Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru

Roedd Capel Peniel dan ei sang pan ddaeth dros 75 o aelodau a chyfeillion y Grŵp Hanes i wrando ar gyflwyniad ar y testun Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru, gan David Hopewell, uwch archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG). Mae David wedi bod yn archeolegydd am dros 30 mlynedd. Mae hefyd yn gerddor ac yn artist sain. Ysgrifennwyd nifer o erthyglau ganddo ar nifer o destunau, yn cynnwys Caerau Rhufeinig a’i lyfr diweddar ar destun ei sgwrs i ni heno sef Ffyrdd Rhufeinig Gogledd Orllewin Cymru.

David Hopewell

Gan YAG mae cofnodion amgylcheddol a hanesyddol pob safle archeolegol hysbys o fewn ffin ardal yr hen sir Gwynedd. Cafodd y mwyafrif o’r safleoedd hyn eu cofnodi gyda chyfeirnodau grid, gan achosi problem efo ffyrdd oedd yn fwy addas iddynt gael cyfeirnodau unionlin; mae prosiect diweddar ar draws Cymru wedi nithio trwy ddeunydd cyhoeddedig a deunydd na gafodd ei gyhoeddi er mwyn creu cofnod sy’n llawer haws ei drin.

Yr unig gofnod Rhufeinig perthnasol sydd wedi goroesi yw Ymdaith Antonine, sy’n cyfeirio at un ffordd yng Ngogledd Cymru: y ffordd o Segontium (Caernarfon) i Deva (Caer). Mae deunydd cyfoes yn cynnwys mapiau, llyfrau, ffotograffiaeth o’r awyr a Lidar, sef arddull o fapio sy’n cynhyrchu delweddau o’r tir trwy fesuriadau laser a gymerir o awyren fechan. Mae hwn yn creu model rhith cywir iawn a ellir ei lawdrin a’i droshaenu ar fapiau a chynlluniau eraill.

Cynhyrchwyd map o ffyrdd Rhufeinig yn 2001 gan yr Arolwg Ordnans (AO) sy’n dangos ychydig o ffyrdd pendant, nifer o ffyrdd amheus a llawer o fylchau. Mae ffynonellau cynharach yn cynnwys y gwaith safonol, Roman Roads in Britain gan I.D. Margary (cyhoeddwyd ym 1967), sy’n cyflwyno’r arddull o rifo sy’n parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw. Ffynhonnell lai dibynadwy yw Roman Roads of Wales gan S. O’Dwyer (cyhoeddwyd ym 1934), sy’n methu gwahaniaethu rhwng ffyrdd Rhufeinig a hen ffyrdd eraill. Mae’r AO hefyd wedi cynhyrchu ffeiliau unionlin yn y 1970au – cydgasglwyd mapiau, cerddwyd ar hyd y ffyrdd a fwriadwyd ac fe wnaed nifer o nodiadau defnyddiol.

Bu tîm o ledled y DU yn gweithio ar y prosiect diweddar – roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys cloddwyr profiadol ag ymchwilwyr megis y diweddar Hugh Toller. Darparwyd tîm adolygu o’r awyr gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru , a’i gwaith oedd gwirio arwyddion cnydau ar adegau o sychder. Rhoddwyd yr holl wybodaeth a gasglwyd o bob ffynhonnell i mewn i fas data, gan roi graddau statws neu hyder i bob ffordd, yn amrywio o fod yn ‘hysbys’, ‘arfaethedig’, ‘rhagwelwyd’ i ‘diystyru’. Dangosodd David enghraifft o fap o Domen y Mur yn dangos un ffordd hysbys yn rhedeg yn gyfochrog ag un a ddiystyrwyd.

Mae’r holl ffyrdd Rhufeinig yng Ngogledd Cymru yn ffyrdd milwrol ac fe’u hadeiladwyd yn unig i gysylltu’r caerau Rhufeinig. Maent yn dyddio o’r 70au OC ond fe gefnwyd arnynt erbyn oddeutu 150 OC, felly ni chawsant eu defnyddio am gyfnod hir. Nid yw’r fersiwn clasurol o ffordd diwyro yn dilyn y llwybr mwyaf unionsyth yn berthnsaol yn Eryri, ond yn hytrach, roeddynt yn dilyn y llwybr hawsaf trwy’r tirwedd, yn aml yn amlygu llwybrau igam-ogam (sy’n cydfynd yn aml iawn y dyddiau hyn efo llwybrau pibellau nwy!). Gellir eu dynodi trwy eu nodweddion cyson iawn: mae croesdoriad nodweddiadol o ffordd 5 medr o led a elwir yn sarn neu agger, yn cynnwys nifer o haenau o gerrig a chlai gydag arwynebedd o gerrig man wedi eu cywasgu – yn berffaith i geffylau. Ambell waith fe geir ffos ar bob ochr i’r sarn gyda chwareli bychan gerllaw.

Mewn rhai lleoedd, pan fo lliw’r glaswellt yn newid a’r corsydd yn amlygu’r ffosydd, gellir gweld rhai o’r sarnau a’r ffosydd hyn, e.e Caer Gai ger Y Bala a Phen y Stryd ger Tomen y Mur lle mae graddiant yr ager yn amlwg. Yr unig ddull arall i ddarganfod darnau o ffyrdd Rhufeinig yw gyda ffotograffiaeth o’r awyr neu gyda Lidar. Maent yn gallu dangos olion o hen aneddiadau diweddarach ar bob ochr o’r agger sy’n rhedeg ar draws systemau o gaeau canoloesol. Yna fe ellir gwirio’r fath olion trwy gloddio – trwy hyn fe ellir diystyru ffyrdd megis ffyrdd dyrpeg hynafol sydd yr un lled a ffyrdd Rhufeinig ac yn gallu ymddangos i fod yn debyg iawn. I lygaid dihyfforddiant, gellir camgymryd llwybrau pynfeirch, megis yr un ger Capel Curig, i fod yn ffyrdd Rhufeinig; maent yn llawer culach na 5 medr y ffyrdd Rhufeinig sydd weithiau yn lletach na hyn ond byth yn gulach. Roedd yn rhaid i’r ffyrdd Rhufeinig fod yn ddigon llydan i alluogi i ddau farchog pasio’i gilydd.

Roman Roads in North West Wales

Mae llwybr y ffordd o Segontium i Deva yn cynnwys y darn o Fwlch y Ddeufaen i Canovium (Caerhun), ond nid yw’r llwybr cyfan yn hysbys er i fwy o ddarnau cael ei darganfod trwy ffotograffiaeth o’r awyr. Cafodd Bwlch y Ddeufaen, sy’n rhedeg o Abergwyngregyn i Ddyffryn Conwy, ei ddefnyddio’n helaeth tan o leiaf y 18fed ganrif ac mae wedi ei erydu’n ddifrifol; mae’n dal yn bosibl i’w weld mewn rhai mannau ond nid yn hawdd.

Mae ffordd arall yn rhedeg i’r gogledd o Domen y Mur i Ddolwyddelan sy’n anodd iawn i’w weld. Darganfuwyd slabiau o greigiau o dan doriadau o fawn a ffosydd draenio – trwy gloddio, darganfuwyd bod y ffordd o dan ddyfnder sylweddol o fawn. Yn anarferol, adeiladwyd y ffordd hon ar slabiau gan eu defnyddio fel rafft ar gyfer arwynebedd yr ager oherwydd yr haen o fawn oedd oddi tano.

Mae prosiect y ffyrdd Rhufeinig yn rhan o brosiect llawer ehangach, sy’n archwilio caerau a’r aneddiadau oedd o’u cwmpas. Mae’n cael ei weithredu gan ymddiriedolaethau archeolegol yn siroedd eraill Cymru, gyda’r canlyniad bod cofnod da o ddarganfyddiadau newydd yn bodoli. Mae llyfr David, Roman Roads in North West Wales, wedi dod a phopeth at ei gilydd ac roedd y gynulleidfa werthfawrogol a chwilfrydig yn gallu prynu copi, unwaith i’r llif o gwestiynau dod i ben! Mae ein diolchiadau i David am noson bleserus ac addysgiadol iawn yn ei gwmni.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

 

Web Design North Wales by Indever