Tai Bach Bonheddig

Oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid, cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn trwy Zoom. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hyn wedi bod yn ffordd lwyddiannus a hwylus o gyflwyno sgyrsiau diddorol ag ardderchog i’n haelodau.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan ein Cadeirydd Kevin Slattery a chyflwynodd Dr Marian Gwyn, ein siaradwraig am y noson. Teitl ei sgwrs oedd “Tai Bach Bonheddig (Posh Privies)” a gyda phawb yn eistedd yn gyfforddus yn eu cadeiriau breichiau adref, roeddem yn barod i gael ein diddanu a’n cyfareddu. Yn sicr ni chawsom ein siomi!

Mae Dr Gwyn yn ymgynghorydd treftadaeth, yn awdur ac yn ymchwilydd sydd wedi cyhoeddi erthyglau mewn nifer o gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac mae’n cynnal cyrsiau ar hanes a rheoli treftadaeth. Mae hi wedi ymrwymo i helpu sefydliadau treftadaeth i ffynnu ac mae ganddi arbenigedd eang mewn llawer o feysydd hanes a threftadaeth.

Dechreuodd Dr Gwyni ar ei chyflwyniad trwy egluro cefndir y pwnc a’i bod am ganolbwyntio ar blastai mawr. Dywedodd wrthym am agweddau’r bobl hynny oedd yn berchen ar eiddo o’r fath, agweddau a oedd yn wahanol yn eu dulliau i ddatblygiadau o osod nwy a thrydan a rheoli dŵr a gwastraff.

Yna cawsom ein cyflwyno i hanes rheoli gwastraff dynol. Dangosodd Dr Gwyn sleidiau oedd yn cynnwys enghreifftiau o waith plymio dan do o Skara Brae ar Ynysoedd Erch 5,500 o flynyddoedd yn ôl, llun o system wastraff o Creta yn 1700 CC, a thoiledau cymunedol y Rhufeiniaid. Yn nes adref gwelsom lun o’r system wastraff yng Nghastell Conwy (golygfa sydd bob amser yn achosi llawer o sylwadau anffodus gan fy wyrion ifanc…). Trafododd Dr Gwyn ddatblygiad y blwch taranau a dangosodd nifer o enghreifftiau o gyfnod y Tuduriaid a’r Sioriaid yn Lloegr. Tynnodd ein sylw hefyd at yr anawsterau yr oedd menywod yn eu hwynebu a’r datrysiad Ffrengig o’r “bourdaloue”.

French Bourdaloue

I’r elît a chlerigwyr bu system o waredu gwastraff yn bodoli erioed ond nid oedd system fecanyddol ar gael hyd nes i’r “tŷ bach” fflysio gyntaf gael ei ddyfeisio gan John Harrington yn ystod teyrnasiad Elisabeth 1. Yn anffodus ni ddaeth yn boblogaidd ac am gannoedd o flynyddoedd ni fu fawr o newid nes, ar ddiwedd y 18fed ganrif, datblygwyd y pwmp hwrdd. Mae’r rhain yn dal i gael eu defnyddio heddiw mewn ardaloedd lle nad oes llawer o ddŵr yn rhedeg. Dechreuodd y dechnoleg ddatblygu, ac yn y 1770au datblygodd Joseph Bramah ac Alexander Cummings y fflysio, y tro S ac yna’r fflysio 15 eiliad.

Yn y 19eg ganrif digwyddodd newidiadau gan gynnwys datblygiad o’r stôl glos a’r comôd. Cafodd stôl glos ei defnyddio ers canrifoedd ond erbyn hyn roedd yn fwy cywrain ac yn aml yn cael ei guddio, er enghraifft fel cist ddroriau. Roedd olwynion dŵr ac olwynion mulod i bwmpio dŵr yn dal i fod yn gyffredin. Fodd bynnag, roedd systemau o gael dŵr i mewn i eiddo a chael gwared ar y dŵr hwnnw yn tueddu i ddod i ben yng ngerddi’r plastai mawr. Ceir enghreifftiau o ffowntens mor gynnar â 3000 CC ym Mesopotamia. Arddangosiad o gyfoeth oedd ffowntens; tai bach oedd gwaith gweision. Roedd agwedd hon yr elitaidd yn rhwystro lledaeniad systemau rheoli gwastraff mecanyddol yn eu tai mawr gan fod cael gwared ar wastraff yn cael ei ystyried yn waith i weision. Roedd yr ystafelloedd ymolchi cyntaf mewn eiddo fel hyn yn y mannau lle oedd y gweision yn byw. Fodd bynnag, croesawodd y dosbarthiadau canol yr ystafelloedd ymolchi i’w tai ac yn y diwedd, yn y 1920au a’r 1930au bu’n rhaid i’r bobl elitaidd hyn, a oedd yn wynebu prinder gweision, newid eu hagwedd ac fe osodwyd ystafelloedd ymolchi at eu defnydd eu hunain.

Roedd hwn yn gyflwyniad hynod o ddiddorol ac eang ei gwmpas ar bwnc anhysbys. Diolchodd Kevin i Dr Gwyn am gyflwyno sgwrs mor ddiddorol a phryfoclyd i ni ac yna cafwyd cwestiynau gan aelodau’r gynulleidfa. Noson ardderchog.

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Web Design North Wales by Indever