Taith Gerdded Deganwy – Rhan 2

Roedd yn noson braf o haf pan ddaeth oddeutu 25 o Aelodau’r Grŵp Hanes at ei gilydd ger Eglwys yr Holl Saint I gwblhau’r daith o amgylch Deganwy dan arweiniad Adrian Hughes. Cyn cychwyn ar y daith, cawsom ddathlu ailenwi ‘Llwybr 17’ yn ‘Llwybr Betty’.

Roedd Betty Mills yn ddylunydd tecstilau, yn ddarlunydd blodau gwyllt, yn wniadyddes ag yn athrawes. Pan oedd yn byw yn Neganwy, crëwyd dyddiadur darluniadol ganddi o’r planhigion oedd i’w gweld yn tyfu ar lethrau’r Fardre ac yn benodol, ar ochr y llwybr oedd yn teithio ar ei hyd bob diwrnod. Cyflwynodd Betty ei llyfr i Grŵp Hanes Deganwy ac rydym wedi ei gyhoeddi ‘Flowers on a Path’ ac mae copïau ar gael gan aelodau’r Grŵp.

Yn ddiweddar, gosodwyd dau bostyn nodi llwybr cerfiedig hardd ar bob pen o’r llwybr i arddangos yr enw newydd “Llwybr Betty/Bettys Path”. Roedd nifer o aelodau wedi paratoi teisennau blasus iawn a diodydd oer i ddathlu’r digwyddiad.

Maer Conwy, Cynghorydd Goronwy Edwards gyda Chadeirydd y Grŵp Hanes, Vicky Macdonald yn barod i dorri’r rhuban i agor y llwybr yn swyddogol.

I ddechrau’r daith, aeth Adrian a ni tuag at y ffordd fawr i glywed Cadetiaid Mor Sir Conwy yn codi eu baner i ddechrau eu cyfarfod. Yna dangoswyd i ni safle’r Hen Eglwys St James a adeiladwyd ym 1880 am y swm o £800 gyda gwaith gwirfoddolwyr lleol. Fe’I defnyddiwyd yn gyntaf fel Ysgol Eglwysig I’r plant lleol.

Oherwydd y twf ym mhoblogaeth Deganwy, fe aed ati i adeiladu Eglwys yr Holl Saint ar y sale a roddwyd gan yr Arglwydd Mostyn, a’i fam, y Fonesig Henrietta Augusta Mostyn a dalodd am yr holl gostau er cof am ei rhieni, Iarll ac Iarlles y Fenni. Cafodd yr adeilad ei gysegru gan Esgob Llanelwy ar Ddiwrnod yr holl Saint, 1af Tachwedd 1899.

Yna dychwelwyd at Lwybr Betty ac wrth gerdded ar ei hyd roeddem yn ceisio adnabod y planhigion o’n copïau o ‘Flowers on a Path’. Roedd rhai o’r cerddwyr yn fwy llwyddiannus nag eraill!

Ar ôl gadael Llwybr Betty, aethom ymlaen ar hyd Park Drive i Ysgol Deganwy. Agorwyd yr Ysgol ym Medi 1939 a’r prif athro cyntaf oedd un o arwyr lleol y rhyfel, Albert Nevitt. Roedd Nevitt yn athro yn Neganwy cyn y rhyfel byd cyntaf ac fe wirfoddolodd i’r fyddin ar ddechrau’r rhyfel. Llwyddodd i esgyn trwy’r rhengoedd gan ddod yn swyddog comisiwn gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn anffodus cafodd anaf difrifol ym 1916 wrth iddo arwain ymosodiad ar y gelyn. Ar ôl iddo gael ei ryddhau, daeth yn swyddog hyfforddi yng Ngwersyll Cinmel ger Bodelwyddan. Yma hefyd amlygodd ei ddewrder trwy achub bywydau nifer o recriwtiaid trwy waredu grenadau oedd wedi cael eu taflu ar gam i’r ffosydd ymarfer. Wedi’r rhyfel, dychwelodd i Ddeganwy i ddysgu.

Pan agorwyd Ysgol Deganwy ym 1939, fe ddywedir I Albert Nevitt cael ei ddisgyblion i gludo eu desgiau o Ysgol, Eglwys St James I’r Ysgol newydd i wneud yn siŵr nad oedd am gael ei feddiannu ar gyfer y rhyfel.

Wrth gerdded i lawr Allt Pentywyn, arhoswyd y tu allan i siop newydd y Co-op i gael hanes y ‘Farmers Arms’ a fu ar y safle tan ychydig o flynyddoedd yn ôl. Ymhellach I lawr yr allt, arhoswyd y tu allan i dafarn y ‘Castle View’, oedd yn adnabyddus i’r trigolion lleol fel ‘Maggie Murphys’ gyda’r arwydd yn y maes parcio ‘Please Park Prettily’. Yn wreiddiol, roedd yn dafarn i newid ceffylau gyda cheffylau newydd yn cael eu cadw yn stablau’r fferm gyferbyn. Daw’r enw Maggie Murphy o ferch y landlord, Margaret Pritchard a fyddai’n canu’r gân ‘Maggie Murphy’ i’r cleifion oedd yn aros yn y cartrefi ymadfer gerllaw: Cartref Edward Mallam yn Warren Drive ag Ysbyty Cronfa Dydd Sadwrn Birmingham y Nhy’n y Coed.

Wrth groesi maes [parcio’r dafarn, cyrhaeddwyd Ffordd Tŷ Mawr ac arhoswyd am ychydig i gael hanes yr Hen Berlfa, tŷ sydd gyferbyn a’r Gyffordd a Stryd Stamford. Mae enw’r tŷ yn cyfeirio at y diwydiant perlau oedd yn cael ei gynnal yn y cyffiniau ag ar lan yr afon. Bu Dr Willoughby Gardner, archeolegydd ac entomolegydd enwog, a llywydd cyntaf Clwb Gerdded Llandudno, Bae Colwyn a’r Ardal. Cymynroddwyd ei gasgliad o lyfrau I Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dilyn ei farwolaeth.

Ychydig pellach ar hyd Ffordd Tŷ Mawr, cyrhaeddwyd Capel Peniel, sydd yn gartref I Grŵp Hanes Deganwy. Adeiladwyd y Capel Presbyteraidd Cymraeg ym 1884 a heddiw mae’r Capel yn cael ei ddefnyddio gan nifer o fudiadau yn yr ardal.

Wrth barhau i ni barhau ar hyd Ffordd Tŷ Mawr, daethom ar draws ‘Vardre’ sef tŷ a fu ar un adeg yn gartref i’r arlunydd Joshua Anderson Hague, un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol Gymreig (RCA) ym Mhlas Mawr, Conwy. Erbyn hyn cafodd y safle ei ddatblygu gyda fflatiau. Yn anffodus nid ydynt yn debyg o gwbl i’r tŷ gwreiddiol. Ym mhen pellaf Ffordd Tŷ Mawr, mae Bryn Cregyn, a fu’n gartref ar un adeg i’r Capten Henry Haynes. Dywedir iddo wneud ei ffortiwn o’r fasnach opiwm yn Tsiena. Troswyd y tŷ gwreiddiol i fod yn westy oedd ym mherchnogaeth teulu Pilkington ar un adeg. Dywedir ei bod wedi gosod llawr gwydr yn yr ystafell ddawnsio. Unwaith troswyd yr adeilad gwreiddiol i fiod yn fflatiau.,

Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar iawn i Adrian am ein harwain o gwmpas yr ardal ddiddorol hon o Ddeganwy a dangos i ni safleoedd gymaint o adeiladau diddorol nad ydyn yna mwyach. Roedd yn braf hefyd clywed hanesion gan aelodau eraill am eu hatgofion hwythau, er enghraifft yn dosbarthu papurau newydd i rai o’r tai. Taith bleserus iawn yn ôl i amser a fu.

Addasiad o adroddiad Trefor Price

Web Design North Wales by Indever