16eg Mawrth 2017 ……
Roedd nifer fawr o bobl yn bresennol yn ein cyfarfod diwethaf ar 16eg Mawrth pan ddaeth 3 aelod o’r Grŵp ymlaen i barhau’r traddodiad o gyflwyno sgyrsiau byr anffurfiol – ac arbennig o hwyliog unwaith y flwyddyn i aelodau a ffrindiau.
Y gyntaf i ddod ymlaen oedd Lucinda Smith, a’i thestun oedd ‘The Conwy Affray – Ffetherbedds and ffrying panns’.
Roedd hwn yn seiliedig ar ddogfennau archifol oedd yn disgrifio sgandal yng Nghonwy yn y 16eg canrif, yn ymwneud a honiadau o drais, carcharu ar gam, lladrata, cribddeiliaeth, – a llusgo rhywun allan o Eglwys y Santes Fair yn y dref gerfydd ei gwallt! Yr un a chafodd ei gyhuddo oedd Thomas Salisbury, Cwnstabl Castell Conwy, a’r rhai oedd yn ei gyhuddo oedd Bwrdeiswyr y dref. Cynhaliwyd yr achos yn Siambr y Seren ym Mhalas San Steffan, Llundain gan Cardinal Thomas Wolsey.
Dangosodd Lucinda delweddau o’r dogfennau sydd i’w gweld yn Archif Conwy ac yn yr Archif Genedlaethol oedd yn rhoi’r achos ar ran y ddwy ochr. Yn anffodus nid yw’r dogfennau yn cyfeirio at ganlyniad yr achos ond mae Lucinda yn bwriadu parhau i ymchwilio gan obeithio darganfod diweddglo’r hanes canlyniad (os nad y gwirionedd) rhyw ddydd.
Yna cafwyd sgwrs ddarluniadol gan Elan Rivers am siop Wartski y Gemydd yn Llandudno.
Daeth Morris Wartski i Ogledd Cymru o’r ardal sydd ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Rwsia, efallai i ddianc rhag y pogromau gwrth-Iddewig . Sefydlodd siop ym Mangor ym 1865 gan fynd o gwmpas yr ardal yn trwsio watsiau a chlociau. Ar ôl iddo sefydlu ei hun ym Mangor, symudodd i Landudno gan agor siopau gemwaith a dilladaeth yn Stryd Mostyn. Ym 1911 sefydlodd siopau yn Bond Street a Regent Street yn Llundain. Priododd ei ferch ag Emmanuel Snowman, sef mab un oedd yn gweithio yng ngweithdy Faberge yn Rwsia. Yn dilyn y Chwildro yn Rwsia ym 1917, galluogwyd i’r teulu prynu gemwaith a thrysorau eraill a atafaelwyd gan y llywodraeth. Ymysg ei gwsmeriaid oedd y 5ed Marcwis ecsentrig o Ynys Môn, Bing Crosby a Jackie Kennedy. Caewyd siop olaf Wartski yn Llandudno ym 1973 ond gellir gweld yr enw mewn mosäig yn y fynedfa i siop Goldsmiths yn y dref. Mae’r brif siop yn Llundain yn parhau i fod yn fusnes teuluol llewyrchus. Mae Wartski wedi ymdrin â gwerthiant nifer o wyau enwog Faberge, 43 ohonynt a adfeddiannid ers i’r gweithdai cau.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, prynwyd un yn ddiarwybod gan ddeliwr am $14,000 – pan sylweddolodd beth oedd, fe’i gwerthwyd am £33m.
Mae saith o wyau Faberge dal i fod ar goll, felly ewch i chwilio amdanynt!
Gwyn Hughes roddodd y sgwrs olaf, ac aeth a ni am dro diddanus iawn i lawr Lôn Atgofion – neu efallai Lôn Marl dylai hon fod. Dangosodd Gwyn luniau o Ddeganwy fel y bu ac fel y mae rŵan a chafwyd llawer o gyfranogiadau gan y gynulleidfa wrth i bobl rhannu eu gwybodaeth a’u hatgofion. Dangoswyd lluniau awyr o Doc Deganwy ym 1951 ac ym 1980, yn cynnwys y seidin lle arhosodd y Brenin a’r Frenhines dros nos ar adeg eu hymweliad a’r pentref ym 1946.
Yna dangoswyd llun o grŵp o ddynion o Wersyll Carcharorion Rhyfel , a llun mwy diweddar o’r union yr un fan. Fel y gwelir, mae’r postyn ar y chwith yn y llun yn dal i fodoli. Bu’r Gwersyll yn parhau i gael ei ddefnyddio am nifer o flynyddoedd ar ôl y rhyfel gyda llawer o’r Carcharorion Rhyfel yn gweithio ar y tir. Bu i nifer ohonynt ymgartrefu yn lleol, yn cynnwys Jozef Kosik sydd i’w weld yn y llun – mae’r teulu yn dal i fyw yn yr ardal.
Mewn llun awyr o’r gwersyll a dynnwyd ym 1952, dangosodd Gwyn goedwig fach rhwng y tai newydd ger Bryn Estyn, sy’n dangos chwarel cudd preifat – a chyfeiriodd at y ffaith i rywun oedd yn garddio gerllaw darganfod darn o drac rheilffordd! Dangoswyd hefyd ardal hen Ysgol Woodlands yn Lôn Marl a’r caeau gerllaw ymhell cyn i’r A470 newydd i Landudno cael ei hadeiladu.
Bydd lawer mwy o luniau i’w gweld yn arddangosfa ein Diwrnod Agored yn Rhagfyr, ond yn y cyfamser os gallwch gynnig gwybodaeth ychwanegol i’r sgyrsiau hyn, cysylltwch â ni – byddem yn falch iawn i glywed gennych.
Addasiad o adroddiad Lucinda Smith
Latest Research
Web Design North Wales by Indever