{"id":6540,"date":"2022-12-05T20:28:21","date_gmt":"2022-12-05T20:28:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6540"},"modified":"2023-01-22T13:45:03","modified_gmt":"2023-01-22T13:45:03","slug":"benarth-hall-owners-occupants-visitors","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/","title":{"rendered":"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Y siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd Dr Stephen Lockwood a oedd wedi gwneud ymchwil helaeth ar hanes Neuadd Benarth ei pherchnogion a&#8217;i thenantiaid ers y 18fed Ganrif. Daeth diddordeb Dr Lockwood yn yr yst\u00e2d oherwydd ei fod wedi gweithio yn Labordy Ymchwil y Llywodraeth yn Gyffin sydd gerllaw&#8217;r stad. Mae hefyd ar y lan gyferbyn \u00e2 Glan Conwy lle&#8217;r oedd yn arfer byw.<\/strong><\/p>\n<p>Yn wreiddiol roedd Benarth a\u2019r stad yn cynnwys tiroedd a ffermydd yn Gyffin sydd wedi\u2019u gwerthu ers hynny. Canolbwyntiodd Dr Lockwood ei sgwrs ar berchnogion niferus Benarth ers 1779. Dyna pan oedd y Parch Owen Jones, Ficer Conwy, yn byw yno ond fe\u2019i prynwyd wedyn gan Samuel Price, cyfreithiwr. Dymchwelwyd y t\u0177 gwreiddiol ganddo ac fe gomisiynodd Samuel Wyatt, pensaer Neuadd Cinmel i ddylunio\u2019r adeilad newydd. Yn y cyfnod hwn, daeth John Gibson a aned yn 1802 yn fab i arddwr, yn enwog iawn fel cerflunydd. Bu\u2019n gweithio gydag Antonio Canova yn Rhufain ac mae enghreifftiau o\u2019i waith yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl. Mae cofeb i Gibson i\u2019w gweld yng nghorff eglwys y Santes Fair, Conwy.<\/p>\n<div id=\"attachment_6566\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6566\" class=\"size-medium wp-image-6566\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1.jpg 976w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-6566\" class=\"wp-caption-text\">Benarth Hall<\/p><\/div>\n<p>Cafodd Benarth ei brydlesu rhwng 1778 a 1803 a chawsom hanes am berchnogion a thenantiaid y Neuadd yn y cyfnod hwn. Bu Syr George Beaumont, cyd-sylfaenydd yr Oriel Genedlaethol yn Llundain yn denant yna am bum mlynedd a chlywsom am ymwelwyr adnabyddus, yn eu plith William Wordsworth a\u2019r arlunydd John Cotman, ac efallai J.M.W. Turner. Cedwir brasluniau Syr George o Benarth yn Oriel Whitworth ym Manceinion.<\/p>\n<p>Prynodd Uchel Siryf Sir Gaernarfon, Thomas Burrowes y stad ym 1805 ac yna fe&#8217;i hetifeddwyd gan ei fab Arnold Robinson Burrowes, Uwchgapten yn y Gwarchodlu Albanaidd. Ym 1830 ymfudodd i Ganada gan nad oedd yn dymuno byw yn y Neuadd. Rhwng 1830 a 1852 roedd gwaith helaeth yn cael ei wneud ar y pontydd a\u2019r rheilffordd ar lannau Afon Conwy ym Benarth gan Telford a Stephenson. Mae\u2019n bosibl mai dyma oedd y rheswm na ddaethpwyd o hyd i unrhyw brynwr i\u2019r Yst\u00e2d tan 1852 pan brynwyd hi gan Lawfeddyg yn Ysbyty Cyffredinol Caer, James Edwards MD. Er iddo gael ei gladdu yn Eglwys Sant Benedict, Gyffin, mae ei gofeb yn eglwys ei dad yn Aldford, ger Caer.<\/p>\n<p>Yn anffodus, ar \u00f4l rhoi genedigaeth i bump o blant bu farw ei wraig gyntaf. Yna priododd ddwywaith eto gyda phum mab yn byw i fod yn oedolion. Y mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Lionel Robertson Edwards a ddarluniodd Black Beauty a Lorna Doone. Bu ei drydedd wraig Harriet yn byw ar y stad tan 1915.<\/p>\n<p>Roedd amryw o denantiaid hefyd yn byw yn Benarth ac yn eu plith yr oedd Richard Davies AS Arglwydd Raglaw M\u00f4n; Albert Wood a brynodd Stad Bodlondeb yng Nghonwy ac yn byw yn Benarth tra&#8217;n dymchwel yr hen Bodlondeb ac adeiladu\u2019r t\u0177 presennol yn ei le, sef Swyddfeydd y Cyngor bellach.<\/p>\n<p>Ym 1898, tra&#8217;n byw yn Benarth, prynodd Dr Joseph Bayley, meddyg seiciatryddol, Bryn y Neuadd Llanfairfechan. Daeth \u00e2 chleifion i Gymru am driniaeth ger lan y m\u00f4r.<\/p>\n<p>Tenant arall oedd Thomas Glynn, Athro Meddygaeth a sefydlodd Ysgol Feddygaeth yn Lerpwl. Bu&#8217;n byw yn Benarth am ddwy flynedd hyd at 1900 felly roedd cyfres barhaus o ddynion meddygol yn byw yn y Neuadd.<\/p>\n<p>Y person nesaf o bwys ac a fu\u2019n hael i Gonwy oedd Thomas Tattersall a brynodd y stad ym 1912. Fe ymgymerodd ag adnewyddiad helaeth o\u2019r Neuadd gan ychwanegu portico at y drws ffrynt a throsi\u2019r cerbyty am nad oedd llawer o alw am geffylau yn y cyfnod hwn. Roedd yn Uchel Siryf o 1920 &#8211; 21 ac roedd yn westeiwr i Dywysog Cymru ar ei ymweliad ym 1927. Prynodd hen glwb Cyfansoddiadol Conwy a&#8217;i roi i Gonwy yn ogystal \u00e2&#8217;r Hen Goleg a roddwyd i gartrefu&#8217;r ysgol elfennol uwch.<\/p>\n<p>Ym 1933 prynwyd y stad gan Syr Joseph Kay a oedd wedi treulio ei fywyd gwaith yn India ac yna ym 1958 chwalwyd y stad a phrynodd consortiwm lleol ran ohoni gyda\u2019r bwriad o\u2019i datblygu fel parc gwyliau ond ni ddaeth y cynllun hwn i\u2019r dim.<\/p>\n<p>Daeth meddyg teulu lleol, Dr Clive Arkle, yn berchennog nesaf a oedd, fel mae\u2019n digwydd, yn \u0175yr i&#8217;r Thomas Glynn y soniwyd amdano ynghynt. Bu Dr Arkle yn byw yn y Neuadd o 1961 tan 1996 pan werthwyd y Neuadd a&#8217;r stad i Mel a Liz Herman gan ei wraig Morna. Diolch i sgil Mel fel pensaer a datblygwr a buddsoddiad personol mawr ganddo y<!-- --> mae\u2019r Neuadd a\u2019r adeiladau ar y stad wedi\u2019u hadfer i\u2019w hen ogoniant.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-6567\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_2-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_2-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_2-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_2.jpg 976w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>Cafodd y Neuadd ei hailwampio i fod yn ddau annedd ar wah\u00e2n ac fe\u2019u gwerthwyd ar \u00f4l iddynt gael ei hadnewyddu a&#8217;i huwchraddio&#8217;n llwyr. Troswyd y Cerbyty hefyd ac fe\u2019i hadnewyddwyd i fod yn annedd hyfryd a throswyd y Vinery i fod yn fyngalo tra modern yn edrych dros yr ardd furiog a Dyffryn Conwy. Bydd Neuadd Benarth yn sefyll am ddau gan mlynedd arall ac yn croesawu llawer mwy o ymwelwyr i fwynhau ei lletygarwch.<\/p>\n<p>Darluniwyd y sgwrs gyda ffotograffau o nifer o&#8217;r personau a grybwyllwyd yn ystod y noson yn ogystal \u00e2 lluniau o&#8217;r Neuadd a&#8217;r tiroedd.<\/p>\n<p>Wedi cwestiynau a sylwadau gan aelodau\u2019r gymdeithas diolchwyd i\u2019r siaradwr am ei sgwrs fwyaf diddorol gan y Cadeirydd, Kevin Slattery.<\/p>\n<p align=\"right\"><span style=\"font-family: Times New Roman, serif;\"><span style=\"font-size: large;\"><span lang=\"cy-GB\">Addasiad o adroddiad Wendy Lonsdale <\/span><\/span><\/span><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd Dr Stephen Lockwood a oedd wedi gwneud ymchwil helaeth ar hanes Neuadd Benarth ei pherchnogion a&#8217;i thenantiaid ers y 18fed Ganrif. Daeth diddordeb Dr Lockwood yn yr yst\u00e2d oherwydd ei fod wedi gweithio yn Labordy Ymchwil y Llywodraeth yn Gyffin sydd gerllaw&#8217;r stad. Mae hefyd ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6540","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Y siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd Dr Stephen Lockwood a oedd wedi gwneud ymchwil helaeth ar hanes Neuadd Benarth ei pherchnogion a&#8217;i thenantiaid ers y 18fed Ganrif. Daeth diddordeb Dr Lockwood yn yr yst\u00e2d oherwydd ei fod wedi gweithio yn Labordy Ymchwil y Llywodraeth yn Gyffin sydd gerllaw&#8217;r stad. Mae hefyd ar [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-01-22T13:45:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/\",\"name\":\"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg\",\"datePublished\":\"2022-12-05T20:28:21+00:00\",\"dateModified\":\"2023-01-22T13:45:03+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Benarth Hall; Owners, Occupants &#038; Visitors\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History","og_description":"Y siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd Dr Stephen Lockwood a oedd wedi gwneud ymchwil helaeth ar hanes Neuadd Benarth ei pherchnogion a&#8217;i thenantiaid ers y 18fed Ganrif. Daeth diddordeb Dr Lockwood yn yr yst\u00e2d oherwydd ei fod wedi gweithio yn Labordy Ymchwil y Llywodraeth yn Gyffin sydd gerllaw&#8217;r stad. Mae hefyd ar [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2023-01-22T13:45:03+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/","name":"Neuadd Benarth, Conwy; Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg","datePublished":"2022-12-05T20:28:21+00:00","dateModified":"2023-01-22T13:45:03+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BenarthHall_1-300x169.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/benarth-hall-owners-occupants-visitors\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Benarth Hall; Owners, Occupants &#038; Visitors"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6540","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6540"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6540\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6569,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6540\/revisions\/6569"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6540"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}