Bywyd ac Amseroedd Archesgob John Williams

Daeth oddeutu 30 o aelodau i gyfarfod cyntaf y flwyddyn ar 19eg Ionawr. Ein siaradwraig oedd Vicky Macdonald, Ysgrifennydd y Grŵp Hanes a thestun eu sgwrs oedd hanes yr Archesgob John Williams (1582 – 1650). Mae Vicky wedi gwneud gwaith ymchwil am y cymeriad pryfoclyd hwn ar gyfer ei chyfrol ddiweddaraf a gyda phawb yn eistedd yn gysurus yn ysgoldy Capel Peniel aeth a ni trwy’r hanes diddorol am ei chanfyddiadau. Dyma grynodeb o’r sgwrs

Ganed John Williams yng Nghonwy ym 1582, yn aelod o deulu Wynn. Roedd y teulu’n byw yn Parlwr Mawr, Stryd y Capel a ddymchwelwyd ym 1950. Bu farw ei fam pan roedd John yn dair oed a phan roedd yn chwech oed anfonwyd ef i Ysgol Fonedd Rhuthun lle y treuliodd y deng mlynedd nesaf o’i fywyd. O oedran cynnar roedd yn amlwg ei fod yn hynod o ddawnus ac ym 1598 aeth i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Yn ddiweddarach, fe waddolwyd llyfrgell i’r Coleg ganddo.

Parlwr Mawr, Conwy (Conwy Archives)

Ym 1605, ac yntau yn dair ar hugain oed, ymunodd John a’r eglwys. Ei fywoliaeth gyntaf oedd Honnington yn Suffolk lle gwaddolodd nifer o ysgoloriaethau – patrwm a ddilynodd ble bynnag yr aeth. Cododd yn gyflym trwy rengoedd y clerigwyr, gan ddod yn ficer Walgrave ym 1614, ac yna cafodd ei benodi gan y Brenin Iago 1af yn Ddeon Westminster ym 1620 ac Arglwydd Esgob Lincoln ym 1621. Yna daeth yn Arglwydd Geidwad Sêl Fawr Lloegr, yn uwch farnwr ac yn Arglwydd Ganghellor. Roedd bellach yn ffigwr pwerus yn y byd cyfreithiol ac eglwysig. Efe a waddolodd y Llyfrgell yn Abaty Westminster a darparodd lawer o’r llyfrau.

Bu farw’r Brenin Iago 1af, a oedd wedi cefnogi gyrfa John, ym 1625. Ymddengys bod y berthynas rhwng John â’r brenin newydd, Siarl 1af wedi bod dan straen. Diddymwyd y Sêl Fawr oddi ar John gan y Brenin ac fe’i halltudiwyd o’r llys. Enciliodd John i Buckden ger Caergrawnt, palas Esgobion Lincoln a lanwodd ef ag israddedigion ieuainc o Gaergrawnt. Parhaodd â’i weithredoedd da ac fe adeiladodd ardd brydferth yn Buckden. Fodd bynnag, cafodd ei gyhuddo o frad am roi cyngor penodol mewn achos llys, a chafodd ddirwy o £10,000 ac fe’i carcharwyd am dair blynedd yn Nhŵr Llundain. Efallai mai dylanwad yr Archesgob Laud oedd yn gyfrifol am hyn.

Wedi iddo gael ei ryddhau o’r Tŵr, parhaodd perthynas John â’r Brenin i fod dan straen er iddo gael ei benodi’n Archesgob Efrog. Ar ddechrau Rhyfel Cartref Lloegr gofynnodd John i Siarl am lwybr diogel er mwyn iddo gael dychwelyd i Gonwy a gwarchod y Castell i’r Brenhinwyr. Caniatawyd y cais hwn. Er mwyn sicrhau bod nwyddau gwerthfawr y tirfeddianwyr lleol yn cael eu cadw’n ddiogel, trefnodd John i’w cadw oddi mewn i’r Castell. Fodd bynnag, cafodd John ei ddiswyddo fel Llywodraethwr y Castell ym 1644 pan benodwyd Syr John Owen yn Llywodraethwr gan Rupert o Rhein, cadlywydd y Brenhinwyr. Aeth John i fyw i Gochwillan, ger Talybont, a deisyfodd ar y Brenin i ddychwelyd nwyddau’r tirfeddianwyr ond aflwyddiannus fu ei ymdrechion.

Archbishop John Williams

Cafodd y Brenhinwyr golledion mawr dros y ddwy flynedd nesaf ac ym 1646 mewn cyfarfod cyfrinachol gyda chadfridogion Seneddol Gwydir newidiodd John Williams ochr. Yr oedd yn awr yn cefnogi’r Seneddwyr. Dechreuodd yr ymosodiad ar Gonwy. Daliodd Syr John Owen y castell am dri mis ond disgynnodd y dref i’r Seneddwyr. Disgrifiodd ein siaradwraig y barbareiddiwch a achoswyd gan y Seneddwyr a phregeth rymus John Williams yn Eglwys y Santes Fair, lle y dyfynnodd Salm 144 i hyrwyddo dinistrio gelynion.

Pan ildiodd Syr John Owen y Castell i’r Seneddwyr yn y diwedd, ysgrifennodd John at Cromwell yn gofyn am ddychwelyd nwyddau i’r tirfeddianwyr. Caniatawyd hyn. Fodd bynnag, roedd llawer yn ystyried John yn fradwr. Effeithiwyd yn ddrwg arno gan ddienyddiad Siarl 1 ac mewn dyled ymddeolodd i Gloddaeth lle treuliodd ei ddyddiau olaf. Bu farw ym 1650, yn 68 oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Llandegai.

Roedd hwn yn sgwrs hynod ddiddorol. Fe werthfawrogwyd y gwaith ymchwil helaeth a wnaed gan Vicky ynghyd a’i chasgliad o sleidiau am fywyd ac oes John Williams yn fawr iawn gan y gynulleidfa . Edrychwn ymlaen at y llyfr….

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Web Design North Wales by Indever