Deganwy Cuddiedig

Ar noson tywyll hydrefol, ymgasglodd 38 o aelodau Grŵp Hanes Deganwy i gael cyflwyniad medrus iawn gan Simon Simcox ar y testun Deganwy Cuddiedig. Trwy gadw at ganllawiau a rheoliadau Covid-19, dychwelwyd i’n cartref hanesyddol, sef Capel Peniel. Gan eistedd bob yn ail res, a chadw at bellter o 2 metr, aeth Simon a ni yn ôl i Oes yr Iâ. Dyma’r cyfnod oedd yn gyfrifol am greu ffurfiant daearyddol Deganwy a’r marianau tan rewlifol a adawyd ar ôl wrth i’r iâ ymgilio ac i’r blaned raddol gynhesu. Esboniodd i ni sut y ffurfiwyd y nodweddion a welir heddiw, megis y bryniau o’n cwmpas a’r cyfuchliniau hynaws a grëwyd ac a erydwyd tros y milenia diweddarach i greu’r tirlun rydym yn ei adnabod ac yn ei garu heddiw.

.

Marianau yw’r croniad o weddillion sy’n cael ei gludo gan y rhewlif symudol (llen iâ) ar ei siwrne ar draws y tir ac sy’n cael ei adael ar ôl ar ochrau’r rhewlif pan fydd y rhewlif yn toddi ac yn dod i ben ei daith.. Mae’n cynnwys clogfeini, graean, tywod a phriddoedd ffrwythlon a grafwyd o lawr y dyffryn.

 

Yn ddiweddarach, roedd yn fanteisiol i benaethiaid defnyddio’r marianau, neu fryniau, hyn fel mannau i godi eu hamddiffynfeydd i gadw golwg ar eu tiroedd. Mae’r Fardre yn Neganwy yn enghraifft o’r fath, fel marian rhewlifol lle adeiladwyd castell arni. Roedd bwrpas deuol i Gastell Deganwy am ei fod hefyd yn amddiffyn y llwybr masnach o Fwyngloddiau Copr y Gogarth i weddill y byd. Cyfunwyd y copr a mwyn tun o fwyngloddiau tun Cernyw i greu efydd, deunydd llawer cryfach. Lle mae masnach, gellir codi trethi, felly roedd Deganwy yn fan proffidiol iawn i’r meddiannwr.

 

Nid y Gogarth Fawr yw’r unig fan leol lle i fwynau cael eu cloddio. Mae digon o dystiolaeth o gloddio ar y Fardre ac fe welir heddiw, amlinelliad garw’r tirlun a grëwyd wrth edrych o lan yr afon. Wrth gerdded ar draws y Fardre, fe welwch weddillion o fwyngloddio cast agored a nifer o ddomenni slag a fwriwyd i’r neilltu wrth chwilio am y dyddodion mwynau. Mae’n anodd gweld y rhain heddiw oherwydd yr ordyfiant, ond dangosodd Simon nifer o ffotograffau manwl o dystiolaeth ddaearegol.

 

Synnwyd nifer o’r gynulleidfa i glywed bod y Rhufeiniaid wedi defnyddio pridd yn eu hadeiladau i rwymo cerrig at ei gilydd. Yn wir, dyma un ffordd i benderfynu os oedd yr adeilad yn Rhufeinig neu yn Sacsonaidd. Roedd y Sacsoniaid yn dueddol i ddefnyddio calch fel morter i fondio’r cerrig at ei gilydd. Gall hyn achosi penbleth oherwydd weithiau, roedd morter calch yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio hen adeiladed Rhufeinig, trwy orchuddio’r gwaith mewnol a phridd. Unwaith i’r adeilad bod yn ddiogel rhag y tywydd a’r elfennau, roedd y pridd yn bondio’r cerrig at ei gilydd yn ardderchog.

Dangosodd Simon nifer o gardiau post yn dangos y fferïau stêm oedd yn cludo ymwelwyr o Ddeganwy i Drefriw. Roedd yn ymddangos bod llwyfan glanio Deganwy wedi’i adeiladu’n well na’r lanfa yng Nghonwy oedd yn gorfod gwrthsefyll llifoedd cadarnach ochr orllewinol yr afon. Roedd agosrwydd Deganwy at yr Orsaf Drenau yn denu mwy o ymwelwyr na Chonwy a thrwy hyn fe ddatblygwyd y busnesau yn Neganwy.

Mae gyrfa Simon fel tirfesurydd wedi ei arwain i ddarganfod llawer o adeiladau diddorol ledled Gogledd Cymru a thu hwnt. Yn wir, mae ei gartref yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd adeiladu, fel y dangoswyd yn y nifer o luniau, sef waliau o flociau cerrig taclus ochr yn ochr â darnau garw..

Mae Simon wedi cyhoeddi llyfr darluniadol dan yr enw “Hidden Houses of Gwynedd 1100-1800” ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfrau ‘Hidden Caernarfon’ a ‘Hidden Llanrwst’ sy’n dilyn yr un trywydd a’i ymchwiliadau i adeiladau diddorol Gogledd Cymru.

Diolchwyd i Simon am gyflwyno mewnwelediad diddorol o dirlun daearyddol Deganwy ac adeiladau diddorol sydd i’w gweld yn ddigon amlwg o’n cwmpas ond i ni fod yn barod i edrych yn fanylach amdanynt.

Addasiad o adroddiad Trefor Price
Hydref 2021

Web Design North Wales by Indever