Castell Gwrych

 

Dr Mark Baker – sylfaenydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, awdur toreithiog a hanesydd ar bensaernïaeth, oedd y gŵr gwadd yn ein cyfarfod ar Ebrill 20fed. Roedd yr ystafell yn llawn dop pan gyflwynodd ei araith hynod o addysgiadol a difyr.

Dr Mark Baker

Dr Mark Baker

Mae Dr Baker ar hyn o bryd yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethur ym Mhrifysgol Caerdydd. Eglurodd bod Castell Gwrych yn dyddio o gyfnod cynnar y 19eg ganrif, er bod hanes y safle yn mynd lawer pellach yn ôl. Ar bob ochr i’r safle, ceir bryn gaerau o’r Oes Haearn, allor i Fercher y Duw Rhufeinig, a hen lwybrau hanesyddol y porthmyn. Yn ogystal mae Hen Wrych, sy’n dŷ llawer hynach na’r prif adeilad, wedi goroesi. Etifeddwyd y tŷ hwn gan Frances Lloyd yn dilyn ei phriodas â Mr Hesketh, twrne o Gaer. Roedd eu mab hynaf, Lloyd Bamford-Hesketh yn 11 mlwydd oed pan fu farw ei fam ac fe dyngodd i adeiladu ‘castell yn yr awyr’ er cof amdani. Tyfodd i fod yn Rhamantaidd ac yn ddilynwr yr Arglwydd Byron. Wedi iddo ddychwelyd o’i Daith Faith o amgylch Ewrop, cychwynnodd ar y gwaith o wireddu ei freuddwyd. Yn y cychwyn, cyflogwyd y pensaer Charles Augustus Busby, ond yna aeth ymlaen i ddylunio’r mwyafrif o Gwrych ei hun dan ddylanwad y profiad a gafodd o weld y cestyll ar ei deithiau.

Erbyn canol yr 1820au roedd Castell Gwrych yn cynnwys 18 tŵr, 120 o ystafelloedd a ffrynt o 1,500 troedfedd. Dyma un o’r adeileddau newydd mwyaf i gael ei adeiladu yn Ewrop, gan ddyblygu pensaernïaeth ganoloesol gyda nodweddion Gothig a Rhamantaidd, yn cynnwys ffenestri haearn bwrw a ddyluniwyd gan Thomas Rickman. Pan fu farw Lloyd yn yr 1860au, etifeddwyd y Castell gan ei fab hynaf, Robert Bamford-Hesketh. Roedd ei wraig, Ellen Jones-Bateman o Bentre Mawr, Abergele, yn un o ddisgynyddion olaf Isaac Newton; cyfrannodd llawer at y casgliad enfawr o bethau cofiadwy oedd yn cronni yn y Castell.

Wedi iddynt farw, etifeddwyd Gwrych gan Winifred, yr unig blentyn i oroesi.

Gwrych 1

Disgrifiodd ei hun fel yr ‘olaf o’r Lloyds’. Daeth ei gŵr, Iarll Dundonald, yn enwog yn y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid, gan arwain yr ymosodiad yn Ladysmith. Dychwelodd i Gwrych yn Nhachwedd 1900, a chroesawyd ef yn dwymgalon gan bobl Abergele pan gyflwynwyd iddo gleddyf er anrhydedd. Er iddynt gael 5 o blant, nid oedd y briodas yn llwyddiant a dreuliodd yr Iarll llawer o’i amser yn yr Alban, ei wlad frodorol, tra i’r Arglwyddes Dundonald ymsefydlu yng Ngwrych.  

Roedd yr Arglwyddes Dundonald yn siarad Cymraeg, ac yn noddi ac arloesi’r celfyddydau: bu’n ymwneud â datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, ac roedd yn bleidiol dros gerbydau. Roedd o hyd yn gysylltiedig ag Eisteddfodau – ac fe’i derbyniwyd i’r Orsedd gan ddefnyddio’r enw Rhiannon – a sefydlodd ysgol leol. Roedd cylch ei chyfeillion yn cynnwys Willoughby Gardner o Ddeganwy, y pensaer ecsentrig C.E. Elcock o Fae Colwyn ac roedd yn gyfaill pennaf gyda’r Arglwyddes Augusta Mostyn.  

Un arall o’i chyfeillion oedd Detmar Blow, disgybl William Morris ac aelod blaenllaw o’r mudiad Celf a Chrefft. Fe’i gwahoddwyd i ymweld â Gwrych gyda golwg i’w ‘ailwampio’. Estynnwyd rhan allanol y Castell gan Blow trwy ddefnyddio’r un calchfaen a ddefnyddiwyd gan daid yr Arglwyddes Dundonald ac fe wnaed newidiadau sylweddol i’r rhan fewnol. Ychwanegwyd lle tân ar ffurf yr un ym Mhlas Mawr yng Nghonwy yn ogystal â nodweddion neo-glasurol eraill megis y panelau yn y Neuadd Fawr. Mewnforiwyd ffenestri gyda gwydrau haearn o’r Eidal, wedi ‘u paentio i ddangos hanes Cymru o’r canol oesoedd hyd at gyfnod Edward VIII, sef Tywysog Cymru ar y pryd. Cafodd y prif ris, gyda’i 52 o risiau marmor, ei haddurno gyda gwaith haearn Mwraidd, yn  debyg iawn i Balas yr Alhambra yn Granada. 

Gwrych 2   

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ataliwyd y gwaith a sefydlodd yr Arglwyddes Dundonald ysbyty yn Llundain. Bu farw yn sydyn ym 1924 a brawychwyd ei phlant pan ddarganfuwyd iddynt oll cael eu dietifeddu, gan i’r Castell cael ei adael i’r genedl gyda’r bwriad iddo fod yn gartref i’r Teulu Brenhinol. Gwrthodwyd y gymynrodd hon ac fe’i trosglwyddwyd i’r Eglwys yng Nghymru.  Dychwelodd ei gŵr, yr Iarll, gan ddatgan bod ei ddiweddar briod yn wallgof ac mewn stad feddyliol gymysglyd pan wnaeth ei hewyllys. Gwerthwyd y stad yn ôl i’r Iarll, ond fe wrthododd i’w blant fyw yna, a bu Castell Gwrych ynghyd a’i holl gynnwys, yn wag am 20 mlynedd.  

Yn ystod yr 2il Ryfel Byd, bu tua 200 o blant Iddewig yn byw yng Ngwrych ar ôl ddod i Gymru fel ffoaduriaid o Tsiecoslofacia trwy ymgyrch ‘kindertransports’. Yn dilyn y rhyfel, chwalwyd yr ystâd ac fe’i meddiannwyd gan amryw o berchnogion a chafodd llawer i ymgnawdoliad, yn cynnwys ‘Showpiece for Wales’ – gyda Randolph Turpin yn brif atyniad – lleoliad i operâu, gwledda canoloesol ag ymryson gwawyffyn ar geffylau. Yng nghanol yr 1980au gwerthwyd y Castell i ddatblygwr o America a dirywiodd yn enbyd. Meddiannwyd y Castell gan ‘Teithwyr yr Oes Newydd’ a chafodd ei fandaleiddio. Ysbeiliwyd yr holl asedau trwy glirio a dinistrio’r darnau gosod yn cynnwys y lloriau, panelau, lle tân, y marmor o’r grisiau a’r plwm o’r to. 

Bu Dr Baker yn dyst i’r dirywiad brawychus yma pob dydd ar ei ffordd i’r ysgol, ac fe’i hysbrydolwyd i ddechrau ymgyrch i achub y Castell. Sefydlodd elusen a llwyddwyd i ddatrys problem y berchnogaeth, gyda’r canlyniad i ddatblygwr prynu Gwrych yn y diwedd gan alluogi i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych cael prydles ar ran o’r safle. Maent wedi gwneud gwaith sylweddol i adfer y gerddi trwy gynnal cloddiadau archeolegol, lluniau cynnar, darluniau a chynlluniau gwreiddiol yr ystâd. Cafodd y ‘Lady’s Walk’, a fu’n gaeedig, ei glirio o’r holl falurion ac mae’r Ardd Ffurfiol ynghyd â’r ardd cerrig yn cael ei ailffurfio ar hyn o bryd. 

   Visit to Gwrych Castle (2)

Yn 2015, agorwyd y safle i’r cyhoedd unwaith eto am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth yn cynnal gweithgareddau. Cafodd Ystafell Ysgrifennu’r Arglwyddes Dundonald ei adfer yn Nhŵr y Garddwyr ac mae peunod wedi dychwelyd. Y darn mawr nesaf o waith bydd ailgodi’r ystafell wydr gyda gwydr arbenigol a haearn bwrw o batrymau Gothig.  

Ar Mai 18 bydd y Grŵp Hanes yn ymweld â’r Castell. Os hoffech ymuno â ni, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Grŵp Hanes ar 01492 582012.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever