Pigion Hanes – 2022

Cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Peniel ar 17eg Chwefror 2022. Hon yw noson draddodiadol y Grŵp dan yr enw Pigion Hanes pan fydd 3 aelod o’r Grŵp yn rhoi cyflwyniad byr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Dyma grynodeb o’r cyflwyniad cyntaf dan y teitl Trywel William gan Trefor Price.

Y siaradwr cyntaf oedd ein dewin technegol a’n gwefeistr Trefor Price. Mae Trefor yn aelod gweithgar o grŵp Bwyd Bendigedig Conwy, a hefyd yn rhan o’r tîm sy’n cadw Ffynnon Santes Fair yn daclus. Felly, o gofio mai teitl ei sgwrs oedd Trywel William roedd pawb ohonom yn disgwyl mai ar destun garddwriaethol roedd am siarad. Fodd bynnag, yr unig gysylltiad efo garddio oedd bod un o’i ffrindiau yn y grŵp Bwyd Bendigedig Conwy wedi dangos y trywel dan sylw i Trefor. Cyflwynwyd y trywel arysgrifenedig, sy’n edrych yn debyg iawn i dafell deisen addurnedig, i William J. Williams, sef hen hen ewythr ei ffrind, pan osodwyd carreg sylfaen adeilad Sefydliad Coffa Cyffordd Llandudno ganddo ar 30ain Mehefin 1927.

Fe leolir Neuadd Goffa Cyffordd Llandudno, fel y gelwir heddiw, yn Rhodfa Penrhos y tu ôl i’r Co-op. Mae gan yr adeilad cod QR o safle we ddefnyddiol iawn History Points (https://historypoints.org/index.php?page=llandudno-junction-war-memorial) sy’n datgan wrthym ‘Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1927, a gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Aelod Seneddol lleol David Lloyd George, a fu’n Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynwyd trywel arian iddo gan ‘Rose Queen’ Cyffordd Llandudno 1927, Olga Hughes. Cynlluniwyd y neuadd gan y pensaer lleol Mr B de Helsby.’

Roedd Trefor eisiau gwybod sut roedd trywel William yn cyd-fynd â’r hanes hwn, a phenderfynodd ymchwilio ymhellach. Darganfu fod William wedi ei eni ym Manceinion ym 1863, yr hynaf o 7 o blant. Daeth yn gyfrifydd ac ym 1880 aeth i weithio i’r gwasanaeth sifil yn Llundain. Ymunodd â Kodak yn 1900, a bu’n Ysgrifennydd y Cwmni o 1911-1928. Er ei fro enedigol, roedd yn Gymro i’r carn ac yn gefnogwr brwd o’r iaith a’r diwylliant Cymreig. Roedd hefyd yn rhugl yn Rwsieg a sawl iaith Ewropeaidd arall. Roedd William yn ddringwr a mynyddwr brwd iawn, ac yn ogystal â thaclo ei fynyddoedd brodorol fe ddringodd yn yr Alpau gyda nifer o ddringwyr enwog. Mae ei ffurflen gais i’r Alpine Club yn rhestru’r mynyddoedd a ddringodd rhwng 1894 a 1902, llawer ohonynt dros 4,000 metr. Ym 1903 priododd Mary Williams, un o’r ychydig iawn o ddringwyr Alpaidd benywaidd yn y cyfnod hwnnw. Roedd yn aelod o Gymdeithas y Fabian, Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion, a Chymru Fydd, grŵp o Lundain a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymreig.

Ym 1921, prynodd William a Mary dy yng Nghyffordd Llandudno. Daeth William yn Ynad Heddwch dros Sir Gaernarfon, ac mae’n debyg mai’r rôl hon a arweiniodd iddo gael ei ddewis i osod carreg sylfaen y Neuadd – oherwydd daeth i’r amlwg, o adroddiad yn y North Wales Weekly News – fe osodwyd 2 garreg: un gan Lloyd George, ac un gan William.

Cyflwynodd William ei araith yn Gymraeg wrth osod y garreg. Roedd ei ddyheadau ar gyfer y Neuadd, a agorwyd ar ddydd Gwener y Groglith, Ebrill 6ed 1928, yn adlewyrchu ei ddiddordebau – awgrymodd y dylid ffurfio grŵp crwydro, ac y dylid defnyddio’r Neuadd ar gyfer astudio Cymru a llenyddiaeth Gymraeg.

Bu William yn Drysorydd Anrhydeddus o Goleg Harlech o 1927 i 1948 ac yn Drysorydd yr Urdd o 1931 hyd 1942. Parhaodd hefyd i ddringo ymhell i’w 60au. Bu farw ym 1949, yn 86 oed, a gadawodd ei gasgliad helaeth o lyfrau i Goleg Harlech.

Nid yw’r cerrig sylfaen i’w gweld ar y tu allan i’r adeilad nawr, felly nid yw’n glir ble maen nhw – os oes unrhyw aelod efo unrhyw wybodaeth, gadewch i ni wybod. Soniodd aelod o’r gynulleidfa iddi glywed bod yr adeilad wedi cael ei ariannu’n rhannol gan bobl leol trwy brynu un fricsen yr un, wedi’i gwneud â chlai o Fflandrys, a chofiodd pan oedd hi’n blentyn bod yna bob amser broblem aruthrol gyda lleithder ar un wal arbennig.

Llawer o ddiolch i Libet Williams, disgynnydd William, am ysgogi a helpu i ddatgelu’r stori ddiddorol hon, ac i Wasanaeth Archifau Conwy am gymorth gyda’r papurau newydd – ac i Trefor am ei gyflwyniad.


Dyma grynodeb o’r ail gyflwyniad dan y teitl Carreg Goffa Diddorol gan Nerys Owen.

Ein hail siaradwr oedd Nerys Owen, gyda’r testun Carreg Goffa Diddorol – ac yn sicr cawsom hanes diddorol am y garreg. Mae Nerys wedi bod yn aelod o’r Grŵp ers nifer o flynyddoedd. Ganed Nerys yn Llundain a bu’n byw yno tan yn ei harddegau. Gwariodd ychydig o flynyddoedd yng Nghanolbarth Cymru cyn iddi ddychwelyd i Lundain i hyfforddi i fod yn nyrs. Bu’n gweithio yn Lloegr ym myd gofal iechyd tan 1991 pan symudodd i Ddeganwy i fyw. Roedd ei Nain yn hanu o bentref Glan Conwy.

Cafodd ei hysbrydoli i gyfrannu at Bigion Hanes yn dilyn sgwrs ddiweddar gan ei chyd-aelod Adrian Hughes am wahanol gerrig beddau yn y fynwent ar y Gogarth. Eglurodd Nerys fod 2 linyn i’w stori, a fyddai’r ddau yn dod at ei gilydd ar y diwedd.

Llinyn 1af yr hanes yw bod Nerys, fel Cocni a aned ac a fagwyd yn Llundain, a’i rhieni yn treulio pythefnos bob haf yn ymweld â theulu ei mam yng Nglan Conwy. Fel llawer o blant yn y 1950au roedd yna lawer o bobl roedd hi’n eu galw’n fodryb neu’n ewythr mewn modd parchus, ond doedd hi byth yn siŵr iawn a oedden nhw’n berthnasau ai peidio. Ym 1950 pentref cymharol fach oedd Glan Conwy a phryd hynny roedd pawb yno i weld i fod yn fodryb neu ewythr! Roedd ei mam hefyd yn cyfeirio’n aml at Wncwl JR yn Abergele ac Anti Annie ym Mae Colwyn, ac mae Nerys yn cofio cyfarfod â hwy.

Yr 2il linyn yw i Nerys ddatblygu ei diddordeb mewn hanes cymdeithasol yn ystod y pandemig, ac ar gais ei chefnder, sydd â diddordeb mewn achau teuluol, aeth i chwilio am fedd y teulu ym Mynwent Bron-y-Nant Mochdre. Gyda rhif y llain claddu a chymorth staff yr Amlosgfa, daeth Nerys o hyd i garreg fedd addurniadol iawn teulu Williams.

O’r garreg goffa, gallwn weld bod y bedd ar gyfer y rhieni Kate a Frederick, eu meibion ​​Frederick a John R., a’u merch Anne. Ganed Frederick hynaf ym Mangor a bu’n gweithio ar y rheilffyrdd, gan symud i Fae Colwyn ym 1902. Gwraig leol oedd Kate a dechreuodd ddysgu yng Nglan Conwy, ond bu’n rhaid iddi roi’r gorau i’w swydd yn dilyn ei phriodas â Frederick. Roeddent yn byw yn Llangwstenin ac yna ym Mhreswylfa, Ffordd Wynnstay, Bae Colwyn. Yn anffodus bu farw eu mab Frederick ym 1918 yn Ysbyty Milwrol Caterham yn 18 oed – roedd yn dioddef o bandemig Ffliw Sbaen, a bu farw o’r ffliw a phroblemau gyda’i frest.

Bu Anne a John ill dau yn hynod lwyddiannus. Penodwyd Anne yn gofrestrydd ardal Bae Colwyn ym 1929, gan ddod yn Gofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau benywaidd cyntaf Cymru. Goruchwyliodd 3 datganiad cyfrifiad yn yr ardal a mynychodd y dathliadau yn Llundain ym 1937 i nodi canmlwyddiant y Ddeddf Cofrestru. Ei thad oedd y cofrestrydd cyntaf i gael ei benodi ym Mae Colwyn, ond ymddengys mai ychydig iawn o sylw a gafodd ei phenodiad ei hun ar y pryd.

Mynychodd John, oedd yn cael ei adnabod fel JR, ysgol gynradd Pont Pensarn yng Nghyffordd Llandudno. Wedi iddo adael addysg, aeth i swyddfa James Amphlett ac yn ddiweddarach cafodd ei benodi’n clerc erthyglog efo cwmni J.D.H. Osborne. Yna sefydlodd ei fusnes cyfreithiol ei hun yn Abergele, a chyflawnodd amryw o ddyletswyddau eraill – bu’n glerc i Gyngor Tref Abergele o 1920 i 1936, yn glerc i Ysgol Sir Abergele, ac yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych am 12 mlynedd. Bu hefyd yn ymwneud â Gwarchodlu Cartref Sir Ddinbych, a bu’n glerc i’r Comisiwn Elusennau o 1920 i 1960. Yn ystod ei hymchwil, dywedwyd wrth Nerys fod JR wedi ysgrifennu hunangofiant – cafodd drafferth i olrhain hwn, ond yn wyrthiol, daeth o hyd i gopi ar eBay am £1! Yn ogystal â manylion ei yrfa, mae’r gyfrol yn cynnwys hanesion am ei branciau yn ysgol y Gyffordd.

Gan ddychwelyd at linell 1af stori hyfryd Nerys – daeth yn amlwg, o blith yr holl bobl neilltuol hynny a briodolwyd i fod yn fodrybedd neu ewythrod iddi, bod Wncwl JR ac Anti Annie yn perthyn iddi, sef cefndryd 1af ei nain. Nododd JR yn ei hunangofiant cyn lleied o gydnabyddiaeth a roddwyd i lwyddiant ei chwaer Anne, ac roedd yn arbennig o dda i ni ddysgu am yr hyn a gyflawnwyd ganddi.


Dyma grynodeb o’r cyflwyniad olaf o’r sgyrsiau a roddwyd yng Nghapel Peniel ar 17eg Chwefror 2022. Y teitl yw Gyffin Diwydiannol gan Dr Stephen Lockwood. Mae Dr Lockwood yn fiolegydd pysgodfeydd morol ac yn cyn pennaeth y labordai morol yng Nghonwy, a leolwyd ar safle presennol Parc Busnes Glan yr Afon. Mae Stephen felly yn gymwys iawn i roi sgwrs ar y pwnc.

Gyffin Diwydiannol gan Dr Stephen Lockwood

 

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

 

Web Design North Wales by Indever