirgel. Mae\u2019n debyg i\u2019r ffynnon cael ei enwi ar \u00f4l y blaned Sadwrn. Yn yr hen ddyddiau, Sadwrn oedd y blaned bellaf yng Nghyfundrefn yr Haul a chafodd ei enwi ar \u00f4l Saturnus, duw amaeth yn y fytholeg Rufeinig. Efallai i\u2019r enw ddod ar \u00f4l St Sannan, neu hyd yn oed trwy\u2019r traddodiad o godi d\u0175r o\u2019r Ffynnon ar ddydd Sadwrn.<\/p>\n<p>Wrth i ni groesi\u2019r caeau, dangosodd Elan lwybr y dramffordd ac adeiladau diddorol yn cynnwys Arne Hall, adeilad ffug Tuduraidd sydd yn replica o\u2019r t\u0177 gwreiddiol. Yn ddiweddarach fe\u2019i troswyd i fod yn ysgol breifat ac yna yn gartref Dr Barnardos. Yna ddaeth Bodafon Hall i\u2019r golwg: mae hwn yn hynach na\u2019r fferm ac mae Ffynnon hanesyddol yn yr ardd. Hwn oedd cartref John Williams, asiant cyntaf Ystadau Mostyn a ffigwr amlwg iawn yn natblygiad Llandudno. Troswyd un o\u2019r tai allan yn ddiweddarach i fod yn ffermdy ac yma bu teulu Tudno Jones yn byw ac yn ffermio ar ran yr yst\u00e2d am y mwyafrif o\u2019r 19eg ganrif.<\/p>\n<p>Daeth y daith i ben gyda lluniaeth ysgafn ym muarth dymunol Parc Fferm Bodafon- bydd yn werth dychwelyd i weld y tylluanod a\u2019r atyniadau eraill sydd yna. Llawer o ddiolch iddynt ag i Elan am noson mor bleserus ac addysgiadol.<\/p>\n<p><em>Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Taith Gerdded Bodafon Taith Gerdded Bodafon Nos Iau 15fed Mehefin, aeth oddeutu 30 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy am daith gerdded hynod o ddiddorol. Dan arweiniad medrus yr hanesydd lleol, Elan Rivers, cawsom ein tywys o amgylch ardal Bodafon yng Nghraig y Don, Llandudno. Cyfarfu\u2019r Gr\u0175p ar L\u00f4n Ffynnon Sadwrn, ac er s\u0175n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-4441","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/bodafon-walk\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Taith Gerdded Bodafon Taith Gerdded Bodafon Nos Iau 15fed Mehefin, aeth oddeutu 30 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy am daith gerdded hynod o ddiddorol. Dan arweiniad medrus yr hanesydd lleol, Elan Rivers, cawsom ein tywys o amgylch ardal Bodafon yng Nghraig y Don, Llandudno. Cyfarfu\u2019r Gr\u0175p ar L\u00f4n Ffynnon Sadwrn, ac er s\u0175n [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2017-07-01T08:48:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/\",\"name\":\"Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg\",\"datePublished\":\"2017-06-25T09:28:26+00:00\",\"dateModified\":\"2017-07-01T08:48:05+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Bodafon Walk\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/bodafon-walk\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History","og_description":"Taith Gerdded Bodafon Taith Gerdded Bodafon Nos Iau 15fed Mehefin, aeth oddeutu 30 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy am daith gerdded hynod o ddiddorol. Dan arweiniad medrus yr hanesydd lleol, Elan Rivers, cawsom ein tywys o amgylch ardal Bodafon yng Nghraig y Don, Llandudno. Cyfarfu\u2019r Gr\u0175p ar L\u00f4n Ffynnon Sadwrn, ac er s\u0175n [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2017-07-01T08:48:05+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/","name":"Taith Gerdded Bodafon  - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg","datePublished":"2017-06-25T09:28:26+00:00","dateModified":"2017-07-01T08:48:05+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/bodafon-walk1.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/bodafon-walk\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Bodafon Walk"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4441","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4441"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4441\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4459,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4441\/revisions\/4459"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4441"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}