Martha Hughes Cannon o Landudno

Daeth nifer fawr o aelodau i glywed Wil Aaron yn son am hanes hynod ddiddorol sy’n haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn lleol. Cafodd Wil yrfa hir ym myd teledu, gan ddechrau gyda BBC Cymru ym 1961 cyn symud i weithio yn Seland Newydd. Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, ymunodd a rhaglen materion cyfoes Twenty-Four Hours gyda Max Hastings a darlledu o fannau megis Fietnam, Cashmir a’r Dwyrain Canol. Ym 1978, sefydlodd cwmni annibynnol yng Nghaernarfon oedd yn ymwneud a chlasuron megis C’mon Midffîld! Ers iddo ymddeol, mae Wil wedi ysgrifennu llyfr, Welsh Saints on the Mormon Trail, ac roedd ei sgwrs yn canolbwyntio ar un ddynes arbennig a ymunodd a’r llwybr hwn o’i thref enedigol, Llandudno, dynes a wnaeth argraff fawr ar hanes yr U.D.

Roedd Martha Hughes Cannon yn un o ferched fwyaf nodedig ei chyfnod yn Salt Lake City, lle mae hi hyd heddiw yn cael ei hystyried yn arwres ac yn cael ei choffáu â cherflun yn adeilad Utah State Capitol. Mae prif adeilad Adran Iechyd Utah wedi’i enwi ar ei hôl, ac mae plac yng nghanol y ddinas yn rhestru ei llwyddiannau: ‘In memory of Dr Martha Hughes Cannon. Pioneer doctor. First woman state senator in the US. Author of Utah sanitation laws. Member of the first state Board of Health’. Mae anrhydedd mwy rhyfeddol fyth yn cael ei baratoi ar ei chyfer, gan fod Senedd Utah wedi pleidleisio i anfon cerflun ohoni i’r National Statuary Hall yn Washington DC. Yn y neuadd hon, cynrychiolir pob talaith gan 2 o’i dinasyddion enwocaf – e.e. Cynrychiolir Virginia gan George Washington a Robert E. Lee. Eleni, bydd Utah yn cael ei chynrychioli gan Brigham Young a Martha Hughes Cannon. Fodd bynnag, prin y mae hi’n adnabyddus yn ei thref enedigol, Llandudno.

Ganwyd Martha Maria Hughes yn Stryd Madoc ym 1857, yn ferch i Peter ac Elizabeth Hughes. Saer coed oedd Peter, ac roedd y rhieni’n rhan o gymuned fechan y Mormoniaid a gyfarfu ar y Gogarth yng ngerddi hen ffermdy Tŷ Coch. Disgrifir y cyfarfodydd hyn yn Atgofion am Landudno gan Thomas Rowlands – byddai trigolion lleol yn ymuno â’r Mormoniaid yn yr ardd mewn trafodaethau bywiog a chyfeillgar. Pan soniodd blaenoriaid y Mormoniaid am y ddyletswydd i aberthu popeth er mwyn cyfarfod ar lannau’r Great Salt Lake, roedd y teulu Hughes ymhlith y llu o Gymru a ymatebodd. Cychwynasant ar eu taith ym 1860, pan oedd Martha yn bedair oed.

Roedd yn daith hynod o galed, yn croesi’r Iwerydd ac yna’n dilyn Llwybr Mormon ar draws Omaha, Nebraska a Wyoming i Utah – cymerodd y daith mewn wagen neu drol fisoedd. Gwnaeth miloedd o siaradwyr Cymraeg y daith rhwng y 1830au a’r 1860au. Disgrifiwyd Utah fel ‘Uffern ar y Ddaear’ gan gapelwyr, yr ymddangosai’r ffydd Formonaidd yn hereticaidd a gwarthus iddynt – yn enwedig yr athrawiaeth am amlwreiciaeth neu briodas luosog. Pan ufuddhaodd Seintiau’r Dyddiau Diwethaf Cymreig i’r alwad i ymfudo, roedd y capeli’n hapus i’w gweld yn mynd. Mae teithiau’r Mormoniaid Cymreig wedi’u dogfennu’n dda fodd bynnag: mae cannoedd o gofnodion yn son am eu profiadau hanesyddol niferus ar eu taith wedi’u cadw yn llyfrgell Utah, yn cynnwys cael eu pasio gan y coetsis mawr cyntaf, y Rhyfel Cartref, y Pony Express a dyfodiad y rheilffyrdd.

Ni aeth taith Martha yn esmwyth: bu farw ei chwaer hynaf ar y Gwastadeddau, a bu farw ei thad dridiau ar ôl iddynt gyrraedd. Efallai mai dyma oedd yr ysgogiad ar gyfer ei gyrfa feddygol ddiweddarach – yn 1878 astudiodd am radd MD ym Mhrifysgol Michigan, ac yna dilynodd radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Pennsylvania. Dilynodd hyn gyda chymhwyster o’r Ysgol Genedlaethol Llafareg ag Areitheg, fel pe bai’n rhagweld y llwybr y byddai ei bywyd yn ei gymryd. Dychwelodd i Utah, ac ymunodd â staff yr ysbyty mamolaeth newydd, lle’r oedd yn ymddangos bod gyrfa nodedig a gwerth chweil o’i blaen.

Nid oedd bywyd Martha i fod yn syml: roedd hi’n hynod grefyddol, ond hefyd yn wleidyddol radical. Ar ôl gweithio am flwyddyn yn yr ysbyty, roedd hi wedi priodi’n gyfrinachol ag un o’r cyfarwyddwyr, Angus Munn Cannon. Roedd ef yn Formon amlwg a 23 mlynedd yn hŷn na hi. Hi oedd ei 4edd wraig, ac yr oedd ganddo eisoes 17 o blant. Ni chafodd ei gwthio i’r briodas hon o gwbl gan gymdeithas batriarchaidd – roedd hi’n ffeminydd ysbrydol ac annibynnol, a wyddai beth oedd o’i blaen, ond mewn cariad: ysgrifennodd at Angus gan ddweud y byddai’n well ganddi dreulio awr gydag ef nag oes gyfan gydag unrhyw ddyn arall.

Martha Hughes Cannon yn 1880

Yn anffodus i Martha, roedd y farn gyhoeddus a’r gyfraith yn gryf yn erbyn athrawiaeth amlwreiciaeth, ac yn fuan ar ôl genedigaeth eu plentyn cyntaf, Lizzie, arestiwyd Angus a’i gyhuddo. Yn hytrach na rhoi tystiolaeth yn ei erbyn fel yr oedd yn ofynnol iddi wneud, ffodd Martha dramor gyda’i babi. Aeth at deulu ei mam yn Birmingham ac yna i Baris, y Swistir a’r Almaen. Mae ei llythyrau rheolaidd at Angus (a oedd yn y cyfamser wedi priodi dwy fenyw arall yn gyfrinachol – un ychydig ddyddiau cyn i Martha adael am Ewrop) wedi’u cadw yn archif Eglwys Salt Lake City.

Roedd ei halltudiaeth yn unig ac yn ddiflas, felly pan ddaeth y warant i’w harestio i ben ym 1887, dychwelodd. Sefydlodd y coleg hyfforddi cyntaf i nyrsys yn Utah, ac ymdaflodd ei hun i mewn i’r mudiad hawliau menywod. Roedd Utah wedi caniatáu i fenywod bleidleisio o 1870 i 1887 (y dalaith gynharaf i wneud hynny ar wahân i Wyoming), a phan ddiddymwyd yr hawl hon, dechreuwyd ymladd ffyrnig i’w adennill. Roedd ymgyrch y bleidlais yn rhedeg ochr yn ochr â’r ymgyrch o blaid amlwreiciaeth, ac roedd Martha yn ymwneud yn angerddol â hyn. Parhaodd y Llywodraeth Ffederal i garcharu, dirwyo ac atafaelu eiddo dynion amlbriod, ac ym 1890 penderfynodd y proffwyd Mormonaidd presennol y dylai priodas luosog ddod i ben. Roedd disgwyl i ddynion gynnal eu holl wragedd a phlant, ond dim ond gydag un wraig y dylen nhw gyd-fyw. Roedd priodas Martha ac Angus ar ben yn gyfreithiol – felly pan ddaeth hi’n feichiog ganddo eto, bu’n rhaid iddi roi’r gorau i’w gyrfa a ffoi unwaith eto, y tro hwn i California lle rhoddodd enedigaeth i fachgen.

Dychwelodd i Salt Lake City ychydig fisoedd yn ddiweddarach, a pharhaodd â’i phractis preifat. Roedd hi’n aelod blaenllaw o’r Suffrage Association, a daeth yn adnabyddus ar draws yr Unol Daleithiau fel siaradwr rhagorol. Mewn buddugoliaeth ysgubol i ferched Utah, fe adennillwyd y bleidlais ym 1896 pan ddaeth y diriogaeth yn dalaith … a Martha yn syth yn chwilio am frwydr arall i ymladd. Dyma oedd iechyd cyhoeddus: roedd colera, TB, y frech goch a chlefydau eraill yn rhemp, roedd dŵr yn llygredig ac roedd angen systemau carthffosiaeth. Yn yr ymgyrch ar gyfer yr etholiadau gwladol newydd, safodd Martha dros y Democratiaid – ac un o’r Gweriniaethwyr yn ymgyrchu yn ei herbyn oedd ei gŵr, Angus. Cafodd hyn lawer o sylw yn y wasg, ond datganodd y Salt Lake City Herald mai Martha oedd y dyn gorau o’r ddau’. Gydag ymgeiswyr Democratiaid eraill, ysgubodd i fuddugoliaeth gan ddod y fenyw gyntaf i gael ei hethol i unrhyw senedd yn yr Unol Daleithiau.

Roedd yn seneddwraig lwyddiannus iawn, a chyflwynodd llawer o fesurau i wella iechyd cyhoeddus, bywydau menywod a phlant anabl, ac ym 1899 fe’i hystyriwyd i gael ei henwebu i sedd yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, unwaith eto cafodd ei gyrfa ei difrodi gan feichiogrwydd, a’r tro hwn roedd yng ngolwg y cyhoedd. Gan fod ei phriodas wedi’i datgan yn anghyfreithlon 10 mlynedd ynghynt, gwelwyd ei bod yn anwybyddu’r gyfraith yn ddifeddwl a daeth yn destun sgandal cenedlaethol. Pan aned Gwendolyn, cafodd Angus ei arestio a’i ddirwyo ond talodd Martha’r pris trymach. Roedd ei gyrfa wleidyddol ar ben, a bu’n rhaid iddi ymddeol o fywyd cyhoeddus.

Daeth yn fwyfwy digalon, a lleihawyd ei pherthynas ag Angus i alwadau am arian i gynnal y plant. Gadawodd Utah yn y diwedd, ac aeth i fyw at ei mab yn Los Angeles, lle bu farw ym 1932. Yn anffodus, teimlai fod ei bywyd wedi bod yn fethiant, a gofynnodd am losgi ei llythyrau a’i dyddiaduron.

Am ddegawdau fe’i hanghofwyd gan y genedl, ond yn y 1970au, adfywiwyd ei stori gan grwpiau hawliau merched. Cydnabuwyd Martha fel ffigwr ysbrydoledig a oedd wedi brwydro am well cyfleoedd i fenywod trwy gydol ei hoes, er gwaethaf yr anawsterau ychwanegol a gyflwynwyd gan ei chred mewn priodas luosog a’i ffydd Formonaidd.

Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i Wil am ddod â’r ddynes gymhleth ac ysgogol hon yn fyw i ni. Mae wedi trefnu i gynhyrchu cofeb i Martha yn ei thref enedigol – mae plac wedi’i wneud, gyda chefnogaeth cynghorwyr tref a sir, a bydd yn cael ei leoli ar y Gogarth ger cartref teuluol Tan-y-graig. Gobeithio y gellir ei ddadorchuddio ar yr un pryd â seremoni statud Washington. Rydym yn ddiolchgar iawn i Wil am ganiatáu i ni ddathlu bywyd Martha, a gobeithiwn yn dilyn gosod y gofeb ar y Gogarth y bydd ei stori wych yn fwy adnabyddus.

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever