2016 Digwyddiadau cynnar

Roedd ymron cant yn bresennol yn ein cyfarfod ym mis Mawrth, llawer ohonynt yn aelodau o’r Grŵp Hanes, ond nifer fawr yn drigolion o Ddeganwy neu o leiaf, pobl efo atgofion am y pentref yn y 1940-50au. Atyniad y noson oedd cael hanes yr hen bwll nofio – y Lido – yn  Neganwy yn y cyfnod hwn. (Nos talgia!) Roedd Vicky Macdonald wedi paratoi cyflwyniad trwyadl a digrif am ddatblygiad y pwll fel atyniad, nid yn unig i’r pentref ond i ddalgylch helaeth o Ogledd Cymru a thu hwnt. Cafwyd hanes ei ddatblygiad a hefyd gweledigaeth Arthur Jones, y perchennog, i ddatblygu Deganwy fel canolfan hamdden o bwys. Roedd yr hen luniau yn dangos y safle, sef Traeth Melyn erbyn hyn, gyda chyn lleied o dai yn bodoli ar hyd y ffordd fawr i Landudno ar y pryd.

Lido

Agorwyd y pwll ym 1934 a’r cyhoeddusrwydd yn rhagweld 8,000 o ymwelwyr pob dydd yn yr haf. Cafwyd llawer o hwyl a chwerthin wrth i’r gynulleidfa son am eu hatgofion hwy o’r pwll nofio. Dyma lun o rai yn mwynhau eu hunain ger y pwll gyda’r Cynghorydd Betty Pattinson a chynrychiolydd o’r cylchgrawn ’She’ yn y crys blodeuog. Os oes gennych chi atgofion am y pwll nofio neu hen luniau, mi fydd Vicky yn falch iawn o glywed gennych.  Ar ddiwedd y noson darparwyd swper cregyn gleision i bawb gan ein cyfaill Richard Hughes o Rowen – diolch Richard.

Yn Chwefror daeth Meic Williams o Swydd Dorset atom i roi cipolwg ar fywyd ac amseroedd Owain Glyndŵr, gan olrhain hanes Cymru hyd at yr adeg pan ddaeth i’r bri fel y Cymro olaf i gael ei alw’n Tywysog Cymru ac am ei ymdrechion i uno’r wlad ac i ddod yn annibynnol o frenhiniaeth Lloegr.

New Bitmap Image

Mae Arddangosfa ein Diwrnod Agored yn parhau i gael ei arddangos yn y Bont, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno. Mynediad am ddim.

poster Image

Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 21ain Ebrill, gyda noson anffurfiol pan gaiff y gynulleidfa’r cyfle i ddangos beth maent yn gwybod am Bwyntiau Hanesyddol lleol? Dewch draw i brofi eich gwybodaeth leol ac i ddysgu am rai o bobl ag adeiladau enwocaf Deganwy.

Fe gynhelir ein cyfarfodydd yn Ysgoldy Capel Peniel Deganwy am 7pm ac mae croeso cynnes i bawb ymuno a ni. Cewch mwy o hanes am ddigwyddiadau’r Grŵp ar ein gwefan www.deganwyhistory.co.uk neu cysylltwch â’r Ysgrifennydd ar ei e-bost newydd  ifor42@gmail.com. Fel y gwelwch, mae gennym gyferbyniad da o ddigwyddiadau sydd o ddiddordeb cyffredinol i bawb. Rydym o hyd yn falch i groesawu aelodau newydd yn ogystal ag ymwelwyr i’r ardal. Mae tanysgrifiad aelodaeth am y flwyddyn yn parhau i fod yn £12 neu £2.50 am bob cyfarfod, yn cynnwys ’paned. Bargen!

Ifor

Web Design North Wales by Indever