Cyffordd Llandudno yn y 1950au

 

Sgwrs gan David Williams

 

Daeth oddeutu 50 o aelodau a chyfeillion y Grŵp Hanes i’n cyfarfod ar Hydref 19eg eleni, pan gawsom sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth gan David Williams am Gyffordd Llandudno yn 195au.

Cafodd David eni a’i dwyn i fynnu yn y Gyffordd ac aeth i weithio i’r Gwasanaeth Sifil am nifer o flynyddoedd ac mae ganddo ddiddordeb arbennig ym maes trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, ef yw Is-Gadeirydd Cymdeithas Rheilffordd Llandudno a Dyffryn Conwy – priodol iawn o gofio ei gefndir fel rhan o ‘deulu rheilffordd’.  Mae’r amser pan fu’r rheilffordd yn ei bri yn ymestyn yn ôl llawer o flynyddoedd: yng nghyfrifiad 1911, roedd  dyn rheilffordd yn byw ym mhob tŷ yn Queen’s Road!

Aeth David i Ysgol Broad Street – Ysgol Maelgwn yn ddiweddarach – lle bu’n rhaid iddo ef a’i gyd-ddisgyblion dioddef profion y  nyrs chwain. Roedd y llefrith ysgol yn cael ei gadw allan yn iard yr Ysgol ac yn y gaeaf, am ei fod wedi rhewi, rhoddwyd y poteli ger y tan glo, ac felly roedd y llefrith wedi hanner rhewi a hanner troi. David oedd y gyntaf yn Ysgol Maelgwn i gael sbectols NHS ac oherwydd hyn, bu’n  rhaid iddo eistedd yn rhes flaen y dosbarth, ond roedd yn dueddol i grwydro … ac felly bu’n rhaid rhoi clo ar lidiart yr Ysgol – ac mae’r clo  dal yna! Fodd bynnag cafwyd rhai pethau da, a meddiannodd David y ddawn o ddarllen a chafodd llawer o bleser yn ymweld â’r llyfrgell fach wych yn y Neuadd Goffa. Yn ddiweddarach, cafwyd llyfrgell newydd oedd yn llawer mwy; caffi yw hwn erbyn hyn, ac yn anffodus, nid oes llyfrgell yn y Gyffordd mwyach.

Dangosodd David luniau o’r llefydd lle bu ef a gweddill ‘Gang Penrhos’ yn arfer chwarae.

Gang Penrhos

Gang Penrhos

Roedd y Gang yn cynnwys Haydn Williams a fu’n berchen ar y ‘White House’ yn ddiweddarach, a’r efeilliaid John a Mair Evans. Oherwydd bod gymaint o weithwyr ar stem nos (nid yn unig gweithwyr y rheilffordd ond hefyd dynion glo a phostmyn) yn byw yn y Gyffordd, nid oedd y plant yn cael chwarae yn y stryd – ond roedd yna ddigon o fannau eraill ar gael iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys y caeau chwarae (pêl-droed 45 pob ochr hyd nes roedd yn rhy dywyll i weld y bel…), Nant y Coed, Bryn Ffynnon, Coed Marl – ac wrth gwrs gwylio’r trenau o arglawdd y rheilffordd.

Ar ddydd Sadwrn, roedd trenau yn cyrraedd y Gyffordd pob ychydig o funudau – ar rai penwythnosau Gwyliau Banc, roedd dros 100,000 o ymwelwr yn dod i Landudno ar y trên.

crossings steam 2

trên stêm i Landudno

Doedd dim angen set trenau Hornby ar blant y Gyffordd – roedd ganddynt lle chwarae go iawn yn y ‘Scrapyard’  sef y lle y cadwyd trenau wrth gefn ar adegau prysur. Yn y gaeaf, roedd y ‘Brickworks’ yn lle da i gadw’n gynnes – roedd y plant yn mynd yna i weld y briciau yn cael ei gwneud, yn helpu i lwytho’r wagenni a chael lifft mewn tryc i mewn i’r pwll fel gwobr.

Y Brickworks

Y Brickworks

Roedd son am y siopau a’r busnesau a fu, yn dod a llawer o atgofion yn ol: Harkers Chemist, Haddons Shoe Factory, Chester House, Ted the Barber ­- un o 5 neu 6 siop barbwr yn y Gyffordd a thystiolaeth o gymuned mor ffyniannus oedd yn bodoli yna; roedd yna 5 siop cigydd. Byddai nifer o fasnachwyr yn danfon nwyddau, yn cynnwys bara, llysiau, glo, llefrith a’r pysgod a ddaeth ar drol llaw o Gonwy. Roedd pob dim yn cael ei ailgylchu a’r gwastraff bwyd yn mynd i’r bwcedi slops i’r moch; yr unig beth oedd yn mynd i’r bin oedd y lludw tan.

Ymysg y busnesau a gollwyd oedd Hotpoint, lle’r oedd plant yn mynd gyda’u rhieni i bartïon Nadolig, ac yn casglu afal ag oren o’r bocsys wrth fynd allan. Roedd Crosville yn lle arall i gael partïon Nadolig. Ar un adeg roedd yna res o siopau yn cynnwys Harrisons Newsagents, Hoppers, bwci, caffi a siop melysion ar safle’r adeiladau sydd ar hyn o bryd yn ddiffaith. Castle Cleaners, sef cwmni o sychlanhawyr oedd yn yr adeilad sy’n cael ei ddefnyddio heddiw gan Crest, a gyferbyn a hwn oedd Vale Laundry a ddifrodwyd yn ddiweddar gan dân, lle’r oedd dillad gweithwyr y rheilffordd yn cael ei golchi.

Roedd nifer o westai yn y Gyffordd, yn cynnwys Gwesty Lancastrian ar Marl Drive a Gwesty Maelgwn.

railway branch to Conwy / Deganwy with Maelgwn Hotel in the background

Gwesty Maelgwn yn edrych dros y reilffordd Gangen Llandudno

Yr enwocaf ohonynt yw Station Hotel, neu fel mae pawb yn ei galw hyd at heddiw ‘Killer’. Y rheswm am yr enw yw oherwydd bod y gweithwyr rheilffordd yn treulio eu hamser yna rhwng eu stemiau hollt. Roedd nifer o bobl yn cadw llety neu yn cadw llety gwely a brecwast – yn cynnwys un ochr cyfan o Rodfa Penrhos ar un adeg.

Roedd incwm i’w gael i blant gydag ychydig o fenter; casglu madarch a’u gwerthu i Jacksons, y rownd bapur pob dydd, cludo bagiau teithwyr at yr orsaf, ailgylchu poteli pop gwag o’r trenau a photeli cwrw o du cefn i A.J. Lays a cheisio adennill y 3d o Taylors.

3penny bit

Cafodd David lwyddiant ar un adeg  gan fod yn gadi golff ar y cwrs golff – cafodd gildwrn o 30s a dalodd am docyn tymor i’r Lido yn Neganwy. Roedd y bechgyn hŷn rhwng 14 – 15 oed yn cael y gorchwyl o ddeffro dynion y rheilffordd yn y nos os oeddent yn hwyr i’r stem nos neu fod angen annisgwyl amdanynt. Roedd y dihunwyr hyn yn taflu llond llaw o golsion o’r llwybr i daro ffenestr arbennig, wrth geisio peidio deffro gweddill y stryd.

Dangoswyd lluniau atgofus yn cynnwys un o giatiau’r hen groesfan ar ochr y Gyffordd o’r Cob, gyda’r tollborth ar yr ochr arall. Cyn i’r bont newydd gael ei hadeiladu ym 1958, bydda’r ceir yn ciwio i bob cyfeiriad gyda’r trenau yn mynd heibio mor aml, a’r plismon mewn bocs gwyn yn cyfeirio’r traffig, yn aml yn anghytuno gyda dyn y signalau. Dangoswyd llun arall gan David sef ‘Sioni Winwns’.

an

‘Sioni Winwns’

Dynion oedd y rhain oedd yn seiclo’r holl ffordd o Lydaw a’u beics wedi llwytho gyda winwns (wrth gwrs). I derfynu, datgelwyd y gyfrinach o’r hyn oedd bechgyn yr oes hynny yn cadw yn eu pocedi: llinyn ar gyfer creu bwa a saeth, concyrs, marblis, catapwlt, bandiau elastig a hances boced – i’w ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau heblaw chwythu trwyn.

Cyfrannodd y gynulleidfa eu hatgofion hwythau hefyd, yn cynnwys chwarae snwcer yn y Neuadd Goffa, a dal crethyll a madfallod dŵr ger y Ganolfan Badminton ym Mryn Estyn ac ychwanegodd hyn at noson bleserus, yn llawn o ddiddordeb dynol a hanesyddol.

Lucinda Smith 

Web Design North Wales by Indever