2016 Mai

Testun sgwrs mis Mai oedd badau achub Llandudno, a gyda chymorth Elan Rivers, cafwyd hanes cynhwysfawr a darluniadol gan John Lawson-Reay o ddatblygiad nid yn unig y gwasanaeth a roddwyd gan griwiau dewr badau achub y dref ers 1861 ond hefyd hanes datblygiad y badau eu hunain.

Rhodd oedd y llong gyntaf gan y ddwy chwaer Miss Brown o Lerpwl oherwydd d eu hymweliadau cyson a’r dref.

Cludwyd y cwch i’r dref ar y rheilffordd ar 11 Ionawr 1861. Hon oedd bad achub cyntaf Gogledd Cymru a’r bwriad oedd ei gludo ar drên i drefi lan y môr eraill pan fo’r angen. Nid oes unrhyw gofnod bod hyn erioed wedi digwydd. Roedd y cwch yn 32 troedfedd o hyd gyda deg o rwyfwyr yn ei yrru. Cynigodd yr Anrhydeddus ” Sisters Memorial” – Bad Achub cyntaf          Llandudno William Lloyd Mostyn cartref i’r cwch ger          

Sister Life Boat

Llun trwy ganiatâd: John Lawson-Reay

 

gorsaf rheilffordd y dref ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn fe lansiwyd y cwch gan y Fonesig Augusta Mostyn. Rhoddwyd yr enw Sisters Memorial arni. Roedd angen tîm o geffylau i fynd a’r cwch at y traeth ac fe’i lansiwyd gyda system o raff a phwli oedd wedi angori yn y bae.

Penderfynodd Sefydliad Brenhinol Badau Achub bod Llandudno angen bad achub mwy ac ym 1867 cyrhaeddodd llong o’r un hyd ond gyda thrawst lletach o 8’ 7”. Enw’r cwch newydd oedd Sisters Memorial II a rhoddodd ugain mlynedd o wasanaeth cyn ei newid ym 1887 am gwch oedd yn 37 troedfedd o hyd ac yn cael ei yrru gan 12 o rwyfwyr. Cwmni’r Brodyr Lever o Port Sunlight talodd am y cwch ac felly fe’i henwyd yn Sunlight No.1.

Ym 1902, cyrhaeddodd bad achub newydd oedd ychydig yn lletach a’i henw oedd Theodore Price. Bu’n gwasanaethu yn Llandudno am 28 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwn fe achubwyd nifer o fywydau. Agorwyd cartref newydd i’r bad achub, yn Stryd Lloyd, ym 1904 oedd yn dipyn mwy hwylus i lansio o Draeth y Gogledd a Phen Morfa.

Ym 1930 daeth Sarah Jane Turner ond 3 lansiad yn unig a gafwyd.

Fe’i holynwyd gan Matthew Simpson ym 1931, cwch rhwyfo arall 37 troedfedd o hyd.

Lifboat Image (3)

Criw un o’r badau achub cynharach – Llun trwy  ganiatâd: John Lawson-Reay

     Ym mis Medi 1933 daeth oes y badau rhwyfo i ben pan gyrhaeddodd cwch petrol Thomas Annie Wade Richards  oedd yn  gallu cyrraedd cyflymdra uchaf o 7.33 not. Ar ôl wasanaeth o ugain mlynedd fe’i holynwyd gan Tillie Morrison, Sheffield, bad achub pren olaf Llandudno. Bu mewn gwasanaeth am chwe blynedd yn unig, cyn iddi gael ei throsi i fod yn gwch preifat. Ar hyn o bryd mae’r Tillie Morrison, Sheffield yn gorwedd yn iard cychod Marina Deganwy yn disgwyl cael ei hadnewyddu gan griw o bobl frwdfrydig o Amgueddfa Forwrol ‘Ships’ Timbers’.

Ym 1959 olynwyd

lifeboat 2 Image (4)

Tillie Morrison, Sheffield ym Mai 2016 cyn ei hadfer

gan Annie Ronald and Isabella Forrest, bad achub ‘Dosbarth Lerpwl’  35 troedfedd a hanner o hyd ag injan petrol marchnerth 35.

         

Cyrhaeddodd bad achub newydd ym Mawrth 1964 sef Lily Wainwright  cwch hunan cywirol 37 troedfedd o hyd ‘Dosbarth Oakley’ gydag injan disel dwbl.

O fewn ychydig ddyddiau daeth bad achub y glannau i Landudno. Roedd hon yn gwch bychan cyflym 15’ 6” o hyd gydag injan allfwrdd marchnerth 40 a’r gallu i gyrraedd cyflymdra uchaf o 20 not. Gyda chriw o dri, gellid lansio mewn munudau ac roedd hyn yn chwyldroadol ym myd achub. Yn ystod y llifogydd ofnadwy yn Nhowyn yn Chwefror 1990, symudwyd 580 o bobl o’u cartrefi gan fadau achub y glannau o Landudno, y Rhyl a’r Fflint

Cyrhaeddodd bad achub presennol Llandudno sef Andy Pearce  yn Nhachwedd 1990 – cwch hunan cywirol 12 medr o hyd gydag injan disel marchnerth 280

Mae’r gwaith o adeiladu cartref newydd i’ r bad achub ar y Promenâd yng Nghraig y Don eisoes wedi dechrau i gymryd lle’r adeilad presennol yn Stryd Lloyd. Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys bad achub newydd ‘Dosbarth Shannon’ a thechnoleg ddiweddaraf i lansio ag achub.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hanes ar 16eg Mehefin pan fyddwn yn ymweld â Mynwent y Gogarth i glywed am rai o’r enwogion a gladdwyd yna. Mae’r rhain yn cynnwys pencampwr Olympaidd a Wimbledon, anffodusion trychineb Dolgarrog, prif beiriannydd y Queen Mary pan  enillwyd y Rhuban Glas, hyrwyddwr dirwest o Ddeganwy a bardd enwog. Os dymunech ymuno a ni, byddwn yn cyfarfod ger y Capel ym Mynwent y Gogarth am 7pm. Byddwn yn falch o’ch gweld.

Mae ein Taflen Newyddion diweddaraf i’w weld ar wefan y Grŵp, lle cewch mwy o wybodaeth am ein gweithgareddau –  www.deganwyhistory.co.uk.

 

************

Ifor /Eric

Web Design North Wales by Indever