Roedd Ysgoldy Capel Peniel yn orlawn ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Grŵp Hanes, er gwaethaf y tywydd braf tu allan. Roedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n gyfarwydd â’n siaradwr, Kevin Slattery, gan ein bod yn ffodus i’w gael fel Cadeirydd y Grŵp. Ganed Kevin yn Plymouth i fam o Loegr a thad Gwyddelig; cwblhaodd y set genedlaethol pan briododd Joanna, sydd o dras Gymreig. Mae ganddo gefndir academaidd mewn ieithoedd gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Portiwgaleg… ac wrth gwrs Cymraeg. Mae hefyd yn ddarllenwr brwd, a dyna pam ei ddiddordeb yn y pwnc heno.
Roedd Leslie Purnell Davies, a ysgrifennodd hefyd o dan ffugenwau lluosog (gan gynnwys Leslie Vardre), yn awdur a oedd bob amser yn cwestiynu realiti. Ganed ef yn Crewe ar 24 Hydref 1914, a dechreuodd weithio mewn fferyllfa yn 16 oed, gan aros yno hyd 1939. Mae ei allu academaidd i’w weld trwy ei etholiad i fod yn Gymrawd o Gymdeithas Optegol Prydain.
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ymunodd a’r Corfflu Meddygol ac fe’i hanfonwyd i Ffrainc i ddechrau, ac yna Gogledd Affrica gyda’r 8fed Fyddin. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd yn Rhingyll Staff yn yr Eidal, felly byddai wedi cael llawer o brofiadau trawmatig yn ystod ei wasanaeth. Bu’n byw yn Rhufain fel arlunydd am flwyddyn neu ddwy lle mae’n rhaid ei fod wedi bod yn dyst i’r golygfeydd ofnadwy a’r difrod a achoswyd gan fomio’r ddinas.
Ar 13eg Tachwedd 1940, priododd Davies Winifred Tench; ni wyddys llawer am ei bywyd oddieithr iddi farw yn fuan ar ei ôl, a chladdwyd hwynt yn yr un fynwent yn Tenerife felly gellir tybied iddynt dreulio eu hoes gyda’i gilydd.
Wedi ei gyfnod yn Rhufain, dychwelodd i’r DU a bu’n bostfeistr yn West Heath, Birmingham, o 1946 i 1951. Mae bwlch yn ei gofiant ar ôl hyn, ond yn 1956 symudodd i Ddeganwy, gan sefydlu fel optometrydd preifat a rhedeg siop anrhegion. Roedd yn sicr yn gymeriad a braidd yn ecsentrig – roedd yn casáu ffonau a cheir, ac yn gwrthod cael y naill na’r llall, ond roedd ganddo ‘wendid am pwdls, planhigion alpaidd a phopeth anarferol’. Yn ystod ei gyfnod yn Neganwy y dechreuodd ysgrifennu straeon byrion, ac yna ystyried dod yn awdur llawn amser. Ei hoff fan gwaith oedd ei siop, ac, yn anarferol i awdur, mae’n debyg ei fod yn croesawu ymyrraeth gan gwsmeriaid.
Ymddeolodd ym 1975, a symudodd i’r Ynysoedd Dedwydd gyda Winifred; bu farw yn Tenerife yn 1988. Gadawodd etifeddiaeth o tua 20 o nofelau, yn llawn dirgelwch, realiti amgen a ffuglen wyddonol. Disgrifiodd Kevin blotiau nifer o’r nofelau hyn roedd yn dwyn i gof atgofion o’r 1960au a’r 70au (ysmygu mewn ysbytai, er enghraifft!) yn ogystal â’r atseiniau â diwylliant a gwleidyddiaeth heddiw. Gall y rhai sydd wedi’u swyno gan ddisgrifiadau Kevin fenthyg y llyfrau drwy’r gwasanaeth llyfrgell – dyma’r rhai a drafododd, ynghyd â’u dyddiadau cyhoeddi:
Addaswyd un llyfr, The Alien, yn ffilm Hollywood, The Groundstar Conspiracy, gyda George Peppard, Michael Sarrazin a Christine Belford yn serennu ym 1972 – fe welsom yr hysbyseb dramatig iawn, ac mae’r ffilm lawn ar gael i’w gwylio ar YouTube. Tynnodd Kevin sylw at y ffaith bod y ffilm yn cynnwys golygfa ystafell wely, er nad oedd yr un o lyfrau L.P. Davies yn gwneud hynny.
Dilynwyd y sgwrs gydag atgofion difyr gan rai o’r rhai oedd yn bresennol – yn bennaf yn cofio’r siop llawn mwg, gyda’r awdur yn prysur deipio. Cadarnhawyd mai 35 Station Road oedd y siop – sef Siop Barbwr Nicola bellach – a’i fod yn byw yn Tŷ Newydd, drws nesaf i Heron Rise, yr ochr arall i’r ffordd.
Diolch yn fawr i Kevin am dynnu ein sylw at gymeriad lleol mor ddiddorol, a’i waith a’i ddylanwad – noson anarferol iawn a fwynhawyd gan bawb.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever