Daeth nifer fawr i’n cyfarfod ar 15fed Mawrth i wrando ar sgwrs gan Jane Kenney, Uwch Archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ar y testun uchod.
Gan ymdrin yn bennaf â Gogledd Cymru, cyfeiriodd at ei chysylltiad â phrosiect CADW i lenwi’r bylchau yn y wybodaeth archeolegol am safleoedd milwrol yr ardal.
O ganlyniad i’r bygythiad gan y Zeppelins o’r Almaen ar Lundain ag arfordir dwyreiniol Lloegr, fe grëwyd nifer o fannau hyfforddiant i’r milwyr yng Ngogledd Cymru. Fe sefydlwyd hefyd, nifer o ysbytai a chartrefi ymadfer yn ogystal â ffatrïoedd arfau rhyfel a biledau i weithwyr sifil
BRONABER ger Trawsfynydd. 8,000 acer i hyfforddi milwyr a gwirfoddolwyr ar drin magnelau – a cheffylau. Yr enw lleol ar y lle oedd ‘Tin Town’.
MORFA CONWY. Defnyddiwyd yr ardal yma yn bennaf i hyfforddi gwirfoddolwyr ar gyfer y bataliynau lleol o Gymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae olion y maes tanio dal i’w gweld.
DEGANWY. Hyfforddwyd bataliynau peirianyddol yma ac fe welir olion o’r ffosydd ymarfer ar Gwrs Golff Maesdu.
LLANFAES Ynys Mon. Camp arall i hyfforddi peirianwyr ac eto fe welir olion o’r ffosydd na lenwyd i fynnu yn y goedwig gerllaw
DOLGELLAU. Yma fe welir un o’r meysydd hyfforddi tanio orau i oroesi lle gellir gweld ffrâm y targed yn ogystal â chysgodfan y gwylwyr.
LLANDUDNO. 88-90 Stryd Mostyn, (Payne’s Cafe Royal). Meddiannwyd y Caffi hwn yn ogystal ag eiddo eraill yn y dref gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i fod yn filedau. Daeth hyn ag incwm da i drigolion y dref. Ar ôl yr hyfforddiant, anfonwyd y milwyr i’r Ffrynt a’r rhai a anafwyd yn cael eu trin mewn ysbytai maes cyn eu hanfon yn ôl i’r wlad hon. Yma cawsant eu trin gan nyrsys y Groes Goch ac aelodau VAD (Minteioedd Cymorth Gwirfoddol). Defnyddiwyd gwestai Balmoral, Bodlondeb Castle, Red Court, Plas Tudno fel cartrefi ymadfer yn ogystal â Chartref Edward Malam yn Neganwy a Chartref Lady Forrester yn Llandudno.
BANGOR. Roedd 200 o welyau yn yr ysbyty ar hen safle Ysbyty Dewi Sant a defnyddiwyd Ysbyty Penrhyn ar Ffordd Ffriddoedd, sydd erbyn hyn yn Ysgol Hillgrove, i’r un pwrpas.
CAERGYBI. Adeiladwyd Ysbyty Stanley Sailors’ ym 1871 ac fe’i cyflwynwyd tuag at ymgyrch y rhyfel gan Dame Jane Henrietta Adean, nith W.O. Stanley, Penrhos. Hi oedd ‘commandant’ yr ysbyty ar adeg y rhyfel a chafodd cannoedd o gleifion triniaeth yna yn ystod y gwrthdaro.
BAE TREARDDUR. Cafodd cleifion triniaeth yn yr hyn a ddaeth yng Ngwesty Darien.
TREMADOG. Cyflwynwyd Wern Manor, cartref teulu Greaves, perchnogion y chwareli, i fod yn ysbyty ac fe dybier i Olwen, merch David Lloyd George, gwirfoddoli i fod yn nyrs yna.
CORWEN. Defnyddiwyd Pale Hall fel cartref ymadfer.
NANNAU ger Dolgellau. O Chwefror 1918 hyd at Mai 1921, defnyddiwyd yr adeilad fel ysbyty niwrolegol i ymdrin yn arbennig gyda swyddogion yn unig oedd wedi dioddef siel-syfrdandod.
ARFAU RHYFEL: Fel y Gweinidog dros Arfau Rhyfel, sefydlodd David Lloyd George ffatri cynhyrchu casinau sieliau yn Boston Lodge ger Porthmadog. Safle Rheilffordd Ffestiniog yw hwn nawr ond maent yn parhau i ddefnyddio’r un turnau. Roedd Ffowndri Vulcan yng Nghaernarfon yn cynhyrchu casinau sieliau hefyd, ac yn Ffatri Cookes ym Mhenrhyndeudraeth y cynhyrchwyd y ffrwydron.
RADIO: Yn Waunfawr roedd Gorsaf Trawsyrru Marconi. Erbyn 1914, roedd yn bosibl i drawsyrru negeseuon dros Fôr yr Iwerydd i America ac ym 1918 i Awstralia. Defnyddiwyd Marconi Hall fel llety ac erbyn hyn mae’n cael ei defnyddio gan glwb dringo. Roedd derbynnydd y negeseuon radio yn Nhywyn lle gwelir tystiolaeth o’r mastiau derbyn.
LLONGAU TANFOR ALMAENEG: Erbyn 1917, roedd y llongau mileinig hyn yn targedu Llongau Masnach y DU gyda’r bwriad o ennill y rhyfel trwy newynu Prydain. Roedd ffrynt y frwydr ar y môr erbyn hyn oddi ar arfordir Ynys Môn a phorthladd Caergybi yn ganolbwynt yn y gwaith o chwilio am y gelyn yn eu llongau tanfor..

RMS Aquitania
AWYRLONGAU: Ar Faes Awyr Mona ger Llangefni, defnyddiwyd y siediau awyrennau ar gyfer yr awyrlongau oedd yn cymryd lluniau awyrol.
CYFFRO!: Ar ddiwedd ei darlith cyfeiriodd Jane at yr achlysur pan hedfanwyd awyren dwy adain Airco DH6 o dan Bont Grog y Fenai. Clywodd Thomas Elmhirst am hyn a derbyniodd bet i fynd a’i awyrlong i wneud yr un peth – ac fe lwyddodd!

Airco DH6
Addasiad o adroddiad Mary Meldrum
Latest Research
Web Design North Wales by Indever