Ar 10fed Chwefror eleni cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa ger yr Ardd Goffa, a grëwyd 10 mlynedd yn ôl, tu allan i Glwb Cymunedol Cyffordd Llandudno i nodi 80 mlynedd ers damwain Avro Anson yng Nghae Erw gerllaw. Am 11am, ar fore hynod o heulog, daeth tua 60 o aelodau’r gymuned leol a’r ardal ehangach i’r gwasanaeth. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys personél o RAF Fali, aelodau o Leng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Blind Veterans UK, Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, Cadetiaid y Môr, Corfflu Hyfforddiant Awyr, aelodau o Grŵp Hanes Deganwy a chyfeillion eraill.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Philip Barratt, Caplan Lleng Brydeinig Frenhinol, Llandudno, ac ar ôl y gweddïau agoriadol cafwyd cyflwyniad byr gan yr hanesydd lleol Adrian Hughes o Amgueddfa’r Ffrynt Cartref i’n hatgoffa o amgylchiadau’r ddamwain ym mis Chwefror 1944. Rhoddodd hefyd fanylion bywgraffiadol am y pum dyn ifanc a gollodd eu bywydau ar y diwrnod trasig hwnnw.
Adrian Hughes
Darllenodd Vicky Macdonald, Ysgrifennydd y Grŵp Hanes, y gerdd High Flight gan John Gillespie Magee – yn arbennig o addas gan iddo ef hefyd golli ei fywyd mewn damwain awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dilynwyd hyn gan yr emyn Abide With Me dan arweiniad Rosy Hearn, ac yna gan Ddefod y Cofio. Chwaraewyd Y Post Olaf gan Ruth-Coleman Jones o Fand Tref Llandudno a dim ond cân y fwyalchen a’r robin goch a dorrwyd ar lonyddwch y Ddau Funud o Ddistawrwydd. Yn dilyn y Reveille, gosodwyd torchau ar y gofeb gan yr Arweinydd Sgwadron Clare Sharp o RAF Fali, Frank Bradfield, Llywydd Lleng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Clare Forrester o Gymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, a Kevin Slattery, Cadeirydd Grŵp Hanes Deganwy.
Mayor of Conwy Evie Roberts & Mayor of Llandudno Greg Robbins
Ar ddiwedd y gwasanaeth, roedd lluniaeth wedi’i baratoi i’r gynulleidfa yn y Clwb Cymunedol ynghyd a byrddau arddangos gyda gwybodaeth fanwl am y ddamwain yn cael eu harchwilio. Atgoffwyd ni gan y Cynghorydd Mike Priestley am y Gwasanaeth Coffa 70 Mlynedd, a gychwynnwyd gan Gwyn Hughes a’r gwaith ymchwil manwl a wnaed ganddo. Cyfeiriodd Mike hefyd at y gwaith a wnaed i greu’r Ardd Goffa ddeng mlynedd yn ôl, gan ddiolch yn arbennig i Mel Lewis am ei rhan yn hyn.
Cllr Mike Priestley
Dilynwyd hyn gydag araith deimladwy iawn gan un o sylfaenwyr y Grŵp Hanes, Gwyn Hughes, a draddodwyd gyda swyn ac emosiwn nodweddiadol Gwyn. Disgrifiodd sut y cysylltodd John Harris o Hastings ag ef rai blynyddoedd yn ôl. Roedd John yn ddisgybl yn Ysgol Woodlands ac wedi gweld y ddamwain pan oedd yn ddim ond 13 oed. Dywedodd Gwyn wrthym sut yr oedd wedi mynd â John i weld lleoliad y ddamwain. Roedd John wedi rhoi iddo gopi o lythyr a ysgrifennwyd ganddo at ei rieni ar 20fed Chwefror 1944. Darllenodd Gwyn y llythyr, sy’n disgrifio’r awyren yn nesáu at y cae chwarae lle’r oedd disgyblion yn chwarae rygbi: ‘with little bits falling off the wings, it turned round and started to spin and it was coming straight for the games, the pilot must have seen us because the plane turned again and crashed in a field next to the school. The pilot could have bailed out if we were not there, but he must have stayed at the controls to save us, all the five in the plane were killed’.
Gwyn Hughes
Daeth yr achlysur i ben gyda Kevin Slattery, Cadeirydd y Grŵp Hanes yn diolch i’r rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys personél o RAF Fali, aelodau o Leng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Blind Veterans UK, Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, Cadetiaid y Môr, Corfflu Hyfforddiant Awyr, Maer Conwy Evie Roberts, Maer Llandudno Greg Robbins, staff y Clwb Cymunedol a wrthododd â chymryd tâl am logi’r ystafell, Tesco am ddarparu cacennau a bisgedi, ac aelodau Grŵp Hanes Deganwy am eu gwaith yn yr ardd ac am gynhyrchu byrddau arddangos.
Gwyn Hughes with Warrant Officer Max Wall and Squadron Leader Clare Sharp from RAF Valley
Diolch yn fawr i Gwyn Hughes am ei ymdrechion diflino dros y blynyddoedd i goffau criw Avro Anson N5130, Adrian Hughes am drefnu’r digwyddiad, Steph a Dewi am gyfrannu’r llechen a ddefnyddiwyd i roi wyneb newydd ar y llwybr, Trefnwyr Angladdau Lord-Brown & Harty Cyf am argraffu’r Daflen Gwasanaeth, a’r Cynghorydd Mike Priestley am ei holl gymorth. Ar y cyfan roedd hwn yn ddigwyddiad cofiadwy a theimladwy, ac fel y dywedodd Diane Williams, Is-gadeirydd y Grŵp Hanes: bydd pawb a oedd yno wedi teimlo eu wedi bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever