Mordwyo Arfodir Gogledd Ynys Môn

Yn ein cyfarfod cyntaf ers gwyliau’r haf, daeth nifer o’n haelodau i Ysgoldy Capel Peniel i glywed Mr Dafydd Williams, Harbwr feistr Bae Cemaes, Gogledd Môn, yn traddodi sgwrs o’r enw Mordwyo Arfordir Gogledd Môn.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan ein Cadeirydd, Kevin Slattery ac yna cyflwynodd y siaradwr. Ganed Dafydd yn Swydd Efrog ond symudodd y teulu yn ôl i’w gwreiddiau ym Môn pan oedd yn 5 oed. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant i fod yn athro yn Bretton Hall, ger Wakefield bu’n dysgu Celf a Dylunio yn Ysgol Uwchradd Swallownest ger Sheffield ac Ysgol Ramadeg Crewe. Yna mynychodd Goleg Celf a Dylunio Birmingham cyn cymryd swydd ddysgu yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn rhedeg yr adran cerameg fwyaf yn y DU ar y pryd.

Mae wedi byw ym Mae Cemaes, Gogledd Ynys Môn ers 1974 ac mae wedi bod yn rhedeg cwch siarter pysgota a thwristiaeth allan o harbwr Cemaes ers blynyddoedd lawer. Ef yw Harbwr feistr Cemaes ac mae wedi bod yn Wyliwr Cynorthwyol y Glannau ers 1974, gan achub dros 400 o fywydau ar y môr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dechreuodd ein siaradwr ar ei gyflwyniad trwy drafod gwaith Lewis Morris, gŵr a fu’n olrhain rhannau helaeth o arfordir Cymru yn y 18fed ganrif. Dangoswyd sleidiau o’i waith i ni ac roedd Dafydd wedi dod â chopi o lyfr o’r siartiau hyn. Aeth ymlaen wedyn i ddangos sleidiau o sawl llongddrylliad, gan bwysleisio natur beryglus arfordir gogledd Môn. Roedd y llongddrylliadau hyn yn cynnwys y Mary, cwch hwylio brenhinol Charles 2il. Yna bu Dafydd yn trafod gwaith Francis Williams a’i gŵr James a fu’n allweddol wrth sefydlu cymdeithas leol o’r enw Achub Bywydau ar y Môr. Dangoswyd sleidiau o’r hen fadau achub pren oedd yn dibynnu ar ddynion lleol yn rhwyfo allan mewn amodau peryglus iawn i achub cychod oedd mewn trafferthion. Dywedwyd wrthym fod 13 o fadau achub RNLI ar Ynys Môn yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif ond mae’r nifer wedi gostwng i 2 fad achub Pob Tywydd ym Moelfre a Chaergybi gyda chychod y glannau yn Nhrearddur a Biwmares.

Yna cyfeiriodd Dafydd at y dirgelion a’r cyfrinachau o amgylch y grŵp o ynysoedd a elwir yn Ynysoedd y Moelrhoniaid. Swynwyd y gynulleidfa gan y straeon am arian cudd a llwybrau dirgel!

Un o Ynysoedd y Moelrhoniaid. Roedd y sleid olaf yn llun hyfryd o’r Charles Henry Ashley, y bad achub hanesyddol sy’n cael ei gadw yn Harbwr Bae Cemaes yn ystod misoedd yr haf.

Daeth y sgwrs i ben gyda sleidiau yn dangos cymhorthion mordwyo fel bwiau a chawsom ein dysgu am sut i wybod ble roedd y riffiau yn ôl y siâp arbennig ar ben y bwi.

Bwiau. Cafwyd nifer o gwestiynau gan y gynulleidfa a daeth y noson i ben gyda phobl yn cael eu gwahodd i edrych ar lyfrau siartiau’r 18fed ganrif gan Lewis Morris a hefyd model o The Mary.

Sgwrs ddifyr ac addysgiadol iawn gan siaradwr sydd â gwybodaeth helaeth o’i bwnc

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Web Design North Wales by Indever