{"id":6876,"date":"2024-02-22T15:14:52","date_gmt":"2024-02-22T15:14:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6876"},"modified":"2024-03-29T10:55:59","modified_gmt":"2024-03-29T10:55:59","slug":"snippets-of-history-2024","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2024\/","title":{"rendered":"Pigion Hanes &#8211; 2024"},"content":{"rendered":"<p>Cyfarfu\u2019r gr\u0175p yng Nghapel Peniel ar y 15fed o Chwefror 2024 a chroesawodd ein Cadeirydd ein siaradwyr am y noson. Noson \u201cSnippets\u201d oedd hon, lle cawn gyfres o sgyrsiau byrrach ar bynciau o ddiddordeb lleol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mwynglawdd Copr T\u0177 Gwyn<\/strong><\/p>\n<p>Siaradwr cyntaf y noson oedd Adrian Hughes. Mae Adrian yn aelod o Bwyllgor Gr\u0175p Hanes Deganwy ac yn ogystal \u00e2\u2019i waith gydag Ap\u00eal Pabi\u2019r Lleng Brydeinig, Amgueddfa\u2019r Ffrynt Cartref yn Llandudno a\u2019i weithiau cyhoeddedig ar hanes milwrol mae\u2019n gyd-gyfarwyddwr a thrysorydd Cymdeithas Archwilio\u2019r Gogarth (GOES).<\/p>\n<p>Eglurodd Adrian fod llawer o unigolion wedi archwilio mwyngloddiau&#8217;r Gogarth cyn sefydlu GOES, rhai ohonynt yn aml gydag agwedd braidd yn ffwrdd-\u00e2-hi gan arwain at nifer o ddamweiniau. Cafodd copr ei gloddio ar y Gogarth ers yr oes efydd ac yna, efallai, wedi\u2019i ail-weithio drwy\u2019r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol. Yn ddiweddarach, cafodd ei weithio yn ystod yr 17eg, 18fed a\u2019r 19eg ganrif pan gynyddodd y galw am gopr oherwydd ehangiad yr Ymerodraeth Brydeinig a\u2019r angen i gregyn llongau cael eu leinio \u00e2 chopr i atal difrod.<\/p>\n<p>Dangoswyd lluniau, o\u2019r awyr, o siafftiau, pyllau cloch a mwyngloddiau brig ar y Gogarth ac yna cyfeiriodd Adrian ein sylw at ardal mwyngloddio copr lleol arall, a adnabyddir fel T\u0177 Gwyn ar \u00f4l y fferm lle darganfuwyd copr yn y 1830au. Dyma&#8217;r ardal sydd bellach o amgylch y Fach a Church Walks.<\/p>\n<p>Perchennog T\u0177 Gwyn oedd Edward Jones ac fe ddarganfuwyd copr ar y safle pan lithrodd un o\u2019i wartheg gan ddatgelu darn o graig a oedd yn cynnwys malachit gwyrdd (mwyn copr). Ni allai fforddio cloddio ar ei ben ei hun felly ffurfiodd gwmni Mwyngloddio T\u0177 Gwyn a ddaeth yn broffidiol iawn yn cynhyrchu mwyn gwerth \u00a3100,000 mewn cyfnod o 18 mlynedd. Adeiladwyd swyddfeydd mwyngloddio o amgylch yr ardal sydd bellach yn Westy\u2019r Empire a chronfa dd\u0175r o amgylch Ffordd T\u0177 Coch i gyflenwi d\u0175r i injan st\u00eam mawr. Roedd olwyn dd\u0175r 15 troedfedd hefyd lle mae gwesty Min y Don wedi\u2019i leoli a chywasgydd mwyn ar safle gwesty\u2019r Belmont. Dechreuodd mwyngloddio ym 1835 ond daeth llifogydd yn broblem enfawr a chaewyd y pwll ym 1853.<\/p>\n<p>Yna cawsom hanes gwaith Cymdeithas Archwilio\u2019r Gogarth (GOES) Fe\u2019i sefydlwyd ym 1986 gyda\u2019r nod o ymchwilio, archwilio a gwarchod hanes mwyngloddio\u2019r Gogarth. Un o flaenoriaethau cyntaf y Gymdeithas oedd darganfod lleoliad mwynglawdd T\u0177 Gwyn.<\/p>\n<p>Wrth fynd i lawr y siafft ar Prospect Terrace canfuwyd bod y prif dwnnel a oedd yn arwain yn \u00f4l i&#8217;r m\u00f4r wedi&#8217;i rwystro gan gwymp craig a llithriad clai. Bu Tom Parry, hanesydd lleol, yn allweddol wrth ddod o hyd i leoliad pen arall y twnnel ger y pier ac yn y diwedd fe dorrodd y gr\u0175p drwodd i mewn i\u2019r twnnel am y tro cyntaf ers 140 o flynyddoedd. Caniatawyd iddynt leinio&#8217;r siafft yr oeddent wedi&#8217;i gwneud a darparu mynediad trwy gaead twll archwilio.<\/p>\n<div id=\"attachment_6885\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6885\" class=\"size-medium wp-image-6885\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine.jpg 990w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-6885\" class=\"wp-caption-text\">Ty Gwyn Mine<\/p><\/div>\n<p>Yna dangoswyd cyfres o luniau i ni o\u2019r tu mewn i\u2019r mwynglawdd a rhoddodd Adrian lawer o ffeithiau diddorol am sut roedd yn cael ei weithio, gan gynnwys y defnydd o bowdwr gwn yn y pwll, y dull o gludo\u2019r mwyn i\u2019w smeltio yn Swydd Gaerhirfryn a De Cymru a\u2019r proses o leinio&#8217;r twnnel (a elwir yn \u201cginging\u201d).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gymdeithas yn dal i gloddio, archwilio a dod o hyd i bethau newydd a daeth sgwrs Adrian i ben trwy ddweud wrthym am y gwrthrychau a ddarganfuwyd o dan y ddaear. Roedd y siafftiau wedi cael eu gadael ar agor ers tua chan mlynedd ac roedd gwrthrychau yn cynnwys esgyrn, corn buwch a phot dan y gwely cyfan!<\/p>\n<p>Sgwrs ddifyr a\u2019r gynulleidfa yn werthfawrogol iawn.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Diane Williams<\/h5>\n<hr>\n<p><strong>Gorsaf Rheilffordd Deganwy<\/strong><\/p>\n<p>Ein hail siaradwr oedd Philip Evans a roddodd hanes manwl iawn o\u2019n gorsaf reilffordd leol yn Neganwy, staff a blychau signal. Mae Philip yn aelod o\u2019n Gr\u0175p Hanes ac mae ganddo gysylltiad hir \u00e2 gorsaf Deganwy ar \u00f4l gweithio yno yn fachgen ifanc. Roedd ganddo lawer o hanesion personol i\u2019w rhanu gyda ni a rhoddodd hanes manwl iawn am yr orsaf, staff a\u2019r cabanau signalau.<\/p>\n<p>Agorodd y lein o\u2019r gyffordd i Landudno ym 1858 gan Gwmni Harbwr a Rheilffordd San Si\u00f4r. Rheolwyd hi gan Henry Graham, llyfrwerthwr ifanc o Rydychen, a ddynodwyd yn Uwcharolygydd. Bryd hynny trac sengl oedd y lein ac nid oedd gorsaf yn Neganwy.<br \/>\nYn y pen draw, ac yn dilyn cytundeb rheoli ym 1862, daeth y lein yn ffurfiol yn rhan o Gwmni Rheilffordd London &amp; North Western (LNWR) ym 1873. Yn y cyfamser roedd yr LNWR wedi dyblu&#8217;r llwybr ac ym 1868 darparwyd gorsaf ganolradd yn ller a elwid bryd hynny yn Deganway. Newidiwyd yr enw yn 1882 i Deganwy.<\/p>\n<p>Parhaodd yr LNWR gyda gwelliannau: adeiladwyd y caban signal cyntaf gyda 26 lifers ym 1884 ac fe\u2019i defnyddiwyd yn bennaf i reoli symudiadau nwyddau i\u2019r cei newydd a oedd yn ganolbwynt i lawer o drawsgludo nwyddau rhwng y rheilffordd a\u2019r m\u00f4r. Ym 1895 adeiladwyd y bont droed sy&#8217;n dal i fodoli; darparwyd goleuo nwy ym 1898; agorwyd ystafell aros ac ystafell porthorion ar y platfform i fyny ac ym 1914 ailfodelwyd cyfleusterau\u2019r swyddfa docynnau. Daeth yr ystafell aros i fodolaeth oherwydd cwynion am mai ond cyfleusterau i ferched oedd yno.<\/p>\n<p>Ym 1915 adeiladwyd ail gaban signal ger groesfan Marine Crescent. Roedd gan y caban hwn, sef Rhif 2, 18 lifer a sylfaen garreg. Disodlodd y sylfaen hwn gyda ffr\u00e2m fechan ar y platfform a weithredwyd gan y porthorion oedd yn cae y gatiau.<\/p>\n<p>Roedd gan groesfan y Cei ei cheidwad ei hun mewn cwt yn cynnwys un lifer a oedd yn cloi&#8217;r giatiau. Roedd y lifer yn ei dro yn cael ei gloi gan y naill neu&#8217;r llall o&#8217;r ddau gaban signal a defnyddiwyd system o godau cloch i fynnu bod y giatiau&#8217;n cael eu hagor neu eu cau. Nid oedd Caban Rhif 1 yn cael ei ddefnyddio\u2019n barhaus unwaith i\u2019r traffig nwyddau arafu o\u2019r Cei ar ddechrau\u2019r 20fed ganrif. Hyd nes iddo gau ym 1967, dim ond ar gyfer storio cerbydau yn y Cei ac ar ddydd Sadwrn yr Haf y cafodd y caban ei agor er mwyn rhoi capasiti ychwanegol ar y lein ar gyfer y traffig prysur a oedd yn teithio\u2019n ol ac ymlaen i Landudno. Daeth traffig nwyddau yn Neganwy i ben ym mis Medi 1964.<\/p>\n<p>Cyflogwyd cymaint \u00e2 12 aelod o staff hyd at yr Ail Ryfel Byd ac erbyn 1965 roedd Gorsaf-feistr\/Asiant Nwyddau Dosbarth 3, 2 ddyn signal Dosbarth 4, 1 Porthor\/Arwyddwr a 2 Borthor. Daeth swydd y clerc bwcio olaf i ben ym 1966 a diddymwyd swydd yr Orsaf Feistr ei hun ym 1967.<\/p>\n<div id=\"attachment_6886\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6886\" class=\"size-medium wp-image-6886\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-300x174.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"174\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-300x174.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-1024x595.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-768x446.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-1536x893.jpg 1536w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/DeganwyTicket-2048x1190.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-6886\" class=\"wp-caption-text\">Deganwy Railway Ticket<\/p><\/div>\n<p>Ym mis Hydref 1964, trosglwyddwyd E. John Roberts i Ddeganwy o Orsaf Glan Conwy oedd wedi cau. Roeddwn wedi bod yn gyfeillgar gyda John pan oedd yng Nglan Conwy ac roedd yn ddigon hapus i adael i mi \u201chelpu\u201d gan gynnwys dosbarthu tocynnau. Parhaodd yr arferiad hwn yn hapus ar brynhawniau Sadwrn am nifer o flynyddoedd. Roeddwn hefyd yn gallu dysgu&#8217;r system signalau bloc trwy ymweliadau \u00e2&#8217;r caban signal o dan arweiniad Eddie Eccles ac Ossie Jones, y ddau ddyn signal arferol a oedd yn gweithio&#8217;n gynnar ac yn hwyr yn eu tro. Gorsaf-feistr olaf Deganwy oedd Mr T. Glyn Jones, brodor o Brestatyn a oedd wedi bod yn Orsaf-feistr yr Hob a Phenyffordd, gorsaf a gaewyd yn Ebrill 1962. Roedd yn olynydd i Mr John Morris a fu yn ei swydd o 1947 hyd 1962. Yn frodor o Falltraeth, cafodd Mr Morris nifer o swyddi o amgylch Gogledd Cymru a bu wrth law yn Neganwy ar gyfer nifer o ymweliadau gan y tr\u00ean Brenhinol yn ystod ei gyfnod.<\/p>\n<p>Ym mis Gorffennaf 1946, ar \u00f4l treulio&#8217;r noson yn seidins y Cei, cludwyd y Brenin Si\u00f4r VI a&#8217;r Frenhines Elizabeth mewn car o du allan i&#8217;r orsaf i ymweld \u00e2 Chonwy. Ym mis Ebrill 1949 fe wnaed trefniadau tebyg yn Neganwy ar gyfer ymweliad y Dywysoges Elizabeth a Dug Caeredin \u00e2 Bangor a Blaenau Ffestiniog. Ym 1951 arhosodd tr\u00ean y Dywysoges Margaret ar y Cei dros ar adeg ei hymweliad \u00e2 Llandudno a Chonwy. Yn olaf, treuliodd tr\u00ean Dug Caeredin y bore ar Fehefin 1af 1956 yn y Cei cyn iddo adael am Fetws y Coed, a\u2019r achlysur oedd agor Plas y Brenin.<\/p>\n<p>Ar 26 Gorffennaf, 1956 cafwyd digwyddiad diddorol yn ystod amser Mr Morris: injan ysgafn o Landudno yn gwrthdaro ag un o\u2019r giatiau croesi, gan dorri un o\u2019r p\u00e2r yn racs. Roedd dynion y Ffordd Barhaol ar y safle yn gyflym i glirio&#8217;r malurion. Ni achoswyd unrhyw anafiadau a dim ymyrraeth i wasanaethau ac aeth yr injan ymlaen i&#8217;r Gyffordd.<\/p>\n<p>Lleihawyd troeon y ddau swyddog yn yr orsaf i shifft undydd ym 1977 ac erbyn canol yr 1980au nid oedd staff yno o gwbl.<\/p>\n<p>Bu Mr Glyn Jones a\u2019i deulu\u2019n byw yn Station House tan 1976 pan ymddeolodd o\u2019i swydd yn swyddfa bwcio Bae Colwyn ac ar \u00f4l cyfnod o esgeulustod cafodd adeiladau\u2019r orsaf eu dymchwel ar fore Sul yn Ebrill 1996.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Wendy Lonsdale<\/h5>\n<hr>\n<p><strong>Joseph Bayley, sylfaenydd Ysbyty Bryn y Neuadd<\/strong><\/p>\n<p>Ein siaradwr olaf oedd Dr Stephen Lockwood, cyn bennaeth y labordai morol yng Nghonwy. Mae Stephen yn aelod gweithgar iawn o Gr\u0175p Hanes Deganwy ac mae wedi rhoi sgyrsiau blaenorol ar bynciau mor amrywiol \u00e2 chregyn gleision, carthffosiaeth a gwyddoniaeth; Adeiladu Cychod ar Afon Conwy; Neuadd Benarth: Perchnogion, Deiliaid ac Ymwelwyr, a Chyffin Diwydiannol. Ei destun y tro hwn oedd gwasanaeth lloerig y 19eg ganrif, gan ganolbwyntio ar Joseph Bayley (1836-1913), sefydlydd Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, a\u2019i gyfraniad at agwedd fwy gofalgar.<\/p>\n<p>(<em>Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer sgwrs Stephen<\/em>)<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/JBByN.pdf\">Joseph Bayley, founder of Bryn y Neuadd Hospital<\/a><\/p>\n<p>Diolch yn fawr i Adrian, Philip a Stephen am eu sgyrsiau hynod ddiddorol. Bydd pawb oedd yno wedi gadael gyda gwybodaeth ddyfnach o\u2019r hyn sydd yn eu hardal leol \u2013 ac, yn achos sgwrs Adrian, oddi tano.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr hefyd i Diane, Wendy a Lucinda am ysgrifennu&#8217;r adroddiadau hyn ar gyfer y wefan hon.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfarfu\u2019r gr\u0175p yng Nghapel Peniel ar y 15fed o Chwefror 2024 a chroesawodd ein Cadeirydd ein siaradwyr am y noson. Noson \u201cSnippets\u201d oedd hon, lle cawn gyfres o sgyrsiau byrrach ar bynciau o ddiddordeb lleol. &nbsp; Mwynglawdd Copr T\u0177 Gwyn Siaradwr cyntaf y noson oedd Adrian Hughes. Mae Adrian yn aelod o Bwyllgor Gr\u0175p Hanes [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6876","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2024\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfarfu\u2019r gr\u0175p yng Nghapel Peniel ar y 15fed o Chwefror 2024 a chroesawodd ein Cadeirydd ein siaradwyr am y noson. Noson \u201cSnippets\u201d oedd hon, lle cawn gyfres o sgyrsiau byrrach ar bynciau o ddiddordeb lleol. &nbsp; Mwynglawdd Copr T\u0177 Gwyn Siaradwr cyntaf y noson oedd Adrian Hughes. Mae Adrian yn aelod o Bwyllgor Gr\u0175p Hanes [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-03-29T10:55:59+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/\",\"name\":\"Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg\",\"datePublished\":\"2024-02-22T15:14:52+00:00\",\"dateModified\":\"2024-03-29T10:55:59+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Snippets of History &#8211; 2024\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/snippets-of-history-2024\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History","og_description":"Cyfarfu\u2019r gr\u0175p yng Nghapel Peniel ar y 15fed o Chwefror 2024 a chroesawodd ein Cadeirydd ein siaradwyr am y noson. Noson \u201cSnippets\u201d oedd hon, lle cawn gyfres o sgyrsiau byrrach ar bynciau o ddiddordeb lleol. &nbsp; Mwynglawdd Copr T\u0177 Gwyn Siaradwr cyntaf y noson oedd Adrian Hughes. Mae Adrian yn aelod o Bwyllgor Gr\u0175p Hanes [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2024-03-29T10:55:59+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/","name":"Pigion Hanes - 2024 - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg","datePublished":"2024-02-22T15:14:52+00:00","dateModified":"2024-03-29T10:55:59+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/TyGwyn_Mine-300x200.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/snippets-of-history-2024\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Snippets of History &#8211; 2024"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6876","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6876"}],"version-history":[{"count":31,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6876\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6955,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6876\/revisions\/6955"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6876"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}