Ymweliad â Mwynglawdd Copr y Gogarth

Ar brynhawn cynnes, heulog ar 17eg Fehefin, ymwelodd 15 aelod â Mwynglawdd Copr yr Oes Efydd, Llandudno, i roddi enw llawn y mwynglawdd. Cawsom ein croesawu i’r mwynglawdd gan y Dr Harriet White, a roddodd gyflwyniad byr inni gan egluro rheolau Cofid ar waith. Hwn oedd y tro cyntaf i ni allu cyfarfod yn bersonol a thrwy gyd ddigwyddiad y grŵp cyntaf i ymweld â’r mwynglawdd ers cyfnod clo’r feirws.

Darganfuwyd y mwyngloddiau yn 1987, yn ystod archwiliad y tir a oedd i’w ddatblygu fel maes parcio ceir i ymwelwyr â’r Gogarth. Roedd yn hysbys fod mwynglawdd Fictorianaidd yn bodoli ar y safle a bod angen archwiliad o’r safle cyn bwrw ‘mlaen ag unrhyw waith.

Daeth mwyngloddio masnachol i ben yn 1881.

Pan yr agorwyd siafftiau’r pwll a’u harchwilio, sylweddolodd yr archwilwyr fod safle archeolegol pwysig dros ben yn gorwedd islaw. Rhoddwyd arhosiad ar gynlluniau’r maes parcio ceir ac yn y pen draw eu dileu. Rhoddwyd gwastraff o fwyngloddiau Fictorianaidd ar ben fwyngloddiau cyfnod llawer cynharach. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, symudwyd y gwastraff Fictorianaidd o’r safle, gan ddatguddio mwyngloddio gwedd agored (open cast) gyda mynedfeydd i dwnelau dan ddaearol yr Oes Efydd. Agorwyd y mwyngloddiau i’r cyhoedd yn 1991 gydag estyniad Canolfan Ymwelwyr a adeiladwyd yn 2014.

Amcangyfrifir fod yna 5 milltir o dwnelau o fewn i’r safle ond mae’n bosibl na fydd y gwir faint byth yn cael ei bennu. Mae’r twnelau sy’n agos at y fynedfa yn hawdd cerdded trwyddynt, tra fod mwyafrif y twnelau yn dramwyfeydd bychain, cul, sydd angen technegau ceudyllau medrus. Diolch i’r drefn, roedd ein hymweliad â’r mwynglawdd ddim ond yn cynnwys taith gerdded trwy’r un blaenorol!

Daethom allan o ddiogelwch y theatr darlithio, i fynd i lawr i’r rhan “gwedd agored”(open cast) o’r fwynglawdd. O’r safle yma roeddem yn gallu adnabod y pwll Fictorianaidd dwfn a’r mynedfeydd i’r mwynglawdd Oes Efydd. Roedd ein llwybr wedi ei farcio’n glir tuag at dwll yn y graig, ac ar ôl ychydig eiliadau tra roedd ein llygaid yn addasu i’r golau, aethom i mewn ymhellach i’r mwynglawdd.

Cawsom rybudd i wisgo haenen ychwanegol o ddillad o herwydd fe fyddai’r tymheredd dan ddaear llawer mwy oerllyd nag uwchben y ddaear (Mehefin). Dywedodd Dr Harriet mai yn ystod misoedd y Gaeaf roedd yn well gan rhai o’r archeolegwyr weithio o dan ddaear yn hytrach na mewn adeiladau uwchben ddaear oherwydd diffyg gwresogi. Roedd yr helmedau (hetiau caled) a roddwyd inni yn ychwanegiad derbyniol i’n diogelwch personol. Bob hyn a hyn fe fyddai’r to yn isel ac fe fyddai, neu o leiaf fy nghlustiau i, yn atseinio i’r sŵn trwm o blastig yn erbyn craig! Dylwn fod wedi canolbwyntio yn fwy ar y creigiau uwchben fy mhen yn hytrach na rhyfeddu at liwiau’r creigiau o’m hamgylch.

Trwy gerdded ymhellach i fewn i’r mwynglawdd gellid gweld twnelau llai eraill ar ein chwith ac ar ein deheulaw, lle roedd y mwynwyr wedi dilyn y mwynau yn y graig a chloddio’r graig gyda’r celfi oedd ar gael iddynt. Ar y dechrau roedd hyn yn golygu defnyddio esgyrn anifeiliaid, neu gerrig wedi eu ffurfio i gloddio’r mwyn. Ar ôl gadael y mwynglawdd dilynasom y daith at uned cyfarpar clyweled(audio visual) allanol a eglurodd sut gall y mwyn fod wedi ei brosesu i fod yn fwyelli gyda charn fforchog (palstave),cleddyfau a gwaywffyn.

Roedd adeilad arall yn gartref i dros 2500 o gerrig morthwyl(hammer stones) a ddefnyddiwyd i gloddio’r mwyn o’r mwynglawdd. Cafodd y cerrig hyn eu casglu oddi ar y traethau lleol gan y mwynwyr o’r Oes Efydd i’w defnyddio i dorri’r graig yn y mwynglawdd.

Mae gan y siop sydd ar y safle ddewis eang o lyfrau sy’n egluro’r mwynglawdd a’r ardal, sydd ar gael i ymwelwyr brynu, ac mae’r gost yn mynd tuag at gefnogi’r ymchwiliadau archeolegol.

Mae’r gwaith ym Mwynglawdd y Gogarth yn dal i fwrw ‘mlaen, er mwyn deall y bobl oedd yn gweithio yma, sut roeddent yn byw a pha fath o gymdeithas oedd yn bodoli a sut roedd metel yn cael ei fasnachu a’i gludo, a llawer mwy. Gwnaed rhywfaint o ymchwil a darganfod fod metel o’r mwynglawdd wedi ei ddarganfod mewn celfi efydd trwy Orllewin Ewrop penbaladr, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, Denmarc, Gwlad Pwyl a Sweden. Mae’r rhwydwaith cyfathrebu i gefnogi’r fasnach yma yn ymddangos yn anhygoel i ni nawr, yn enwedig tra bod gennym broblemau allforio i’r gwledydd hyn yn dilyn Brecsit!

Mae Grŵp Hanes Deganwy yn ddiolchgar iawn i Dr Harriet White a’i thîm am ein caniatáu i ymweld â’r mwynglawdd fel grŵp a sôn am eu gwaith yno. Roedd yn sicr yn ymweliad byth cofiadwy i’n haelodau.

 

 

Web Design North Wales by Indever