Y siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd Dr Stephen Lockwood a oedd wedi gwneud ymchwil helaeth ar hanes Neuadd Benarth ei pherchnogion a’i thenantiaid ers y 18fed Ganrif. Daeth diddordeb Dr Lockwood yn yr ystâd oherwydd ei fod wedi gweithio yn Labordy Ymchwil y Llywodraeth yn Gyffin sydd gerllaw’r stad. Mae hefyd ar y lan gyferbyn â Glan Conwy lle’r oedd yn arfer byw.
Yn wreiddiol roedd Benarth a’r stad yn cynnwys tiroedd a ffermydd yn Gyffin sydd wedi’u gwerthu ers hynny. Canolbwyntiodd Dr Lockwood ei sgwrs ar berchnogion niferus Benarth ers 1779. Dyna pan oedd y Parch Owen Jones, Ficer Conwy, yn byw yno ond fe’i prynwyd wedyn gan Samuel Price, cyfreithiwr. Dymchwelwyd y tŷ gwreiddiol ganddo ac fe gomisiynodd Samuel Wyatt, pensaer Neuadd Cinmel i ddylunio’r adeilad newydd. Yn y cyfnod hwn, daeth John Gibson a aned yn 1802 yn fab i arddwr, yn enwog iawn fel cerflunydd. Bu’n gweithio gydag Antonio Canova yn Rhufain ac mae enghreifftiau o’i waith yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl. Mae cofeb i Gibson i’w gweld yng nghorff eglwys y Santes Fair, Conwy.
Cafodd Benarth ei brydlesu rhwng 1778 a 1803 a chawsom hanes am berchnogion a thenantiaid y Neuadd yn y cyfnod hwn. Bu Syr George Beaumont, cyd-sylfaenydd yr Oriel Genedlaethol yn Llundain yn denant yna am bum mlynedd a chlywsom am ymwelwyr adnabyddus, yn eu plith William Wordsworth a’r arlunydd John Cotman, ac efallai J.M.W. Turner. Cedwir brasluniau Syr George o Benarth yn Oriel Whitworth ym Manceinion.
Prynodd Uchel Siryf Sir Gaernarfon, Thomas Burrowes y stad ym 1805 ac yna fe’i hetifeddwyd gan ei fab Arnold Robinson Burrowes, Uwchgapten yn y Gwarchodlu Albanaidd. Ym 1830 ymfudodd i Ganada gan nad oedd yn dymuno byw yn y Neuadd. Rhwng 1830 a 1852 roedd gwaith helaeth yn cael ei wneud ar y pontydd a’r rheilffordd ar lannau Afon Conwy ym Benarth gan Telford a Stephenson. Mae’n bosibl mai dyma oedd y rheswm na ddaethpwyd o hyd i unrhyw brynwr i’r Ystâd tan 1852 pan brynwyd hi gan Lawfeddyg yn Ysbyty Cyffredinol Caer, James Edwards MD. Er iddo gael ei gladdu yn Eglwys Sant Benedict, Gyffin, mae ei gofeb yn eglwys ei dad yn Aldford, ger Caer.
Yn anffodus, ar ôl rhoi genedigaeth i bump o blant bu farw ei wraig gyntaf. Yna priododd ddwywaith eto gyda phum mab yn byw i fod yn oedolion. Y mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Lionel Robertson Edwards a ddarluniodd Black Beauty a Lorna Doone. Bu ei drydedd wraig Harriet yn byw ar y stad tan 1915.
Roedd amryw o denantiaid hefyd yn byw yn Benarth ac yn eu plith yr oedd Richard Davies AS Arglwydd Raglaw Môn; Albert Wood a brynodd Stad Bodlondeb yng Nghonwy ac yn byw yn Benarth tra’n dymchwel yr hen Bodlondeb ac adeiladu’r tŷ presennol yn ei le, sef Swyddfeydd y Cyngor bellach.
Ym 1898, tra’n byw yn Benarth, prynodd Dr Joseph Bayley, meddyg seiciatryddol, Bryn y Neuadd Llanfairfechan. Daeth â chleifion i Gymru am driniaeth ger lan y môr.
Tenant arall oedd Thomas Glynn, Athro Meddygaeth a sefydlodd Ysgol Feddygaeth yn Lerpwl. Bu’n byw yn Benarth am ddwy flynedd hyd at 1900 felly roedd cyfres barhaus o ddynion meddygol yn byw yn y Neuadd.
Y person nesaf o bwys ac a fu’n hael i Gonwy oedd Thomas Tattersall a brynodd y stad ym 1912. Fe ymgymerodd ag adnewyddiad helaeth o’r Neuadd gan ychwanegu portico at y drws ffrynt a throsi’r cerbyty am nad oedd llawer o alw am geffylau yn y cyfnod hwn. Roedd yn Uchel Siryf o 1920 – 21 ac roedd yn westeiwr i Dywysog Cymru ar ei ymweliad ym 1927. Prynodd hen glwb Cyfansoddiadol Conwy a’i roi i Gonwy yn ogystal â’r Hen Goleg a roddwyd i gartrefu’r ysgol elfennol uwch.
Ym 1933 prynwyd y stad gan Syr Joseph Kay a oedd wedi treulio ei fywyd gwaith yn India ac yna ym 1958 chwalwyd y stad a phrynodd consortiwm lleol ran ohoni gyda’r bwriad o’i datblygu fel parc gwyliau ond ni ddaeth y cynllun hwn i’r dim.
Daeth meddyg teulu lleol, Dr Clive Arkle, yn berchennog nesaf a oedd, fel mae’n digwydd, yn ŵyr i’r Thomas Glynn y soniwyd amdano ynghynt. Bu Dr Arkle yn byw yn y Neuadd o 1961 tan 1996 pan werthwyd y Neuadd a’r stad i Mel a Liz Herman gan ei wraig Morna. Diolch i sgil Mel fel pensaer a datblygwr a buddsoddiad personol mawr ganddo y mae’r Neuadd a’r adeiladau ar y stad wedi’u hadfer i’w hen ogoniant.
Cafodd y Neuadd ei hailwampio i fod yn ddau annedd ar wahân ac fe’u gwerthwyd ar ôl iddynt gael ei hadnewyddu a’i huwchraddio’n llwyr. Troswyd y Cerbyty hefyd ac fe’i hadnewyddwyd i fod yn annedd hyfryd a throswyd y Vinery i fod yn fyngalo tra modern yn edrych dros yr ardd furiog a Dyffryn Conwy. Bydd Neuadd Benarth yn sefyll am ddau gan mlynedd arall ac yn croesawu llawer mwy o ymwelwyr i fwynhau ei lletygarwch.
Darluniwyd y sgwrs gyda ffotograffau o nifer o’r personau a grybwyllwyd yn ystod y noson yn ogystal â lluniau o’r Neuadd a’r tiroedd.
Wedi cwestiynau a sylwadau gan aelodau’r gymdeithas diolchwyd i’r siaradwr am ei sgwrs fwyaf diddorol gan y Cadeirydd, Kevin Slattery.
Addasiad o adroddiad Wendy Lonsdale
Latest Research
Web Design North Wales by Indever