Meini Hir Prydeinig

Meini Hirion Prydain fore gyda phwyslais ar Gymru

Dr Ron Callender FRPS

Daeth y Grŵp at ei gilydd trwy Zoom, yn 20fed Mai, i wrando ar gyflwyniad a gweld fideo diddorol iawn gan Dr Callender, oedd yn cyfuno archeoleg a ffotograffiaeth, ar y testun meini hirion. Yn anffodus, nid oedd Dr Callender gallu bod yn bresennol i gyflwyno ei fideo. Yn ystod ei yrfa bu Dr Callender yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil ac mae hefyd yn ffotograffydd brwd ac roedd ei sgiliau yn amlwg iawn yn ystod ei gyflwyniad. Ei nod oedd codi ein dealltwriaeth o sut a pham yr adeiladwyd y meini hirion ag i archwilio rhai o’r safleoedd yng Nghymru.

Fel rhagarweiniad, eglurodd Dr Callender bod ei ddiddordeb efo meini hirion wedi dechrau pan oedd yn byw ar Wastadedd Caersallog ac yn ymweld yn aml a Chôr y Cewri. Dangosodd sleidiau i ni o Gôr y Cewri a’r map Megalith. Yna aeth ymlaen i drafod y gwahanol fathau o feini hirion ac enghreifftiau ohonynt o wahanol rannau o Ynysoedd Prydain. Roedd y rhain yn cynnwys cerrig gorweddol, cerrig ar osgo a cherrig yn lledorwedd a welir yn Swydd Derby. Mae llawer o’r cerrig ar eu pennau eu hunain ac efallai wedi cael eu defnyddio ar gyfer cyflwyno negeseuon neu fel addurn. Dangoswyd a thrafodwyd hefyd y cylchoedd meini megis y rhai a welir yn Swinside, Cymbria ag Ynys Manaw, a chyfeiriodd yn benodol at eu ffurf a’u pwrpas posibl.

Yna aeth y siaradwr ymlaen i son am ei ddull ffotograffig cyn troi a chanolbwyntio ar feini hirion yng Nghymru. Mae yna nifer o feini hirion uwchben Penmaenmawr, ac nid yw’n hysbys beth yw’r rheswm am eu bodolaeth, ond efallai iddynt fod yn gerrig tywys neu yn gyfarwyddiadau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y safleoedd ar Benrhyn Llŷn, Sarn Mellteyrn er enghraifft. Cafwyd nifer o enghreifftiau pwysig o Ynys Môn, a dangoswyd nifer o ffotograffau chwilfrydig o siambr gladdu Bryn Celli Ddu a cherrigeraill cysylltiedig. Cyfeiriodd Dr Callender hefyd at gerrig y siambr gladdu ym Mhlas Newydd, y ddwy garreg ar Ynys Gybi, Siambr Gladdu Llugwy, 4,000 oed a Din Llugwy. Fe all bod y cylch cerrig a adnabyddir fel Barclodiad y Gawres wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer seremonïau crefyddol.

Daeth y cyflwyniad i ben gyda Dr Callender yn taflu goleuni am y rheswm dros ddefnyddio meini hirion mewn Eisteddfodau. Disgrifiodd y rhain fel teyrnged gyfoes i feini hirion hynafol yr oes a fu. Cyflwyniad diddorol iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dr Callender am iddo roi o’i amser (unwaith eto!) i daflu goleuni ar destun sydd o ddiddordeb mawr i’r rhai ohonom sy’n byw yng Ngogledd Cymru ac yn gyrru neu yn cerdded heibio’r gwrthrychau rhyfeddol hyn yn feunyddiol.

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Web Design North Wales by Indever