Ar 10fed Chwefror eleni cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa ger yr Ardd Goffa, a grëwyd 10 mlynedd yn ôl, tu allan i Glwb Cymunedol Cyffordd Llandudno i nodi 80 mlynedd ers damwain Avro Anson yng Nghae Erw gerllaw. Am 11am, ar fore hynod o heulog, daeth tua 60 o aelodau’r gymuned leol a’r ardal ehangach i’r gwasanaeth. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys personél o RAF Fali, aelodau o Leng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Blind Veterans UK, Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, Cadetiaid y Môr, Corfflu Hyfforddiant Awyr, aelodau o Grŵp Hanes Deganwy a chyfeillion eraill.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Philip Barratt, Caplan Lleng Brydeinig Frenhinol, Llandudno, ac ar ôl y gweddïau agoriadol cafwyd cyflwyniad byr gan yr hanesydd lleol Adrian Hughes o Amgueddfa’r Ffrynt Cartref i’n hatgoffa o amgylchiadau’r ddamwain ym mis Chwefror 1944. Rhoddodd hefyd fanylion bywgraffiadol am y pum dyn ifanc a gollodd eu bywydau ar y diwrnod trasig hwnnw.
Adrian Hughes
Darllenodd Vicky Macdonald, Ysgrifennydd y Grŵp Hanes, y gerdd High Flight gan John Gillespie Magee – yn arbennig o addas gan iddo ef hefyd golli ei fywyd mewn damwain awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dilynwyd hyn gan yr emyn Abide With Me dan arweiniad Rosy Hearn, ac yna gan Ddefod y Cofio. Chwaraewyd Y Post Olaf gan Ruth-Coleman Jones o Fand Tref Llandudno a dim ond cân y fwyalchen a’r robin goch a dorrwyd ar lonyddwch y Ddau Funud o Ddistawrwydd. Yn dilyn y Reveille, gosodwyd torchau ar y gofeb gan yr Arweinydd Sgwadron Clare Sharp o RAF Fali, Frank Bradfield, Llywydd Lleng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Clare Forrester o Gymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, a Kevin Slattery, Cadeirydd Grŵp Hanes Deganwy.
Mayor of Conwy Evie Roberts & Mayor of Llandudno Greg Robbins
Ar ddiwedd y gwasanaeth, roedd lluniaeth wedi’i baratoi i’r gynulleidfa yn y Clwb Cymunedol ynghyd a byrddau arddangos gyda gwybodaeth fanwl am y ddamwain yn cael eu harchwilio. Atgoffwyd ni gan y Cynghorydd Mike Priestley am y Gwasanaeth Coffa 70 Mlynedd, a gychwynnwyd gan Gwyn Hughes a’r gwaith ymchwil manwl a wnaed ganddo. Cyfeiriodd Mike hefyd at y gwaith a wnaed i greu’r Ardd Goffa ddeng mlynedd yn ôl, gan ddiolch yn arbennig i Mel Lewis am ei rhan yn hyn.
Cllr Mike Priestley
Dilynwyd hyn gydag araith deimladwy iawn gan un o sylfaenwyr y Grŵp Hanes, Gwyn Hughes, a draddodwyd gyda swyn ac emosiwn nodweddiadol Gwyn. Disgrifiodd sut y cysylltodd John Harris o Hastings ag ef rai blynyddoedd yn ôl. Roedd John yn ddisgybl yn Ysgol Woodlands ac wedi gweld y ddamwain pan oedd yn ddim ond 13 oed. Dywedodd Gwyn wrthym sut yr oedd wedi mynd â John i weld lleoliad y ddamwain. Roedd John wedi rhoi iddo gopi o lythyr a ysgrifennwyd ganddo at ei rieni ar 20fed Chwefror 1944. Darllenodd Gwyn y llythyr, sy’n disgrifio’r awyren yn nesáu at y cae chwarae lle’r oedd disgyblion yn chwarae rygbi: ‘with little bits falling off the wings, it turned round and started to spin and it was coming straight for the games, the pilot must have seen us because the plane turned again and crashed in a field next to the school. The pilot could have bailed out if we were not there, but he must have stayed at the controls to save us, all the five in the plane were killed’.
Gwyn Hughes
Daeth yr achlysur i ben gyda Kevin Slattery, Cadeirydd y Grŵp Hanes yn diolch i’r rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys personél o RAF Fali, aelodau o Leng Brydeinig Frenhinol Llandudno, Blind Veterans UK, Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol, Cadetiaid y Môr, Corfflu Hyfforddiant Awyr, Maer Conwy Evie Roberts, Maer Llandudno Greg Robbins, staff y Clwb Cymunedol a wrthododd â chymryd tâl am logi’r ystafell, Tesco am ddarparu cacennau a bisgedi, ac aelodau Grŵp Hanes Deganwy am eu gwaith yn yr ardd ac am gynhyrchu byrddau arddangos.
Gwyn Hughes with Warrant Officer Max Wall and Squadron Leader Clare Sharp from RAF Valley
Diolch yn fawr i Gwyn Hughes am ei ymdrechion diflino dros y blynyddoedd i goffau criw Avro Anson N5130, Adrian Hughes am drefnu’r digwyddiad, Steph a Dewi am gyfrannu’r llechen a ddefnyddiwyd i roi wyneb newydd ar y llwybr, Trefnwyr Angladdau Lord-Brown & Harty Cyf am argraffu’r Daflen Gwasanaeth, a’r Cynghorydd Mike Priestley am ei holl gymorth. Ar y cyfan roedd hwn yn ddigwyddiad cofiadwy a theimladwy, ac fel y dywedodd Diane Williams, Is-gadeirydd y Grŵp Hanes: bydd pawb a oedd yno wedi teimlo eu wedi bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Ar ôl pum mlynedd yn y swydd, mae Eric Smith wedi ymddiswyddo o fod yn Gadeirydd Grŵp Hanes Deganwy. Y Cynghorydd Vicky Macdonald sydd wedi cymryd ei le. Bydd Eric yn parhau i chwarae rhan allweddol yng ngweithgareddau’r Grŵp ac rydym yn diolchgar iddo am ei arweinyddiaeth a’i gefnogaeth yn ystod ei amser fel Cadeirydd. Mae Vicky wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor ers i’r Grŵp cael ei sefydlu yn 2009 ac mae’n adnabyddus i’r mwyafrif o’r aelodau am ei darlithoedd diddorol a’i chyfraniad i’r cyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau. Mae’r Grŵp mewn dwylaw diogel gyda Vicky.
Unwaith eto cynhaliwyd Cinio Blynyddol Grŵp Hanes Deganwy yn y Paysanne yn Neganwy ac unwaith eto, ni chawsom ein siomi gan ansawdd y bwyd a naws arbennig y bwyty. O ystyried y nifer ohonom oedd yna yn bwyta, mae’n syndod bod Cai a’i dîm wedi gallu gweini pawb ohonom mor brydlon gyda phryd mor flasus. Does dim syndod ein bod yn dychwelyd yna fel Grŵp pob blwyddyn, ac mi wn fod rhai ohonom yn dychwelyd yna ar adegau eraill o’r flwyddyn!.
Eleni ein siaradwraig gwadd oedd Judith Phillips, gohebydd gyda North Wales Weekly News a cholofnydd gyda’r Daily Post. Cawsom ein diddanu gan Judith gyda hanesion am ei bywyd ym myd newyddiaduriaeth a’i hadroddiadau am nifer o ddigwyddiadau pwysig yng Ngogledd Cymru. Roedd ei hesboniad o’i chyfarfyddiad gyda Martin Bell, pan roedd yn dilyn ymweliad brenhinol yn Llandudno ar un adeg, yn ddigri iawn ac yn dangos nad yw popeth sy’n digwydd ar y fath achlysuron yn ymddangos yn y wasg. Paid â phoeni Judith, mae’r gyfrinach yn ddiogel gyda ni …!
Roedd Arfon a Lucinda yn falch o gael cynrychioli Grŵp Hanes Deganwy yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ar 7fed Gorffennaf 2018. Ymunwyd a channoedd o bobl yn cynrychioli mudiadau lleol a gorymdeithiwyd trwy’r dref a’r ddiwrnod arbennig o heulog.
Eisteddfod Proclamation Festival
Yna cynhaliwyd y Seremoni Cyhoeddi tu allan i Bodlondeb, gan orffen gyda’r cyhoeddiad gan yr Archdderwydd Geraint Llifon mai ei olynydd fydd Myrddin ap Dafydd, bardd a sylfaenydd cwmni cyhoeddi Gwasg Carreg Gwalch yn Llanrwst. Bydd yn cymryd drosodd oddi wrth Geraint Llifon blwyddyn nesaf, sy’n arbennig o arwyddocaol wrth gwrs gan mai yn Llanrwst cynhelir yr Eisteddfod blwyddyn nesaf.
Eisteddfod Proclamation Festival
Mae Grŵp Hanes Deganwy yn falch i gefnogi’r Eisteddfod, ac o hyd yn barod i dderbyn awgrymiadau gan yr aelodau am ddulliau eraill i fod yn rhan. Cadwch golwg am ddigwyddiadau sydd i ddod!
Fe ddenwyd nifer fawr o ymwelwyr i’n harddangosfa ddwyieithog a gynhaliwyd dydd Sadwrn, 2il Rhagfyr yn Ysgoldy Capel Peniel, Ffordd Tŷ Mawr, Deganwy. Paratowyd yr Arddangosfa gan Adrian Hughes sy’n aelod o Bwyllgor y Grŵp.
Gweler y rhestr ar gyfer Rhaglen 2017 / see Programme 2017 listed
Latest Research
Web Design North Wales by Indever