Trip Blyneddol 2016

Daeth tua 20 o aelodau’r Grŵp draw i Gastell Gwydir ar bnawn braf ym mis Gorffennaf i gael ein  tywys o gwmpas y Castell a’r gerddi gan Judy Corbett, perchennog y Castell.

Gwydir

Maenordy caerog yw’r “castell” a fu’n eiddo i un o deuluoedd mwyaf pwerus Cymru yn y 15fed a’r 16eg ganrif, sef teulu Wynn. Roedd y teulu yn ddisgynyddion o Dywysogion Cymru a rhyw bryd cyn 1500, fe brynwyd Gwydir gan Maredudd ap Ieuan ap Robert, a oedd yn byw yng Nghastell Dolwyddelan.

Dros y canrifoedd roedd gan y teulu dylanwad gwleidyddol cryf a chysylltiadau agos gyda llinach frenhinol y Stiwartiaid yn ogystal â chysylltiadau tramor yn Ewrop. Pan ddymchwelwyd Abaty Maenan ar adeg datgysylltu’r mynachdai, cafodd Syr John Wynn caniatâd i brynu maint sylweddol o gerrig o’r Abaty er mwyn adeiladu Gwydir.

Fe wnaed llawer o waith da gan deulu’r Wynn yn yr ardal, yn cynnwys adeiladu’r elusendai  a’r bont yn Llanrwst. Robert Wynn fu’n gyfrifol am ddechrau’r gwaith o adeiladu Plas Mawr yng Nghonwy ym 1525 ac ysgrifennwyd hanes y teulu gan un arall o’r teulu.

Adeiladwyd Capel Gwydir Uchaf ym 1673 gan Syr Richard Wynn fel cofeb i deulu Wynn.  Priododd ei ferch gyda’r Arglwydd Willoughby de Eresby o Swydd Lincoln, Dug 1af Ancaster ac o ganlyniad i hyn bu Gwydir yn wag am gyfnod maith a diriwyd dylanwad y teulu yn yr ardal. Yn dilyn  tân ar y safle, fe gliriwyd y gweithdai o fframwaith coed oedd o amgylch y cwrt. Fe ddifrodwyd rhan o’r tŷ gan dân yn ddiweddarach ond ym 1828 cafodd yr adeilad ei ailwampio gan Charles Barry, y gŵr a adeiladodd Palas San Steffan.

Ym 1896 fe werthwyd Gwydir i’r Arglwydd Carrington, eto o swydd Lincoln ac yn un o gefndryd y perchennog ar y pryd. Yn ddiweddarach, gwerthwyd i Randolph Hearst, yr Americanwr enwog a barwn papurau newydd, cynnwys dau ran mewnol o’r adeilad, sef, yn gyntaf, panelau’r ystafell bwyta o gyfnod y Stiwartiaid ac yn ail, cynnwys yr ystafell dderw.

Elan M. Rivers

 

 

Web Design North Wales by Indever