Ar noson heulog braf ym Mehefin, daeth nifer o aelodau at ei gilydd y tu allan i fynedfa hen Westy Castell Deganwy i fynd ar daith gerdded o gwmpas y pentref dan arweiniad Adrian ag Elan.
Yn wreiddiol, ffermdy o’r enw Tyddyn Deganwy o’r 17eg ganrif oedd Gwesty Castell Deganwy. Pan agorwyd y rheilffordd i Landudno ym 1858, fe’i hehangwyd ac yn yr 1880au cafodd e drosi i fod yn Westy. Ym 1959, daeth y gwesty i feddiant Jess Yates, diddanwr lleol a chyflwynydd teledu. Roedd yn enwog am ei gyflwyniadau ar yr organ yn y theatrau lleol. Caewyd y gwesty yn 2010 ac fe’i troswyd yn ddiweddar i fod yn fflatiau.
Wedi croesi’r rheilffordd tuag at bromenâd Deganwy, gwelsom y jeti lle bu’r stemars yn cludo teithwyr i fyny Afon Conwy i bentref Trefriw yn y 19eg ganrif. Er mwyn mynd o dan y bont grog yng Nghonwy yn ddiogel, bu’n rhaid plygu’r cyrn mwg a’u codi eto ar ochr arall y bont a gwneud yr un peth efo pont Tal-y-cafn.
Ymhellach i lawr y promenâd, gwelsom y gysgodfa a gafodd ei adfer yn ddiweddar. Difrodwyd y gysgodfa Fictoraidd hon gan stormydd gaeaf 2013/14 and fe’i hadferwyd i’w ysblander blaenorol trwy haelioni cyllid a grantiau gan wahanol fudiadau.
Deganwy Pearl Kitchens
Yna aethom ar draws bont y rheilffordd. Eglurodd Elan fod y bont gynharach o ddyluniad bwa, heb unrhyw risiau ac roedd yn eithaf anodd ei chroesi mewn tywydd gwlyb oherwydd ei bod mor serth. Mae’r bont bresennol yn llawer rhwyddach i’w chroesi!
Ar ochr arall y bont mae maes parcio a dyma’r fan lle bu Pwll Nofio Llandudno – Deganwy neu’r Lido. Agorwyd y Lido ym 1934 gan ŵr busnes lleol, R. Arthur Jones, ond oherwydd costau uchel o’i chynnal a’i chadw bu’n rhaid ei gau yn y 1950au. Yn ei amser roedd yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ag ymwelwyr. Wrth gerdded yn ôl tuag at Ddeganwy, gwelsom yr adeilad art-deco o’r 1930au ar waelod York Roadl. Ar un adeg defnyddiwyd yr adeilad hwn fel man sglefrio ar roleri ond erbyn heddiw Robertson Geologging Cyf. sydd yna.
Ymhellach draw, ger yr hen lyfrgell, clywsom am y dynion a’r merched a fu’n casglu ac yn ymdrin â chregyn gleision. Roedd yn ddiwydiant ffyniannus iawn yn yr 19eg ganrif ac yn dal i ffynnu hyd heddiw. Cyrchwyd cregyn gleision ffres o Afon Conwy i’w berwi mewn potiau mawr haearn, gan wasgu’r gwastraff allan (bwyd i hwyaid). Yna golchwyd y perlau oedd wedi cronni yng ngwaelod y potiau a thaflwyd y cregyn gwag o’r neilltu. Roedd olion o’r cregyn hyn yn dal i’w gweld yn yr ardal tan yn ddiweddar.
Deganwy Pearl Kitchens Walk (a)
Yr arhosiad olaf oedd ger Eglwys yr Holl Saint. Adeiladwyd yr Eglwys ar dir a roddwyd gan yr Arglwydd Mostyn ond talwyd amdano gan y Foneddiges Henrietta Mostyn af Tachwedd 1899.
Deganwy Pearl Kitchens Walk (b)
Mae’r gylchdaith gyfan yn eich arwain yn ôl at y man cychwyn, ond rhaid gwneud hwnnw ar ddiwrnod arall.
Addasiad o adroddiad Trefor Price – Mehefin 2018
Latest Research
Web Design North Wales by Indever