{"id":7025,"date":"2024-09-24T20:10:08","date_gmt":"2024-09-24T19:10:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?page_id=7025"},"modified":"2024-09-24T20:10:08","modified_gmt":"2024-09-24T19:10:08","slug":"the-weird-world-of-lp-davies","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-weird-world-of-lp-davies\/","title":{"rendered":"Byd Rhyfedd LP Davies"},"content":{"rendered":"<p><strong>Roedd Ysgoldy Capel Peniel yn orlawn ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Gr\u0175p Hanes, er gwaethaf y tywydd braf tu allan. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r aelodau\u2019n gyfarwydd \u00e2\u2019n siaradwr, Kevin Slattery, gan ein bod yn ffodus i\u2019w gael fel Cadeirydd y Gr\u0175p. Ganed Kevin yn Plymouth i fam o Loegr a thad Gwyddelig; cwblhaodd y set genedlaethol pan briododd Joanna, sydd o dras Gymreig. Mae ganddo gefndir academaidd mewn ieithoedd gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Portiwgaleg\u2026 ac wrth gwrs Cymraeg. Mae hefyd yn ddarllenwr brwd, a dyna pam ei ddiddordeb yn y pwnc heno.<\/strong><\/p>\n<p>Roedd Leslie Purnell Davies, a ysgrifennodd hefyd o dan ffugenwau lluosog (gan gynnwys Leslie Vardre), yn awdur a oedd bob amser yn cwestiynu realiti. Ganed ef yn Crewe ar 24 Hydref 1914, a dechreuodd weithio mewn fferyllfa yn 16 oed, gan aros yno hyd 1939. Mae ei allu academaidd i&#8217;w weld trwy ei etholiad i fod yn Gymrawd o Gymdeithas Optegol Prydain.<\/p>\n<div id=\"attachment_7034\" style=\"width: 249px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7034\" class=\"size-medium wp-image-7034\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg\" alt=\"\" width=\"239\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg 239w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies.jpg 517w\" sizes=\"auto, (max-width: 239px) 100vw, 239px\" \/><p id=\"caption-attachment-7034\" class=\"wp-caption-text\">L P Davies<\/p><\/div>\n<p>Ar ddechrau&#8217;r Ail Ryfel Byd, ymunodd a&#8217;r Corfflu Meddygol ac fe&#8217;i hanfonwyd i Ffrainc i ddechrau, ac yna Gogledd Affrica gyda&#8217;r 8fed Fyddin. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd yn Rhingyll Staff yn yr Eidal, felly byddai wedi cael llawer o brofiadau trawmatig yn ystod ei wasanaeth. Bu&#8217;n byw yn Rhufain fel arlunydd am flwyddyn neu ddwy lle mae&#8217;n rhaid ei fod wedi bod yn dyst i\u2019r golygfeydd ofnadwy a\u2019r difrod a achoswyd gan fomio\u2019r ddinas.<\/p>\n<p>Ar 13eg Tachwedd 1940, priododd Davies Winifred Tench; ni wyddys llawer am ei bywyd oddieithr iddi farw yn fuan ar ei \u00f4l, a chladdwyd hwynt yn yr un fynwent yn Tenerife felly gellir tybied iddynt dreulio eu hoes gyda&#8217;i gilydd.<\/p>\n<p>Wedi ei gyfnod yn Rhufain, dychwelodd i&#8217;r DU a bu&#8217;n bostfeistr yn West Heath, Birmingham, o 1946 i 1951. Mae bwlch yn ei gofiant ar \u00f4l hyn, ond yn 1956 symudodd i Ddeganwy, gan sefydlu fel optometrydd preifat a rhedeg siop anrhegion. Roedd yn sicr yn gymeriad a braidd yn ecsentrig &#8211; roedd yn cas\u00e1u ffonau a cheir, ac yn gwrthod cael y naill na\u2019r llall, ond roedd ganddo \u2018wendid am pwdls, planhigion alpaidd a phopeth anarferol\u2019. Yn ystod ei gyfnod yn Neganwy y dechreuodd ysgrifennu straeon byrion, ac yna ystyried dod yn awdur llawn amser. Ei hoff fan gwaith oedd ei siop, ac, yn anarferol i awdur, mae&#8217;n debyg ei fod yn croesawu ymyrraeth gan gwsmeriaid.<\/p>\n<p>Ymddeolodd ym 1975, a symudodd i&#8217;r Ynysoedd Dedwydd gyda Winifred; bu farw yn Tenerife yn 1988. Gadawodd etifeddiaeth o tua 20 o nofelau, yn llawn dirgelwch, realiti amgen a ffuglen wyddonol. Disgrifiodd Kevin blotiau nifer o\u2019r nofelau hyn roedd yn dwyn i gof atgofion o\u2019r 1960au a\u2019r 70au (ysmygu mewn ysbytai, er enghraifft!) yn ogystal \u00e2\u2019r atseiniau \u00e2 diwylliant a gwleidyddiaeth heddiw. Gall y rhai sydd wedi\u2019u swyno gan ddisgrifiadau Kevin fenthyg y llyfrau drwy\u2019r gwasanaeth llyfrgell \u2013 dyma\u2019r rhai a drafododd, ynghyd \u00e2\u2019u dyddiadau cyhoeddi:<\/p>\n<ul>\n<li>Man Out Of Nowhere 1965<\/li>\n<li>The Artificial Man 1965<\/li>\n<li>Psychogeist 1966<\/li>\n<li>The Twilight Journey 1967<\/li>\n<li>The Alien 1968<\/li>\n<li>Genesis Two 1969<\/li>\n<li>Stranger To Town 1969<\/li>\n<li>The White Room 1969<\/li>\n<li>Give Me Back Myself 1972<\/li>\n<li>What Did I Do Tomorrow? 1973<\/li>\n<\/ul>\n<p>Addaswyd un llyfr, The Alien, yn ffilm Hollywood, The Groundstar Conspiracy, gyda George Peppard, Michael Sarrazin a Christine Belford yn serennu ym 1972 &#8211; fe welsom yr hysbyseb dramatig iawn, ac mae\u2019r ffilm lawn ar gael i\u2019w gwylio ar YouTube. Tynnodd Kevin sylw at y ffaith bod y ffilm yn cynnwys golygfa ystafell wely, er nad oedd yr un o lyfrau L.P. Davies yn gwneud hynny.<\/p>\n<div id=\"attachment_7035\" style=\"width: 194px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7035\" class=\"size-medium wp-image-7035\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/TheAlien-184x300.jpg\" alt=\"\" width=\"184\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/TheAlien-184x300.jpg 184w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/TheAlien.bmp 469w\" sizes=\"auto, (max-width: 184px) 100vw, 184px\" \/><p id=\"caption-attachment-7035\" class=\"wp-caption-text\">The Alien<\/p><\/div>\n<div id=\"attachment_7036\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7036\" class=\"size-medium wp-image-7036\" src=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/GroundstarConspiracy-300x184.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"184\" srcset=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/GroundstarConspiracy-300x184.jpg 300w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/GroundstarConspiracy-1024x627.jpg 1024w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/GroundstarConspiracy-768x470.jpg 768w, https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/GroundstarConspiracy.jpg 1275w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-7036\" class=\"wp-caption-text\">The Groundstar Conspiracy<\/p><\/div>\n<p>Dilynwyd y sgwrs gydag atgofion difyr gan rai o\u2019r rhai oedd yn bresennol &#8211; yn bennaf yn cofio\u2019r siop llawn mwg, gyda\u2019r awdur yn prysur deipio. Cadarnhawyd mai 35 Station Road oedd y siop &#8211; sef Siop Barbwr Nicola bellach &#8211; a&#8217;i fod yn byw yn T\u0177 Newydd, drws nesaf i Heron Rise, yr ochr arall i\u2019r ffordd.<\/p>\n<p>Diolch yn fawr i Kevin am dynnu ein sylw at gymeriad lleol mor ddiddorol, a\u2019i waith a\u2019i ddylanwad &#8211; noson anarferol iawn a fwynhawyd gan bawb.<\/p>\n<h5 style=\"text-align: right;\">Addasiad o adroddiad Lucinda Smith<\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd Ysgoldy Capel Peniel yn orlawn ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Gr\u0175p Hanes, er gwaethaf y tywydd braf tu allan. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r aelodau\u2019n gyfarwydd \u00e2\u2019n siaradwr, Kevin Slattery, gan ein bod yn ffodus i\u2019w gael fel Cadeirydd y Gr\u0175p. Ganed Kevin yn Plymouth i fam o Loegr a thad Gwyddelig; cwblhaodd y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"class_list":["post-7025","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.6 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-weird-world-of-lp-davies\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Roedd Ysgoldy Capel Peniel yn orlawn ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Gr\u0175p Hanes, er gwaethaf y tywydd braf tu allan. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r aelodau\u2019n gyfarwydd \u00e2\u2019n siaradwr, Kevin Slattery, gan ein bod yn ffodus i\u2019w gael fel Cadeirydd y Gr\u0175p. Ganed Kevin yn Plymouth i fam o Loegr a thad Gwyddelig; cwblhaodd y [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Deganwy History\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/\",\"name\":\"Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-24T19:10:08+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"The Weird World of LP Davies\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/\",\"name\":\"Deganwy History\",\"description\":\"Just another WordPress site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/the-weird-world-of-lp-davies\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History","og_description":"Roedd Ysgoldy Capel Peniel yn orlawn ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Gr\u0175p Hanes, er gwaethaf y tywydd braf tu allan. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r aelodau\u2019n gyfarwydd \u00e2\u2019n siaradwr, Kevin Slattery, gan ein bod yn ffodus i\u2019w gael fel Cadeirydd y Gr\u0175p. Ganed Kevin yn Plymouth i fam o Loegr a thad Gwyddelig; cwblhaodd y [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/","og_site_name":"Deganwy History","og_image":[{"url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/","name":"Byd Rhyfedd LP Davies - Deganwy History","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg","datePublished":"2024-09-24T19:10:08+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/L-P-Davies-239x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/the-weird-world-of-lp-davies\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"The Weird World of LP Davies"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/","name":"Deganwy History","description":"Just another WordPress site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7025","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7025"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7025\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7039,"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/7025\/revisions\/7039"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.deganwyhistory.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7025"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}