{"id":4923,"date":"2017-10-27T12:24:36","date_gmt":"2017-10-27T12:24:36","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=4923"},"modified":"2017-11-02T14:38:24","modified_gmt":"2017-11-02T14:38:24","slug":"llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/","title":{"rendered":"Cyffordd Llandudno yn y 1950au"},"content":{"rendered":"<p>&nbsp;<\/p>\n<h1><strong>Sgwrs gan David Williams<\/strong><\/h1>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Daeth oddeutu 50 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i\u2019n cyfarfod ar Hydref 19eg eleni, pan gawsom sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth gan David Williams am Gyffordd Llandudno yn 195au.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Cafodd David eni a\u2019i dwyn i fynnu yn y Gyffordd ac aeth i weithio i\u2019r Gwasanaeth Sifil am nifer o flynyddoedd ac mae ganddo ddiddordeb arbennig ym maes trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, ef yw Is-Gadeirydd Cymdeithas Rheilffordd Llandudno a Dyffryn Conwy &#8211; priodol iawn o gofio ei gefndir fel rhan o \u2018deulu rheilffordd\u2019.\u00a0 Mae\u2019r amser pan fu\u2019r rheilffordd yn ei bri yn ymestyn yn \u00f4l llawer o flynyddoedd: yng nghyfrifiad 1911, roedd\u00a0 dyn rheilffordd yn byw ym mhob t\u0177 yn Queen\u2019s Road!<\/strong><\/p>\n<p>Aeth David i Ysgol Broad Street &#8211; Ysgol Maelgwn yn ddiweddarach &#8211; lle bu\u2019n rhaid iddo ef a\u2019i gyd-ddisgyblion dioddef profion y\u00a0 nyrs chwain. Roedd y llefrith ysgol yn cael ei gadw allan yn iard yr Ysgol ac yn y gaeaf, am ei fod wedi rhewi, rhoddwyd y poteli ger y tan glo, ac felly roedd y llefrith wedi hanner rhewi a hanner troi. David oedd y gyntaf yn Ysgol Maelgwn i gael sbectols NHS ac oherwydd hyn, bu\u2019n\u00a0 rhaid iddo eistedd yn rhes flaen y dosbarth, ond roedd yn dueddol i grwydro &#8230; ac felly bu\u2019n rhaid rhoi clo ar lidiart yr Ysgol &#8211; ac mae\u2019r clo\u00a0 dal yna! Fodd bynnag cafwyd rhai pethau da, a meddiannodd David y ddawn o ddarllen a chafodd llawer o bleser yn ymweld \u00e2\u2019r llyfrgell fach wych yn y Neuadd Goffa. Yn ddiweddarach, cafwyd llyfrgell newydd oedd yn llawer mwy; caffi yw hwn erbyn hyn, ac yn anffodus, nid oes llyfrgell yn y Gyffordd mwyach.<\/p>\n<p>Dangosodd David luniau o\u2019r llefydd lle bu ef a gweddill \u2018Gang Penrhos\u2019 yn arfer chwarae.<\/p>\n<div id=\"attachment_4976\" style=\"width: 299px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4976\" class=\"wp-image-4976 \" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg\" alt=\"Gang Penrhos\" width=\"289\" height=\"425\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg 204w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-697x1024.jpg 697w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2.jpg 707w\" sizes=\"auto, (max-width: 289px) 100vw, 289px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-4976\" class=\"wp-caption-text\">Gang Penrhos<\/p><\/div>\n<p>Roedd y Gang yn cynnwys Haydn Williams a fu\u2019n berchen ar y \u2018White House\u2019 yn ddiweddarach, a\u2019r efeilliaid John a Mair Evans. Oherwydd bod gymaint o weithwyr ar stem nos (nid yn unig gweithwyr y rheilffordd ond hefyd dynion glo a phostmyn) yn byw yn y Gyffordd, nid oedd y plant yn cael chwarae yn y stryd &#8211; ond roedd yna ddigon o fannau eraill ar gael iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys y caeau chwarae (p\u00eal-droed 45 pob ochr hyd nes roedd yn rhy dywyll i weld y bel&#8230;), Nant y Coed, Bryn Ffynnon, Coed Marl &#8211; ac wrth gwrs gwylio\u2019r trenau o arglawdd y rheilffordd.<\/p>\n<p>Ar ddydd Sadwrn, roedd trenau yn cyrraedd y Gyffordd pob ychydig o funudau &#8211; ar rai penwythnosau Gwyliau Banc, roedd dros 100,000 o ymwelwr yn dod i Landudno ar y tr\u00ean.<\/p>\n<div id=\"attachment_4939\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-steam-21.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4939\" class=\"wp-image-4939 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-steam-21-300x225.jpg\" alt=\"crossings steam 2\" width=\"300\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-steam-21-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-steam-21.jpg 736w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-4939\" class=\"wp-caption-text\">tr\u00ean st\u00eam i Landudno<\/p><\/div>\n<p>Doedd dim angen set trenau Hornby ar blant y Gyffordd &#8211; roedd ganddynt lle chwarae go iawn yn y \u2018Scrapyard\u2019\u00a0 sef y lle y cadwyd trenau wrth gefn ar adegau prysur. Yn y gaeaf, roedd y \u2018Brickworks\u2019 yn lle da i gadw\u2019n gynnes &#8211; roedd y plant yn mynd yna i weld y briciau yn cael ei gwneud, yn helpu i lwytho\u2019r wagenni a chael lifft mewn tryc i mewn i\u2019r pwll fel gwobr.<\/p>\n<div id=\"attachment_4977\" style=\"width: 429px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4977\" class=\"wp-image-4977 \" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2-300x177.jpg\" alt=\"Y Brickworks\" width=\"419\" height=\"247\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2-300x177.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2-1024x605.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2-768x453.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/brickworks-2.jpg 1328w\" sizes=\"auto, (max-width: 419px) 100vw, 419px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-4977\" class=\"wp-caption-text\">Y Brickworks<\/p><\/div>\n<p>Roedd son am y siopau a\u2019r busnesau a fu, yn dod a llawer o atgofion yn ol: Harkers Chemist, Haddons Shoe Factory, Chester House, Ted the Barber \u00ad- un o 5 neu 6 siop barbwr yn y Gyffordd a thystiolaeth o gymuned mor ffyniannus oedd yn bodoli yna; roedd yna 5 siop cigydd. Byddai nifer o fasnachwyr yn danfon nwyddau, yn cynnwys bara, llysiau, glo, llefrith a\u2019r pysgod a ddaeth ar drol llaw o Gonwy. Roedd pob dim yn cael ei ailgylchu a\u2019r gwastraff bwyd yn mynd i\u2019r bwcedi slops i\u2019r moch; yr unig beth oedd yn mynd i\u2019r bin oedd y lludw tan.<\/p>\n<p>Ymysg y busnesau a gollwyd oedd Hotpoint, lle&#8217;r oedd plant yn mynd gyda\u2019u rhieni i bart\u00efon Nadolig, ac yn casglu afal ag oren o\u2019r bocsys wrth fynd allan. Roedd Crosville yn lle arall i gael part\u00efon Nadolig. Ar un adeg roedd yna res o siopau yn cynnwys Harrisons Newsagents, Hoppers, bwci, caffi a siop melysion ar safle\u2019r adeiladau sydd ar hyn o bryd yn ddiffaith. Castle Cleaners, sef cwmni o sychlanhawyr oedd yn yr adeilad sy\u2019n cael ei ddefnyddio heddiw gan Crest, a gyferbyn a hwn oedd Vale Laundry a ddifrodwyd yn ddiweddar gan d\u00e2n, lle&#8217;r oedd dillad gweithwyr y rheilffordd yn cael ei golchi.<\/p>\n<p>Roedd nifer o westai yn y Gyffordd, yn cynnwys Gwesty Lancastrian ar Marl Drive a Gwesty Maelgwn.<\/p>\n<div id=\"attachment_4937\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-j1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4937\" class=\"wp-image-4937 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-j1-300x169.jpg\" alt=\"railway branch to Conwy \/ Deganwy with Maelgwn Hotel in the background\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-j1-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-j1-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/crossings-j1.jpg 960w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-4937\" class=\"wp-caption-text\">Gwesty Maelgwn yn edrych dros y reilffordd Gangen Llandudno<\/p><\/div>\n<p>Yr enwocaf ohonynt yw Station Hotel, neu fel mae pawb yn ei galw hyd at heddiw \u2018Killer\u2019. Y rheswm am yr enw yw oherwydd bod y gweithwyr rheilffordd yn treulio eu hamser yna rhwng eu stemiau hollt. Roedd nifer o bobl yn cadw llety neu yn cadw llety gwely a brecwast &#8211; yn cynnwys un ochr cyfan o Rodfa Penrhos ar un adeg.<\/p>\n<p>Roedd incwm i\u2019w gael i blant gydag ychydig o fenter; casglu madarch a\u2019u gwerthu i Jacksons, y rownd bapur pob dydd, cludo bagiau teithwyr at yr orsaf, ailgylchu poteli pop gwag o\u2019r trenau a photeli cwrw o du cefn i A.J. Lays a cheisio adennill y 3d o Taylors.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/3penny-bit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4948\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/3penny-bit.jpg\" alt=\"3penny bit\" width=\"194\" height=\"105\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cafodd David lwyddiant ar un adeg\u00a0 gan fod yn gadi golff ar y cwrs golff &#8211; cafodd gildwrn o 30s a dalodd am docyn tymor i\u2019r Lido yn Neganwy. Roedd y bechgyn h\u0177n rhwng 14 &#8211; 15 oed yn cael y gorchwyl o ddeffro dynion y rheilffordd yn y nos os oeddent yn hwyr i\u2019r stem nos neu fod angen annisgwyl amdanynt. Roedd y dihunwyr hyn yn taflu llond llaw o golsion o\u2019r llwybr i daro ffenestr arbennig, wrth geisio peidio deffro gweddill y stryd.<\/p>\n<p>Dangoswyd lluniau atgofus yn cynnwys un o giatiau\u2019r hen groesfan ar ochr y Gyffordd o\u2019r Cob, gyda\u2019r tollborth ar yr ochr arall. Cyn i\u2019r bont newydd gael ei hadeiladu ym 1958, bydda\u2019r ceir yn ciwio i bob cyfeiriad gyda\u2019r trenau yn mynd heibio mor aml, a\u2019r plismon mewn bocs gwyn yn cyfeirio\u2019r traffig, yn aml yn anghytuno gyda dyn y signalau. Dangoswyd llun arall gan David sef \u2018Sioni Winwns\u2019.<\/p>\n<div id=\"attachment_4943\" style=\"width: 210px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Breton-pic1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-4943\" class=\"wp-image-4943 size-medium\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Breton-pic1-200x300.jpg\" alt=\"an \" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Breton-pic1-200x300.jpg 200w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Breton-pic1.jpg 613w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-4943\" class=\"wp-caption-text\">\u2018Sioni Winwns\u2019<\/p><\/div>\n<p>Dynion oedd y rhain oedd yn seiclo&#8217;r holl ffordd o Lydaw a\u2019u beics wedi llwytho gyda winwns (wrth gwrs). I derfynu, datgelwyd y gyfrinach o\u2019r hyn oedd bechgyn yr oes hynny yn cadw yn eu pocedi: llinyn ar gyfer creu bwa a saeth, concyrs, marblis, catapwlt, bandiau elastig a hances boced &#8211; i\u2019w ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau heblaw chwythu trwyn.<\/p>\n<p>Cyfrannodd y gynulleidfa eu hatgofion hwythau hefyd, yn cynnwys chwarae snwcer yn y Neuadd Goffa, a dal crethyll a madfallod d\u0175r ger y Ganolfan Badminton ym Mryn Estyn ac ychwanegodd hyn at noson bleserus, yn llawn o ddiddordeb dynol a hanesyddol.<\/p>\n<p>Lucinda Smith\u00a0 <strong><u><br \/>\n<\/u><\/strong><\/p>\n<h1><\/h1>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Sgwrs gan David Williams \u00a0 Daeth oddeutu 50 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i\u2019n cyfarfod ar Hydref 19eg eleni, pan gawsom sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth gan David Williams am Gyffordd Llandudno yn 195au. Cafodd David eni a\u2019i dwyn i fynnu yn y Gyffordd ac aeth i weithio i\u2019r Gwasanaeth Sifil am [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-4923","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"&nbsp; Sgwrs gan David Williams \u00a0 Daeth oddeutu 50 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i\u2019n cyfarfod ar Hydref 19eg eleni, pan gawsom sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth gan David Williams am Gyffordd Llandudno yn 195au. Cafodd David eni a\u2019i dwyn i fynnu yn y Gyffordd ac aeth i weithio i\u2019r Gwasanaeth Sifil am [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2017-11-02T14:38:24+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/\",\"name\":\"Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg\",\"datePublished\":\"2017-10-27T12:24:36+00:00\",\"dateModified\":\"2017-11-02T14:38:24+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llandudno Junction in the 1950&#8217;s\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History","og_description":"&nbsp; Sgwrs gan David Williams \u00a0 Daeth oddeutu 50 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i\u2019n cyfarfod ar Hydref 19eg eleni, pan gawsom sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth gan David Williams am Gyffordd Llandudno yn 195au. Cafodd David eni a\u2019i dwyn i fynnu yn y Gyffordd ac aeth i weithio i\u2019r Gwasanaeth Sifil am [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2017-11-02T14:38:24+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/","name":"Cyffordd Llandudno yn y 1950au - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg","datePublished":"2017-10-27T12:24:36+00:00","dateModified":"2017-11-02T14:38:24+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Picture1-2-204x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/llandudno-junction-in-the-1950s-david-williams\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llandudno Junction in the 1950&#8217;s"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4923","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4923"}],"version-history":[{"count":20,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4923\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4980,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4923\/revisions\/4980"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4923"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}