Ar 21ain Gorffennaf, ar brynhawn bendigedig, ymwelodd ugain o aelodau â Gardd Bodnant lle cawsom ein tywys o gwmpas gan un o aelodau ein hunain o’n grŵp hanes, sef Wendy Lonsale, sydd hefyd yn gwirfoddoli yng Ngardd Bodnant.
Ymunwyd â ni hefyd gan un arall o wirfoddolwyr Gardd Bodnant, Dave, a oedd yn byw ar dir yr Ardd pan yn blentyn ac adroddodd sawl hanes am ei fywyd mewn gardd mor rhyfeddol.

Mae cofnodion cynnar yn dangos fod Bodnant, neu Bodnod fel ei elwid, yn gartref i’r teulu Lloyd o deyrnasiad Iago1, ac yn cael ei etifeddu trwy briodas gan deulu’r Forbes yng nghanol yr 1700au. Cymerwyd lle y tŷ cynharach yn 1792 gan y Cyrnol Forbes, a greodd blasdy yn y dull Eidalaidd.Datblygodd hefyd y tir o gwmpas Neuadd Bodnod gan blannu coed derw, castanwydden a ffawydden, sydd yn asgwrn cefn i’r ardd heddiw.
Yn yr 1800au cynnar etifeddwyd yr ystad trwy briodas gan William Hanmer o Neuadd Bettisfield ger yr Eglwys Newydd (Whitchurch) ac fe wnaeth welliannau pellach, trwy adeiladu’r Hen Felin ac ymestyn yr ardd o gwmpas y tŷ.

Newidiodd yr ystad ddwylo unwaith eto yn 1874 pryd ei brynwyd gan Henry Davis Pochin am y swm anrhydeddus o £62,000 (tua £7miliwn yn arian heddiw) a ymrestrodd dawn y dylunydd tirwedd Edward Milner, i ddatblygu’r ardd llwyni Fictorianaidd gan gynnwys y Bwa Tresi Aur (Laburnum Arch). Yn y cyfnod hwn crewyd nifer o lwybrau i lawr at yr afon lle y planwyd coed pinwydden Gogledd America. Yn ysod yr amser hyn daeth yr ystad yn fwy adnabyddus fel Bodnant.

Aeth perchnogaeth Bodnant ymlaen o Henry Davis Pochin i’w ferch Laura McLaren, ac yna i’w mab Harry Aberconway. Yn 1949 rhoddodd Harry, ardd Bodnant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaetho. Erbyn heddiw gofalir am yr ardd gan 25 o arddwyr llawn amser a tua 50 o wirfoddolwyr.
Mae Gardd Bodnant yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion a choed o bob cwr o’r byd. Mae nifer o’r coed yn gewri yn eu rhywogaeth, ynteu o ran taldra neu eu cylchfesur.
Mae’r Poem yn gofadail teuluol o fewn yr ardd, gyda golygfeydd dros y llyn a’r rhaeadr. Mae’r enw yn ôl bob tebyg yn deillio o’r llythrenw (acronym) dros “Place Of Eternal Memories”. Yma eglurodd David, pe bai gennych ffôn gyda chamera, gall arddangos y pethau tu fewn llawer gwell na’n golwg naturiol. Yna rhuthrodd sawl aelod i fyny at y rhwyll (grille) yn y drws er mwyn profi’r damcaniaeth, gyda llwyddiant anhygoel.


Gadawsom yr Ardd yn y diwedd ar ôl 2awr, ar ôl cael amser rhyfeddol yn mwynhau’r planhigion a’r coed. Ein diolch i Wendy a Dave am eu cylchdaith arbennig ac am rhannu eu hanesion am fywyd ac amseroedd yng Ngardd Bodnant.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever