{"id":6926,"date":"2024-03-29T10:14:44","date_gmt":"2024-03-29T10:14:44","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=6926"},"modified":"2024-03-29T11:11:21","modified_gmt":"2024-03-29T11:11:21","slug":"joan-lady-of-wales","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/joan-lady-of-wales\/","title":{"rendered":"Siwan, Arglwyddes Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Ar ddechrau ein cyfarfod ym mis Mawrth cafwyd ennyd o dawelwch wrth i\u2019r aelodau cofio am fywyd Gwyn Hughes a fu farw yn gynharach yn y mis. Bu Gwyn yn aelod blaenllaw o\u2019r Gr\u0175p Hanes ers y cychwyn. Mae gan lawer o\u2019n haelodau h\u0177n atgofion a hanesion amdano a bydd pawb yn cofio ei waith aruthrol 10 mlynedd yn \u00f4l i goffau 70 mlynedd ers damwain Avro Anson yng Nghyffordd Llandudno, a\u2019i araith deimladwy iawn yn dilyn y Gwasanaeth Coffa 80 mlynedd yn Chwefror (gweler Y Pentan mis Mawrth a hanes y gwasanaeth coffa ar wefan y Gr\u0175p Hanes). Mae\u2019n drist iawn nad yw bellach gyda ni; collir ei hiwmor a&#8217;i swyn gymaint \u00e2&#8217;i sgiliau ymchwil ac yn bennaf ei gyfeillgarwch.<\/strong><\/p>\n<p>Testun ein sgwrs gan Diane Williams oedd hanes Siwan, Arglwyddes Cymru. Mae Diane yn Is-gadeirydd y Grwp Hanes. Bu\u2019n darlithydd ar y Gyfraith yng Ngholeg Llandrillo ac yn Ddarlithydd Cyswllt yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi&#8217;n awdur gwerslyfrau cyfreithiol ar gyfer Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yn gyfrannwr i gyfnodolion academaidd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys hanes cyfreithiol Cymru a merched yng Nghymru\u2019r canol-oesoedd &#8211; a rhoddwyd sylw i\u2019r ddau bwnc yn ei sgwrs.<\/p>\n<p>Roedd Siwan (Joan yn Saesneg) yn ferch i\u2019r Brenin John ac yn hanner chwaer i\u2019w olynydd, Harri III. Fe\u2019i ganed c. 1189 yng ngogledd Ffrainc, a chafodd ei hyfforddi o oedran cynnar i gyflawni bywyd dynes bendefig. Ym 1205 priododd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), tywysog Gogledd Cymru a rhyfelwr profiadol.<\/p>\n<div id=\"attachment_6928\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6928\" class=\"size-medium wp-image-6928\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-768x513.png 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales.png 954w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-6928\" class=\"wp-caption-text\">Joan. St Marys Church Trefriw<\/p><\/div>\n<p>Priodas wleidyddol oedd hon yn seiliedig ar gytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a\u2019r Brenin John ym 1204. Er gwaethaf y gwahaniaeth yn eu hoedran ac iaith mae&#8217;n ymddangos bod y briodas wedi bod yn llwyddiannus ar lefelau personol, dynastig a diplomyddol.<\/p>\n<p>Cafodd Siwan a Llywelyn mab, Dafydd, a aned ym 1211 ac o leiaf 3 o ferched. Cyn ei briodas, roedd Llywelyn wedi bod yn dad i nifer o blant, gan gynnwys Gruffydd, a aned ym 1199. O dan gyfraith Cymru, roedd gan blant anghyfreithlon hawliau etifeddiaeth, yn wahanol i Loegr a&#8217;r rhan fwyaf o Ewrop. Fodd bynnag, ar ei briodas \u00e2 Siwan, addawodd Llywelyn ddietifeddu Gruffydd, fel y byddai ei phlentyn hi yn etifedd yn hytrach na&#8217;i fab cyntaf-anedig.<\/p>\n<p>Nid oedd Siwan yn wraig eilradd o bell ffordd, ac mae sawl enghraifft ohoni yn cyfrannu at wleidyddiaeth a diplomyddiaeth Eingl-Gymreig. Er enghraifft, pan ymosododd y Brenin John ar Ogledd Cymru ym 1211, anfonodd Llywelyn Siwan i wneud heddwch ag ef. Ar \u00f4l marwolaeth John ym 1216, parhaodd Siwan i gynnal trafodaethau gyda\u2019i hanner brawd ifanc, Harri III.<\/p>\n<p>Mae haneswyr diweddarach wedi tueddu i gysgodi ei dylanwad oherwydd digwyddiad ym 1230. Ym 1228 roedd William de Braose (neu Gwilym Ddu) a oedd yn cael ei gas\u00e1u gan y Cymry oherwydd ei greulondeb honedig, wedi&#8217;i gymryd yn garcharor gan Llywelyn ac fe osodwyd pridwerth enfawr arno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn Llys Garth Celyn (Abergwyngregyn erbyn hyn) yn trefnu priodas ei ferch \u00e2 mab Llywelyn, pan ddarganfuwyd ef gyda Siwan \u2018yn siambr Llywelyn\u2019. Oherwydd y ffaith yr honnwyd bod merch Brenin Lloegr wedi\u2019i dal mewn \u2018flagrante delicto\u2019, achoswyd sgandal enfawr ledled Cymru, Lloegr ac Ewrop. Crogwyd William, yn Abergwyngregyn mae&#8217;n debyg, a charcharwyd Siwan. Fodd bynnag, roedd yn \u00f4l ar y llwyfan gwleidyddol ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae&#8217;n debyg oherwydd cryfder ei pherthynas \u00e2 Llywelyn neu ei hagosrwydd at Goron Lloegr a&#8217;i sgiliau diplomyddol.<\/p>\n<p>Bu farw Siwan yng Ngarth Celyn ym 1237 a chladdwyd hi yn y Priordy Ffransisgaidd yn Llanfaes ym M\u00f4n a sefydlwyd gan Llywelyn er anrhydedd iddi. Diflannodd tref Llanfaes pan ddaeth Edward I, nai Siwan, i adeiladu Castell Biwmares gan symud yr holl boblogaeth i Niwbwrch. Collwyd gweddillion Siwan pan ysbeiliwyd y priordy ym 1537 ar adeg y Diwygiad Protestannaidd. Ym 1808 darganfuwyd yr hyn y credir oedd ei harch yn cael ei ddefnyddio fel cafn ceffyl ger Biwmares. Darganfuwyd caead yr arch ynghyd \u00e2 delw o ferch frenhinol mewn wempl gerllaw, a chafodd y ddau eu hadleoli i gyntedd Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas ym Miwmares. Bu rhywfaint o ddadl yn ddiweddar ynghylch ai delw Siwan yw\u2019r ddelw mewn gwirionedd, ac mae\u2019n debyg na fyddwn byth yn gwybod yn sicr.<\/p>\n<p>Dywedwyd bod Llywelyn mewn galar enfawr ar farwolaeth ei wraig, a chafodd str\u00f4c yn fuan wedyn. Cymerodd urddau eglwysig ac ymddeolodd i Abaty Aberconwy &#8211; a oedd i\u2019w symud o Gonwy i Faenan, eto gan Edward 1 &#8211; a bu farw ym 1240.<\/p>\n<p>Roedd Siwan yn ddynes bwerus a weithredodd fel ceidwad heddwch a thrafodwr, a phriododd ei phlant er mantais wleidyddol, i deuluoedd mawreddog y Mers, Lloegr a\u2019r Alban. Yn wir, mae ei hiliogaeth frenhinol yn parhau wrth i Dywysog a Thywysoges Cymru bresennol olrhain eu hachau yn \u00f4l iddi hi a phlant Llywelyn.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Diolch i Diane am oleuo gwleidyddiaeth a chynllwynio\u2019r byd canoloesol hwyr ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol mewn cyfnod arbennig o ddiddorol mewn hanes, ac am daflu goleuni newydd ar ferch ryfeddol sy\u2019n haeddu cael ei chofio.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar ddechrau ein cyfarfod ym mis Mawrth cafwyd ennyd o dawelwch wrth i\u2019r aelodau cofio am fywyd Gwyn Hughes a fu farw yn gynharach yn y mis. Bu Gwyn yn aelod blaenllaw o\u2019r Gr\u0175p Hanes ers y cychwyn. Mae gan lawer o\u2019n haelodau h\u0177n atgofion a hanesion amdano a bydd pawb yn cofio ei waith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-6926","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/joan-lady-of-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar ddechrau ein cyfarfod ym mis Mawrth cafwyd ennyd o dawelwch wrth i\u2019r aelodau cofio am fywyd Gwyn Hughes a fu farw yn gynharach yn y mis. Bu Gwyn yn aelod blaenllaw o\u2019r Gr\u0175p Hanes ers y cychwyn. Mae gan lawer o\u2019n haelodau h\u0177n atgofion a hanesion amdano a bydd pawb yn cofio ei waith [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-03-29T11:11:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/\",\"name\":\"Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png\",\"datePublished\":\"2024-03-29T10:14:44+00:00\",\"dateModified\":\"2024-03-29T11:11:21+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Joan, Lady of Wales\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/joan-lady-of-wales\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History","og_description":"Ar ddechrau ein cyfarfod ym mis Mawrth cafwyd ennyd o dawelwch wrth i\u2019r aelodau cofio am fywyd Gwyn Hughes a fu farw yn gynharach yn y mis. Bu Gwyn yn aelod blaenllaw o\u2019r Gr\u0175p Hanes ers y cychwyn. Mae gan lawer o\u2019n haelodau h\u0177n atgofion a hanesion amdano a bydd pawb yn cofio ei waith [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/","og_site_name":"Deganwy History","article_modified_time":"2024-03-29T11:11:21+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/","name":"Siwan, Arglwyddes Cymru - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png","datePublished":"2024-03-29T10:14:44+00:00","dateModified":"2024-03-29T11:11:21+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/JoanLadyOfWales-300x200.png"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/joan-lady-of-wales\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Joan, Lady of Wales"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6926","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6926"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6926\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6957,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6926\/revisions\/6957"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6926"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}