{"id":5477,"date":"2018-10-06T16:28:32","date_gmt":"2018-10-06T16:28:32","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=5477"},"modified":"2018-10-18T11:52:23","modified_gmt":"2018-10-18T11:52:23","slug":"portmeirion-its-history-and-personalities","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/portmeirion-its-history-and-personalities\/","title":{"rendered":"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau"},"content":{"rendered":"<p>Nos Iau 21ain Medi 2018, ymlwybrodd oddeutu 45 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy trwy\u2019r gwynt a\u2019r glaw i wrando ar ddarlith ddiddorol iawn yng Nghapel Peniel gan Meurig Jones. Meurig yw\u2019r un sy\u2019n trefnu\u2019r ffilmio, tynnu lluniau, ymweliadau gan bobl bwysig a llawer o ddigwyddiadau eraill fel rhan o\u2019i swydd fel Rheolwr Safle Portmeirion. Ac am le trawiadol i fod yn rheolwr arno!<\/p>\n<div id=\"attachment_5484\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5484\" class=\"size-medium wp-image-5484\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018.jpg 816w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5484\" class=\"wp-caption-text\">Meurig Jones<\/p><\/div>\n<p>Dadlenodd Meurig yr hanes llai hysbys am yr ardal, yn cynnwys yr hanesyn am Adelaide Haigh, perchennog ecsentrig y t\u0177 (yn adnabyddus ar y pryd fel Aber I\u00e2) a ddaeth yn Westy. Ei harferiad oedd i sefyll tu ol i sgrin tra\u2019n darllen ei Beibl i\u2019w c\u0175n, 15 ohonynt.. Prynodd Syr Clough Williams-Ellis y safle yn dilyn ei marwolaeth, a dechreuodd ar y gwaith o gyfuno ei hoffter o bensaerniaeth a natur.<\/p>\n<p>Ymgorfforodd Syr Clough llawer o driciau yn ei adeiladau gwych, megis ffenestri \u2018trompe l\u2019oeil\u2019 a \u2018paentiadau rhenciog\u2019 i wneud i\u2019r adeiloadau edrych yn h\u0177n nag yr oeddynt. Mae rhai o\u2019r adeiladau efo ffenestri bach i wneud i\u2019r adeilad edrych yn fwy, ac mae gan \u2018Bridge House\u2019 dau ddull pensaern\u00efol hollol wahanol ar y naill ochr a\u2019r llall o\u2019r un adeilad. Mae nifer o olygfeydd yn fframio cerfluniau a phigdyrau a daw\u2019r cymysgedd o arddulliau pensaern\u00efol at ei gilydd trwy\u2019r cynllun o liwiau Canoldirol.<\/p>\n<div id=\"attachment_5487\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5487\" class=\"size-medium wp-image-5487\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-300x199.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"199\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-300x199.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-1024x681.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-1536x1021.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/IMGP1184-2048x1362.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5487\" class=\"wp-caption-text\">Portmeirion<\/p><\/div>\n<p>Achubwyd nifer o nodweddion gan Syr Clough a\u2019u hailgreu, yn cynnwys y \u2018Bristol Colonnade\u2019, a fu ar un adeg yn fynedfa i faddondy a gafodd ei ddifrodi yn ystod y rhyfel &#8211; gellir gweld marciau shrapnel yn eglur arno. Daeth y \u2018Gothic Pavilion\u2019 o Neuadd Nercwys yn Sir y Fflint, ac achubwyd y colofnau o Hooton Hall yn Sir Caer lle buont yn gladedig mewn coedwig tan roedd eu hangen &#8211; 32 mlynedd yn ddiweddarach!! Adeiladwyd yr hanner isaf o\u2019r Campanile ym Mhortmeirion gan ddefnyddio\u2019r cerrig o gastell o\u2019r 12fed ganrif a adeiladwyd gan Dywysogion Gruffydd a Maredudd ap Cynan, ac a ddymchwelwyd yng nghanol y 19eg ganrif. Pan oedd Syr Clough yn caffael ar nodwedd roedd yn ei ailgylchu ac roedd yn arfer dweud bod angen iddo \u2018Clough it up\u2019 &#8211; er enghraifft , Neuadd y Dref sy\u2019n cynnwys coron a wnaed allan o hen fwyler d\u0175r. Mae dyfeisgarwch i\u2019w weld hefyd yn nh\u0175r y \u2018White Horses\u2019: mae hwn yn cynnwys siambr dywyll gyda lens a gafwyd o long danfor U-boat.<\/p>\n<p>Mae\u2019r enwogion a fu\u2019n byw ac yn westai yna dros y blynyddoedd yn cynnwys Noel Coward, Brian Epstein (roedd yn byw yn y \u2018Gatehouse\u2019 am saith mlynedd), Jools Holland a George Harrison. Mae cysylltiadau ffilm yn cynnwys y cawr Buddha, sef celficyn o ffilm Ingrid Bergman \u2018The Inn of the Sixth Happiness\u2019, a chafodd rhannau o \u2018Under Suspicion\u2019 gyda Liam Neeson eu ffilmio ar y cwch cerrig ger y gwesty.<\/p>\n<div id=\"attachment_5485\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5485\" class=\"size-medium wp-image-5485\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-768x433.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-1536x866.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Me-and-Julie-Walters-pic-2048x1155.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5485\" class=\"wp-caption-text\">Meurig and Julie Walters<\/p><\/div>\n<p>Bu Patrick McGoohan yn serenu ac yn gyfarwyddwr gweithredol o \u2018The Prisoner\u2019; cyn hyn cafodd penodau o \u2018Danger Man\u2019 eu ffilmio ym Mhortmeirion hefyd. Oherwydd poblogrwydd y gyfres oedd yn ymdrin a pharanoia\u2019r Rhyfel Oer yn y 1960au hwyr, cododd y nifer o ymwelwyr i 100,000; fe gynhelir confensiwn blynyddol pob Ebrill ynghyd ag ailactio hoff golygfeydd. Yn fwyaf diweddar cafodd penod olaf \u2018Cold Feet\u2019 ei ffilmio ym Mhortmeirion; er ei fod yn nodweddu angladd, cafwyd cynnydd o 17% mewn archebion am briodasau.<\/p>\n<p>Nid oedd gan Syr Clough gymwysterau pensaern\u00efol; er hynny, dyluniodd nifer o adeiladau gwych yn ychwanegol i Bortmeirion, yn amrywio o asgell i Gartref C\u0175n Battersea i Blas Rhianfa ar Ynys M\u00f4n. Pan fu farw ym 1978, fe wireddwyd ei ddymuniad i\u2019w lwch cael eu tanio i\u2019r awyr mewn roced uwchben Portmeirion mewn dull mwyaf ysblennydd. Erbyn hyn mae\u2019r pentref ym mherchnogaeth ymddiriedolaeth elusennol ac yn dal i fod yn fusnes teulu ymarferol.<\/p>\n<p>Y tro nesaf byddwch yn ymweld, edrychwch am y 33 o banelau metel yn nodweddu m\u00f4r-forynion gyda dwy gynffon a chafwyd gan Syr Clough o hen hostel i forwyr yn Lerpwl ac sydd i\u2019w gweld ar draws y pentref. Chwiliwch hefyd am yr hanner cromen nionyn (a adeiladwyd i guddio simne hull), gargoel sy\u2019n dangos wyneb Syr Clough a\u2019r lle t\u00e2n anferth sy\u2019n rhan o ffrynt sgw\u00e2r gwyn adeilad arall. A gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cadw digon o amser i ymweld \u00e2\u2019r goedwig 70 acer sy\u2019n gynnwys llawer o rywogaethau prin &#8211; rhai ohonynt wedi ysbrydoli cyfres \u2018Portmeirion Pottery\u2019 &#8211; \u2018Botanical Garden\u2019 sydd mor boblogaidd ac a gr\u00ebwyd gan ferch Syr Clough, Susan.<\/p>\n<p>Daeth y noson i ben gyda chipolwg dethol o \u2018The Village\u2019, rhaglen ddogfen bydd yn cael ei ddarlledu ar ITV blwyddyn nesaf. Llawer o ddiolch i Meurig am sgwrs hynod o ddifyr ag addysgiadol roedd yn ein hysbrydoli i ymweld am y tro cyntaf neu i ddychwelyd i\u2019r lle arbennig hwn.<\/p>\n<p align=\"right\"><span style=\"color: #333333;\"><span style=\"font-family: Segoe UI, serif;\"><span style=\"font-size: small;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/b><\/span><\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nos Iau 21ain Medi 2018, ymlwybrodd oddeutu 45 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy trwy\u2019r gwynt a\u2019r glaw i wrando ar ddarlith ddiddorol iawn yng Nghapel Peniel gan Meurig Jones. Meurig yw\u2019r un sy\u2019n trefnu\u2019r ffilmio, tynnu lluniau, ymweliadau gan bobl bwysig a llawer o ddigwyddiadau eraill fel rhan o\u2019i swydd fel Rheolwr Safle [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-5477","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/portmeirion-its-history-and-personalities\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nos Iau 21ain Medi 2018, ymlwybrodd oddeutu 45 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy trwy\u2019r gwynt a\u2019r glaw i wrando ar ddarlith ddiddorol iawn yng Nghapel Peniel gan Meurig Jones. Meurig yw\u2019r un sy\u2019n trefnu\u2019r ffilmio, tynnu lluniau, ymweliadau gan bobl bwysig a llawer o ddigwyddiadau eraill fel rhan o\u2019i swydd fel Rheolwr Safle [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2018-10-18T11:52:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/\",\"name\":\"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg\",\"datePublished\":\"2018-10-06T16:28:32+00:00\",\"dateModified\":\"2018-10-18T11:52:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Portmeirion &#8211; Its History and Personalities\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/portmeirion-its-history-and-personalities\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History","og_description":"Nos Iau 21ain Medi 2018, ymlwybrodd oddeutu 45 o aelodau a chyfeillion Gr\u0175p Hanes Deganwy trwy\u2019r gwynt a\u2019r glaw i wrando ar ddarlith ddiddorol iawn yng Nghapel Peniel gan Meurig Jones. Meurig yw\u2019r un sy\u2019n trefnu\u2019r ffilmio, tynnu lluniau, ymweliadau gan bobl bwysig a llawer o ddigwyddiadau eraill fel rhan o\u2019i swydd fel Rheolwr Safle [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2018-10-18T11:52:23+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/","name":"Portmeirion \u2013 Ei Hanes a Chymeriadau - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg","datePublished":"2018-10-06T16:28:32+00:00","dateModified":"2018-10-18T11:52:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/DHG-20th-Sept-2018-300x225.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/portmeirion-its-history-and-personalities\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Portmeirion &#8211; Its History and Personalities"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5477","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5477"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5477\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5500,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5477\/revisions\/5500"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5477"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}