{"id":5868,"date":"2019-10-28T19:40:23","date_gmt":"2019-10-28T19:40:23","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=5868"},"modified":"2019-10-28T19:40:23","modified_gmt":"2019-10-28T19:40:23","slug":"roman-roads-in-north-west-wales","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/roman-roads-in-north-west-wales\/","title":{"rendered":"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Roedd Capel Peniel dan ei sang pan ddaeth dros 75 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i wrando ar gyflwyniad ar y testun Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru, gan David Hopewell, uwch archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG). Mae David wedi bod yn archeolegydd am dros 30 mlynedd. Mae hefyd yn gerddor ac yn artist sain. Ysgrifennwyd nifer o erthyglau ganddo ar nifer o destunau, yn cynnwys Caerau Rhufeinig a\u2019i lyfr diweddar ar destun ei sgwrs i ni heno sef Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru.<\/strong><\/p>\n<div id=\"attachment_5879\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5879\" class=\"size-medium wp-image-5879\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"146\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-768x373.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-1024x497.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5879\" class=\"wp-caption-text\">David Hopewell<\/p><\/div>\n<p>Gan YAG mae cofnodion amgylcheddol a hanesyddol pob safle archeolegol hysbys o fewn ffin ardal yr hen sir Gwynedd. Cafodd y mwyafrif o\u2019r safleoedd hyn eu cofnodi gyda chyfeirnodau grid, gan achosi problem efo ffyrdd oedd yn fwy addas iddynt gael cyfeirnodau unionlin; mae prosiect diweddar ar draws Cymru wedi nithio trwy ddeunydd cyhoeddedig a deunydd na gafodd ei gyhoeddi er mwyn creu cofnod sy\u2019n llawer haws ei drin.<\/p>\n<p>Yr unig gofnod Rhufeinig perthnasol sydd wedi goroesi yw Ymdaith Antonine, sy\u2019n cyfeirio at un ffordd yng Ngogledd Cymru: y ffordd o Segontium (Caernarfon) i Deva (Caer). Mae deunydd cyfoes yn cynnwys mapiau, llyfrau, ffotograffiaeth o\u2019r awyr a Lidar, sef arddull o fapio sy\u2019n cynhyrchu delweddau o\u2019r tir trwy fesuriadau laser a gymerir o awyren fechan. Mae hwn yn creu model rhith cywir iawn a ellir ei lawdrin a\u2019i droshaenu ar fapiau a chynlluniau eraill.<\/p>\n<p>Cynhyrchwyd map o ffyrdd Rhufeinig yn 2001 gan yr Arolwg Ordnans (AO) sy\u2019n dangos ychydig o ffyrdd pendant, nifer o ffyrdd amheus a llawer o fylchau. Mae ffynonellau cynharach yn cynnwys y gwaith safonol, <span style=\"font-family: Calibri, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Roman Roads in Britain<\/i><\/span><\/span><\/span> gan I.D. Margary (cyhoeddwyd ym 1967), sy\u2019n cyflwyno\u2019r arddull o rifo sy\u2019n parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw. Ffynhonnell lai dibynadwy yw <i>Roman Roads of Wales<\/i> gan S. O\u2019Dwyer (cyhoeddwyd ym 1934), sy\u2019n methu gwahaniaethu rhwng ffyrdd Rhufeinig a hen ffyrdd eraill. Mae\u2019r AO hefyd wedi cynhyrchu ffeiliau unionlin yn y 1970au &#8211; cydgasglwyd mapiau, cerddwyd ar hyd y ffyrdd a fwriadwyd ac fe wnaed nifer o nodiadau defnyddiol.<\/p>\n<p>Bu t\u00eem o ledled y DU yn gweithio ar y prosiect diweddar &#8211; roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys cloddwyr profiadol ag ymchwilwyr megis y diweddar Hugh Toller. Darparwyd t\u00eem adolygu o\u2019r awyr gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru , a\u2019i gwaith oedd gwirio arwyddion cnydau ar adegau o sychder. Rhoddwyd yr holl wybodaeth a gasglwyd o bob ffynhonnell i mewn i fas data, gan roi graddau statws neu hyder i bob ffordd, yn amrywio o fod yn \u2018hysbys\u2019, \u2018arfaethedig\u2019, \u2018rhagwelwyd\u2019 i \u2018diystyru\u2019. Dangosodd David enghraifft o fap o Domen y Mur yn dangos un ffordd hysbys yn rhedeg yn gyfochrog ag un a ddiystyrwyd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r holl ffyrdd Rhufeinig yng Ngogledd Cymru yn ffyrdd milwrol ac fe\u2019u hadeiladwyd yn unig i gysylltu\u2019r caerau Rhufeinig. Maent yn dyddio o\u2019r 70au OC ond fe gefnwyd arnynt erbyn oddeutu 150 OC, felly ni chawsant eu defnyddio am gyfnod hir. Nid yw\u2019r fersiwn clasurol o ffordd diwyro yn dilyn y llwybr mwyaf unionsyth yn berthnsaol yn Eryri, ond yn hytrach, roeddynt yn dilyn y llwybr hawsaf trwy\u2019r tirwedd, yn aml yn amlygu llwybrau igam-ogam (sy\u2019n cydfynd yn aml iawn y dyddiau hyn efo llwybrau pibellau nwy!). Gellir eu dynodi trwy eu nodweddion cyson iawn: mae croesdoriad nodweddiadol o ffordd 5 medr o led a elwir yn sarn neu agger, yn cynnwys nifer o haenau o gerrig a chlai gydag arwynebedd o gerrig man wedi eu cywasgu &#8211; yn berffaith i geffylau. Ambell waith fe geir ffos ar bob ochr i\u2019r sarn gyda chwareli bychan gerllaw.<\/p>\n<p>Mewn rhai lleoedd, pan fo lliw&#8217;r glaswellt yn newid a\u2019r corsydd yn amlygu\u2019r ffosydd, gellir gweld rhai o\u2019r sarnau a\u2019r ffosydd hyn, e.e Caer Gai ger Y Bala a Phen y Stryd ger Tomen y Mur lle mae graddiant yr ager yn amlwg. Yr unig ddull arall i ddarganfod darnau o ffyrdd Rhufeinig yw gyda ffotograffiaeth o\u2019r awyr neu gyda Lidar. Maent yn gallu dangos olion o hen aneddiadau diweddarach ar bob ochr o\u2019r agger sy\u2019n rhedeg ar draws systemau o gaeau canoloesol. Yna fe ellir gwirio\u2019r fath olion trwy gloddio &#8211; trwy hyn fe ellir diystyru ffyrdd megis ffyrdd dyrpeg hynafol sydd yr un lled a ffyrdd Rhufeinig ac yn gallu ymddangos i fod yn debyg iawn. I lygaid dihyfforddiant, gellir camgymryd llwybrau pynfeirch, megis yr un ger Capel Curig, i fod yn ffyrdd Rhufeinig; maent yn llawer culach na 5 medr y ffyrdd Rhufeinig sydd weithiau yn lletach na hyn ond byth yn gulach. Roedd yn rhaid i\u2019r ffyrdd Rhufeinig fod yn ddigon llydan i alluogi i ddau farchog pasio&#8217;i gilydd.<\/p>\n<div id=\"attachment_5880\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5880\" class=\"size-medium wp-image-5880\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01921b-300x196.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"196\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01921b-300x196.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01921b-768x503.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01921b-1024x670.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-5880\" class=\"wp-caption-text\">Roman Roads in North West Wales<\/p><\/div>\n<p>Mae llwybr y ffordd o Segontium i Deva yn cynnwys y darn o Fwlch y Ddeufaen i Canovium (Caerhun), ond nid yw\u2019r llwybr cyfan yn hysbys er i fwy o ddarnau cael ei darganfod trwy ffotograffiaeth o\u2019r awyr. Cafodd Bwlch y Ddeufaen, sy\u2019n rhedeg o Abergwyngregyn i Ddyffryn Conwy, ei ddefnyddio\u2019n helaeth tan o leiaf y 18<sup>fed <\/sup>ganrif ac mae wedi ei erydu\u2019n ddifrifol; mae\u2019n dal yn bosibl i\u2019w weld mewn rhai mannau ond nid yn hawdd.<\/p>\n<p>Mae ffordd arall yn rhedeg i\u2019r gogledd o Domen y Mur i Ddolwyddelan sy\u2019n anodd iawn i\u2019w weld. Darganfuwyd slabiau o greigiau o dan doriadau o fawn a ffosydd draenio &#8211; trwy gloddio, darganfuwyd bod y ffordd o dan ddyfnder sylweddol o fawn. Yn anarferol, adeiladwyd y ffordd hon ar slabiau gan eu defnyddio fel rafft ar gyfer arwynebedd yr ager oherwydd yr haen o fawn oedd oddi tano.<\/p>\n<p>Mae prosiect y ffyrdd Rhufeinig yn rhan o brosiect llawer ehangach, sy\u2019n archwilio caerau a\u2019r aneddiadau oedd o\u2019u cwmpas. Mae\u2019n cael ei weithredu gan ymddiriedolaethau archeolegol yn siroedd eraill Cymru, gyda\u2019r canlyniad bod cofnod da o ddarganfyddiadau newydd yn bodoli. Mae llyfr David, <i>Roman Roads in North West Wales, <\/i>wedi dod a phopeth at ei gilydd ac roedd y gynulleidfa werthfawrogol a chwilfrydig yn gallu prynu copi, unwaith i\u2019r llif o gwestiynau dod i ben! Mae ein diolchiadau i David am noson bleserus ac addysgiadol iawn yn ei gwmni.<\/p>\n<p><b>Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/b><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd Capel Peniel dan ei sang pan ddaeth dros 75 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i wrando ar gyflwyniad ar y testun Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru, gan David Hopewell, uwch archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG). Mae David wedi bod yn archeolegydd am dros 30 mlynedd. Mae hefyd yn gerddor ac yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-5868","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/roman-roads-in-north-west-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Roedd Capel Peniel dan ei sang pan ddaeth dros 75 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i wrando ar gyflwyniad ar y testun Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru, gan David Hopewell, uwch archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG). Mae David wedi bod yn archeolegydd am dros 30 mlynedd. Mae hefyd yn gerddor ac yn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/\",\"name\":\"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg\",\"datePublished\":\"2019-10-28T19:40:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Roman Roads in North West Wales\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/roman-roads-in-north-west-wales\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History","og_description":"Roedd Capel Peniel dan ei sang pan ddaeth dros 75 o aelodau a chyfeillion y Gr\u0175p Hanes i wrando ar gyflwyniad ar y testun Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru, gan David Hopewell, uwch archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG). Mae David wedi bod yn archeolegydd am dros 30 mlynedd. Mae hefyd yn gerddor ac yn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/","og_site_name":"Deganwy History","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/","name":"Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg","datePublished":"2019-10-28T19:40:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/DSC01914b-300x146.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/roman-roads-in-north-west-wales\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Roman Roads in North West Wales"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5868","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5868"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5868\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5882,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5868\/revisions\/5882"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5868"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}