Taith Gerdded Bodafon

Taith Gerdded Bodafon

bodafon walk

Taith Gerdded Bodafon

Nos Iau 15fed Mehefin, aeth oddeutu 30 o aelodau a chyfeillion Grŵp Hanes Deganwy am daith gerdded hynod o ddiddorol. Dan arweiniad medrus yr hanesydd lleol, Elan Rivers, cawsom ein tywys o amgylch ardal Bodafon yng Nghraig y Don, Llandudno. Cyfarfu’r Grŵp ar Lôn Ffynnon Sadwrn, ac er sŵn y gwynt a’r traffig, ni chafodd Elan unrhyw drafferth i drosglwyddo ei neges oherwydd roedd yn defnyddio megaffon newydd y Grŵp

Nid yw Craig-y-Don yn rhan o Ystadau Mostyn. Yn wreiddiol, roedd yn rhan o dir Marl Hall a Penrhyn Old Hall.  Gwerthwyd y tir ganddynt ym 1884 ac fe adeiladwyd y mwyafrif o’r adeiladau presennol ar ôl hyn. Ym 1894 fe baratowyd cynlluniau gan Ystadau Mostyn i adeiladu tai ar yr hyn a elwir Caeau Bodafon. Ni wireddwyd y cynllun (hyd yn hyn) er i’r pibellau dŵr ar gyfer y datblygiad arfaethedig fod yn y tir am dros ganrif! Cyfeiriodd Elan at ddau adeilad i gyfeiriad Trwyn y Fuwch sef Villa Marina, a adeiladwyd yn y 1930au i fasnachwr bisgedi o Ganolbarth Lloegr, a Craigside Hydro – a fu ar un adeg yn un o’r gwestai mwyaf yng Nghymru, gyda Baddonau Twrcaidd.

Wrth syllu ar Drwyn y Fuwch, eglurodd Elan fod Ystadau Mostyn wedi prydlesu’r chwarel i Joseph Storey yn oddeutu 1890 ar yr amod nad oedd y gwaith chwarel i groesi Ffordd Colwyn fel nad oedd am anharddu golygfa’r penrhyn o Landudno. Roedd llongau yn arfer dod at y cei ar ochr Bae Penrhyn o’r penrhyn i gludo cerrig calch mâl o’r chwarel cyn belled â Glasgow. Yn ystod y gwaith chwarelu, fe ddarganfuwyd sgerbwd Blodwen, yn dyddio o c.3000CC – gellir ei gweld yn Amgueddfa Llandudno. Cyflolgwyd tua 50 o bobl yn y chwarel pan oedd yn ei anterth, ond fe’i caewyd tua 1931. Defnyddiwyd rhai o’r adeiladau gan Ysgol Magnelau’r Arfordir yn ystod yr ail ryfel byd pan nad oedd ganddynt ddigon o le ar y Gogarth

Mae yna ogof ar Drwyn y Fuwch lle argraffwyd y daflen crefyddol Cymraeg cyntaf, ‘Y Drych Cristnogol c.1585 – mae hwn i’w weld rŵan yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cefnogwyd y wasg argraffu gan deulu Pugh, y teulu o Gatholigion oedd yn byw yn Penrhyn Old Hall – ond roedd y gwaith yn fenter beryglus. Fe anfonwyd Syr Thomas Mostyn, sef asiant i Frenhines Elizabeth I, i gau’r wasg i lawr. Gyda chymorth teulu Pugh, fe ddihangodd offeiriad o’r enw William Dai Davies o’r lle ond fe’i daliwyd ar Ynys Môn a chafodd ei grogi, diberfeddu a’i chwarteri ym Miwmares.

Darganfuwyd nifer o gelciai o arian Rhufeinig yn yr ardal ym 1873 ac yn ddiweddarach ym 1907 pan adeiladwyd y dramffordd at Ochr y Penrhyn. Fe dybier i’r fyddin Rufeinig dod ar hyd yr arfordir o Gaer yn 55 OC, er mwyn ymdrin â bryngaerau’r ardal,  yn cynnwys yr un ar Fryn Euryn. Fodd bynnag, ac eithrio’r arian, yr unig dystiolaeth o’u  bodolaeth yma yw’r enwau lleol megis Bryn y Bia (Bwa), Adwy Rudd a Phant yr Ellyll.

Ar ben uchaf Nant-y-Gamar, uwchben Bodafon, fe welir Castell Gwylfryn a fu, efallai, yn wylfa gaerog yn wreiddiol. Mae yna hefyd cylch cytiau hanesyddol a chwarel tywod. Ar un adeg yn yr 1850au, roedd dynes o’r enw Margaret Owen yn gwneud clai tan ac yn ei werthu yn yr ardal – fe’i defnyddiwyd hefyd i wneud brics tân a cheramig. Fe welir mwy o dai nodedig ar y bryn, yn cynnwys Eryl Fryn, cartref Syr William Letts, cyd-sylfaenydd yr AA a rheolwr cyfardwyddwr Crossley Motors, a Bythynnod Pant y Wennol lle ganwyd Thomas Kendrick ym 1821. Ymhellach i lawr, mewn ogofeydd y tu cefn i Ysgol Bodafon, fe ddarganfuwyd esgyrn dynol ac anifeiliaid yn dyddio o’r Oes Neolithig a’r oes Mesolithig.

Wrth gerdded i fynnu Lôn Ffynnon Sadwrn, gwelsom yr hen garreg ar ochr y ffordd, sy’n gysylltiedig â’r garreg anysgrifenedig (ond heb ei  ddehongli) a welir yn Eglwys Llanrhos. Darganfuwyd y garreg, sy’n dyddio o c.600 OC, ger Tyddyn Holland sy’n agosach at Ysgol Bodafon. Cyfeiriwyd at y garreg gan Lewis Morris, y cartograffydd o’r 18fed ganrif. Mae Ffynnon Sadwrn, sy’n rhoi’r enw i’r Lôn, yn cyn Rhufeinig gan brofi bod y llwybr tramwy hwn yn hanesyddol iawn. Mae’n debyg iawn i Ffynnon Santes Fair yn Llanrhos lle mae’r dŵr yn codi. Mae gwreiddiau’r enw Sadwrn yn fwy dirgel. Mae’n debyg i’r ffynnon cael ei enwi ar ôl y blaned Sadwrn. Yn yr hen ddyddiau, Sadwrn oedd y blaned bellaf yng Nghyfundrefn yr Haul a chafodd ei enwi ar ôl Saturnus, duw amaeth yn y fytholeg Rufeinig. Efallai i’r enw ddod ar ôl St Sannan, neu hyd yn oed trwy’r traddodiad o godi dŵr o’r Ffynnon ar ddydd Sadwrn.

Wrth i ni groesi’r caeau, dangosodd Elan lwybr y dramffordd ac adeiladau diddorol yn cynnwys Arne Hall, adeilad ffug Tuduraidd sydd yn replica o’r tŷ gwreiddiol. Yn ddiweddarach fe’i troswyd i fod yn ysgol breifat ac yna yn gartref Dr Barnardos. Yna ddaeth Bodafon Hall i’r golwg: mae hwn yn hynach na’r fferm ac mae Ffynnon hanesyddol yn yr ardd. Hwn oedd cartref John Williams, asiant cyntaf Ystadau Mostyn a ffigwr amlwg iawn yn natblygiad Llandudno. Troswyd un o’r tai allan yn ddiweddarach i fod yn ffermdy ac yma bu teulu Tudno Jones yn byw ac yn ffermio ar ran yr ystâd am y mwyafrif o’r 19eg ganrif.

Daeth y daith i ben gyda lluniaeth ysgafn ym muarth dymunol Parc Fferm Bodafon- bydd yn werth dychwelyd i weld y tylluanod a’r atyniadau eraill sydd yna. Llawer o ddiolch iddynt ag i Elan am noson mor bleserus ac addysgiadol.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

 

 

 

Web Design North Wales by Indever