Brwdfrydedd yn Niwrnod Agored Blynyddol 2017 y Grŵp Hanes
Fe ddenwyd nifer fawr o ymwelwyr i’n harddangosfa ddwyieithog a gynhaliwyd dydd Sadwrn, 2il Rhagfyr yn Ysgoldy Capel Peniel, Ffordd Tŷ Mawr, Deganwy. Cafwyd llif cyson o bobl trwy’r dydd ac ymysg yr ymwelwyr oedd Maer a Maeres Cyngor Tref Conwy (Y Cynghorydd Bill Chapman a Mrs Pat Chapman). Paratowyd yr Arddangosfa gan Adrian Hughes sy’n aelod o Bwyllgor y Grŵp. Thema’r arddangosfa eleni oedd fel a ganlyn:
‘Ieuenctid Deganwy’ – Casgliad o hen luniau o’r Cadlanciau Morol lleol, y Sgowtiaid; Breninesau Mai a dyddiau ysgol.
‘Enwogion Deganwy’ – Hanes yr artistiaid tirlun Joshua Anderson Hague a Frank William Longshaw; Arthur Smith y gwesteiwr a Rhyddfreiniwr y Fwrdeistref; Percy Thompson Dean VC.
‘Deganwy a’r Rhyfel Byd Cyntaf’ – Hanes gwersyll Deganwy a’r straeon yn ymwneud a’r pentref rhwng 1914-1919 yn cynnwys y ‘Bantams’ y Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’r defnydd o’r gwersyll gan y Peirianwyr Brenhinol yn ddiweddarach. Cynhwyswyd hefyd, eitemau am y Ffrynt Cartref megis casglu migwyn, ffoaduriaid o Wlad Belg, Carcharorion Rhyfel Almaeneg ym Mryn Lupus, Cartref Edward Malam a’r dathliadau i nodi diwedd y rhyfel.
‘Deganwy trwy’r Tymhorau’ – Casgliad o luniau yn dangos y pentref ar adegau o stormydd ag eira.
Dangoswyd hefyd, casgliad o nifer o lyfrau, mapiau a ffotograffau o’r ardal leol allan o archif y Grŵp. Roedd yr ymwelwyr yn hapus iawn yn rhannu eu storïau personol eu hunain am fywyd yn y pentref yn ystod eu hieuenctid a daeth nifer ohonynt a lluniau gyda hwy i’w sganio neu i’w cyflwyno i’r archif.
I ychwanegu at yr achlysur cawsom ymweliad gan Siôn Corn ac roedd lluniaeth ar gael i bawb trwy’r dydd.
Roedd llwyddiant yr achlysur i’w weld yn y swm anrhydeddus a godwyd o’r raffl a’r lluniaeth, yn ogystal â’r aelodau newydd a gofrestrwyd.
Os na chawsoch y cyfle i weld yr arddangosfa, gellir ei weld yn Nerbynfa Adeilad Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ o ddydd Llun 22ain Ionawr hyd at ddydd Gwener 2il Chwefror 2018.
_____
Cynhelir cyfarfod cyntaf 2018 y Grŵp am 7pm ar Ionawr 18fed pan fydd Mrs Morgan Burgess yn dod atom i roi hanes y Normaniaid yng Ngogledd Cymru. Croeso cynnes i bawb ymuno a ni yn Ysgoldy Capel Peniel Deganwy. Y tâl aelodaeth am y flwyddyn yw £12 ond bydd y rhai nad ydynt yn aelodau yn talu £2.50 wrth y drws – mae hyn yn cynnwys ‘paned!
Latest Research
Web Design North Wales by Indever