Ionawr – Bryngaerau Gogledd Cymru a’r Gororau – Erin Lloyd Jones

Erin Lloyd Jones

Erin Lloyd Jones

Bryngaerau Gogledd Cymru a’r Gororau

Testun cyfarfod cyntaf 2017 a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr oedd ‘Bryngaerau Gogledd Cymru a’r Gororau’ a’n siaradwraig gwadd oedd Erin Lloyd Jones, yr archeolegydd enwog o Gymru. Mae gan Erin angerdd i gloddio’n ddyfnach i dreftadaeth Brydeinig a dod a hanes yn fyw ac i gyflwyno i’r oes bresennol, hanes y bobl o’r oes o’r blaen, a rhannodd y gwaith ymchwil a wnaed ganddi tuag at ei doethuriaeth ar fryngaerau gyda chynulleidfa o bron i 70 o aelodau a chyfeillion. Erin yw Rheolwr Dehongli Treftadaeth Cadw ac roedd ei brwdfrydedd heintus yn gwneud ei rhybudd y dylem ‘pwnio ein cymydog i’w cadw’n effro’ yn hollol ddiangen!

Mae dros 100 o fryngaerau’r Oes Haearn yng ngogledd ddwyrain Cymru, a chanolbwyntiodd Erin ar 6 ohonynt yn  ardal Bryniau Clwyd – Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Hiraddug, Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr) a Moel y Gaer (Bodfari).  Roedd pob un ohonynt yn safleoedd trawiadol, gyda chloddiau a ffosydd mawr hyd at 30 troedfedd o uchder sydd dal i’w gweld hyd heddiw. Nid yw’n hysbys beth oedd eu pwrpas; a oeddynt i fod yn amddiffynfeydd yn unig , neu yn drigfannau, yn oleufâu i ddenu masnach,  neu yn gyfuniad o bob un?

Moel Arthur

Moel Arthur

Bu’r bryngaerau hyn mewn defnydd yn y cyfnod rhwng c800 CC a 50 OC ac mae tua hanner ohonynt yn dangos gwaith adeiladu o wahanol gyfnodau. Gallai hyn fod yn waith i ailwampio amddiffynfeydd neu newid y defnydd, naill ai ar gyfer pobl oedd yn byw yna’n barhaus neu bobl oedd yn  dychwelyd. Fe wnaed ychydig o waith cloddio yn y 18fed canrif, ond nid mewn dull systematig. Ni chanfuwyd esgyrn, arian na chrochenwaith (ac eithrio ‘crochenwaith cwrs’) ac mae hyn yn gwneud y gwaith o roi dyddiad ar y safleoedd yn anodd. Fodd bynnag, fe ddarganfuwyd rhai arteffactau mewn cyflwr da ar Foel Hiraddug, yn cynnwys rhan o fogail tarian a hefyd, darn hirsgwar addurnedig yn arddangos crefftwaith da. Daethant i’r golwg ym 1872 wrth adeiladu ffordd chwarel. Wrth gloddio yna’n ddiweddarach, fe ddadorchuddiwyd yr hyn sy’n debyg i fwrdd chwarae gemau gyda darnau i gyd-fynd a’r bwrdd, sy’n dystiolaeth o fywyd domestig sefydlog. Mae Moel Hiraddug yn galchfaen, tra bo’r bryngaerau eraill ar dir asidig iawn – sy’n dda ar gyfer grug, ond dim ar gyfer cadwraeth  arteffactau.

Tra bu Erin yn gweithio ar Brosiect Tirwedd y Grug a Bryngaerau rhwng 2008 a 2012, fe wnaed arolygon topograffig ym Mhenycloddiau. Fe welwyd bod cytiau ac adeiladau wedi gwasgaru  ar ffin y cylchedd milltir o hyd o gwmpas y safle, ac yn swatio yn y ffos a lefelwyd yn fwriadol i’r pwrpas.  Adeiladwyd rhagfuriau o gerrig a choed, rhai ohonynt mewn haenau. Roedd rhai o’r mynedfeydd, e.e. ym Moel Hiraddug, yn fynedfeydd porthol syml, a chaewyd hwy yn ddiweddarach er mwyn creu mynedfeydd mwy coeth, gyda siambrau a elwir yn ‘siambrau gwarchod’ oddi mewn iddynt. Eglurodd Erin mai milwyr gan amlaf oedd y rhai a wnaeth y gwaith cloddio cynnar ac fe ddylanwadodd hyn ar yr eirfa a ddefnyddiwyd (caerau, rhagfuriau, siambrau gwarchod ayb). Efallai mai’r rheswm am hyn oedd bod y milwyr yn  gyfarwydd â’r fath yma o adeiladau ac o’u profiad hwy cawn gliw i bwrpas y siambrau hyn. Mae’n bosibl i’r siambrau hyn, rhai ohonynt gyda thân agored,  cael eu defnyddio i gasglu trethi neu ryw fath arall o reolaeth – dyluniwyd y mynedfeydd i hebrwng pobl neu anifeiliaid i mewn i’r fryngaer. Mae hyn yn nodweddiadol o fryngaerau Gogledd Cymru ac mae’n ddiddorol ceisio dyfalu beth oedd eu pwrpas – a oedd rhyw fygythiad ar y gorwel draw?

Mae’r mwyafrif o fryngaerau yn edrych allan dros fwlch; er bod rhai ohonynt ar gopaon y bryniau, nid yw rhai ohonynt – yn cynnwys Moel Fenlli a Phenycloddiau – yn union ar y copa. Maent yn gorwedd ar lethr yn erbyn cyfuchlin y bryn. Er i hyn leihau’r gwelededd gyfan gwbl o’r bwlch, roedd yn cynyddu’r gwelediad o olygfa arbennig, yn arbennig y dynesiad at y fryngaer. Dim ond 2 o’r bryngaerau y bu Erin yn son amdanynt oedd efo tarddiad dŵr, gan ddangos nad oedd cyflenwadau dŵr yn bwysig. Hefyd, dim ond 2 ohonynt oedd efo unrhyw arwydd o weithgaredd cynharach, er bod yna dystiolaeth o fynwentydd o’r Oes Efydd ar lawer o’r bryniau yn Nyffryn Clwyd. Felly ni chawsant eu hadeiladu ar y bryn uchaf, na mewn lle nad oedd cyflenwad dŵr, na mewn man lle bu weithgaredd blaenorol.  Mae yna fryniau eraill llawn mor addas ar gyfer bryngaerau ac mae’r cwestiwn, pam cawsant eu hadeiladu yn y  mannau a ddewiswyd dal heb ei ateb.

Grugiar Ddu

Grugiar Ddu

Fel rhan o Brosiect  Tirwedd y Grug a Bryngaerau, bu Erin yn astudio’r grugiar ddu ac yn ystod ei sgwrs ddifyr, cawsom glywed galwad yr aderyn hynod hwn. Cyfeiriodd hefyd at yr arbrawf anhygoel ‘Llewych y Bryngaerau’ a ddyfeisiwyd ganddi yn 2010 ac a gafodd cyhoeddusrwydd byd eang.  Daeth 200 o wirfoddolwyr at ei gilydd un noson i brofi  y gellir gweld 10 o fryngaerau cyfagos trwy danio fflachiau ag arwyddo gyda fflachlampau. Cafwyd  gwledd i’r llygaid ar y noson gyda golygfa wych o leuad binc. Terfynodd Erin ei sgwrs gan ddweud nad ydynt yn siŵr am ba reswm yr adeiladwyd y bryngaerau, ond y peth gorau i wneud yw mynd allan a mwynhau’r archeoleg – a’r machlud.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Erin LlOYD.jpg2

Hunlun Erin a’r Criw

                                                                                                                                                                        

Web Design North Wales by Indever