{"id":5203,"date":"2018-01-25T10:17:25","date_gmt":"2018-01-25T10:17:25","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=5203"},"modified":"2018-01-30T14:45:01","modified_gmt":"2018-01-30T14:45:01","slug":"normans-north-wales","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/normans-north-wales\/","title":{"rendered":"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Cyflwyniad gan Morgan Burgess<\/p>\n<div id=\"attachment_5202\" style=\"width: 210px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5202\" class=\"size-medium wp-image-5202\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg\" alt=\"\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg 200w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-683x1024.jpg 683w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-768x1152.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-1024x1536.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-1365x2048.jpg 1365w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-scaled.jpg 1707w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><p id=\"caption-attachment-5202\" class=\"wp-caption-text\">Morgan Burgess<\/p><\/div>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Athrawes hanes yn Ysgol Rydal Penrhos Bae Colwyn yw Morgan Burgess a chawsom ein diddanu ganddi pan ddaeth atom ar 18fed Ionawr 2018 i roi hanes Cymru yn y canol oesoedd.<\/b><\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Dechreuodd trwy amlinellu\u2019r llinach Normanaidd yn dilyn buddugoliaeth William I dros Loegr ym 1066. Gwlad ranedig oedd Cymru ar y pryd ac roedd llawer o wrthdaro mewnol yn digwydd, yn arbennig rhwng teyrnasoedd Gwynedd, Deheubarth a Phowys. Cyfraith Cymru ar etifeddiad oedd yn rannol gyfrifol am hyn gyda meibion a brodyr yr ymadawedig yn hawlio tiroedd y hytrach na bod y tir yn cael ei drosglwyddo i un etifedd. Arweiniodd y gwrthdaro hyn at chwalfa yn y wlad ac nid oedd Cymru felly yn gallu sefyll yn unedig yn erbyn ymosodiadau o\u2019r tu allan.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_5226\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5226\" class=\"size-medium wp-image-5226\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/AngloNormankings-300x190.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"190\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/AngloNormankings-300x190.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/AngloNormankings-1024x650.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/AngloNormankings-768x487.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/AngloNormankings.jpg 1289w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5226\" class=\"wp-caption-text\">Anglo Norman kings<\/p><\/div>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd tirlun Cymru yn gymaint o her i\u2019r Normaniaid fel iddynt ymosod ar gymunedau unigol yn hytrach nag ar yr holl wlad. Cynllun gwreiddiol William I oedd parhau&#8217;r traddodiad Seisnig lle&#8217;r oedd tywysogion Cymru yn cael cadw eu harglwyddiaeth o\u2019u tiroedd os oeddynt yn parhau i dalu teyrnged i frenin Lloegr. Fodd bynnag, oherwydd y clymbleidiau a ffurfiwyd rhwng y Cymry a\u2019r Saeson oedd yn wrthwynebus i\u2019r Normaniaid, fe gr\u00ebwyd arglwyddiaethau\u2019r Gororau yn cynnwys Caer, Yr Amwythig a Henffordd. Roedd y tiroedd hanner annibynnol hyn yn creu byffer rhwng Cymru a Lloegr ac fe adeiladwyd nifer o gestyll tomen a beili i fod yn amddiffynfeydd ac yn ganolfannau i gadw nwyddau ar gyfer mwy o ymosodiadau. Dyma\u2019r cestyll cyntaf i gael eu hadeiladu ym Mhrydain: yn wir mae Tapestri Bayeux yn dangos William Goncwerwr yn dod a chastell pecyn fflat gydag ef o Ffrainc!<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_5225\" style=\"width: 297px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5225\" class=\"size-medium wp-image-5225\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/1200px-Wales.post-Roman-287x300.jpg\" alt=\"\" width=\"287\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/1200px-Wales.post-Roman-287x300.jpg 287w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/1200px-Wales.post-Roman-980x1024.jpg 980w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/1200px-Wales.post-Roman-768x803.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/1200px-Wales.post-Roman.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 287px) 100vw, 287px\" \/><p id=\"caption-attachment-5225\" class=\"wp-caption-text\">Wales post-Roman<\/p><\/div>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Nid oedd y Brenin am wastraffu adnoddau i ymosod ar Ogledd Cymru oherwydd prin iawn byddai ei enillion. Fodd bynnag, yn dilyn carchariad Gruffydd ap Cynan, Tywysog Gwynedd, yng Nghaer, doedd neb yn rheoli gyda llwyr awdurdod. Rhoddodd hyn y cyfle i Iarll Caer, Hugh d\u2019Avranches (neu Hugh Lupus neu Hugh Dew), ynghyd a Robert o Ruddlan ei gefnder a\u2019r hwn oedd yn llaw dde iddo, i wneud enillion sylweddol yng Ngogledd Cymru. Adeiladwyd cestyll tomen a beili yn Rhuddlan, Abergwyngregyn, Bangor, Caernarfon ac Aberlleiniog. Robert oedd yn gyfrifol hefyd am y cysylltiad lleol a Ddeganwy trwy adeiladu\u2019r castell ar y Fardre ym 1080. Robert o Ruddlan oedd arweinydd byddin Hugh d\u2019Avranches, ond er bod ganddo\u2019r ddawn i ddatrys problemau lleol, fe\u2019i lladdwyd ar y Gogarth yn ystod brwydr yn erbyn cyd-fyddin y Llychlynwyr a\u2019r Cymry <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Yn dilyn marwolaeth William I ym 1087, daeth ei fab William II (William Rufus) i\u2019r orsedd ond mater dibwys oedd Cymru iddo &#8211; o leiaf hyd nes i Gruffydd ap Cynan arwain ymosodiad arno ym 1096. Aflwyddiannus bu amryw o ymosodiadau gan y brenin ar Gymru oherwydd dulliau\u2019r Cymry o gudd ymosod. Yn y cyfamser, llwyddodd Hugh d\u2019Avranches ynghyd ac Iarll Amwythig i ymwthio Gruffydd i Ynys M\u00f4n ac yna i Iwerddon. Byr iawn oedd goruchafiaeth y Normaniaid oherwydd ychydig yn ddiweddarach cyrhaeddodd Brenin Norwy, Magnus III neu Magnus Droednoeth, gyda\u2019i llynges ac enillodd brwydr ffyrnig yn erbyn Hugh ar y Fenai ger Ynys Seiriol gan ddod ag Ynys M\u00f4n o dan awdurdod Norwy. Am gyfnod byr, Ynys M\u00f4n oedd ffin ddeheuol Norwy! <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Dychwelodd Gruffydd ap Cynan o Iwerddon ac ar \u00f4l iddo gytuno i roi gwrogaeth i Frenin Magnus, cafodd ailfeddianu ei holl diroedd. Yn ddiweddarach bu\u2019n cynnal trafodaethau gyda\u2019r Brenin Henry I oedd wedi esgyn i\u2019r orsedd yn dilyn marwolaeth ei frawd William II ym 1100. <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Pan fu farw Henry<\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"> I <\/span><\/span><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">heb fab, hawliodd ei ferch Matilda&#8217;r orsedd. Fe benderfynwyd fodd bynnag, mai Stephen ei chefnder oedd am etifeddu\u2019r goron. Nid oedd Matilda yn fodlon gyda\u2019r penderfyniad hwn a bu rhyfel cartref yn Lloegr am bron i ugain mlynedd a chafodd Cymru ei hanwybyddu. Manteisiodd mab Gruffydd, Owain Gwynedd ar y sefyllfa ac adenillodd llawer o diroedd ac erbyn yr 1150au roedd llawer o Gymru dan ei reolaeth. Ym 1157 fodd bynnag, ymosododd y brenin newydd, Henry II, ar Ogledd Cymru ac er iddo gael ei drechu yn Ewlo ac i\u2019w lynges cael ei llwyr ddifrodi ar Ynys Mon, llwyddodd y brenin i ymosod ar hyd yr arfordir gan drechu Owain a\u2019i orfodi i ildio\u2019i diroedd i\u2019r dwyrain o Afon Conwy. Caniatawyd iddo gadw ei diroedd yng Ngwynedd a\u2019i deitl os oedd am dalu dirwy enfawr ac ar yr amod ei fod yn parhau i roi gwrogaeth i\u2019r Brenin, Henry II. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ymunodd Owain ag Arweinydd Powys mewn brwydr yn erbyn brenin Lloegr. Anfonwyd byddin enfawr gan Henry II i Groesoswallt &#8211; ond bu\u2019n rhaid iddynt encilio oherwydd y tywydd drwg, er mai ym mis Gorffennaf oedd hyn!<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Yn dilyn marwolaeth Owain ym 1170, ceisiodd Henry II i gael perthynas heddychlon gyda\u2019r Cymry, efallai er mwyn cael llwybr hwylus i Iwerddon. Bu farw Henry II a daeth ei fab Richard I i\u2019r orsedd ond roedd ganddo fwy o ddiddordeb yn y Croesgadau na Chymru. Yna aeth y goron i&#8217;r Brenin John. Erbyn hyn, roedd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) wedi gallu dod a Chymru at ei gilydd. Priodwyd Llywelyn a Siwan, merch Brenin John, ond serch hynny, parhau i reoli eu rhanbarthau eu hunain wnaeth Tywysogion Cymru a pharhaodd hyn hyd nes daeth teyrnasiad Edward I tua diwedd y 13 canrif a dyna pryd y bu trechwyd Cymru. <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Felly beth wnaeth y Normaniaid i ni? Yn gyffredinol, yr hyn oeddynt eisiau oedd uwcharglwyddiaeth dros Gymru yn hytrach na llwyr ildiad ac yn ddigon tebyg i\u2019r sefyllfa fel ag y bu cyn y Goncwest Normanaidd tros Loegr. Mae\u2019r hyn a gadawsant yn dal i\u2019w weld yma heddiw, sef y cestyll a adeiladwyd ganddynt &#8211; mae gweddillion Castell Aberlleiniog yn werth ei weld, yn ogystal, wrth gwrs, a Chastell trawiadol Deganwy.<\/span><\/span><\/span><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyflwyniad gan Morgan Burgess Athrawes hanes yn Ysgol Rydal Penrhos Bae Colwyn yw Morgan Burgess a chawsom ein diddanu ganddi pan ddaeth atom ar 18fed Ionawr 2018 i roi hanes Cymru yn y canol oesoedd. Dechreuodd trwy amlinellu\u2019r llinach Normanaidd yn dilyn buddugoliaeth William I dros Loegr ym 1066. Gwlad ranedig oedd Cymru ar y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-5203","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/normans-north-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyflwyniad gan Morgan Burgess Athrawes hanes yn Ysgol Rydal Penrhos Bae Colwyn yw Morgan Burgess a chawsom ein diddanu ganddi pan ddaeth atom ar 18fed Ionawr 2018 i roi hanes Cymru yn y canol oesoedd. Dechreuodd trwy amlinellu\u2019r llinach Normanaidd yn dilyn buddugoliaeth William I dros Loegr ym 1066. Gwlad ranedig oedd Cymru ar y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2018-01-30T14:45:01+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/\",\"name\":\"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg\",\"datePublished\":\"2018-01-25T10:17:25+00:00\",\"dateModified\":\"2018-01-30T14:45:01+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"The Normans in North Wales\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/normans-north-wales\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History","og_description":"Cyflwyniad gan Morgan Burgess Athrawes hanes yn Ysgol Rydal Penrhos Bae Colwyn yw Morgan Burgess a chawsom ein diddanu ganddi pan ddaeth atom ar 18fed Ionawr 2018 i roi hanes Cymru yn y canol oesoedd. Dechreuodd trwy amlinellu\u2019r llinach Normanaidd yn dilyn buddugoliaeth William I dros Loegr ym 1066. Gwlad ranedig oedd Cymru ar y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2018-01-30T14:45:01+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/","name":"Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg","datePublished":"2018-01-25T10:17:25+00:00","dateModified":"2018-01-30T14:45:01+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/2018MorganBurgess-200x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/normans-north-wales\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"The Normans in North Wales"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5203","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5203"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5203\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5227,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5203\/revisions\/5227"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5203"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}