Ysgrifau Cymraeg o Ryfel Cartref America

Listio Arthur a Llywelyn yn Achos yr Undeb:

Daeth nifer o aelodau ag ymwelwyr i Gapel Peniel ar 16 Mai 2019 i wrando ar yr Athro Jerry Hunter yn rhannu ei wybodaeth eang am Ysgrifau Cymraeg o Ryfel Cartref America. Yn wreiddiol o Cincinnati, mae’r Athro Hunter yn byw yma yng Nghymru rŵan ac ar hyn o bryd yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Rhyfel Cartref America yn seiliedig ar dystiolaeth yn yr iaith Gymraeg ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar hyn a thestunau perthnasol.

Professor Jerry Hunter

Yng nghyfrifiad 1860, blwyddyn cyn i’r Ryfel Cartref ddechrau, gwelwyd bod tua 30,000 o Gymry yn byw yn America, 89% ohonynt wedi ymsefydlu yn y pedair talaith ogleddol. Byddai pawb ohonynt yn siarad Cymraeg ac yn trosglwyddo’r iaith i’w plant a’u hwyrion. Felly roedd efallai gymaint â 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn America ar yr adeg yma.

Yng nghanol y 19 ganrif, roedd oddeutu 300 o gapeli anghydffurfiol yn bodoli ar gyfer Cymry Cymraeg America a llawer o’r gweinidogion yn radicalaidd yn eu sylwadau ar wrth gaethwasiaeth. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau Cymraeg (e.e. Y Drych) yn cynnwys erthyglau a barddoniaeth yn apelio i’r darllenwyr, fel meibion Columbia (Americanwyr) a meibion Tywysog Llywelyn, i frwydro yn erbyn caethwasiaeth. Cyhoeddodd Robert Everett, cefnogwr brwd ac enwog gwrth caethwasiaeth, erthyglau yn y cyfrolau Cymraeg hyn. Yn gyffrediunol, roedd y Cymry Americanaidd yn erbyn caethwasiaeth, yn wahanol i grwpiau hiliol eraill o’r gogledd.

Bu farw 600,000 yn Rhyfel Cartref America. Y prif reswm am y colledion enfawr hyn oedd y dechnoleg filwrol newydd oedd yn drech na’r strategaeth filwrol oedd yn bodoli ar y pryd.

Darllenodd yr Athro Hunter nifer o ddarnau o lawysgrifau preifat, telynegol a theimladwy iawn, oddi wrth filwyr Cymraeg a fu’n cwffio ym mrwydrau enwog y rhyfel, yn cynnwys Gettysburg a Fredericksburg. Disgleiriodd ofnau, dewrder a ffydd y milwyr trwy eu llythyyrau i’r gynulleiudfa yng Nghapel Peniel. Daeth y noson i ben gyda nifer o gwestiynau gan yr aeloidau, un aelod yn datgan bod brawd ei hendaid wedi ymladd ym mrwydr Chattanooga.

Roedd hwn yn ddarlith hynod o ddiddorol, yn rhoi golwg ar destun dieithr i ni ac a werthfawrogwyd yn fawr iawn gan y gynulleidfa.

Addasiad o adroddiad Diane Williams

 

Web Design North Wales by Indever