{"id":6335,"date":"2022-02-19T14:25:48","date_gmt":"2022-02-19T14:25:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6335"},"modified":"2023-03-23T13:06:41","modified_gmt":"2023-03-23T13:06:41","slug":"snippets-of-history-2022","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2022\/","title":{"rendered":"Pigion Hanes &#8211; 2022"},"content":{"rendered":"<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Peniel ar 17<\/span><sup><span lang=\"cy-GB\">eg<\/span><\/sup><span lang=\"cy-GB\"> Chwefror 2022. Hon yw noson draddodiadol y Gr\u0175p dan yr enw Pigion Hanes pan fydd 3 aelod o\u2019r Gr\u0175p yn rhoi cyflwyniad byr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Dyma grynodeb o\u2019r cyflwyniad cyntaf dan y teitl <\/span><span lang=\"cy-GB\"><u><b>Trywel William gan Trefor Price.<\/b><\/u><\/span> <\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Y siaradwr cyntaf oedd ein dewin technegol a\u2019n gwefeistr <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Trefor Price. <\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Mae Trefor yn aelod gweithgar o gr\u0175p Bwyd Bendigedig Conwy, a hefyd yn rhan o\u2019r t\u00eem sy\u2019n cadw Ffynnon Santes Fair yn daclus. Felly, o gofio mai teitl ei sgwrs oedd <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Trywel William <\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">roedd pawb ohonom yn disgwyl mai ar destun garddwriaethol roedd am siarad. Fodd bynnag, yr unig gysylltiad efo garddio oedd bod un o\u2019i ffrindiau yn y gr\u0175p Bwyd Bendigedig Conwy wedi dangos y trywel dan sylw i Trefor.&nbsp;<\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Cyflwynwyd y trywel arysgrifenedig, sy\u2019n edrych yn debyg iawn i dafell deisen addurnedig, i William J. Williams, sef hen hen ewythr ei ffrind, pan osodwyd carreg sylfaen adeilad Sefydliad Coffa Cyffordd Llandudno ganddo ar 30<\/span><\/span><\/span><sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">ain<\/span><\/span><\/span><\/sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> Mehefin 1927.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6345\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-1536x2048.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-scaled.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Fe leolir Neuadd Goffa Cyffordd Llandudno, fel y gelwir heddiw, yn Rhodfa Penrhos y tu \u00f4l i\u2019r Co-op. Mae gan yr adeilad cod QR o safle we ddefnyddiol iawn History Points (<\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #0000ff;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><u>https:\/\/historypoints.org\/index.php?page=llandudno-junction-war-memorial<\/u><\/span><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">) sy\u2019n datgan wrthym \u2018Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1927, a gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Aelod Seneddol lleol David Lloyd George, a fu\u2019n Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynwyd trywel arian iddo gan \u2018<\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Rose<\/i><\/span><\/span><\/span> <span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Queen\u2019<\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> Cyffordd Llandudno 1927, Olga Hughes. Cynlluniwyd y neuadd gan y pensaer lleol Mr B de Helsby.\u2019 <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd Trefor eisiau gwybod sut roedd trywel William yn cyd-fynd \u00e2\u2019r hanes hwn, a phenderfynodd ymchwilio ymhellach. Darganfu fod William wedi ei eni ym Manceinion ym 1863, yr hynaf o 7 o blant. Daeth yn gyfrifydd ac ym 1880 aeth i weithio i&#8217;r gwasanaeth sifil yn Llundain. Ymunodd \u00e2 Kodak yn 1900, a bu&#8217;n Ysgrifennydd y Cwmni o 1911-1928. Er ei fro enedigol, roedd yn Gymro i\u2019r carn ac yn gefnogwr brwd o\u2019r iaith a\u2019r diwylliant Cymreig. Roedd hefyd yn rhugl yn Rwsieg a sawl iaith Ewropeaidd arall. Roedd William yn ddringwr a mynyddwr brwd iawn, ac yn ogystal \u00e2 thaclo ei fynyddoedd brodorol fe ddringodd yn yr Alpau gyda nifer o ddringwyr enwog. Mae ei ffurflen gais i\u2019r <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Alpine<\/i><\/span><\/span><\/span> <span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Club<\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> yn rhestru&#8217;r mynyddoedd a ddringodd rhwng 1894 a 1902, llawer ohonynt dros 4,000 metr. Ym 1903 priododd Mary Williams, un o&#8217;r ychydig iawn o ddringwyr Alpaidd benywaidd yn y cyfnod hwnnw. Roedd yn aelod o Gymdeithas y Fabian, Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion, a Chymru Fydd, gr\u0175p o Lundain a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymreig.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Ym 1921, prynodd William a Mary dy yng Nghyffordd Llandudno. Daeth William yn Ynad Heddwch dros Sir Gaernarfon, ac mae\u2019n debyg mai\u2019r r\u00f4l hon a arweiniodd iddo gael ei ddewis i osod carreg sylfaen y Neuadd &#8211; oherwydd daeth i\u2019r amlwg, o adroddiad yn y North Wales Weekly News &#8211; fe osodwyd 2 garreg: un gan Lloyd George, ac un gan William.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6346\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-300x220.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"220\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-300x220.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-1024x752.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-768x564.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-1536x1128.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/LloydGeorge_1-2048x1504.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Cyflwynodd William ei araith yn Gymraeg wrth osod y garreg. Roedd ei ddyheadau ar gyfer y Neuadd, a agorwyd ar ddydd Gwener y Groglith, Ebrill 6<\/span><\/span><\/span><sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">ed<\/span><\/span><\/span><\/sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> 1928, yn adlewyrchu ei ddiddordebau &#8211; awgrymodd y dylid ffurfio gr\u0175p crwydro, ac y dylid defnyddio\u2019r Neuadd ar gyfer astudio Cymru a llenyddiaeth Gymraeg.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Bu William yn Drysorydd Anrhydeddus o Goleg Harlech o 1927 i 1948 ac yn Drysorydd yr Urdd o 1931 hyd 1942. Parhaodd hefyd i ddringo ymhell i\u2019w 60au. Bu farw ym 1949, yn 86 oed, a gadawodd ei gasgliad helaeth o lyfrau i Goleg Harlech.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Nid yw\u2019r cerrig sylfaen i\u2019w gweld ar y tu allan i\u2019r adeilad nawr, felly nid yw\u2019n glir ble maen nhw &#8211; os oes unrhyw aelod efo unrhyw wybodaeth, gadewch i ni wybod. Soniodd aelod o\u2019r gynulleidfa iddi glywed bod yr adeilad wedi cael ei ariannu\u2019n rhannol gan bobl leol trwy brynu un fricsen yr un, wedi\u2019i gwneud \u00e2 chlai o Fflandrys, a chofiodd pan oedd hi\u2019n blentyn bod yna bob amser broblem aruthrol gyda lleithder ar un wal arbennig.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Llawer o ddiolch i Libet Williams, disgynnydd William, am ysgogi a helpu i ddatgelu\u2019r stori ddiddorol hon, ac i Wasanaeth Archifau Conwy am gymorth gyda\u2019r papurau newydd \u2013 ac i Trefor am ei gyflwyniad.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<hr>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Dyma grynodeb o\u2019r ail gyflwyniad dan y teitl <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Carreg Goffa Diddorol gan Nerys Owen<\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Ein hail siaradwr oedd <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Nerys Owen<\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">, gyda\u2019r testun <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Carreg Goffa Diddorol<\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> &#8211; ac yn sicr cawsom hanes diddorol am y garreg. Mae Nerys wedi bod yn aelod o\u2019r Gr\u0175p ers nifer o flynyddoedd. Ganed Nerys yn Llundain a bu&#8217;n byw yno tan yn ei harddegau. Gwariodd ychydig o flynyddoedd yng Nghanolbarth Cymru cyn iddi ddychwelyd i Lundain i hyfforddi i fod yn nyrs. Bu\u2019n gweithio yn Lloegr ym myd gofal iechyd tan 1991 pan symudodd i Ddeganwy i fyw. Roedd ei Nain yn hanu o bentref Glan Conwy. <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Cafodd ei hysbrydoli i gyfrannu at Bigion Hanes yn dilyn sgwrs ddiweddar gan ei chyd-aelod Adrian Hughes am wahanol gerrig beddau yn y fynwent ar y Gogarth. Eglurodd Nerys fod 2 linyn i\u2019w stori, a fyddai\u2019r ddau yn dod at ei gilydd ar y diwedd.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Llinyn 1af yr hanes yw bod Nerys, fel Cocni a aned ac a fagwyd yn Llundain, a\u2019i rhieni yn treulio pythefnos bob haf yn ymweld \u00e2 theulu ei mam yng Nglan Conwy. Fel llawer o blant yn y 1950au roedd yna lawer o bobl roedd hi&#8217;n eu galw&#8217;n fodryb neu&#8217;n ewythr mewn modd parchus, ond doedd hi byth yn si\u0175r iawn a oedden nhw&#8217;n berthnasau ai peidio. Ym 1950 pentref cymharol fach oedd Glan Conwy a phryd hynny roedd pawb yno i weld i fod yn fodryb neu ewythr! Roedd ei mam hefyd yn cyfeirio\u2019n aml at Wncwl JR yn Abergele ac Anti Annie ym Mae Colwyn, ac mae Nerys yn cofio cyfarfod \u00e2 hwy.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Yr 2il linyn yw i Nerys ddatblygu ei diddordeb mewn hanes cymdeithasol yn ystod y pandemig, ac ar gais ei chefnder, sydd \u00e2 diddordeb mewn achau teuluol, aeth i chwilio am fedd y teulu ym Mynwent Bron-y-Nant Mochdre. Gyda rhif y llain claddu a chymorth staff yr Amlosgfa, daeth Nerys o hyd i garreg fedd addurniadol iawn teulu Williams.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">O\u2019r garreg goffa, gallwn weld bod y bedd ar gyfer y rhieni Kate a Frederick, eu meibion \u200b\u200bFrederick a John R., a\u2019u merch Anne. Ganed Frederick hynaf ym Mangor a bu\u2019n gweithio ar y rheilffyrdd, gan symud i Fae Colwyn ym 1902. Gwraig leol oedd Kate a dechreuodd ddysgu yng Nglan Conwy, ond bu\u2019n rhaid iddi roi\u2019r gorau i\u2019w swydd yn dilyn ei phriodas \u00e2 Frederick. Roeddent yn byw yn Llangwstenin ac yna ym Mhreswylfa, Ffordd Wynnstay, Bae Colwyn. Yn anffodus bu farw eu mab Frederick ym 1918 yn Ysbyty Milwrol Caterham yn 18 oed &#8211; roedd yn dioddef o bandemig Ffliw Sbaen, a bu farw o\u2019r ffliw a phroblemau gyda\u2019i frest.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Bu Anne a John ill dau yn hynod lwyddiannus. Penodwyd Anne yn gofrestrydd ardal Bae Colwyn ym 1929, gan ddod yn Gofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau benywaidd cyntaf Cymru. Goruchwyliodd 3 datganiad cyfrifiad yn yr ardal a mynychodd y dathliadau yn Llundain ym 1937 i nodi canmlwyddiant y Ddeddf Cofrestru. Ei thad oedd y cofrestrydd cyntaf i gael ei benodi ym Mae Colwyn, ond ymddengys mai ychydig iawn o sylw a gafodd ei phenodiad ei hun ar y pryd.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Mynychodd John, oedd yn cael ei adnabod fel JR, ysgol gynradd Pont Pensarn yng Nghyffordd Llandudno. Wedi iddo adael addysg, aeth i swyddfa James Amphlett ac yn ddiweddarach cafodd ei benodi\u2019n clerc erthyglog efo cwmni J.D.H. Osborne. Yna sefydlodd ei fusnes cyfreithiol ei hun yn Abergele, a chyflawnodd amryw o ddyletswyddau eraill &#8211; bu\u2019n glerc i Gyngor Tref Abergele o 1920 i 1936, yn glerc i Ysgol Sir Abergele, ac yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych am 12 mlynedd. Bu hefyd yn ymwneud \u00e2 Gwarchodlu Cartref Sir Ddinbych, a bu&#8217;n glerc i&#8217;r Comisiwn Elusennau o 1920 i 1960. Yn ystod ei hymchwil, dywedwyd wrth Nerys fod JR wedi ysgrifennu hunangofiant &#8211; cafodd drafferth i olrhain hwn, ond yn wyrthiol, daeth o hyd i gopi ar eBay am \u00a31! Yn ogystal \u00e2 manylion ei yrfa, mae&#8217;r gyfrol yn cynnwys hanesion am ei branciau yn ysgol y Gyffordd.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6348\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-218x300.jpg\" alt=\"\" width=\"218\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-218x300.jpg 218w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-745x1024.jpg 745w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-768x1056.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-1117x1536.jpg 1117w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover-1489x2048.jpg 1489w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/JR-Book-Cover.jpg 1806w\" sizes=\"auto, (max-width: 218px) 100vw, 218px\" \/><\/p>\n<p class=\"western\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Gan ddychwelyd at linell 1<\/span><\/span><\/span><sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">af<\/span><\/span><\/span><\/sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> stori hyfryd Nerys &#8211; daeth yn amlwg, o blith yr holl bobl neilltuol hynny a briodolwyd i fod yn fodrybedd neu ewythrod iddi, <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>bod Wncwl JR ac Anti Annie yn perthyn iddi,<\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> sef cefndryd 1<\/span><\/span><\/span><sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">af<\/span><\/span><\/span><\/sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> ei nain. Nododd JR yn ei hunangofiant cyn lleied o gydnabyddiaeth a roddwyd i lwyddiant ei chwaer Anne, ac roedd yn arbennig o dda i ni ddysgu am yr hyn a gyflawnwyd ganddi.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<hr>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Dyma grynodeb o\u2019r cyflwyniad olaf o\u2019r sgyrsiau a roddwyd yng Nghapel Peniel ar 17<\/span><sup><span lang=\"cy-GB\">eg<\/span><\/sup><span lang=\"cy-GB\"> Chwefror 2022. Y teitl yw <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Gyffin<\/b><\/span> <span lang=\"cy-GB\"><b>Diwydiannol gan Dr Stephen Lockwood<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\">. Mae Dr Lockwood yn fiolegydd pysgodfeydd morol ac yn cyn pennaeth y labordai morol yng Nghonwy, a leolwyd ar safle presennol Parc Busnes Glan yr Afon. Mae Stephen felly yn gymwys iawn i roi sgwrs ar y pwnc.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/GyffinDiwydiannol.pdf\">Gyffin Diwydiannol gan Dr Stephen Lockwood<\/a><\/p>\n<p align=\"right\">&nbsp;<\/p>\n<p class=\"western\" align=\"right\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Peniel ar 17eg Chwefror 2022. Hon yw noson draddodiadol y Gr\u0175p dan yr enw Pigion Hanes pan fydd 3 aelod o\u2019r Gr\u0175p yn rhoi cyflwyniad byr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Dyma grynodeb o\u2019r cyflwyniad cyntaf dan y teitl Trywel William gan Trefor [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6335","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2022\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Peniel ar 17eg Chwefror 2022. Hon yw noson draddodiadol y Gr\u0175p dan yr enw Pigion Hanes pan fydd 3 aelod o\u2019r Gr\u0175p yn rhoi cyflwyniad byr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Dyma grynodeb o\u2019r cyflwyniad cyntaf dan y teitl Trywel William gan Trefor [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-03-23T13:06:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/\",\"name\":\"Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg\",\"datePublished\":\"2022-02-19T14:25:48+00:00\",\"dateModified\":\"2023-03-23T13:06:41+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Snippets of History &#8211; 2022\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2022\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History","og_description":"Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Peniel ar 17eg Chwefror 2022. Hon yw noson draddodiadol y Gr\u0175p dan yr enw Pigion Hanes pan fydd 3 aelod o\u2019r Gr\u0175p yn rhoi cyflwyniad byr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Dyma grynodeb o\u2019r cyflwyniad cyntaf dan y teitl Trywel William gan Trefor [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2023-03-23T13:06:41+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/","name":"Pigion Hanes - 2022 - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg","datePublished":"2022-02-19T14:25:48+00:00","dateModified":"2023-03-23T13:06:41+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/WilliamsTrowel1-225x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2022\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Snippets of History &#8211; 2022"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6335","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6335"}],"version-history":[{"count":21,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6335\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6650,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6335\/revisions\/6650"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6335"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}