Mynwent St. Tudno ar y Gogarth yn Llandudno .
Erthygl gan Adrian Hughes
Yn yr 1890au roedd y dref yn rhedeg allan o le yn y ddwy fynwent yn y dref a bu’n rhaid chwilio am safle newydd. Penderfynwyd ar y tir ger mynwent Eglwys Tudno Sant ac fe agorwyd y mynwent newydd yn swyddogol ym 1903. Dangoswyd cerdyn post o’r fynwent yn y cyfnod ac arno’r ysgrifenwyd ‘Wish you were here!’
Dyma hanes tri a gladdwyd yn y fynwent.
2. Llewelyn Roberts (1882-1939). Gŵr o Landudno. Ar ôl gadael yr ysgol yn y dref a chael cyfnod byr o hyfforddiant peirianyddol, ymunodd a Chwmni Cunard pan yn 23 mlwydd oed. Dyma ddechrau ar ei yrfa yn y Llynges Masnach, gyrfa o 35 o flynyddoedd lle bu’n gweithio ar rai o longau enwocaf y cyfnod megis y Mauretania a’r Lusitania. Yn y Rhyfel Byd 1af cafodd y comisiwn o fod yn Ddirprwy Comander Peirianyddol yn y Llynges Frenhinol Wrth Gefn ac ef oedd y peiriannydd ar yr Andania pan gludwyd y milwyr i Sulva Bay ar adeg Brwydr Galipoli. Ym 1918 ymosododd llong danfor ar yr Andania oddi ar arfordir Iwerddon ac roedd Llewelyn ymysg y 230 o bobl a achubwyd.
Ym 1933 ef oedd y prif beiriannydd ar brif long newydd Cwmni Cunard sef Queen Mary ar ei fordaith gyntaf o Southampton. ‘Roedd Llewelyn ar y Queen Mary unwaith eto pan lwyddwyd i ennill Gwobr Blue Riband – Hales am y daith cyflymaf dros Fôr Iwerydd tua’r gorllewin. Cyrhaeddwyd cyfartaledd cyflymdra o 30.63 not. Yn Llandudno fe benderfynwyd anrhydeddu Llewelyn am ei orchestion a sefydlwyd cronfa i bobl y dref cyfrannu tuag at faromedr aneroid i gyflwyno iddo ac fe wnaed hyn mewn seremoni yn Theatr y Palladium yn y dref lle bu 2000 o bobl yn bresennol – pawb yn chwifio baneri ac yn morio canu “For he’s a jolly good fellow”!
Ym 1936, dechreuodd cwmni Cunard White Star ar y gwaith o adeiladu prif long newydd y cwmni sef Queen Elizabeth a Llewelyn Roberts oedd yn gyfrifol am y propelorau.. Bu farw yn sydyn ym 1939 cyn iddi gael ei lansio. Derbyniodd yr anrhydedd o’r CBE am ei wasanaeth i’r llynges fasnachol Brydeinig
Ym mis Medi 1917 bu’n gwrando ar achos Henry Thomas o Ferthyr oedd yng ngharchar Dartmoor am wrthod mynd i ryfel. Rhyddhaodd y carcharor gan ddweud bod arian wedi cael ei wastraffu yn dwyn achos yn erbyn “yr heddychwr ifanc hwn” ac na fyddai “werth dim” i’r fyddin ac na fyddai buddugoliaeth yn dod awr ynghynt hyd yn oed os oedd yna filiwn o wrthwynebwyr cydwybodol.
Fel llenor, ysgrifennodd dwy gyfrol o farddoniaeth sef ‘Murmuron Menai’ ac ‘O Fôr i Fynydd’ yn ogystal â chomedi Cymraeg ‘Y Bardd a’r Cerddor’. Bu farw ym 1936 ac fe’i claddwyd ar y Gogarth gyda’i frawd Ifor a fu farw ym 1916 yn 49 mlwydd oed.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever