{"id":6081,"date":"2021-02-22T17:24:23","date_gmt":"2021-02-22T17:24:23","guid":{"rendered":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6081"},"modified":"2021-11-26T13:03:35","modified_gmt":"2021-11-26T13:03:35","slug":"whats-below-the-cheese-counter-at-lidl","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/","title":{"rendered":"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Roedd nos Iau 20 Chwefror yn noson wlyb a gwyntog ond er hynny, ymunodd dros 40 o aelodau o Gr\u0175p Hanes Deganwy a&#8217;i gilydd i gael eu diddanu gyda sgwrs gan Trefor Price o gysur eu cartrefi. Nid yn unig yw Trefor yn aelod o\u2019r pwyllgor ac yn westeiwr y sgyrsiau Zoom sydd newydd gael eu lansio gan y Gr\u0175p, ond mae hefyd yn ymchwilydd rhagorol. Roedd teitl ei sgwrs yn un diddorol a chawsom ein harwain yn \u00f4l i\u2019r gorffennol i gael hanes yr adeilad mawreddog \u2018Imperial Buildings\u2019 yng Nghyffordd Llandudno oedd yn arfer sefyll ar safle\u2019r archfarchnad newydd, Lidl.<\/strong><\/p>\n<p>Cyn i\u2019r adeilad cael ei ddymchwel, roedd yn ddepo i gwmni bysiau Arriva ar \u00f4l iddynt ei gymryd drosodd oddi wrth y cwmni enwog &#8211; Crosville. Fel y soniodd Trefor, gall Cwmni Bysiau Crosville fod yn destun sgwrs ei hun. Yn fyr, sefydlwyd cwmni Crosville yng Nghaer ym 1906 gan George Crosland a George de Ville, gyda\u2019r bwriad gwreiddiol o adeiladu cerbydau modur. Fe werthwyd y modur cyntaf a gafodd ei gynhyrchu, a\u2019r holl ddarnau wedi cael eu cynhyrchu yng Nghaer, am \u00a3750 i gwsmer o sir Ddinbych. Yn fuan wedyn fodd bynnag, cyfeiriodd y cwmni ei sylw at wasanaethau cludo teithwyr ar fysiau, oedd yn amlwg yn fwy proffidiol.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-6082\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg\" alt=\"\" width=\"381\" height=\"265\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-1024x712.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-768x534.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b.jpg 1103w\" sizes=\"auto, (max-width: 381px) 100vw, 381px\" \/><\/p>\n<p>Dangoswyd cyfres o fapiau o Gyffordd Llandudno, i ni weld sut y bu i\u2019r ardal ddatblygu, un o\u2019r mapiau, dyddiedig 1875, yn dangos lleoliad Gwesty Ferry Farm wedi\u2019i amgylchynu gan gaeau. Llwybr troed oedd Victoria Drive a lleoliad cyntaf yr orsaf yn agos at le mae\u2019r Cob yn dechrau nawr. Roedd Gwesty Ferry Farm yn fwy na thafarn yn unig &#8211; fe gynhaliwyd arwerthiannau da byw yna, ac mae erthygl o bapur newydd dyddiedig 1887 yn s<span lang=\"cy-GB\">\u00f4<\/span><span lang=\"cy-GB\">n am y lle fel \u2018Smithfield Cyffordd Llandudno\u2019. Aeth hyn ymlaen tan o leiaf 1895, pan werthwyd \u201850 pen o wartheg dewisol\u2019 o Fferm Marl. Yn ddiweddarach, fe ddarganfuwyd ar safle\u2019r Gwesty, Ceiniogau Ynys M\u00f4n <\/span><span lang=\"cy-GB\"><i>(Anglesey Pennies) <\/i><\/span><span lang=\"cy-GB\">a ddefnyddiwyd gan y porthmyn i dalu am lety, bwyd a diod wrth iddynt fynd a\u2019u hanifeiliaid o Ynys M\u00f4n i Lundain <\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6084\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmHotel_1b-300x223.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"223\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmHotel_1b-300x223.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmHotel_1b-768x571.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmHotel_1b.jpg 773w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>Cafwyd adroddiad mewn papur newydd yn disgrifio t\u00e2n difrifol ym 1896 ar safle iard deunydd adeiladu Sam Parry oedd yn gyfagos at y Gwesty &#8211; criw Conwy oedd y cyntaf i ymateb ac fe gafwyd y t\u00e2n dan reolaeth &#8211; ac yna cyrhaeddodd brig\u00e2d t\u00e2n Llandudno o\u2019r cyfeiriad arall gan roi trochfa go iawn i ddiffoddwyr t\u00e2n Conwy. Fodd bynnag, trwy eu hymdrechion, fe achubwyd Gwesty Fferry Farm<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-6085\" src=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmFire2-209x300.jpg\" alt=\"\" width=\"290\" height=\"416\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmFire2-209x300.jpg 209w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/FerryFarmFire2.jpg 507w\" sizes=\"auto, (max-width: 290px) 100vw, 290px\" \/><\/p>\n<p>Cafodd Gwesty Ferry Farm ei ddymchwel ym 1900 ac ym 1903, rhannwyd y tir yn lotiau a\u2019u gwerthu. Mae map 1911 yn dangos bod y safle dal i fod yn wag, ond roedd ffyrdd newydd yr ardal yn ymddangos yn ogystal ag Ysgol Maelgwn. Roedd cynlluniau o 1912 yn dangos mwy o fanylion am ddatblygiad \u2018Ystad Ferry Farm\u2019 , gan ddangos y plotiau o gwmpas y safle lle&#8217;r oedd yr \u2018Imperial Buildings\u2019 i fod. Mae\u2019n amhendant pryd yn union cawsant eu hadeiladu, ond mae cytundeb tenantiaeth dyddiedig 1924 yn cyfeirio at is-osod un o\u2019r siopau o fewn yr adeilad. Mae\u2019r cytundeb gyda \u2018Llandudno Coaching &amp; Carriage Co. Ltd.\u2019, sef cwmni oedd wedi\u2019i leoli yn Llandudno ac oedd hefyd yn berchennog ar yr adeilad yn y Gyffordd. Mae dogfen, arall dyddiedig 1926 yn cyfeirio at gwmni arall sef \u2018The Electricity Distribution of North Wales and District Limited\u2019 oedd hefyd wedi\u2019i leoli yn \u2018Imperial Buildings\u2019. Mae\u2019n debyg mai is-osod swyddfa arall oedd hwn gan gwmni \u2018Llandudno Coaching &amp; Carriage Co. Ltd\u2019, sef meddianwyr yr adeilad o 1924 i 1931.<\/p>\n<p>Mae gan Archifau Conwy cynlluniau yn dangos sut yr aed ati i greu\u2019r amryw estyniadau rhwng 1925 a 1931 pan feddiannwyd yr adeilad gan gwmni \u2018Crosville Motor Services Ltd\u2019 &#8211; mae map o\u2019r 1930au hwyr yn dangos mai\u2018Omnibus Depot\u2019 yw\u2019r adeilad. Fe wnaed mwy o addasiadau i\u2019r adeilad ym 1946 a 1947, ac ar \u00f4l hyn, arhosodd \u2018Imperial Buildings\u2019 mwy neu lai fel ag yr oedd hyd nes daeth ei ddefnydd i ben pan gaewyd garej bysiau Arriva yn Chwefror 2013. Fe ddymchwelwyd yr adeilad yn 2019 i wneud lle i archfarchnad Lidl a agorodd ei drysau ar 30<sup><span lang=\"cy-GB\">ain<\/span><\/sup><span lang=\"cy-GB\"> Gorffennaf 2020. <\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cafodd Trefor y cyfle i gael mynediad i\u2019r adeilad cyn iddo gael ei ddymchwel, a dangosodd i ni gyfres o ffotograffau diddorol o du mewn i&#8217;r garej. Cafwyd tystiolaeth o iechyd a diogelwch gyda chyfres o bosteri ag arwyddion rhybuddiol, yn cynnwys murlun enfawr yn dangos bws gyda\u2019r geiriau \u2018Their lives in your hands\u2019 wedi cael ei baentio mewn llythrennau bras nesaf ato. O fewn y gweithdy, gwelwyd nifer o byllau arolygu dwfn yn llawn o dd\u0175r ag olew. Ychwanegodd y fideo a ddangoswyd i ni at yr awyrgylch teimladwy a braidd yn arswydus, gyda sgrechian aflafar gwylanod yn atseinio trwy wagle\u2019r to. Cawsom ein hatgoffa, trwy fwy o fideos, o brysurdeb diweddaraf yr adeilad: gwelwyd bysiau yn dychwelyd i\u2019r depo, yn cael eu harchwiliadau nosol ac yn mynd trwy\u2019r golchwr awtomatig.<\/p>\n<p>Llawer o ddiolch i Trefor am oleuo cornel bach o\u2019n treftadaeth. Rwy\u2019n sicr bydd pawb a fu\u2019n bresennol yn cofio\u2019r delweddau atgofus a dyrchwyd i&#8217;r golwg i ni y tro nesaf y byddem yn meddwl am gaws Caerffili yn Lidl.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd nos Iau 20 Chwefror yn noson wlyb a gwyntog ond er hynny, ymunodd dros 40 o aelodau o Gr\u0175p Hanes Deganwy a&#8217;i gilydd i gael eu diddanu gyda sgwrs gan Trefor Price o gysur eu cartrefi. Nid yn unig yw Trefor yn aelod o\u2019r pwyllgor ac yn westeiwr y sgyrsiau Zoom sydd newydd gael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6081","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Roedd nos Iau 20 Chwefror yn noson wlyb a gwyntog ond er hynny, ymunodd dros 40 o aelodau o Gr\u0175p Hanes Deganwy a&#8217;i gilydd i gael eu diddanu gyda sgwrs gan Trefor Price o gysur eu cartrefi. Nid yn unig yw Trefor yn aelod o\u2019r pwyllgor ac yn westeiwr y sgyrsiau Zoom sydd newydd gael [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-11-26T13:03:35+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/\",\"name\":\"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg\",\"datePublished\":\"2021-02-22T17:24:23+00:00\",\"dateModified\":\"2021-11-26T13:03:35+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"What&#8217;s Below the Cheese Counter at Lidl?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History","og_description":"Roedd nos Iau 20 Chwefror yn noson wlyb a gwyntog ond er hynny, ymunodd dros 40 o aelodau o Gr\u0175p Hanes Deganwy a&#8217;i gilydd i gael eu diddanu gyda sgwrs gan Trefor Price o gysur eu cartrefi. Nid yn unig yw Trefor yn aelod o\u2019r pwyllgor ac yn westeiwr y sgyrsiau Zoom sydd newydd gael [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2021-11-26T13:03:35+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/","name":"Beth sydd o dan y cownter caws yn Lidl? - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg","datePublished":"2021-02-22T17:24:23+00:00","dateModified":"2021-11-26T13:03:35+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/MAP1_1875-87b-300x209.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/whats-below-the-cheese-counter-at-lidl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"What&#8217;s Below the Cheese Counter at Lidl?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6081","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6081"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6081\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6266,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6081\/revisions\/6266"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6081"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}