{"id":6673,"date":"2023-05-22T14:49:08","date_gmt":"2023-05-22T14:49:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6673"},"modified":"2024-02-20T15:57:23","modified_gmt":"2024-02-20T15:57:23","slug":"the-jews-in-llandudno","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-jews-in-llandudno\/","title":{"rendered":"Yr Iddewon yn Llandudno"},"content":{"rendered":"<p><strong>Daeth yr Athro Nathan Abrams atom i roi sgwrs am yr Iddewon yn Llandudno. Mae gan Nathan CV trawiadol ac amrywiol: mae\u2019n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac yn brif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin. Mae&#8217;n cyd-gynnull rhwydwaith Diwylliannau Cyfoes Iddewig Prydain; mae&#8217;n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu&#8217;n eang yn y Gymraeg a&#8217;r Saesneg; mae&#8217;n awdur llawer o lyfrau ac erthyglau nodedig, ac ar hyn o bryd mae&#8217;n cyd-ysgrifennu cofiant i Stanley Kubrick. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 chynaliadwyedd a\u2019r amgylchedd, yn enwedig y broblem o lygredd plastig. Rhywsut, mae Nathan yn llwyddo i wasgu amryw o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol ymhlith ei waith academaidd.<\/strong><\/p>\n<p>Cysylltiad cyntaf yr Iddewon \u00e2 Gogledd Cymru oedd mor fuan \u00e2 1066 wrth iddynt groesi&#8217;r Sianel gyda William I gan fod yn arianwyr iddo. 200 mlynedd yn ddiweddarach, ceir tystiolaeth o aneddiadau Iddewig bychan yn cael eu sefydlu mewn clwstwr o drefi oedd yn rhan o gylch haearn Edward I yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yn y cyfnod hwn, roedd yn ofynnol i Iddewon wisgo bathodyn adnabod ar eu dillad: fel arfer stribedi lliw golau yn cynrychioli 2 lechen Moses. Cafodd y drefn hon ei adfywio gan y Nats\u00efaid, pan orfodwyd Iddewon i wisgo Seren felen Dafydd.<\/p>\n<p>Erbyn 1290, codwyd y gwaharddiad Cristnogol ar usuriaeth ac felly nid oedd angen Iddewon mwyach i ddarparu cyllid. Cafodd yr Iddewon eu diarddel o Ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd bod Edward I erbyn hynny wedi eu twyllo o bopeth heblaw eu heiddo, a chafodd hwn ei atafaelu ar \u00f4l eu halltudiaeth. Yn dilyn hyn, heblaw ambell unigolyn, nid oedd Iddewon yng Nghymru na Lloegr am dros 350 o flynyddoedd; dim ond o dan Oliver Cromwell y cawsant eu haildderbyn yn anffurfiol.<\/p>\n<p>Yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd mewnfudo oherwydd cynnwrf yn Ewrop, gan gyrraedd uchafbwynt ar ddiwedd y ganrif honno. Dihangodd llawer o Iddewon o Ymerodraeth Rwsia rhag y pogromau, consgripsiwn i fyddin y Czar, a safon wael o fyw. Roedd y DU yn ffynnu oherwydd y Chwyldro Diwydiannol, ac roedd teithio ar longau a rheilffordd yn gymharol rad. Yn gyffredinol roedd y mewnfudwyr yn cyrraedd y wlad ac yn teithio tua&#8217;r gorllewin; roedd y gweithwyr yn dueddol o fod efo sgiliau gwaith llaw ac entrepreneuraidd ac felly&#8217;n aml yn symud ymlaen i chwilio am gyfleoedd gwell.<\/p>\n<p>Dilynodd y teulu Wartski lwybr arferol &#8211; daethant o Wlad Pwyl i Fangor drwy Lerpwl, yna i Landudno ac yn ddiweddarach i Lundain. Agorodd Morris Wartski ei siop gyntaf ym Mangor, ond symudodd i Landudno i gael gwell aer i\u2019w fab oedd yn s\u00e2l. Roedd ganddo 3 siop ar Stryd Mostyn yn Llandudno yn gwerthu clociau, gemwaith, dillad a nwyddau eraill. Mae&#8217;r teils mosaig gyda&#8217;r enw Wartski i&#8217;w gweld o hyd y tu allan i siop Goldsmiths.<br \/>\nCyfarfu Harriet, merch Morris, \u00e2\u2019r Llundeiniwr Emanuel Snowman, a\u2019u priodas hwy ym 1909 a ysgogodd sefydlu synagog gyntaf Llandudno. Roedd gan Emanuel syniadau mawreddog, ac agorodd siop Wartski yn Llundain sy\u2019n dal i ffynnu yna. Cafodd y cwmni nawdd brenhinol a chwsmeriaid fel Frank Sinatra, Jackie Onassis ac Ian Fleming. Mae mab Emanuel a Harriet, Kenneth Snowman, yn ymddangos yn y nofel James Bond, Property of a Lady, wrth i&#8217;r plot droi o amgylch wyau Faberg\u00e9. Roedd Wartskis wedi caffael llawer o drysorau gan y llywodraeth Sofietaidd ar ddiwedd y 1920au yn cynnwys gweithiau Carl Faberg\u00e9,. Mae gan y cwmni byd-enwog hwn gysylltiadau o hyd \u00e2 Gogledd Cymru, sy\u2019n cael ei adnabod fel \u2018Wartskis o Landudno\u2019.<\/p>\n<p>Roedd siopau a busnesau Iddewig eraill yn parhau i ddod i Landudno, ac o tua 1908 ymlaen, dechreuodd hysbysebion ymddangos yn y Jewish Chronicle am westai oedd yn darparu ar gyfer gofynion Iddewig.<\/p>\n<p>Fe welir y patrwm o sefydlu synagogau yng Ngogledd Cymru trwy\u2019r dyddiadau, sy\u2019n dangos bod digon o Iddewon yn y trefi canlynol bryd hynny i rentu adeilad:<\/p>\n<pre>Wrecsam - c.1893\r\nBangor \u2013 1894\r\nRhyl \u2013 1897\r\nLlandudno \u2013 1909\r\nBae Colwyn \u2013 1940<\/pre>\n<p>Roedd y synagog gyntaf yn Llandudno uwchben yr hyn sy\u2019n awr yn Listers ar Stryd Mostyn &#8211; roedd yr adeilad yn wreiddiol yn Neuadd Seiri Rhyddion, a dyna pam mae\u2019r ffenestri\u2019n cynnwys s\u00ear 5-pwynt yn hytrach na&#8217;r 6 phwynt Iddewig. Mae adroddiadau papur newydd am dorfeydd yn leinio\u2019r stryd y tu allan i\u2019r synagog yn synnu at yr arferion Iddewig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Eglwys Ebeneser ar Stryd Madog fel synagog gan fod y gymuned Iddewig wedi tyfu, efo faciw\u00ees ac adrannau&#8217;r llywodraeth yn symud i&#8217;r ardal. Yn ddiweddarach, prynwyd t\u0177 ar Church Walks, sy\u2019n dal i gael ei ddefnyddio fel yr unig synagog i oroesi yng Ngogledd Cymru. Gwelir y patrwm hwn o rentu neu addasu adeiladau ar draws Gogledd Cymru, lle&#8217;r oedd cymunedau&#8217;n rhy fach i gael addoldy pwrpasol.<\/p>\n<p>Mae cysylltiadau Iddewig lleol nodedig eraill yn cynnwys Castell Gwrych, lle, o 1939-1941 cynhaliwyd rhaglen Kindertransport Iddewig a barat\u00f4dd ieuenctid ar gyfer bywyd yn Israel; enillydd Wimbledon o\u2019r 1950au Angela Buxton, a gafodd ei \u2018ddarganfod\u2019 wrth chwarae tenis yn yr ysgol yn Neuadd Gloddaeth; a datblygiad diweddar fynwent Iddewig yn Llanrhos. Roedd gan y cwmni teuluol adnabyddus Pollecoff hefyd lawer o siopau yng Ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Er bod y nifer o Iddewon lleol wedi prinhau, mae grwpiau mawr o deuluoedd Iddewig i&#8217;w gweld yn aml yn Llandudno yn yr haf, gan fwynhau amgylchedd diogel a chroesawgar arfordir Gogledd Cymru.<br \/>\nMae llawer o bobl yn cofio\u2019r teuluoedd y soniodd Nathan amdanynt a chafwyd trafodaeth fywiog ar \u00f4l y sgwrs, gan gynnwys y tebygrwydd pensaern\u00efol rhwng synagogau a chapeli Cymraeg. Cyfeiriodd Nathan at y nifer o gapeli gydag enwau Hebraeg a bod enw ein man cyfarfod heno, Peniel, yn golygu \u2018wyneb Duw\u2019 ac mai dyna\u2019r enw ar y man lle bu Jacob yn ymgodymu \u00e2\u2019r angel yn y Beibl.<\/p>\n<p>Nid oes unrhyw gofnodion wedi goroesi o\u2019r cymunedau Iddewig yng Ngogledd Cymru. Bydd unrhyw eitemau sydd gennych gartref, waeth pa mor gyffredin, yn cael eu croesawu gan Nathan &#8211; cysylltwch \u00e2 Nathan (n.abrams@bangor.ac.uk) neu Archifau Conwy.<br \/>\nDiolchwyd i Nathan am ei sgwrs ddifyr a goleuedig, a dynnodd sylw at aelodau pwysig o\u2019n cymuned leol, ac a gyfoethogodd ein dealltwriaeth o agweddau ar ein hanes hefyd.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth yr Athro Nathan Abrams atom i roi sgwrs am yr Iddewon yn Llandudno. Mae gan Nathan CV trawiadol ac amrywiol: mae\u2019n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac yn brif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin. Mae&#8217;n cyd-gynnull rhwydwaith Diwylliannau Cyfoes Iddewig Prydain; mae&#8217;n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu&#8217;n eang yn y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6673","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-jews-in-llandudno\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Daeth yr Athro Nathan Abrams atom i roi sgwrs am yr Iddewon yn Llandudno. Mae gan Nathan CV trawiadol ac amrywiol: mae\u2019n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac yn brif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin. Mae&#8217;n cyd-gynnull rhwydwaith Diwylliannau Cyfoes Iddewig Prydain; mae&#8217;n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu&#8217;n eang yn y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-20T15:57:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/08\/Fiona-Fig-9-a.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1272\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"787\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/\",\"name\":\"Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-05-22T14:49:08+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-20T15:57:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"The Jews in Llandudno\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-jews-in-llandudno\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History","og_description":"Daeth yr Athro Nathan Abrams atom i roi sgwrs am yr Iddewon yn Llandudno. Mae gan Nathan CV trawiadol ac amrywiol: mae\u2019n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac yn brif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin. Mae&#8217;n cyd-gynnull rhwydwaith Diwylliannau Cyfoes Iddewig Prydain; mae&#8217;n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu&#8217;n eang yn y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2024-02-20T15:57:23+00:00","og_image":[{"width":1272,"height":787,"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/08\/Fiona-Fig-9-a.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/","name":"Yr Iddewon yn Llandudno - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"datePublished":"2023-05-22T14:49:08+00:00","dateModified":"2024-02-20T15:57:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-jews-in-llandudno\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"The Jews in Llandudno"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6673","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6673"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6673\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6872,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6673\/revisions\/6872"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6673"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}