{"id":6380,"date":"2022-05-28T09:07:18","date_gmt":"2022-05-28T09:07:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6380"},"modified":"2022-05-30T12:48:37","modified_gmt":"2022-05-30T12:48:37","slug":"martha-hughes-cannon-of-llandudno","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/","title":{"rendered":"Martha Hughes Cannon o Landudno"},"content":{"rendered":"<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Daeth nifer fawr o aelodau i glywed <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><b>Wil Aaron<\/b><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> yn son am hanes hynod ddiddorol sy\u2019n haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn lleol. Cafodd Wil yrfa hir ym myd teledu, gan ddechrau gyda BBC Cymru ym 1961 cyn symud i weithio yn Seland Newydd. Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, ymunodd a rhaglen materion cyfoes <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Twenty-Four Hours<\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> gyda Max Hastings a darlledu o fannau megis Fietnam, Cashmir a\u2019r Dwyrain Canol. Ym 1978, sefydlodd cwmni annibynnol yng Nghaernarfon oedd yn ymwneud a chlasuron megis <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>C&#8217;mon Midff\u00eeld!<\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> Ers iddo ymddeol, mae Wil wedi ysgrifennu llyfr, <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Welsh Saints on the Mormon Trail<\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">, ac roedd ei sgwrs yn canolbwyntio ar un ddynes arbennig a ymunodd a\u2019r llwybr hwn o\u2019i thref enedigol, Llandudno, dynes a wnaeth argraff fawr ar hanes yr U.D.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd Martha Hughes Cannon yn un o ferched fwyaf nodedig ei chyfnod yn Salt Lake City, <\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">lle mae hi hyd heddiw yn cael ei hystyried yn arwres ac yn cael ei choff\u00e1u \u00e2 cherflun yn adeilad Utah State Capitol. <\/span><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Mae prif adeilad Adran Iechyd Utah wedi\u2019i enwi ar ei h\u00f4l, ac mae plac yng nghanol y ddinas yn rhestru ei llwyddiannau: <\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>\u2018In memory of Dr Martha Hughes Cannon. Pioneer doctor. First woman state senator in the US. Author of Utah sanitation laws. Member of the first state Board of Health\u2019. <\/i><\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Mae anrhydedd mwy rhyfeddol fyth yn cael ei baratoi ar ei chyfer, gan fod Senedd Utah wedi pleidleisio i anfon cerflun ohoni i\u2019r National Statuary Hall yn Washington DC. Yn y neuadd hon, cynrychiolir pob talaith gan 2 o\u2019i dinasyddion enwocaf &#8211; e.e. Cynrychiolir Virginia gan George Washington a Robert E. Lee. Eleni, bydd Utah yn cael ei chynrychioli gan Brigham Young a Martha Hughes Cannon. Fodd bynnag, prin y mae hi&#8217;n adnabyddus yn ei thref enedigol, Llandudno.<\/span><\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Ganwyd Martha Maria Hughes yn Stryd Madoc ym 1857, yn ferch i Peter ac Elizabeth Hughes. Saer coed oedd Peter, ac roedd y rhieni\u2019n rhan o gymuned fechan y Mormoniaid a gyfarfu ar y Gogarth yng ngerddi hen ffermdy T\u0177 Coch. Disgrifir y cyfarfodydd hyn yn <\/span><\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"><i>Atgofion am Landudno<\/i><\/span><\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> gan Thomas Rowlands &#8211; byddai trigolion lleol yn ymuno \u00e2\u2019r Mormoniaid yn yr ardd mewn trafodaethau bywiog a chyfeillgar. Pan soniodd blaenoriaid y Mormoniaid am y ddyletswydd i aberthu popeth er mwyn cyfarfod ar lannau\u2019r <\/span><\/span><\/span><\/span><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Great Salt Lake<\/span><\/span><\/span><span style=\"color: #202124;\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">, roedd y teulu Hughes ymhlith y llu o Gymru a ymatebodd. Cychwynasant ar eu taith ym 1860, pan oedd Martha yn bedair oed.<\/span><\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd yn daith hynod o galed, yn croesi\u2019r Iwerydd ac yna\u2019n dilyn Llwybr Mormon ar draws Omaha, Nebraska a Wyoming i Utah &#8211; cymerodd y daith mewn wagen neu drol fisoedd. Gwnaeth miloedd o siaradwyr Cymraeg y daith rhwng y 1830au a&#8217;r 1860au. Disgrifiwyd Utah fel \u2018Uffern ar y Ddaear\u2019 gan gapelwyr, yr ymddangosai\u2019r ffydd Formonaidd yn hereticaidd a gwarthus iddynt &#8211; yn enwedig yr athrawiaeth am amlwreiciaeth neu briodas luosog. Pan ufuddhaodd Seintiau\u2019r Dyddiau Diwethaf Cymreig i\u2019r alwad i ymfudo, roedd y capeli\u2019n hapus i\u2019w gweld yn mynd. Mae teithiau\u2019r Mormoniaid Cymreig wedi&#8217;u dogfennu&#8217;n dda fodd bynnag: mae cannoedd o gofnodion yn son am eu profiadau hanesyddol niferus ar eu taith wedi&#8217;u cadw yn llyfrgell Utah, yn cynnwys cael eu pasio gan y coetsis mawr cyntaf, y Rhyfel Cartref, y Pony Express a dyfodiad y rheilffyrdd. <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Ni aeth taith Martha yn esmwyth: bu farw ei chwaer hynaf ar y Gwastadeddau, a bu farw ei thad dridiau ar \u00f4l iddynt gyrraedd. Efallai mai dyma oedd yr ysgogiad ar gyfer ei gyrfa feddygol ddiweddarach &#8211; yn 1878 astudiodd am radd MD ym Mhrifysgol Michigan, ac yna dilynodd radd \u00f4l-raddedig ym Mhrifysgol Pennsylvania. Dilynodd hyn gyda chymhwyster o&#8217;r Ysgol Genedlaethol Llafareg ag Areitheg, fel pe bai&#8217;n rhagweld y llwybr y byddai ei bywyd yn ei gymryd. Dychwelodd i Utah, ac ymunodd \u00e2 staff yr ysbyty mamolaeth newydd, lle&#8217;r oedd yn ymddangos bod gyrfa nodedig a gwerth chweil o&#8217;i blaen.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Nid oedd bywyd Martha i fod yn syml: roedd hi&#8217;n hynod grefyddol, ond hefyd yn wleidyddol radical. Ar \u00f4l gweithio am flwyddyn yn yr ysbyty, roedd hi wedi priodi\u2019n gyfrinachol ag un o\u2019r cyfarwyddwyr, Angus Munn Cannon. Roedd ef yn Formon amlwg a 23 mlynedd yn h\u0177n na hi. Hi oedd ei 4<\/span><\/span><\/span><sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">edd<\/span><\/span><\/span><\/sup><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\"> wraig, ac yr oedd ganddo eisoes 17 o blant. Ni chafodd ei gwthio i\u2019r briodas hon o gwbl gan gymdeithas batriarchaidd &#8211; roedd hi\u2019n ffeminydd ysbrydol ac annibynnol, a wyddai beth oedd o\u2019i blaen, ond mewn cariad: ysgrifennodd at Angus gan ddweud y byddai\u2019n well ganddi dreulio awr gydag ef nag oes gyfan gydag unrhyw ddyn arall.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<div id=\"attachment_6391\" style=\"width: 213px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6391\" class=\"size-medium wp-image-6391\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg\" alt=\"\" width=\"203\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg 203w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-691x1024.jpg 691w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-768x1138.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2.jpg 879w\" sizes=\"auto, (max-width: 203px) 100vw, 203px\" \/><p id=\"caption-attachment-6391\" class=\"wp-caption-text\">Martha Hughes Cannon yn 1880<\/p><\/div>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Yn anffodus i Martha, roedd y farn gyhoeddus a&#8217;r gyfraith yn gryf yn erbyn athrawiaeth amlwreiciaeth, ac yn fuan ar \u00f4l genedigaeth eu plentyn cyntaf, Lizzie, arestiwyd Angus a&#8217;i gyhuddo. Yn hytrach na rhoi tystiolaeth yn ei erbyn fel yr oedd yn ofynnol iddi wneud, ffodd Martha dramor gyda&#8217;i babi. Aeth at deulu ei mam yn Birmingham ac yna i Baris, y Swistir a&#8217;r Almaen. Mae ei llythyrau rheolaidd at Angus (a oedd yn y cyfamser wedi priodi dwy fenyw arall yn gyfrinachol &#8211; un ychydig ddyddiau cyn i Martha adael am Ewrop) wedi&#8217;u cadw yn archif Eglwys Salt Lake City.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd ei halltudiaeth yn unig ac yn ddiflas, felly pan ddaeth y warant i&#8217;w harestio i ben ym 1887, dychwelodd. Sefydlodd y coleg hyfforddi cyntaf i nyrsys yn Utah, ac ymdaflodd ei hun i mewn i&#8217;r mudiad hawliau menywod. Roedd Utah wedi caniat\u00e1u i fenywod bleidleisio o 1870 i 1887 (y dalaith gynharaf i wneud hynny ar wah\u00e2n i Wyoming), a phan ddiddymwyd yr hawl hon, dechreuwyd ymladd ffyrnig i&#8217;w adennill. Roedd ymgyrch y bleidlais yn rhedeg ochr yn ochr \u00e2&#8217;r ymgyrch o blaid amlwreiciaeth, ac roedd Martha yn ymwneud yn angerddol \u00e2 hyn. Parhaodd y Llywodraeth Ffederal i garcharu, dirwyo ac atafaelu eiddo dynion amlbriod, ac ym 1890 penderfynodd y proffwyd Mormonaidd presennol y dylai priodas luosog ddod i ben. Roedd disgwyl i ddynion gynnal eu holl wragedd a phlant, ond dim ond gydag un wraig y dylen nhw gyd-fyw. Roedd priodas Martha ac Angus ar ben yn gyfreithiol \u2013 felly pan ddaeth hi\u2019n feichiog ganddo eto, bu\u2019n rhaid iddi roi\u2019r gorau i\u2019w gyrfa a ffoi unwaith eto, y tro hwn i California lle rhoddodd enedigaeth i fachgen.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Dychwelodd i Salt Lake City ychydig fisoedd yn ddiweddarach, a pharhaodd \u00e2&#8217;i phractis preifat. Roedd hi&#8217;n aelod blaenllaw o&#8217;r Suffrage Association, a daeth yn adnabyddus ar draws yr Unol Daleithiau fel siaradwr rhagorol. Mewn buddugoliaeth ysgubol i ferched Utah, fe adennillwyd y bleidlais ym 1896 pan ddaeth y diriogaeth yn dalaith &#8230; a Martha yn syth yn chwilio am frwydr arall i ymladd. Dyma oedd iechyd cyhoeddus: roedd colera, TB, y frech goch a chlefydau eraill yn rhemp, roedd d\u0175r yn llygredig ac roedd angen systemau carthffosiaeth. Yn yr ymgyrch ar gyfer yr etholiadau gwladol newydd, safodd Martha dros y Democratiaid \u2013 ac un o\u2019r Gweriniaethwyr yn ymgyrchu yn ei herbyn oedd ei g\u0175r, Angus. Cafodd hyn lawer o sylw yn y wasg, ond datganodd y Salt Lake City Herald mai Martha oedd <\/span><\/span><\/span>\u2018<span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">y dyn gorau o\u2019r ddau\u2019. Gydag ymgeiswyr Democratiaid eraill, ysgubodd i fuddugoliaeth gan ddod y fenyw gyntaf i gael ei hethol i unrhyw senedd yn yr Unol Daleithiau. <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6392\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Utah_State_Senate_in_1897-300x181.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"181\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Utah_State_Senate_in_1897-300x181.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Utah_State_Senate_in_1897-768x463.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Utah_State_Senate_in_1897.jpg 833w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Roedd yn seneddwraig lwyddiannus iawn, a chyflwynodd llawer o fesurau i wella iechyd cyhoeddus, bywydau menywod a phlant anabl, ac ym 1899 fe\u2019i hystyriwyd i gael ei henwebu i sedd yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, unwaith eto cafodd ei gyrfa ei difrodi gan feichiogrwydd, a&#8217;r tro hwn roedd yng ngolwg y cyhoedd. Gan fod ei phriodas wedi\u2019i datgan yn anghyfreithlon 10 mlynedd ynghynt, gwelwyd ei bod yn anwybyddu\u2019r gyfraith yn ddifeddwl a daeth yn destun sgandal cenedlaethol. Pan aned Gwendolyn, cafodd Angus ei arestio a&#8217;i ddirwyo ond talodd Martha&#8217;r pris trymach. Roedd ei gyrfa wleidyddol ar ben, a bu&#8217;n rhaid iddi ymddeol o fywyd cyhoeddus.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Daeth yn fwyfwy digalon, a lleihawyd ei pherthynas ag Angus i alwadau am arian i gynnal y plant. Gadawodd Utah yn y diwedd, ac aeth i fyw at ei mab yn Los Angeles, lle bu farw ym 1932. Yn anffodus, teimlai fod ei bywyd wedi bod yn fethiant, a gofynnodd am losgi ei llythyrau a&#8217;i dyddiaduron.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Am ddegawdau fe\u2019i hanghofwyd gan y genedl, ond yn y 1970au, adfywiwyd ei stori gan grwpiau hawliau merched. Cydnabuwyd Martha fel ffigwr ysbrydoledig a oedd wedi brwydro am well cyfleoedd i fenywod trwy gydol ei hoes, er gwaethaf yr anawsterau ychwanegol a gyflwynwyd gan ei chred mewn priodas luosog a&#8217;i ffydd Formonaidd.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i Wil am ddod \u00e2\u2019r ddynes gymhleth ac ysgogol hon yn fyw i ni. Mae wedi trefnu i gynhyrchu cofeb i Martha yn ei thref enedigol \u2013 mae plac wedi\u2019i wneud, gyda chefnogaeth cynghorwyr tref a sir, a bydd yn cael ei leoli ar y Gogarth ger cartref teuluol Tan-y-graig. Gobeithio y gellir ei ddadorchuddio ar yr un pryd \u00e2 seremoni statud Washington. Rydym yn ddiolchgar iawn i Wil am ganiat\u00e1u i ni ddathlu bywyd Martha, a gobeithiwn yn dilyn gosod y gofeb ar y Gogarth y bydd ei stori wych yn fwy adnabyddus.<\/span><\/span><\/span><\/p>\n<h5 align=\"right\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: medium;\"><span lang=\"cy-GB\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/span><\/span><\/span><\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth nifer fawr o aelodau i glywed Wil Aaron yn son am hanes hynod ddiddorol sy\u2019n haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn lleol. Cafodd Wil yrfa hir ym myd teledu, gan ddechrau gyda BBC Cymru ym 1961 cyn symud i weithio yn Seland Newydd. Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, ymunodd a rhaglen materion cyfoes Twenty-Four Hours [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6380","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Daeth nifer fawr o aelodau i glywed Wil Aaron yn son am hanes hynod ddiddorol sy\u2019n haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn lleol. Cafodd Wil yrfa hir ym myd teledu, gan ddechrau gyda BBC Cymru ym 1961 cyn symud i weithio yn Seland Newydd. Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, ymunodd a rhaglen materion cyfoes Twenty-Four Hours [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-05-30T12:48:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/\",\"name\":\"Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg\",\"datePublished\":\"2022-05-28T09:07:18+00:00\",\"dateModified\":\"2022-05-30T12:48:37+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Martha Hughes Cannon of Llandudno\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History","og_description":"Daeth nifer fawr o aelodau i glywed Wil Aaron yn son am hanes hynod ddiddorol sy\u2019n haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn lleol. Cafodd Wil yrfa hir ym myd teledu, gan ddechrau gyda BBC Cymru ym 1961 cyn symud i weithio yn Seland Newydd. Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, ymunodd a rhaglen materion cyfoes Twenty-Four Hours [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2022-05-30T12:48:37+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/","name":"Martha Hughes Cannon o Landudno - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg","datePublished":"2022-05-28T09:07:18+00:00","dateModified":"2022-05-30T12:48:37+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Martha_M_Hughes_Cannon2-203x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/martha-hughes-cannon-of-llandudno\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Martha Hughes Cannon of Llandudno"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6380","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6380"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6380\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6394,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6380\/revisions\/6394"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6380"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}