Ar noson braf o haf, a’r llanw ar ei lefel isaf, aeth tua 30 o aelodau’r Grŵp i ymweld â sgerbwd y Flying Foam’ ar draeth Pen Morfa, Llandudno. Cyn cychwyn cawsom gyflwyniad byr am hanes y sgwner gan Debbie Wareham o Amgueddfa Forol Ships’ Timbers. Roedd hyn yn ddilyniant i’r sgwrs a roddodd i’r Grŵp Hanes ym mis Mai.
Llong hwyliau oedd y Flying Foam, yn dibynnu’n llwyr ar y gwynt a medr morwrol y llongwyr. Nid oedd iddi beiriant o fath yn y byd i’w chynorthwyo. Fe’i hadeiladwyd yn St Malo, Ffrainc ym1861 ac yn ystod ei gyrfa o 85 mlynedd, cafodd ei chyfran deg o anffawd wrth iddi gludo glo yn bennaf ar hyd arfordiroedd Môr y Gogledd a Môr Iwerddon.
Mae Mr Tom Parry o Landudno wedi archwilio’r hanes hefyd a dyma ddyfyniad o erthygl a ysgrifennwyd ganddo i’r Pentan rhai blynyddoedd yn ôl am dranc y llong ar ei thaith olaf o Lerpwl i Plymouth ar 21ain Ionawr 1936 yn cludo ei llwyth arferol o lo.
“Oherwydd y storm ar y noson honno, bu’n rhaid iddi gysgodi ger Ynys Môn. Rhwygwyd un o’r hwyliau ac fe angorwyd y llong â dau angor rhwng Ynys Seiriol a Phenmaenmawr er mwyn atgyweirio’r difrod. Gwaethygodd y tywydd, torrodd rhaffau’r angorau ac ysgubwyd y llong o flaen y gwynt i Fae Conwy. Llwyddodd bad achub Biwmares i gael pawb oddi ar ei bwrdd yn ddiogel – sef Capten Jackson, ei wraig, pedwar llongwr, peiriannydd a chath a chathod bach!
Gyrrwyd y llong ddi-griw o flaen y gwynt a’r tonnau at draeth Penmorfa lle syrthiodd ar ei hochr ac ni hwyliodd i unman byth wedyn. Yn yr howld roedd dau gan dunnell o lo a phrynwyd hwn gan fasnachwr lleol, Owen Thomas. Yna dechreuodd y gwaith o ‘ysgafnu’r cargo’ a chludo’r glo i iard Owen Thomas yn Charlton Street. Defnyddiwyd ceffylau a throliau, a thractor ag ôl-gerbyd at y gwaith. Gan fod yr hen long gryn bellter o’r lan, dim ond ar lanw isel oedd modd ei chyrraedd. Cyfnod digon llwm ar lawer o drigolion Llandudno oedd gaeaf 1936 ac edrychai llawer ar y digwyddiad fel cyfle rhagluniaethol i ategu eu cyflenwad glo dros y tywydd oer. Gwnaed cyfraniad sylweddol i lên gwerin yr ardal gyda llawer o straeon, am ‘wagio’r llong lo’ yn cael eu hail adrodd yn yr ardal am flynyddoedd lawer! Yn sicr ddigon ni chafodd Mr Owen Thomas y glo i gyd.”
Roedd Debbie wedi paratoi cystadleuaeth fach ar ein cyfer er mwyn i ni geisio darganfod rhai o’r nodweddion oedd yn dal i fod ar sgerbwd y llong. Yn dilyn yr ymweliad aethom i dafarn y Cottage Loaf yn Llandudno i weld y prennau a achubwyd o’r llong ag sydd erbyn hyn yn rhan o adeiladwaith y dafarn.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever