‘Milgi’ o’r Enw ‘Musical Box’

15fed Ebrill 2021 a phawb ohonom dal dan glo oherwydd y pandemig Coronafeirws. Er hyn daeth oddeutu 45 o aelodau Grŵp Hanes Deganwy at ei gilydd, unwaith eto yn eu cartrefi, y tro hwn i wrando ar sgwrs gan Adrian Hughes. Testun diddorol ei sgwrs oedd ‘Milgi o’r Enw Musical Box’. Mae Adrian yn enwog yn yr ardal, fel hanesydd, awdur a pherchennog Amgueddfa’r Ffrynt Cartref yn Llandudno. Mae hefyd yn wirfoddolwr gyda Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, gyda chyfrifoldeb am feddau rhyfel ar draws y Sir, ac mae hefyd yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn.

Cafodd unrhyw un oedd yn disgwyl am hanes teimladwy anturiaethau milgi eu siomi oherwydd nid ci oedd ‘Whippet’ ond tanc o’r Rhyfel Byd 1af. Comander y tanc oedd Clement Arnold o Landudno ac roedd y plot cywrain a wëwyd gan Adrian yn dod yn fyw wrth iddo adrodd nifer o hanesion o bwys lleol a chenedlaethol oedd yn haeddu ein sylw.

Roedd teulu Arnold yn berchennog ar y siop dillad enwog yn Stryd Mostyn yn Llandudno. Sefydlwyd y siop gan William Arnold a ddaeth i Landudno ym 1882 – ei nod oedd “gwerthu nwyddau o ansawdd da am bris teg”. Dywedwyd amdano hefyd mai ef oedd yn gyfrifol am ddod a chonffeti i’r wlad ar ôl iddo ei weld mewn ffair masnach ym Mharis yn yr 1890au. Agorwyd siop Arnold yn Rochester House (Principality rwan) ac yna ehangwyd i’r adeilad drws nesaf. Ym 1936, daeth y ddwy siop yn un, gan greu’r siop enwog efo dwy ffrynt a fu mor boblogaidd efo siopwyr hyd nes iddo gau ym 1989.

Magwyd 5 o feibion gan William a’i wraig Ellen yn eu cartref, Causeway, Stryd Lloyd. Clement oedd y trydydd mab ac fe aeth i Ysgol John Bright ac yn ddiweddarach fe oedd y cyn-ddisgybl cyntaf i fod yn Llywodraethwr yr Ysgol.

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd 1af, ymunodd Clem a’r 17eg bataliwn Catrawd ‘King’s Liverpool’ fel preifat. Fe nodwyd ei botensial fel arweinydd ac ym 1915 cafodd ei ddewis i gael ei hyfforddi ac yna fe’i comisiynwyd i fod yn swyddog. Yng Ngorffennaf 1916, bu’n brwydro gyda’r milwyr traed yn Frwydr y Somme; yn fuan wedyn cafodd ei drosglwyddo i’r Corfflu Tanciau, efallai wedi cael ei ddylanwadu gan yr amodau difrifol oedd wedi dioddef yn y ffosydd, a hefyd am fod ei ddau frawd hynach, Bill ag Arthur eisoes yng Nghorfflu’r Tanciau. Roedd rhyfela tanc ar fin dechrau a pheiriannau cyntefig iawn oedd tanciau’r cyfnod hyn o’u cymharu â rhai cyfoes: cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf yn ymgyrch y Somme, ym Mrwydr Flers-Courcelette. Fe wnaeth Arthur Arnold enw iddo’i hun yn y frwydr hon: gyrrodd ei danc trwy linellau’r gelyn, ac er iddo gael ei anafu, aeth i roi cymorth i danc arall ac achub milwr oedd wedi’i anafu. Dyfarnwyd iddo’r ‘Military Cross’ gan fod un o’r dynion cyntaf i gael arwisgiad am frwydrau tanc. Yn ddiweddarach yn y rhyfel, cafodd ei saethu trwy ei ysgyfant ac fe’i hanfonwyd i Wersyll Carcharorion Rhyfel.

 

Dwy flynedd ar ôl Brwydr y Somme, roedd dyluniadau tanciau wedi esblygu ac roedd trechiad tyngedfennol yr Almaenwyr ym Mrwydr Amiens yn bennaf oherwydd bod tua 600 o danciau Prydeinig a Ffrengig wedi cydweithredu gyda chorfflu’r milwyr traed. Gwelwyd bod colledion yr Almaenwyr yn gam pwysig ym muddugoliaeth y Cynghreiriad a bu un tanc penodol yn rhan drawiadol yn y frwydr bwysig hon. ‘Musical Box’ oedd enw’r tanc – adnabuwyd hefyd fel Tanc Rhif 344 – Tanc ‘Whippet’ yn pwyso 14.2 tunnell gyda chyflymdra uchaf o 8 m.y.a., dan awdurdod yr Is-Gapten Clement Arnold. Cafodd y tanciau Whippet yr enw oherwydd eu cyflymdra a’r hawster i’w trin – o’u cymharu â thanciau heddiw sydd â chyflymdra uchaf o 37m.y.a. Roedd 8 m.y.a. yn gyflym iawn yn ôl safonau’r Rhyfel Byd 1af. Dechreuodd rhan Clem ym Mrwydr Amiens am 4.20 a.m. ar 8fed Awst 1918 ac fe ddisgrifir yr hanes clir yn yr hyn a ysgrifennodd yn ddiweddarach:

 

Ar ôl ychydig o funudau, cefais fy hun a’m mheiriant ar y blaen am fod gweddill y tanciau wedi cael eu gadael. Yn union o’m mlaen gwelais grŵp arall o danciau Prydeinig ac yn dilyn hwy oedd uned o droedfilwyr o Awstralia. Tua’r adeg yma fe ymosodwyd arnom yn uniongyrchol gan fagnelau o fagnelfa Almaeneg ac ar yr ochr dde gwelais fod dau danc wedi dinistro . Roedd cymylau o fwg yn dod allan o’r tanciau hyn a gwelais fod y criwiau wedi gallu dianc. Dioddefodd y milwyr troed oedd yn dilyn y peiriannau trwm llawer o golledion o’r fagnelfa hwn. Cymerais hanner tro i’r chwith a mynd yn groeslinol yn syth o flaen y fagnelfa hwn ac o bellter o 600 llath, medrais gael fy ngynau i ymosod ar y fagnelfa a’i ddinistrio”.

 

Parhaodd Clem, ei daniwr gynau a’i gyrrwr, i fynd ymlaen traws gwlad, gan ddinistrio nifer o safleoedd y gelyn a thanio ar linellau o droedfilwyr Almaenig o bellter o 200 llath. Erbyn hyn roedd Musical Box yn symud ymlaen ar ei phen ei hun ac felly’n denu holl ymgyrch y gelyn. Ar ôl 10 awr o ymosodiadau parhaus, nid yn unig oedd lefel tanwydd y peiriant yn mynd yn isel ond roedd y cyflwr oddi mewn i’r tanc yn difirifol: y caniau petrol oedd ynghlwm i’r tanc oddi allan yn gollwng a’r petrol yn llifo i lawr y tu mewn. Bu’n rhaid i’r criw wisgo mygydau nwy i liniaru’r nwyon. Roeddynt yn dioddef o flinder gwres a sblash bwledi – anafiadau a achoswyd trwy’r cetris a saethwyd yn adlamu o’u gynau peiriant. Fodd bynnag, doedd ganddynt ddim dewis ond i symud ymlaen ar grwsâd un dyn y tu ôl i linell y gelyn. Llwyddasant i gudd-ymosod ar lori oedd yn croesi pont, ond ar ôl cael dau drawiad eger, cyneuwyd y petrol oedd yn gollwng gan ddinistrio’r tanc yn llwyr gan y fflamau. Gyda’u dillad ar dan a’r tanc ar dranc, neidiodd y tri ohonynt allan i ganol y gelyn. Saethwyd William Carnie y gyrrwr yn ei ystumog a bu farw, ond cymerwyd y taniwr, Christopher Ribbans a Clem yn garcharorion oherwydd ymyrraeth swyddog Almaenig.

Llun o Musical Box dyddiau ar ôl ei ddal

Dyma ddiwedd ymgyrch Clement Arnold.; fe’i hanfonwyd i gamp Carcharorion Rhyfel yn Freiburg – trwy gyd-ddigwyddiad, yna hefyd oedd ei frawd Arthur. Pan gafodd ei ryddhau ym 1919, dychwelodd Clem i Landudno a derbyniodd y DSO am yr hyn a wnaeth yn Amiens.

Yn ystod y Rhyfel Byd 1af roedd trigolion Llandudno wedi casglu’r swm anhygoel o £400,000 (gyfystyr a £23 miliwn heddiw) trwy’r mudiad Cynilo Cenedlaethol ac fe gyflwynwyd tanc i’r dref i gydnabod hyn. Ar 7fed Ionawr 1920, roedd yr ysgolion wedi cau am y prynhawn a llanwyd yr awyr a sŵn injan – yn sicr daeth hyn ag atgofion i’r rhai a fu yn y rhyfe ac,am eu cyd-filwyr a gollwyd. Wrth lyw’r behemoth oedd neb llai na Clem. Ef oedd yn gyfrifol am osod y tanc ger y fynedfa i Marine Drive ger y tollborth. Mae clip o ffilm Pathe yn dangos y tanc yn ymlwybro i fynnu Stryd Mostyn trwy’r torfeydd. Mae’n debyg iddo orboethi ger y gyffordd a Stryd Gloddaeth ac fe drefnwyd cadwyn o’r rhai oedd wedi dod i weld y digwyddiad i drosglwyddo bwcedi o ddŵr o dŷ gerllaw er mwyn i’r tanc cael ailgychwyn. Bu’r tanc ar ei safle ar Marine Drive tan 1931 pan gafodd ei werthu gan y Cyngor Dosbarth Trefol i fasnachwr sgrap o Fanceinion am £1 – fe fyddai werth miliynau erbyn heddiw pe bae wedi goroesi!

Yn yr un flwyddyn cafodd y tanc ei sgrapio, derbyniodd Clem lythyr annisgwyl o’r Almaen. Llythyr oedd hwn oddi wrth yr Uwchgapten Ernst von Maravic ac fe gyflwynodd ei hun trwy ddatgan mai ef oedd y swyddog a chymerodd Clem a thaniwr y tanc yn garcharorion gan eu hachub o’r rhai oedd am eu lladd. Awgrymodd von Maravic dylai ef a Clem dod yn gyfeillion, a chytunodd Clem i hyn am ei fod mor ddyledus i’r Uwchgapten a fei’i wahoddodd i ddod i Landudno. Does dim sicrwydd a ddaeth von Maravic i Landudno, ond yn sicr fe aeth Clem i’r Almaen. Ym 1936, trefnodd i grŵp o bobl y dref, yn cynnwys aelodau o’r Lleng Prydeinig a dynion busnes oedd yn chwilio am gyfleoedd i ehangu eu busnesau, fynd i’r Almaen gyda Rothbury Coaches – cwmni roedd Clem yn rhan berchennog ohono. Roedd y criw yn cynnwys Charlie Payne, oedd yn dipyn o gymeriad o Landudno. Roedd dau mecanydd gyda hwy i wneud yn siŵr y buasai pawb yn cyrraedd pen y daith yn ddiogel. Cymerwyd dau ddiwrnod i gyrraedd Dover; o Calais aethant trwy Ypres, ac fe synnwyd Clem bod y dref wedi cael ei ailadeiladu mor gynhwysol, ac yna taith am 73 milltir ar hyd autobahn trawiadol yn yr Almaen.

Ar ôl cyrraedd Freiburg daeth yr Uwchgapten von Maravic a Dr Franz Kerber, Arglwydd Faer y dref, i gyfarfod Clem. Gorymdeithiodd Clem gyda von Maraviuc at y gofeb rhyfel lle gosodasant dorch o flodau. Yna mynychwyd cyfarfod o bobl ieuanc ac roedd hwn yn nodedig oherwydd yr arddangosiad o wladgarwch – er, wrth edrych yn ôl, ni fuasai Clem wedi bod mor edmygus oherwydd mudiad Ieuenctid Hitler oedd hwn. Yn yr un modd buasai wedi cadw pellter o Dr Kerber pe bae’n gwybod ei fod i gael ei benodi’n uwch swyddog gyda’r SS ac felly yn chwarae rhan mewn llawer o erchyllterau’r rhyfel.

Clement Arnold gyda von Maravic

Cyflwynodd von Maravic watsh artsgrifedig i Clem ynghyd, a’r dager oedd yn ei feddiant pan gafodd ei ddal. Erbyn diwedd y degawd fodd bynnag, roedd y ddau ohonynt yn elynion unwaith eto. Ar yr adeg yma, roedd Clem yn Gomander ar uned leol y Fyddin Diriogaethol gyda’i phencadlys yn Ffordd Argyle. Ym 1939 cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr, gydag arddangosfeydd o ordnans ag areithiau yn Neuadd y Dref, gyda’r canlyniad bod ugeiniau o wirfoddolwyr ieuanc wedi cael eu byddino i ymuno a Chatrawd 69 Canol y Fagnelaeth Frenhinol gyda dynion o Landudno ymysg y rhai oedd yn rhan o Fyddin D. Yn dilyn misoedd o hyfforddiant yn Llanelwy ac yna yn Chipping Sodbury, cafodd Lefftenant-Cyrnol John D’Arcy ei benodi yn gomander. Trosglwyddwyd Clem i uned hyfforddi yn Watford lle bu’n chwaraewr pêl-droed i dîm y dref pan yn gadét yna ym 1915.

Ym mis Mai 1940, symudodd y gatrawd dramor ond ar ôl 3 wythnos yn unig yn Ffrainc a Gwlad Belg gorchmynnwyd tanwyr Llandudno i wneud eu ffordd i Dunkirk. Daethant ar draws sefyllfa hollol anniben gyda thagfeydd ar y ffyrdd wrth i’r milwyr a’r dinasyddion ceisio dianc rhag y gelyn. Felly aeth yr Arglwydd Aylesford, comander Grŵp D, a hwy ar wyriad i bentref o’r enw Wormhout. Heb yn wybod iddo, cipiwyd y pentref gan yr Almaenwyr yn gynharach yn y dydd: wrth i’r lorïau ymlwybro i ganol y pentref, cafodd y lori oedd ar y blaen ei lwyr ddinistrio mewn fflamau. Roedd magnelwyr Llandudno wedi cael eu taflu’n ddisymwth i frwydr ffyrnig law i law yn erbyn milwyr penboeth Almaenig oedd wedi cael eu hyfforddi’n drylwyr. Yr unig fodd i oroesi oedd rhedeg am eu bywydau. Cafodd rhai lloches mewn garej lle roeddynt yn gallu dringo fesul un, trwy ffenestr allan o olwg y ffordd, a neidio i mewn i nant fechan ac yna cerdded trwy’r dŵr hyd nes cawsant loches arall, o dan bont. Buont yn ddigon ffodus i ddal sylw cerbyd Prydeinig ac felly cawsant eu cludo i Dunkirk. Mae’n nodweddiadol i Uwch-sarsiant y Fagnelfa Arthur Steen o Ffordd Ty’n y Coed achub lawer o fywydau wrth iddo arwain ei ddynion i ddiogelwch.

Yn y cyfamser, cipiwyd taniwr Tudor Parry o Stryd Lloyd ac aethpwyd ag ef a bron i 100 o garcharorion rhyfel eraill i sgubor fechan. Yma cafwyd cyflafan fwyaf creulon pan daflwyd grenadau i ganol y dynion oedd wedi’u pacio mor glòs at ei gilydd yn y sgubor, a thaniwyd arnynt. Trwy ryw wyrth, goroesodd Tudor Parry ar ôl iddo gael ei saethu’n unionsyth trwy ei geg gan filwr Almaenig; dychwelodd ym 1943 ar ôl 3 blynedd mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel. Roedd wedi ei glwyfo am oes ac er iddo roi tystiolaeth mewn ymchwiliad i droseddau rhyfel, ni chafodd unrhyw filwyr Almaenig eu cyhuddo ac wynebu cyfiawnder am erchyllterau Wormhout.

Replica o’r sgubor yn Wormhout

Cafodd Cyflafan Wormhpout ei goffau gyda replica o’r sgubor ac mae’r dref wedi gefeillio gyda Llandudno ers 1988. Collwyd 17 o filwyr o Grŵp D, yn cynnwys wyth o Landudno, rhai wedi eu lladd yn y cuddymosodiad gwreiddiol a rhai wedi’u llofruddio’n ddidostur yn y sgubor. Cyrhaeddodd y rhai a oroesodd i Dunkirk yn y diwedd a bu’n rhaid disgwyl am ddau diwrnod i gael eu hachub; bu farw Arthur Cimatti o Landudno ar y traeth ond fe ddychwelodd ei frawd oedd yn yr un gatrawd.

 Unwaith oeddynt groesi’r Sianel, cymerodd nifer o ddyddiau i ddod a Chatrawd 69 at ei gilydd – yn gyntaf yng Nghaersallog, yna Bae Colwyn ac yna Caernarfon. Ar ôl hyn cafwyd seibiant hollol angenrheidiol cyn iddynt gael eu hanfon i Ynys Manaw ac yn ddiweddarach i arfordir Sussex lle roeddynt yn gweithredu tanciau gwrthawyrennol rhwng Hove a Worthing.

Ym 1942, gadawodd y gatrawd am fordaith, 7 wythnos o hyd, i’r Aifft ar RMS Samaria; ar ôl docio yn Zuez aethant ymlaen i ymladd yn 2il Brwydr El Alamein. Taniwyd 1,200 rownd o getris gan y dynion o Landudno ac ni laniodd yr un ffrwydryn ar eu safle hwy. Y diwrnod canlynol, roeddynt yn gorfod croesi maes ffrwydron Almaenig ac unwaith eto yn tanio ar safle’r gelyn gan wneud cyfraniad i ildiad yr Almaenwyr. Treuliwyd gweddill y flwyddyn yn yr anialwch ac ym Mai 1943 roeddynt yn brwydro eto yng Ngogledd Affrica ym Mrwydr Enfidaville.

Ar ôl cael seibiant byr, fe wnaethant enw iddynt eu hunain yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno mewn brwydrau yn Salerno yn yr Eidal, ac yna hwylio i Balestina yn haf 1944. Yn Ebrill 1945 glaniwyd ym Marseilles a dechrau ar y ffordd i fynnu trwy Ffrainc, gan fynd trwy’r un pentrefi a threfi, yn cynnwys Wormhout, y buont yn encilio drwyddynt ym 1940. Erbyn y mis nesaf, roedd y rhyfel drosodd ond ni chawsant eu dadfyddino tan Dachwedd 1945.

Yn ôl adref, fe ffurfiwyd cangen Llandudno a Dyffryn Conwy o Gymdeithas y Magnelwyr Brenhinol a Clement Arnold yn Gadeirydd ac yn ddiweddarach, yn Llywydd. Pencadlys lleol Clwb y Tanwyr oedd 56 Stryd Mostyn a fu gynt ym meddiant y Lleng Prydeinig; mae’r plac efydd oedd yn arfer bod ar y wal tu allan, erbyn hyn yn Amgueddfa’r Ffrynt Cartref.

Cynhaliwyd aduniadau’r gatrawd am nifer o flynyddoedd a pharhaodd Clem gyda’i gysylltiadau a’r Fyddin Diriogaethol. Ymysg ei swyddi eraill bu’n capten ar Glwb Golff Maesdu, yn Gynghorydd ar y Cyngor Tref, sylfaenydd Siambr Fasnach Llandudno, Llywydd Cymdeithas Garddwriaethol Llandudno ac yn Ddirprwy Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon.- hyn oll wrth redeg y busnes teuluol, Arnold! Yn ei flynyddoedd cynharach bu’n chwaraewr pêl-droed i Landudno a chynrychiolodd Cymru yn badminton. Bu farw ym 1978 yn 84 mlwydd oed ac fe’i claddwyd yn Llanrhos.

Llawer o ddiolch i Adrian am ei gyflwyniad rhagorol oedd nid yn unig yn adlewyrchu gwasanaeth anhygoel Clement Arnold i’w wlad a’i gymuned leol ond hefyd fe ddatgelwyd gymaint mwy o agweddau o’n hanes. Fe gymeradwyir llyfr mwyaf diweddar Adrian Llandudno’s Military Heritage i unrhyw un sydd yn dymuno archwilio ymhellach – cysylltwch â info@homefrontmuseum.co.uk am fwy o fanylion.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever